Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
THE BEST ADVERTISING MEDIUM. Circulates throughout SOUTH WALES and MONMOUTHSHIRF.
Advertising
W. Williams* Co. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. Special itios igct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS. GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyan aur, Oriaduron ac awrleisiau, Gemau a chadwynau claer. I,ui- uf Y-- e g y -d d, Yspectol gelfydd, hln-fyncgydd, Gwres-fesurydd, Cwmpawd mõr Geir gan Williams, Heol y eastell Trowch i mewn i wel'd ei stor.
Advertising
? Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. CEIR MWYNHAD PYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED Brynlau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. I GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANGEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL. I J
Pabam yr ydym yn Rhyfela ?
Pabam yr ydym yn Rhyfela ? Ramsay Macdonald yn Egluro y I Sefyllfa. Atebiad i Syr Edward Grey. I Y mae y ffaith fod dynion o sefyllfa .John Morley, John Burns, Ramsay Mac- donald, ac amryw eraill, wedi gwrth- wynebu i Brydain Fawr gymeryd rhan yn y frwydr fawr bresennol yn sicr o fod yn ddanghosiad cryf fod ffordd arall y gellid ymdrechu setlo y cweryl sydd yn awr rhwng Gwledydd Iwrop. Gwnaeth Ramsay Macdonald araith gadarn iawn yn y ty, yn condemnio polisi y Llywodr- aeth, neu yn hytrach bolisi Syr Edward Grey fel Ysgrifennydd Tramor y Lly- wodraeth. Ac yn awr, efallai, wedi tawelu ychydig ar frwdfrydedd dech- reuol yr yspryd ymladdgar, y bydd y darllenwyr mewn gwell hwyl i ystyried eyfrifoldeb y Llywodraeth, a barnu mesur ei dieuogrwydd yn yr ymrafael presennol, fel y'i gosodir allan gan yr Arweinydd Llafur. Fe welodd Syr Ed- ward Grey yn dda i gyhoeddi hanes y drafodaeth fu rhyngddo ef a Llysgen- nad Germani oddiar yr 20 o Orffennaf- ynghyleh bygythiad Awstria yn erbyn Serfia-hyd gyhoeddiad y Rhyfel Awst y 4ydd, a gelwir y cyhoeddiad hwn yn "White Paper." Fel hyn yr ysgrifenna Macdonald:—" Gall Prydain Fawr yn ei chysylltiad a gwledydd Iwrop gy- meryd un o ddau gwrs. Gall gadw mewn telerau o gyfeillgarwch cyffredin- ,ol gyda'r gwledydd Iwropeaidd, gan ddelio gyda phob un yn annibynnol, a .chydweithio gyda'r oil mewn achosion o lesiant cyffredinol. I wneyd hyn yn effeithiol rhaid yw iddi gadw ei dwylo yn lan. Dylai hefyd wneyd ei sefyllfa yn glir, a dangos bob amser fod ei chyd- ymdeimlad yn gryf gyda phob mudiad sydd yn tueddi i ryddid. Gofynna y cwrs hwn ffydd gref amynedd mawr, a gwroldeb diderfyn. Adeiledir sylfeini y cwrs hwn ar ein cysylltiadau a'n gweithrediadau rhyngwladwriaethol yn y gorffennol, a phe byddai ein Llywodr- aeth Ryddfrydol wedi dilyn y cwrs hwn oddiar y flwyddyn 1905, byddai erbyn hyn wedi llwyddo i ddinystrio y gallu- oedd unbenaethol milwrol sydd yn awr wedi ein hyrddio i ryfel. Ond y mae yna gwrs mwy deniadol, ymddangosiadol rwyddach, diogelach, a mwy uniongyrchol, ond mewn gwir- ionedd yn fwy anawdd a mwy peryglus. Y cwrs hwn yw cyd-bwysedd galluoedd drwy gyduniad. Y mae gweinidogion gwladwriaethol gwan a byr eu gweled- iad fel rheol wedi ymarferyd y cwrs hwn, oblegyd ei fod yn gwrs teimlad, yn hytrach na rheswm. Modd gweith- rediad y cwrs hwn yw ffurfio dosbarth- iadau o alluoedd ar y Cyfandir. Y mae yn gwahanu Iwrop i ddau wersyll mawr o ryfelwyr gwrthwynebol-Germani. Awstria ac Itali ar un Haw; Rwsia, Ffrainc, a'n gwlad ninnau ar y Haw arall. Ffrwyth y cwrs hwn yw drwg- dybiaeth a chynnydd aruthrol mewn arfau rhyfel, a'r diwedd yn rhyfel, a rhwygiad chWildroadol a dinystriol yn y cydbwysedd cenedlaethol oedd wedi ,ei greu gyda'r bwriad ymddangosiadol o osgoi rhyfel. Mewn ymarferiad, y fath Avaethaf o rwymyn cy.fi-genedlaet8-, ol yw yr hwn a elwir yr entente. Dyma beth y gelwir y rhwymyn sydd yn uno Prydain, Ffrainc a Rwsia. Y mae yr Alliance, neu y rhwymyn sydd yn uno Germany, Awstria a Itali a'u gilydd yn beth penodol a chlir, gwyr pawb eu cyf- rifoldeb o dano. Am yr Entente, y mae yn twyllo pobl. Pan yr oedd Mr. As- quith a Syr Edward Grey yn sicrhau Ty y Cyffredin nad oeddem yn rhwymo ein hunain mewn unrhyw fodd i Ffrainc drwy yr Entente, yr oeddent yn llyth- rennol gywir, ond mewn gwirionedd yn anghywir. Dyna paham y dewisa gwleidyddwyr difeddwl neu anonest yr Entente, yn hytrach na'r Alliance. Pe byddai dealltwriaeth pendant a chlir i-hyngom a Ffrainc a Rwsia, byddem, bawjb o honom, yn gwybod y cyfrifol- deb, ac efallai y byddai hyn yn foddion digonol i'n hatal rhag rhyfel. Y mae yn ddiddorol sylwi ar gynnwys araith Syr Edward Grey yn y Ty ar Awst y 3ydd, ac hefyd ar gynnwys y Papur Gwyn (White Paper), a gweled fel y mae yn maglu ei hunan. Danghosir fod dealltwriaeth dirgelaidd wedi bod rhwng y wlad hon a Ffrainc oddiar 11906. Y canlyniad o hyn oedd, fod Llynges Prydain i ddiogeli Gogledd Ffrainc. Yr oedd yn wybyddus i Ger- mani er's blynyddau fod awdurdodau milwrol y Ffrancod a ninnau yn cyd- drefnu ar gyfer ei gwrthwynebu mewn rhyfel. Yr oeddem wedi cymysgu a ehyfathrachu gymaint gyda Ffrainc a Rwsia, fel yr oedd yn rhaid i Syr Ed- ward Grey gyfaddef ar Awst y 3ydd, er fod ein dwylo yn rhydd, yr oedd ein hanrydedd yn ein rhwymo i ymladd gyda Ffrainc. Gymaint oedd grym y cyfathrach rwng Rwsia, Ffrainc a nin- nau fel nad allai Syr Edward Grey Tai na gwrthod yn bendant bob cynygiad o eiddo Germany o delerau i Brydain am gadw allan o'r ymgyrch. Dyna paham, pan yn rhoddi adroddiad i'r Ty, yr oedd yn amhosibl iddo ddweyd yr holl wir, a gosod yn ddiduedd y cwbl od ganddo i'w ddweyd. Gwawdiodd awgrymiad Germani i sicrhau cyfansoddiad a rhyddid Belgium. Paham y mae y drwg hwn wedi ein goddiweddyd? Yr unig atebiad elli;- roddi ydyw, o herwydd fod Syr Edward Grey wedi bod yn tywys ein gweithred- iadau tramorol yn ystod yr wyth mlyn- edd diweddaf. Ei fyr-olwg ef, a'i gam- syniadau, sydd wedi dwyn yr oil o hyn arnom.
Advertising
SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesef atoch, 1/11 a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DA VIES, Chemist, MACHYN- LLETH.
COLOFN Y PLANT. I
COLOFN Y PLANT. I I (DAN OLYGIAETH MOELONA.) I I RHYFEL RHITA GAWR. I I Oesau lawer yn 01, yr oedd ym Mhryd- ain ddau frenin o'r enwau Peibio a I Nynio. Un noson oleu leuad hyfryd, fel y rhodiai y ddau fraichymraich hyd lawnt un o'r palasau, dywedodd Nynio, gan edrych tua'r awyr :— Gwel y fath faes hyfrvd a feddaf fi." Pa le y mae 1" gofynnai Peibio. Dyna fe uwch dy ben, ebe Nynio, "I d yr awyr las yna i gyd, cyn belled ag y gweli." I "O" ebe Peibio. Edrych, ynte, ar y nifer fawr o wartheg a defaid sydd gennyf fi yn pori yn dy faes." "Pa le y maentl" gofynnai Nynio. Wele hwy,—y dyrfa yna o ser dis- glair, a'r lleuad fwyn yn eu bugeilio." Ni chant bori yn fy maes i," ebe Nynio. I Cant," ebe Peibio. Rwy'n dweyd na chant," ebe Nynio. Rwyf innau'n dweyd y cant," ebe Peibio. Wedi taeru felly a'i gilydd yn hir, aeth yn rhyfel rhwng y ddau frenin. Buwyd yn ymladd am fisoedd. Dims- triwyd byddinoedd y ddau; chwalwyd eu trefi heirdd, a Uaddwyd eu gwyr ieu- ainc bron i gyd. Yr oedd yn byw yng Nghymru ar v pryd hwnnw frenin o'r enw Rhita Gawr Yr oedd yn ddyn o faintioli anferth, bron gymaint ddwywaith a dyn cyffredin. Dyna pam y gelwid ef yn Rhita Gawr. Pan glywodd am y rhyfel rhwng Nynio a. Peibio, penderfynodi fyned a'i fyddin yn erbyn y ddau. Afeth, a bu lwyddiannus. Cymerodd y ddau frenin yn garcharor. Yr oedd yn arferiad ymhlith dynion yr amser hwnnw i gadw barf hir iawn. Po hwyaf barf gwr, mwyaf yn y byd y'i perchid. Felly wedi i Rhita goncro Nynio a Peibio danghosodd ei awdur- dod arnynt drwy beri torri barf ac eillio wyneb pob un o'r ddau. Yr oedd wyth ar hugain ereill o fren- hinoedd yng Nghymru bryd hwnnw, a phan glywodd y rhai hyn am y sarhad i Nynio a Peibio, teimlent fod dyled- swydd yn galw arnynt fyned fel un gwi yn erbyn Rhita Gawr. Enbyd y bu yr ymladd, eithr er y nifer oedd yn ei erbyn bu Rhita Gawr yn fuddugoliaethus ar y cwbl. Ac wedi'r goncwest, aeth yn fwy balch a hunanol nag oedd o'r blaen. Pa ddyn fel myfi 1 meddai, a pharodd dorri barfau yr wyth brenin ar hugain, fel yr oedd ganddo ddeg barf ar hugain a r rhai hynny yn farfau brenhinoedd-yn ei feddiant. Ond daeth genlynion ereill yn erbyn y Cawr. Daeth brenhinoedd y Cyfan- dir i geisio dial arno ac i roi terfyn ar ei falchter a'i hunangais. Eithr eu concro gawsant hwythau hefyd. Tor- rwyd eu barfau hwythau hefyd, ac yna aeth balchter Rhita Gawr dros bob ter- fynau. Credai ei fod yn dduw. O r holl farfau oedd yn ei feddiant, gwae- odd iddo ei hun fantell hir-yn cyrraedd bron i'w draed. Rhodiai yn fawreddog drwy ei wlad a'r fantell ar ei gefn, nes peri dychryn ar bawb a'i gwelai. Ymhen ychydig amser, danfonodd Rhita gennad i lys Arthur, i ddweyd wrth y brenin fel yr oedd wedi gwneud y fantell ryfedd, a'i fod yn gofyn yn barchus i Arthur am ei farf yntau. Gan fod Arthur yn frenin mor fawr, addaw- odd Rhita y cai ei farf ef y lie ailrhyd- eddusaf yn y fantell. Os gwrthodai Arthur gais mor deg, bygythiai Rhita ddod ar unwaith i ymladd ag ef. Cynhyrfwyd y Brenin Arthur i waelod ei enaid. Casglodd ynghyd ei fyddin- oedd, ac aeth i Wynedd i gyfarfod a Rhita. Safai y byddinoedd yn segur tra'r ymladdai y ddau frenin wyneb yn wyneb. Tarawent ei gilydd yn ffyrnig a diflino, nes yr oedd eu harf wisgoedd yn ddrylliau. ac nes y llifai'r chwys a'r gwaed hyd eu hwynebau. Yna, gydag ymflrech anhygoel, cododd Arthur ei gleddyf mawr, a tharawodd Rhita r ei ben nes dryllio 'i helm a thorri asgwrn ei ben yn ddau. Ac wedi ei holl rym a'i nerth a'i falchter bu farw Rhita Gawr. Claddwyd ef ar fynydd uchaf Eryri, a thaflodd pob un o'i filwyr garreg ar ei gorff. Galwyd y fan yn Wyddfa Rhita. "Y Wyddfa" y'i gelwir heddyw, a geilw'r Sais ef yn Snowdon.
Advertising
I ARTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyep, Deformity Boots, Ftat Foot Eyep,, SteeUess EaaiBt Ti noses, etc. lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Truqoes, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-8. List free. Tel. 1282.-Allen Pearce, 23 Charles Street, Cardiff.
Colofn y Llyfrau.
Colofn y Llyfrau. Diolchwn i Ifano am a ganlyn parthed gofyniad a ymddangosodd yn y golofn hon yn nghylch Geiriadur Richards Llangrallo:—" There never was a 1761 Edition of Richards Llangrallo's Dic- tionary. The first edition was 1753- (F. Farley, Bristol) re-issued in 1759 (Bristol) with new title; then came the Trefriw Edition in 1815; the Dolgelly Edition in the same year and lastly the Merthyr Edition in 1839. The price of the first edition would be about 10s. 6d. market price, second hand." Mae Pwyllgor Llyfrgell Aberaman yn foddlon rhoi pris da am gopi glan o Ardd Aberdar." Mae yr amser yn dod, ac yn awr y mae, pan ddylid ym- gymeryd a'r gorchwyl o ddwyn allan argraffiad newydd o'r llyfr hwn-sydd a chymaint o holi yn ei gylch. Hefyd y mae gohebydd arall yn fodd- Ion rhoi pris da-hynny yw, rhesymol- am Gerbyd yr Awen," gan Wilyra Gellideg. Argraffwyd hwn tua'r fiwyddyn 1846, yn Merthyr Tydfil. A oes rhywun o ddarllenwyr y 'Darian' a wyr ymha le y ceir copi ar werth i Llyfrau ereill a gyhoeddwyd ym Mer- [thyr Tydfil ydynt, "Y Berllan," gan ,1010 Fardd Glas "Y Llinos (1827), a'r Fwyalchen (1835). Bydd yn dda gennvm glywed oddiwrth rywun all roddi ychydig hysjbysrwydd am y naill neu'r Ilall. Mae'r rhyfel bresennol yn Iwrop wedi bod eisoes yn foddion i ddwyn allan lawer o lyfrau eglurhaol megis, "The War Illustrated," "The Great War," l"The War Budget," "The War," "The Times History of the War," "The Seven Nations' War," "War of the Nations," a'r "British War Diary." Anghenraid osodir ar ddosparthwyr a llyfrwerthwyr sy'n ymwneud a'r naill neu'r llall o'r rhai hyn i ofalu na fo gormod ar law ar ol y tri rhifyn cyntaf o bob un, neu fe a'r golled yn fwy na'r elw o'u cadw. Mae "serials" o'r fath hyn bob amser yn agored i golledion os na fyddis yn ofalus i newid yr archeb am danynt bob tro y mae derbyniwr yn colli ei flas ynddynt ac yn eu rhoi i fyny. Mae llen-luniau daearyddol (war maps) yn gwerthu yn dda yn awr, fel hefyd y mae rhosynau a ribanau trilliw, a boiymau gwladgarol ac arluniol. Cy- merir atynt ar unwaith-curer yr haiarn tra byddo'n boeth.
^Cwmgors.I
Cwmgors. I Nos Sul, Awst 17, cynhaliodd yr Ysgol Sul yn Sion (B.) ei chyfarfod chwarter- ol dan lywyddiaeth y brawd J. Wil- liams, yn absenoldeb ein gweinidog. Cafwyd adroddiad a chanu swynol gan ddeiliaid yr ysgol. Nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, yn Sion (B.) cynhaliwyd cyfarfod di- ddorol gan weithwyr glofa Cwmgors i gyflwyno anrhegion a dymuno yn dda i Mr John Davies, M.E., a fu am dros 12 mlynedd yn brif oruchwyliwr yn y lofa, a hyny mewn parch a Jbri mawr. Wedi ychydig eiriau gan y llywydd, Mr John Davies, Tirbach, a chael caneuon ac adroddiadau, cyflwynwyd i Mr. Davies anerchiad hardd gan Mr John I' Qriffiths ar ran y swyddogion, a chan y llywydd ar ran y gweithwyr. Cyflwyn- wyd i Mrs. Davies lestri arian gwerth- fawr gan Mri. D. W. Davies ac R. Leonard. Darllenwyd yr anerchiad, a gynhwysai hefyd ddarluniau hardd o Mr a Mrs. Davies, gan yr awdur, y Parch. T. M. Roderick (A.). Heblaw y rhai a enwyd uchod, siaradwyd gan y Parch. E. Davies, curad; Mri. Johnny James, W. Jones, J. R. Jones, yr oil o honynt yn dwyn y dystiolaeth uchaf i Mr Davies fel goruchwyliwr gofalus a Uwyddiannus er pan oedd yn y lie. Dymunai pawb iddo bob llwydd eto yn ei faes newydd, sef Abercynon. Diolch- odd Mr Davies ar ran ei hun a'i briod mewn teimladau drylliog am y rhodd- ion a'r teimladau da a ddanghosid tuag atynt. Gwelir eisieu Mr Davies eisioes nid yn unig yn y lofa ond yn y gymdog- aeth, canys yr oedd yn ddyn llawn, yn barod bob amser i wneyd yr hyn a allai ymhob cylch o gymdeithas. Dymun- wn iddo ef a'u deulu bob llwyddiant., ac v bydd i bobl dda Abercynon wneyd yn fawr o honynt. Araf iawn y symuda olwynion mas- nach yn yr ardal yn ddiweddar, yn neillduol felly yng ngjofeydd y G. C. G.. a hynny mae yn debyg oherwydd effeithiau y rhyfel. Deallwn fod argoel- ion gwell am y dyfodol. T.J.
I Hwnt ac Yma.
I Hwnt ac Yma. A oedd cydwybod rhywun yn ei Hi no Tra'n aros i'r tren yn Stesion "out y- pridd aethum i fewn i'r ystafetl ddis- gwyl. Yno'r oedd Beibl agored ar y bwrdd. Mae Cwmni Rheilffo-'dd Dyffryn Taf yn amcanu gwneud y teith- wyr yn dduwiol, beth bynnag am dan- ynt eu hunain. Edrychais i'r Beibl agored hwn er mwyn gweled pa ran o'r Gwirionedd a ddarllenasid ynddo fidl- weddaf, a gwelwn mai'r Bregeth ar y Mynydd ydoedd. Y geiriau y disgyn- nodd fy llvgaid arnynt oedd, Clyw- soch ddywedyd, Car dy gymydog a chasa dy elyn: Eithr yr ydwyf fi yn dy- wedyd wrthych chwi, cerwch eich gelyn- ion, bendithiwch y rhai a'ch melltith- iant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casant, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant, fel y byddwch blant i'ch Tad, etc." Dichon i mi awgrymu yr hyn nas dy- laswn wrth ofyn a oedd cydwybod rhyw- un yn ei flino. Y mae'n eithaf posijbl fod yno rywun wedi bod yn darllen allai ddweyd Tebyg wyf i Belican yr anial- wch; ydwyf fel dylluan y diff aethweh. Gwyliais ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y ty," a hwnnw wedi bod yn ad- newyddu ei ysbryd wrth ffynnon y dyfroedd byw. Gerllaw i mi yr oedd pobl drwsiadus yn gwaeddu am ysgubo'r Germaniaid oddiar wyneb y ddaear gyda llwon a rhegfeydd. Tuallan yr oedd bechgyn ieuainc yn arfer iaith mor aflan ag y gallai iaith fod. Tybiwn glywed llais prudd o'r gyfrol oedd ger fy mron yn dywedyd: Eithr yr wyf fi yn dywedyd wrthych chwi," ond nid oedd neb yn gwrando, a hyn mewn gwlad lie cenir mor ami— O'! llefara, Addfwyn Iesu, Mae dy eiriau fel y gwin." Disgwylir argraffiad newydd o'r Bre- geth ar y Mynydd o Aberdar un o'r dyddiau nesaf. Nid yw'r bregeth hon hyd yn hyn wedi ei dehongli yn fodd- haol. Cymerir hi o hyn allan "yng ngoleuni'r cysylltiadau." 0 hyn allan ystyr troi y "rudd arall" fydd cyhoeddi rhyfel yn ddioed oni rydd y gelyn i fewn, a rhoi curfa iawn iddo. Bydd yn ddiddorol iawn cael allan sut yr a'r cyfnewidiadau ymlaen. Nid oes lawer o waith newid o "cerwch" i "cur- wch eich gylynion." # Mater o un lythyr- en yw'r eyfnewidiad hwn. Ac "yn y cysylltiadau" daw "melltithiwch y rhai a'ch melltithiant" yn hynod o natur- iol, os nad yw'r bai a eilw'r beirdd yn "rhy debyg" yn dangos ei ben yma. Mae "gwnewch ddrwg i'r sawl a'ch cas- ant" yn dod yn naturiol iawn i lawer o honom mewn rhyw "gysylltiadau" o hyd. Ond beth am y frawddeg nesaf 1 Gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi ac a'ch erlidiant." Sut y mae cyf- newid hon ? Beth wneir yn lie gweddio 1 Dichon mai "lleddwch" ddaw i fewn yma "yn y cysylltiadau." Yna gorfoledded y ddaear a byddwn blant i'n tad, yr hwn sydd, wel, ymhle Cofiwn am ddehongliad arall o'r Bre- geth ar y Mynydd. Yr oedd pregethwr ar ymweliad a'i hen gartref lle'r ad- waenid ef gynt fel ymladdwr diail. Cyfarfu ag un o'i hen gymdeithion. "Wyt ti wedi diwygio o ddifri ?" gofyn- nai hwnnw iddo. Rydw i'n meddwl fy mod," atebai yntau. "-We], gad weld, mae yna adnod yn rhywle fel hyn 'Pwy bynnag a'th darawo ar dy rudd ddeheu, tro'r llall iddo hefyd?'" Oes," meddai'r pregethwr, eitha gwir." Wel, gad i fi roi prawf arnat ti," meddai'r llall; ac felly bu, tarawyd y pregethwr ar y rudd ddehau, a chan na feddyliodd ar y pryd am esbonio'r adnod yn y cysylltiadau dioddefodd, a throdd y llall. Tarawyd ef eto ar hon- no. Dyna 'nte," meddai'r pregethwr, rydw i wedi gwneud y gorchmynion i'r llythyren a rydw at fy rhyddid, am- ddiffyn di dy hunan nawr." Taflodd ei got a rhodd gurfa dost i'w darawydd. Golwg iach a graenus sydd ar y Cymro" sy'n dod o Ddolgellau ac awelon rhyddid i'w hanadlu yn ei gol- ofnau. Hyderaf er hynny na'd gwir y nodiad a welais ynddo, fod ym mryd Bwrdd Cenhadol y Methodistiaid ] wneud coelcerth o'u Blychau Cenhadol am fod arnynt y geiriau Made in Ger- [ many." Chwarae teg i'r blychau. Nid eu bai hwy yw eu gwneuthur yn Ger- mani. A pha ddrwg a wnaethant ? Byddai eu llosgi yn debyg iawn i "hidlo gwibedyn a llj-ncu camel." Y mae pethau gwaeth na blychau casglu wedi I. eu derbyn o Germani, ac wedi eu dan- fon oddiyma i wledydd eraill hefyd. Bore dydd Iau bu farw Arghvydd Merthyr yn Newbury, Berkshire. Gwr a j u rlrhis iawn oedd efe >ng nghylch- oedd gv lithfaol y De. Trwy ynni pen- d?er? fyn? iad 1 aca?th?? it.h cododd i'r safle- oedd uchaf. a daeth i gyfoeth mawr. Yr j r wedi eu rhoi i gadw dros ]awe,   y cynheth-, drwy'r cwbl cndeb Y Bedyddwyr yn Xhredega; ? ?dd > mae cynhulliadau crefydd- ?nl ac anenwadol, In o honynt ????ohino. Ymhhth erem ysgr? ? ?' p?ch.FuHer Mill, rr ?cutb  yn w l « Daily 'News" i brotestio yn eT KS. gynhulliadau a rje,yddo.PTS Dvwed fod Po- peth ? arall Feudal, cinemas, rhedegfeydd ce U'" j P?o? criced, goiff, tennis, yn S?eud  ymlaen fel "Busi;1ess as usual," medd Mr. MiUs ywarwydda > I „awb ond EglwysCns Lred fod hjn>arwydd ? o ddiffyg ny? dd ac ofn. Chwaraeteg i'r eglwysi y mae yn hawS i bob gwaith fyndytniaenynad?eg?rh? n?a-?r? eiddynt fynd ymlaen yn adeg 7hyfe, n.%?r e iadynt hwy, yn enwedig os bydd Ihawg 0 u haelodau ?edi eu ? "???nnu gan ys- bryd rhyfel. Pe ?sgyb? n Moses fydd- em byddai yn wahano1. Beth bynnag em byddai yn ???' Bedyddwyr yn mae'n dda gennym ?oy Bedyddwyr yn cymervd calonacynn?nd?j? a'r gwaith fel arfer. Rhyfeddyduedd?dy? /-idt.f Hhyfedd y duedd^ rhyfel i fvn? 3-n debyg i r pliatiseaid a'r Ysgrifeny wart.hnodl unrhyw un a feiddia ddweyd «n bod ninnau un a feiddia. ddweyd. ein bod ninnau hefyd yn debyg ia,n i bobl Neill. Beth bynnag, Y Daf.N-dd yr "Aberdare ,ja^er tuag at ein L!fder"^CvT,'yn ein He. Goliath eadw ni fel e,- villr,v yn e- i n Ile Goliath dJdyrLsai ial'w « ??c y ?ae yn gwneud h gwerthfawr anghy?redin i ??"? ? ydv? ? ^,ed beiaiir Germaninid ? ?ynyddoedd ac yn cau ?n ?ygaid ar J 1 eiddom ein hunain. eln lI"g "d r dd Cenedl ddiddim o ragr!thwyr a hymbyg- iaid ydym, meddai ef. g-
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RWOC oof*loh HYN. Eggs loodod 'f ?" ?'X? dd.?;, asholl Blood Polioning a Marwolaeth. Meddygim.etj f, Er mwyrl Y8801 ',ry.1 rhaid @I ,t. Er mwyn FOC)ES DIM Mon LLWYODIANUD A 810R A GOMER'S BALM. Mae Hign yn awr yn goo' 0' gydambod f?"    sior a diogsi ""lllIfyll. ,,Cr trio« .1 CIWyfIU, At oholllon, Tardd- lantau y m cnawd, Crloh I Nldll Mhon au p I a n t Liosgiad- U, ysgal. a n a U s o u r v y, LIUlrl "ant, Benyw^^ F?  Torwdeni coot, Gymalau is, heumat. „ „ Q?j pen fy ml? '?' poeq Yr )edd Pen '1 mlow- ,M' P«#i* ty, mewn '?t ackryalon. Cefn, wellhaodd Gomer ■ B»l« "tfh.ol ? ? bur ?" ,,ffoithiel Yu ur fu&B- p GL WYfAU ar COESAU. M/loedd yn!tystloI'W Effeithiam Rhy'eddo'. RHODOWC BRA IF ARNO 6?.?<?V? '? knh nhemi't • Storet 1/it. Gofyzier am Comer's B81m. 1118- wcb vrel[ou enw Ja*Ob Hughes ar bob blwch. Deb hyn nid'¡W aywir. N.. d8nfoDM ™eb„"(/jf at Jacob Ji,nu(«turlrti GhM>. 'It, M.P S., L.Ø.ln.rth, Cardl*. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.