Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MEWN DILLAD MERCH. I

News
Cite
Share

MEWN DILLAD MERCH. I I JD ARG AN FY DDI AD YN NGHAER- I NARFON. I HANES RHYFEI-)I-).. i I ) Bu digwyddiad rhyfedd yng Nghaer- I narfon, Llun cyn y diweddaf. Yr oedd llawer iawn o bobl y wlad yn y dref fel arfer ar y Sulgwyn, ac yr oedd y plismyn yn chwilio allan am ddyn oedd yn absenoli ei hun o'r fyddin, a'r hwn a dybid oedd yn gwisgo mewn dillad merch. Yr oedd y Rhingyll Owen ar ei ddyledswydd ar yr heolydd rywdro gyda'r nos pryd y dis- gynnodd ei lygaid ar ddwy o ferched V ieuainc yn cerdded gyda'u gilydd tua'r Maes. Cymerodd sylw arbennig ohonynt, oblegid yr oedd gan un ohonynt wyneb tebyg iawn i ddyn. Yr oedd gan y person dan sylw wallt llaes fel merch ac wedi ei wneud yn daclus. Sylwid fodd bynnag, arwyddion o dyfiant barf ar y wyneb, Pan holodd y rhingyll hi, gwadai y "ferch" ieuanc ei bod wedi dianc o'r fyddin, ac mai ei henw oedd "Dora Lewis," a'i bod yn dod o Frynrefail. Nid oedd y swyddog fodd bynnag, yn foddlawn ar yr eglurhad, a chymerodd y person gydag ef i'r orsaf heddgeidwadol. Tynodd hyn gryn sylw, a thybiai pobl mai ysbiydd Germanaidd { a gymerid i garchar. Wedi archwiliad, I caed mai dyn ydoedd, ond nid y person a chwiliai y plismyn am dano fel un oedd wedi diflanu o'r fyddin. Nid oedd y person ieuanc a gymerwyd i'r swyddfa. heddgeidwadol wedi camarwain y plismyn I parth,ed ei enw, canys fel "Dora Lewis" meddid yr adnabyddid ef, ac yr oedd wedi arfer gwisgo mewn dillad dynes o'i blen- tyndod. Yn ol yr hysbysrwydd gaed eisoes gan y plismyn, dygwyd y bachgen fvny gyda'i daid a'i nain er pan yn ychyd- iig fisoedd oed. Elai i'r ysgol fel geneth, ac yr oedd y cymydogion a'r plant oedd yn cyd-chwarae af eg yn credu mai geneth ydoedd. Pan hysbysodd y plismyn y taid o'r darganfyddiad datganodd syndod mawr, a chredai yn sicr fod camgymeriad wedi ei wnevd. DATGUDDIAD PELLACH. I Dywedir i'r bachgen pan adawodd y I swyddfa heddgeidwadol, ddywedyd, "Nid oedd genyf mor help. Dyna sut y dygwyd I fi i fyny." Ganwyd y bachgen yn Llun- dain, a chafodd ei fedyddio yn Eglwys I Penisa'rwaen, fel "Dora Lewis," ac y mae ei enw yn llyfrau yr ysgol ddyddiol fel "Dora Lewis." Ganwyd Chwefror I W, 1897. Yn yr ysgol yr oedd yn blen- tyn bywiog a deallus, ac wrth gwrs, ed- rychid arno bob aniser fel geneth. I Tua saith mlynedd yn ol ychydig cyn yr adeg ddod i ddo adael yr ysgol, bu raid I i'r bachgen aros gartref oherwydd gwael- I edd difrifol a bu yn ei wely am gryn amserr. > Er yr adeg hynny y mae wedi bod gartref gan helpu ar y ffenha gyda gwaith y ty. Er fod arwyddion ar y wyneb megis ychyd- ig o farf ac ol shafio, yr hyn a godai amheu- on yn meddwl cymydogion yn ei gylch, tø nid oedd hyniiy yn ddigon i wneyd it neJJ ddisgwyl darganfyddiad fel ag sydd wedi ei wneyd. Dywedir fod y bachgen wedi cymeryd ato yn arw yrhyn a ddigwyddodd vn ei Tianes ddydd Llun, ac y mae, meddir, yn awr yn ei wely, Ùywedir iddo golli I ei ffordd nos Lun, wrth ddychwelyd adref o'r dref, ac y rhoed llety iddo yn Nghae- athraw, ac ei bod yn haner awr wedi chwech bore dranoeth cyn iddo gyrraedd adref.

CYNHADLEDD LEEDS.

I "DAETH Y GWANWYN."

[No title]

Advertising