Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Beddau'r Cymraeg. I

News
Cite
Share

Beddau'r Cymraeg. I Cymerwn yr ohebiaeth a ganlyn o'r "Brython," nid am fod ynddi lawer o gysur i neb, ond gall fod ynddi aw- grym i Undeb y Cymdeithasau Cymraeg gyda golwg ar y gwaith sydd i'w wneud os am gadw'r Gymraeg yn fyw. Y mae Jbeddau iddi'n agored ar filoedd o ael- wydydd, ac yn y capelau'n ogystal, a balchder a rhagrith wrthi'n brysur yn ei llindagu. "Hymn Number "-yng Nghemlyn. I Mr Gol.Rhyw dipyn o grwydryn ydwyf fi y dyddiau hyn, yn mynd o fan i fan, fel y Sipsiwn, gan orffwys yma a thraw ar lin yr hen Fam-Ynys, a gallaf finnau ddweyd fel Goronwy Owen- 3ifal Seion yw Mon i mi." Wrth grwydro yma a thraw, gwelaf fod y Saeson o'r un farn a mi, a rhyfedd mor garedig yw'r hen Ynys wrthynt; ac yn vir, yn hytrach na chenfigennu wrth y croeso a gant, llawenychu y byddaf fi wrth weld ymwelydd ym Mon, gan y gwn ei fod yma am fod Mon yn well yn -ei olwg nag unman arall. Mae ambell un o honynt hefyd yn ymdrechu siarad ei hiaith, ond ychydig o help a gant ganddi hi. Ychydig yn ol, darllenais broffwydol- iaeth Mr Williams y Bryn, ynghylch cynhebrwng y Gymraeg dywedai efe mai gydag arch ar lethrau Mynydd Garn y priddid gweddillion marwol yr Tien Gymraeg. Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn nhueddau y fan honno, mewn lie o'r enw Cemlyn, a'r Saboth oedd hi; ac, yn wir, lie Sabothol ydyw Cemlyn, lie anodd iawn torri'r Saboth, mae'r meysydd a'r anifeHiaid, y coed a'r bryniau yno yn annog pawb i gadw'r Saboth. Cymraeg a glywir gan y tri- golion, a hwnnw'n Gymraeg glan a di- rodres. Wel," meddwn wrthyf fy hunan, mae'r Bryn o'i chwmpas hi yn hyn fel mewn Ilawer o bethau eraill (maddeued Mr Williams imi am fedd- wl am dano fel "y Bryn," ond hen Fethodus ydw i, ac fel yna y bydda i'n arfer meddwl bob amser am dano). Dyma benderfynu mynd i wrando pre- geth yng nghapel cartref y Gymraeg. Cyrhaeddais yno yn dra phrydlon, ac yn wi r, un o'r pethau cyntaf a'm taraw- odd oedd prydlondeb y gynulleidfa. Yr oedd y capel bron yn Hawn. Wel," meddwn wrthyf fy hun, dyma ras arall trigolion Cemlyn ond wyddwn i ddim yn iawn a oedd prydlondeb y bobl yn rhoi cymaint o foddhad imi, er mai gras ydoedd, ag a ddylai; wyddach chwi, Syr, gras dipyn yn anghymreig ydyw prydlondeb. Gan nad oedd y pregeth- wr wedi cyrraedd, dechreuais edrych o'r cwmpas; ac 0 sut y medraf gyf- addef wrthych, Syr, hyd yn oed yn y capel dechreuodd gwisgoedd y merched a thynnu'm sylw ond, er fy syndod, yn Saesneg yr oedd y mwyafrif o'r bonedd- igesau wedi gwisgo amdanynt.. Eithr I wedi meddwl dipyn, penderfynais osod y bai ar y foneddiges gyfnewidiol honno -y ffasiwn. Ond wele'r gweinidog yn dyfod i mewn; a chyda boddhad yr edrychais arno, un o'r pregethwyr mwy- af meddylgar a fedd y Methodistiaid ydoedd. Wel, rwan am bregeth," meddwn a chyda hynny, wele fo ar ei draed. Hymn number Beth? ebe finnau, bron dros y capel; ond 'doedd hyn ddim ond dechreuad gofid- iau: yn Saesneg y panwyd, y gweddi- wyd, ac y pregethwyd! Yn blygeiniol drannoeth, ysgydwais y llwch oddiwrth fy nhraed. Cynhebrwng y Gymraeg wedi bod, a hynny yn y fan a'r lie y proffwydodd y Parch. John Williams; a phrgethwr Cymraeg yn cyhoeddi'r Efengyl yn Saesneg, ar fedd iaith plant Duw yng Nghymru. Clywais yr arfer- id claddu yn yr eglwys, yn y "tomb" a phobl dra phwysig fyddai y rheiny- ond yn y capel y claddwyd y Gym- raeg; a choeliwch fi, Mr Golygydd, gwell fuasai gennyf weld ei bedd ymhobman nag yno. Wrth fyned drwy Gemaes, Amlwch, Pen y sarn a Brynrefail (a chyda Haw, wrth fyned heijbio colofn y Morusiaid ni feiddiwn gymaint a chodi'm golygon tuag ati rhag imi weled y brodyr a'r rheini wedi eu croesholio) ie, pan yn ) ymyl Llanallgo, mentrais ofyn i hen frawd Cymreig ei wedd a glywodd efe am farw'r Gymraeg, "Naddo wir," meddai, "yr oedd hi'n eithaf byw yn y pulpud yma ddoe." Yr oedd ei eiriau fel gwin ar wefus y gwan, adnewydd- odd fy ysbryd, a phenderfynais aros yno am ychydig ddyddiau i ddyfod ataf fy hun yn hollol; a'r Sul dilynol, dyma fyrtd i gapel Methodistiaid y Benllech yn y bore i weld yr hen iaith annwyl yn fyw unwaith wedyn, ac i ddiolch bron mor galonnog am Gymraeg fyw ag am Waredwr byw. Wrth edrych ar y pregethwr meddyliais mor weddaidd y gallai ei wefusau fathu geiriau Cym- raeg, ac wrthi hi'n dychmygu gweld ei wefusau yn llunio'r geiriau hyfryd "Rhif ye Emyn yr oeddwn pan y cynhyrf- wyd fy enaid gan yr ymadrodd, Hymn Number." Nid arosais i glywed ych- waneg, ond ymaith a fi, er mwyn rhoddi cymaint o bellter ag a fedrwn rhyngof a'r hunllef felltigaid. Crwydro yr yd- wyf byth gan ocheneidio ynnof fy hunan, O FY HEX GYMRAEG." I [O'r "Brython," Awst 20fed. I

Advertising

0 Bontardawe i Gaerdydd.

Hwnt ac Yma.i

Advertising

Y Rhyfel. ! i -!

Colofn y Gohebiaethau. I

Advertising