Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y FFRYNT GORLLEWINOL. <
Y FFRYNT GORLLEWINOL. < Adnewyddwyd ymladd y gwyr traed yn Champagne, lie y gwnaed defnydd o iaiibeleni nwyol gan y Germaniaid.; Ym- j y gelyn bedair gwaith ar safleoedd y Ffrancod, ond fe ataliwyd bob ymosod- iad, un ai gyda'r fidog neu dan. Parha- odd yr ymdrech hyd doriad y wawr. Pery cyflegrau y ddwy ochr yn fywiog ar y ffrynt Brydeinig, yn arbennig yn Bullecourt a'r Scarpe. Dywed yr adroddiad Germanaidd fod y Prydeinwyr wedi gwneud amryw ym- tosodiadau, ond ar ol brwydr galed law-yn- law llwyddwyd i'w gyrru yn ol. Meddiannwyd ychydig o dir gan y Prydeinwyr yn ystod y nos ger Cherisy. Mwn rhannau eraill gwnaed amryw o ruthriadau llwyddiannus. Yn ystod mis Mai cymerodd y Prydeinwyr 3,412 o gar- charorion. c. Ataliwyd ymosodiad Germanaidd ar y lirynt Ffrengig ger Lauffaux. Bu byw- sogrwydd ¡ cyflegrol yng ngogledd Aisne ac yn y Champagne. Gwnaed ymosod- iad gan y gelyn ar uchelfeydd Morouvillers ;rmd trodd allan yn fethiant. Dinistriwyd 32 o awyrlongau Ger- manaidd gan awyrwyr Ffrengig rhwng Mai 17, a 31, a gwnaed niwed i 57 o rai eraill. Dywed vr adroddiad Germanaidd fod fj-ywiogrwydd cyflegrol ar y ffrynt Belgi- aidd, rhanbarth Wytschaate, ynghyda Chamlas La Bassee. Ataliwyd amryw m ymosodiadau Prydeiriig. YR ITALIAID. Oherwydd mwl a gwlaw trwm fe les- ieiriwyd symudiadau yr Italiaid. Yng ngogledd Tonale bu ymosodiadau o eiddo yr Awstriaid yn fethiant. Ar ffrynt y Julian ataliwyd yr Awstraid rhag cadarn- feau eu safleoedd newyddion. Dvwed adroddiad swyddogol fod budd- agoliaeth yr Italiaid yn un nodedig ar yr Isonzo. Ymddengys fod yr Awstriaid yn ystyried y safleoedd hyn yn anorchfygol Hefyd dyna farn Hindenburg a Falken- ,hayn YR AWYRWYR. Gwnaed rhuthr gan 15 o awyrlongau | rCynghreirwyr ar Ghent. Tafiwydffrwd- Belenau ar orsaf y rheilffordd. y ffordd lialarn, a'r pentrefi cvlchynol. Gwnaed ,iiiei-o d d aii-ii-vNA- IIawer o ddifrod. Cymerodd amrvw frwydrau le yn yr awyr uwchben y lie. Dychwelodd awyrwyr y Cynghreirwyr í gyd. MEDDTANNU Lí.ONGAU. MEI)-L'I-A'?,7-'U Mae Brazil yn awr mewn cyflwr o ryfeld a Gerrhani, ac fcl cam cyntaf meddian- wyd 42 o longau Germanàidd oedd yn ei phorthladdoedd, pa rai sydd heb eu ni- weidio, i gael eu rhocldi at wasanaeth Cvnghreirwvr yn ddioed. "Dvwedir hefvd fod 60 o'r 76 Uongau Germanaidd feddianwvd gan Portugal wedi eu llosi gnii v TJvwodraeth Brydeinig l'w clychwelvd vn 61 i Portugal ax 01 v AyfeL CYMORTH YR UNOL DALAETHAU. Dywedodd Syr E. Carson fod dyfodiad yr Unol Dalaethau i'r rhyfel wedi bod yn I gymorth mawr i ni, o safbwynt lyngesol. j 1 Gallwn yn awr reoli ein tunelliad, am-, ddiffyn ein cludlongau ym Mor y Werydd ac yr ydym yn awr i bob pwrpas yrriar- ferol yn llywodraethu ffynonellau bwyd oedd yn myned i Germani trwy wledydd I amhleidiol. @@@ I
I BWRDD PYSGOTFEYDD Y DDYFII…
I BWRDD PYSGOTFEYDD Y DDYFI I MAWDDACH A'R GLASLYN. I PWNC Y PYSGOTA RHYDD. ( r Galwyd cyfarfod arbennig o Fwrdd II Pysgotfeydd y Ddyfi, Mawddach a'r Glas- lyn ddydd Mercher, pryd yr oedd yn bresennol Arglwydd Herbert Vane Tem- pest (cadeirydd), yr Henadur Martin Williams U.H., (is-gadeirvdd), Syr Os- mond Williams, Syr John Dillon, Cyrnol Enthoven, Cyrnol Norton. Mri. R. Prys Owen U.H. Dr. John Jones U.H. J. H. Bullock U.H. Dr. R. Edwards, U.H. R. C. Anwyl U.H. R. 0. Jones Rhys Jones G. Parry Jones Edward Row- land Hilton Kershaw I Owen Jones, A. H. Dunsmore, ynghyda'r Dirprwy Glerc (Mr. Richard Barnett). Ar gynygiad^y Cadeirydd a chefnogiad Mr R. 0. Jones, pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad a theulu y diweddar glerc i'r Bwrdd, Capten D. Oswald Davies. Bu'n swyddog gwerthfawr i'r Bwrdd am flynyddoedd, a'i waith yn nodedig o eff- ( eithiol a chymeradwy gan bawb. Pwrpas galw y cyfarfod ysdpedd i ystyried adroddiad is-bwyllgor a benod- wyd yn ddiweddar gan y Bwrdd i edrych i mewn i gwestiwn dyrus pysgota rhydd. Argymhellai yr is-bwyllgor gymerad- wyaeth o'r bwriad i gyhoeddi un dydd o bob wythnos yn rhydd i bysgota gyda rhwyd neu wialen mewn dyfroedd preifat neu gyhoeddus, yn ogystal a chyflwyno manylion ynglyn a threfniadau v pysgota, o dan arolygiaeth pwyllgorau lleol, a gwerthiant y pysgod, a lliaws o fanylion eraill. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Cam- brian Angling. Association, Syr Watkin Wyn Mrs. Wynne. Peniarth, Mr. Hall, i Ynvs. Maengwyn, Mr. R. C. Anwyl.. Mrs. Wynne Jones, Penmaen Uclia, Mr. A. J. Cox, Mr. Neville West, Cyrnol Enthoven, a Mr. A. H. Dunsmore, yn traethu eu golygiadau ar y cynllun, bob un ohonynt o'i safle briodol yn cyclweled neu yn anghytuno a'r bwriad. Cvnygiwyd gan Dr. John Jones, a chefnogiad Mr. Edward Rowland fod y Bwrdd yn derbyn adroddiad yr is-bwyllgor vn ei chyfanrwyddfond methwvd a chario hyn. Yi-ia pe, iderfvnwyd newid ychydig ar adran gyntaf yr adroddiad trwv wa- i hanu pysgota a rhwyd neu a gwialen. Yna cvnygiwvd eilwaith gaii- Dr. John Jones, yn cael ei gefnogi gan Mr., Hilton Kersha.w, "Fod v Bwrdd vn cymeradwyo cymhelliad yr is-bwyllgor fod un dydd ymhob wythnos yn cael ei neilltuo i bys- gota rhvdd gyda rhwyd mewn dyfroedd preifat neu gyffredin." Pleidleisiodd 7 o blaid a 10 yn erbyn y penderfyniad. Cynvgiwvd drachefn gan yr un bonedd. igion "Fod v Bwrdd yn cymeradwyo cymhelliad yr is-bwyllgor i neilltuo un dydd ymhob wythnos i bysgota rhydd gyda gwialen mewn dyfroedd preifat neu gyffredin." Cafwyd wyth o blaid y penderfyniad a deg yn erbyn. Fellv yrthiodd adroddiad y pwyllgor i'r llawr ddiffrwyth. Yn wyneb hyn cynygiodd yr Henadur Martin Williams y penderfyniad canlynol "Fod y Bwrdd hwn yn apelio yn daer at holl berchenogion dyfroedd y dosbarth i wneyd trefniadau yn ddiymdroi i ych- wanegu at gyflenwad ymborth trigolion yr ardaloedd hyn, trwy bysgota eu dyf- roedd a gerthu y pysgod a ddelir am bris o fewn' cyrraedd gwerin bobl, y cylch. Cefnogwyd hyn gan Dr. John Jones, a charlwvd yn gwbl unfrydol. Teg hysbysu fod y lliaws aelodau mewn llawn gydymdeimlad a'r ymgais i gyflenwi ymborth, a hynny am bris o fewn cyrraedd y boob1 gyffredin, eto, gyda'r mwyafrif gorbwysai yr anhawsterau i ddwyn hyn i ben da a boddhaol unrhvw fantais a dybient hwy yn bosibl ei chyrhaedd. Fellt aeth yr ymdrech hon yn fethiant. Beth fydd ar ol hyn nis gwyddom. Sicr y gwelir rhyw symudiad arall. Clywsom un boneddwr yn hysbysu ei fwriad i bysgota a gwerthu y pysgod mor rad fel ag i alluogi y tlawd diamddiffyn i gael eu cynhaliaeth. Daw daioni allan rvwsut yn ddiameu genhym. @@@
! CYNGHOR GWLEDIG DOLGELT…
CYNGHOR GWLEDIG DOLGELT Ai Cynhaliwycl yr uchod ddydd Sadwrn o clan lywyddiaeth Mr. Griffith Price. Bu i'r Meddygon Hugh Jones a E. Lew- ys Lloyd alw sylw y Cynghor at achos o'r frech goch a nodwyd ar yr ail o fis Mai, pryd y bu i'r claf fyned o gwmpas ym mhen deuddydd yn groes i'r Ddeddf Iechydol: Nid oedd hwn yn achos o anwybodaeth ond yn un ac y dylai ei rieni' wybod yn wahanol. Yr oedd y claf yn fachgen ac yn efrydydd mewn ysgol fawr yn y dosbarth. Teimlai y Cynghor fod yn hen bryd cymervd camrau i ddiogelu iechyd v cyhoedd a phenderfynwyd erlyn er mwyn i'r cyhoedd gael eu goleuo ar y mater., ac na byddo i achos cyffelyb ddigwydd eto. I CYFFREDINOL. Penderfynwyd i bwyso ar amryw o berchenogion tai i gario allan adgyweiriad- au ag oedd mawr angen am danvnt. Pas- iwyd i roddi cvfienwad o ddwfr ym mhen v mis i Tremafon a Machine, Anerllefenni Caed trafodaeth ar fater y bwvdvdd a phenodwyd Mr. J. Edwards yn swyddog i gario' allan y gwaith ynglyn ag Archeb (y Bwydydd. Ar gynygiad Mr. David I Jones, a Mr. Evan Evans, yn cefhogi, I pasiwyd penderfyniad yn cefnogi rhvdd- hau vr holl afonydd yn y dosbarth.
Advertising
H A gn% m |pn ShoHft! WR!TE T!9.9M  M lie Ei Sfc cMc!M(Hr) ?.s? ?ntef LADIESVAL?,?it!?LE TESTIMONIALS a? FREE SAPPLE oS '? BLAMCHA80 S PILLS 'J' S?M.Ni?SEMsaM? B8&.&.? I They are mn-.it.?c.d fc')' &i t Ladies' AilmEttts; &e. ?u? spee<mly TERY'S?"? E'?.?Y'E'?.L' trtT'lM??O K. '?'X HMMMrT?.S lu\ II 1 K ti spr.r '?Su' « ?t! • ?C? v, lifiLASc,