Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Dros Dir Brad a Gofid ym Mro…

"Y Lloffyn Addfed."

IYnyshir.I

News
Cite
Share

I Ynyshir. I Perfformiwyd drama, "Gruffydd o'r Glyn," yn Neuadd y Gweithiwr yr wythnos ddiweddaf gan Gwmni Dram- odol Hermon, Treorchy, dan arwein- iad Mr. Evan Thomas (Glanhafren). Gwnaeth y cwmni eu gwaith yn gan- moladwy. Cadwyd y dorf am ddwy awr, a gwen a dagrau bob yn ail ar eu hwvnebau. Mae'r ddrama o nod- wedd sy'n teilyngu cefnogaeth. Ei hawdur ydyw Mr. Clement (Alarch Ogwy), Sciwen. Llanwyd y gadair, yn absenoldeb Syr W. J. Thomas, gan y Parch. Mr. Davies, gweinidog yr Annibynwyr. Rhoddodd ef gamoli- aeth uchel. Diolchwyd i'r cadeirydd ac hefyd i'r pwvllgor am weithio mor effeithiol tuag at sicrhau llwyddiant y perfformiad. Canwyd rhwng y golyg- feydd gan Gerddorfa Hermon, dan ar- weiniad Mr. Ben Evans, F. V.C.M. (Gold Medalist). Clywais fod y cwmni yn barod i roddi gwasanaeth er cyn- orthwyo unrhyw achos teilwng.—Un I fu yno.

Advertising