Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
YSBYTTY CAERYNWCH.
YSBYTTY CAERYNWCH. Mr. Golygydd,— Clywais gwyno mae ychydig iawn ú gynorthwy mae Amaethwyr ardal Dol- gellau yn ei roddi i Ysbytty Caerynwch, ac fel y mae yn wybyddus grwgnach a chwyno parhaus glywir y dyddiau hvn am bron bobpeth. Ac er cael allan y gwir- ionedd teimlais mae priodol oedd edrych drwy yr enwau i weld a oedd sail i'r cy- huddiad, ac yn anffortunus dyma fel y safai, yr enwau yn gynwysedig o bob dos- barth, v nifer oedd 75, ac allan o'r 75 tri amaethwr sydd yn eu mysg. A <gaf fi yn garedig apelio atoch i erfyn arnoch gynorthwyo Mrs. Richards, Caer- ynwch yn yr argyfwng yma. Y mae hi yn aberthu ei harian, cartref a phob cysur- on cymdeithas er mwyn gwneud ei goreu i'r dynion ag sycld wedi bod yn aberthu eu bywyd er cadw y gelyn draw. j AMAETHWR.
@@@ 1 SUDDIADAU IYR WYTHNOS..…
@@@ 1 SUDDIADAU YR WYTHNOS.. I Cyrhaeddodd 2693 o longau pob gwlad I i Brvdain, ac aeth 2642 allan, cyfanswm I 0 5,335. Suddwyd 14 o longau Prydeinig dros 1600 o dunelli. ¡ 3 Hong dan 1600 o dunelli, a I" llong pysgota. Cyfanswm -22. V
CYNGHOR SIR MEIRION. ! I
CYNGHOR SIR MEIRION. I Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cynghor Sir yn Nolgellau heddyw (lau), o dan lywydd- iaeth Mr. Moses Kellow. £ 150 i'r V. T.C.Ar gynygiad Mr. William Owen a chefnogiad Dr John I Jones, pasiwyd i roi £ 150 o'r trethi i'r Volunteer Training Corps. Gwrthwyneb- I ai Mr. Anwyl, Llugwy a Mr. Robert Evans, Crynierth roi y swm hwn am y dadleuant mae o gyllid y Llywodraeth y dylid cynal y Gwirfoddolwyr. Pasiwyd i roi y swm trwv i 14 bleidleisio dros hynny yn erbya 10. ] Cyflwynwyd y Budget baratowyd gan i gan Mr. R. Barnett, am y flwyddyn ddyf- j odol gan Mr. Maethlon James. Dywedid j eu bod wedi tynu i lawr £ 1,000 yn y cost- au o gadw y Prif-ffyrdd o £ 12;006 i £ 11,000 eto yr oedd yn rhaid codi y dreth geiniog er cyfarfod a galwadau newyddion Gwrthwynebai Dr. John Jones a Mr. Joseph Humphreys i dynu £ 1,000 i lawr vng ngostau y prif-ffyrdd gan y Pwyllgor ariannol. Pwyllgor y Prif-ffyrdd oedd yn gwybod a ddylid gwneud hyhny. Eglurodd Mr. Barnett mai CII,000 wariwyd llynedd. Yr oedd eu dyled i'r Bane £ 2,400 yn llai. Yr A sylum. Hysbyswyd fed costam gadw Paupers yn yr Asylum i gael ei godi i 13/5 yr wythnos. Hysbysodd Mr. Breeee fod y swm wedi codi o 8/6 er dechrew y rhyfel. Penodwyd Mr. David Jones ar Fwrdd Pyggota y Ddyfi a'r Fawddach yn lie y diweddar Mr. Michael Roberts. Meirion a'r Senedd. Hysbysodd y Clerc na byddal gan MeirioR hawl i aelod SeneddoJ o dan y cynllun newydd o gyn- rychioliad ammai y boblogaeth oedd 44, 000 ag eisiau 50,000. Awgrymwyd y priodoldeb o geisio cael rhan fechan o Sir Ddinbych i mewn gyda Meirion er cael cynrychiolydd. Yr oedd poblogaeth Dinbych yn 148,000, pe gellid cael yr 8,000 o boblogaeth Dinbych i mewn gallai y sir hon gael aelod wedyn. Penodwyd pwyll- gor o ddau aelod o bob plaid, Rhyddfryd- wyr, Ceidwadwyr a Llafur, yr Aelod Sen- eddol a'r Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn bwyllgor. (Ceir adroddiad helaethach yn ein nesaf).
LLANERCH MWYN Y GANLLWYD.
LLANERCH MWYN Y GANLLWYD. Cana llu o feirddion byd I wychder trefydd Seisnig, Gwelant ynddynt hwy o hyd Bleserau clyd a diddig, Ond i mi rhowch fwthyn llwyd, Yn llanerch mwyn y Ganllwyd. Eraill hoffant lanau'r mor, A'i dywod dirifedi; Swn ei donau sydd fel cor 0 dannau yn telori, Hoffach genyf fod dan glwyd Coedwigoedd gwyrdd y Ganllwyd Tlws yw gweled golygfeydd A'r blodau cain yn gwenu, Rhodio ar y teg rodfeydd A harddwch cymmoedd Cymru Ond i mi mae mwy o nwyd Yn harddwch gwyllt y Ganllwyd. Hoff gan rai yw twrw tref, A dyfal symudiadau, Ynddynt ceir awyddfryd gref I danio dymuniadau, Hoffach genyf fod dan glwyd Palasau llwyd y Ganllwyd. Gwylia rhai ar lanau'r traeth Gwy tonau gwyn vn tori Y tonau gmtvn vn to 'n* Hwyl a geir a llawer ffraeth A grea ddirfawr asbri; Hoffach genyf fynydd llwyd Ac Afon fwyn y Ganllwyd. Da y ceir mewn Jlawer llan Hynawsedd y trigolion Rhoddant beunydd dda yn rhan 0 groesaw cynes calon; Minau'n ddyddiol gaf fwynhau 4 O'r Ganllwyd drugareddau. Dolgellau. @@@ TREBOR.
NEWYDDION.
NEWYDDION. Hysbysir am farwolaeth Mrs. Mary Richards, priod Mr. Robrt J. Richards .(Madog) Plainfield, New York. Ymfud- odd ei rhieni i'r Unol Dalaethau o Laneg- ryn, Sir Feirionydd, ac yr oedd yr ym- adawedig yn gyfnither i'r emynydde Ellen Egryn. Tra yr oedd geneth o'r enw Ceri Hughes yn chwarae ger Bont y Borth y dydd o'r blaen syrthiodd i'r mor. Yr oedd y Ili- feiriant yn gryf yn y lie. Gwelwyd yr eneth gan Willie Wood, bachgen tua 15eg oed. Aeth i Garreg yr Halen, a neidiodd i'r mor, gan nofio ati. Llwyddedd i gael gafael arni a daeth a hi i ddiogelwch. Edmygir gwrolcleb y bachgen a hyderit y caiff ei gydnabod yn deilwng. Deallir fod y Parch. Tudno William M.A., Bettwsycoed, wedi penderfjtinii na all fyned i Ffrainc fel caplan gyda'r Fyddin, fel ag y bwriadai beth amser yn 01. Amgylchiadau anorfod ddywedir sydd yn cyfrif am hynny.
Advertising
LADIES AND GENTS New and Second 1 J-L Hand Cycles in Stock. Apply ?- A R. W. Thomas, Felin Isaf, DolgeIIey. ?/' i Llyfr NeWydd ar Bwne y Dydd-Y RHYFEL. PRIS- i Crefydd a 3/6 ?y  Arch6bion i w jjYWya hanfon yn ddioed i rraetliodaii ar Faterion Ath- hughes bros r??yddo!, ?sw?nvdd?? ? Dydd,"  ?v 'I ?  Dolgel1ey. J 1 a .J i L tfJi ili S 1 o ,Jiii OJ C t t¡KJt iii _> GAN YR ATHRO i D. MIALL E D W A R D M-A