Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. Y mae mis y gwyliau bron drosodd, ac amser gweithio ar ddechreu unwaith eto. Ni welwyd yn hanes y byd o'r blaen fis fel mis Awst, 1914, pan y mae bron pob gwlad yn Ewrob mewn rhyfel a'i gilydd. Peth enbyd iawn yw Rhyfel bob amser. Mae llawer mwy o drueni nag o ogoniant ynglyn ag ef ar y goreu. Y chydig feddyliem, pan yn vs- grifennu y dydd o'r blaen am y milwr ieuanc o Bias Gogerddan, y deuai yr al- wad i'r gad mor fuan ar fechgyn ieu- ainc ein gwlad ni. Fel y gwyddoch, peth cywilyddus a barbaraidd yw iblant setlo eu cwerylon drwy ymladd. Mae yr un mor gywil- yddus a barbaraidd i genhedloedd wneud hynny. Da gennym mai nid mynd i ryfel o awydd am allu a hunan- ogoniant wnaeth Prydain y tro hwn. Nid yw ymladd yn beth mor erchyll pan mai amddiffyn ereill wneir drwy hynny. Hyd yn hyn, ychydig yn gymharol o swn y rhyfel hwn glywir yn ein gwlad ni. Gwir fod llawer i dad a brawd o Gymru wedi gorfod gadael ei gartref a'i anwyliaid na wyr am ba hyd. Mae dagrau ffarwel y milwr wedi dod yn bethau cyffredin iawn yng Nghymru heddyw. Pellach fyth ydys o'r swn yn y siroedd gwledig. Eithr oddiyno hefyd, mae llawer i geffyl hardd, o fodd neu anfodd ei berchen, wedi gorfod gadael maes y cynhaeaf yd am faes y gwaed. Ond nid yw swn y frwydr eto yn ein clustiau. Mae ein cartrefi gen- nym. Mae ein gwenith yn cae l ei gas- glu yn dawel i'r ysgubor, ac nid yn cael ei sathru dan draed byddinoedd. Nid felly mae ar y Cyfandir. Mae llawer i gae a llawer i ardd ger Namur a Dinant, welsom y dydd o'r blaen yn cael eu trin mor ofalus gan y Belgiaid gweithgar, heddyw wedi eu sathru gan filwyr a'u cochi a'u gwaed. Mae'r afon Meuse, ar yr hon y buom yn hwylio mor hapus dair wythnos yn ol, erbyn oyn wedi bod yn dyst o'r erchyllderau mwy- af, ac wedi cludo llawer i gorff gwaed lyd heibio ei glennydd teg s/u pala^au cain. A beth am y wraig fwvn fu yn rhoi te i ni o flaen ei thy ger y b. mt yn Dinant 7 Achwynai br/d hwnnw'n brudd fod son am y rhyfel wcrti cadw ymwelwyr draw, ond sicr gennym na feddyliodd mai ger y fan honno yr ym- leddid un o'r brwydrau mwyaf gwaed- lyd cyn pen ychydig ddyddiau. A beth am y llu milwyr penderfynol ond tra thrist eu gwedd welem bob dydd ger yr orsaf yn Namur? A beth am eu plant bach adawyd ar ol ? Llawer o honynt, er hynny, sydd wedi gorfod troi allan o'u cartrefi a chrwydro'n flin i rywle, gan helpu eu mamau i gario yr hyn -agont, gyde, .hwy-ychydig ddillad, ilestr, darlun, neu gadair fach efallai, ac wedi edrych yn ol a gweld y cartref bach adawsent yn fflamau yn y pellter! Mae ugeiniau o blant bach yn gorfod byw drwy bethau felly heddyw yn Bel- gium, ac hefyd yn y gwledydd ereill, —Ffrainc, yr Almaen, Rwssia, Aws- tria, a Serfia. Diolchwn nad yw wedi dod i hyn hyd eto yng Nghymru. Gall brenhinoedd ac ymherawdwyr, efallai, ennill rhywfath o glod drwy ryfel; gall cadfridogion a milwyr ddod i safleoedd uchel a bri; gall rhai cyfrwys wneud iddynt gyfoeth mawr, ond i'r wlad yn gyffredin, nid all rhyfel ddwyn ond tru- eni ac alaeth. Ni waeth pwy fydd yn ennill, mae pobl a phI ant bychain yn dioddef ym mhob gwlad. Yn ystod yr amser pryderus hwn y peth goreu i ni sydd gartref yw gweith- io fel arfer. "Business as usual," fel y dywed y siopwyr. Felly dyma Gystad- leuaeth arall. 1. Fr rhai dan 16 oed: Llythyr at ffrynd, yn disgrifio'r modd y treuliasoch wyliau Awst. 2. I'r rhai dan 11: Disgrifiad Hawn o unrhyw dref neu ardal y buoch ynddi yn ystod mis Awst. Amodau: 1. Ysgrifennwch ar un tu i'r ddalen. 2. Rhoddwch eich enw, eich cyfeiriad. a'ch oed. 3. Gwnewch y gwaith eich hun. 4. Rhoddir i'r buddugwyr eu dewis o nifer o lyfrau. 5. Gyrrwch eich gwaith i fewn i Golofn y Plant," Swyddfa'r 'Darian,' Aberdar, ar neu cyn Medi 4ydO.

Gymanfa Ddirwestol. I

[No title]

Llith Talnant o Abertawe.…

William Higgs. I

Advertising

I COLOFN LLAFUR. )

Cwmdar.I

Advertising