Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
PUMP 0 GANEUON NEWYPP. HEN FWTHYN FY NHAD (My Father's Old Home). Can i Contralto neu Baritone. Pris 6c. MAE LLONG FY HARRI'N DOD YN OL (M ¡Hal' Ship is coming back). Can i Soprano. Pris 6o. j BLODAU AC- ADAR I MI (Birds and Blossoms). Pris Is. Y Tair uohod gan D. JENKINS, DYFFRYN HIRAETH (The Valley of Rest). C&n i Contralto neu Baritone gan Bryceaon Treharne. Pris Is. (Wedi ei dethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1915). { GWENFRON. Can i Baritone gan Mr. Lloyd Edwards, Llundain. Pris I s. Geiriau Saesneg a Chymraeg, Solffa a'r Hen Nodiant i'r pum' Can. Cyhoeddedig gan D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)., Aberystwyth. ATTODIAD I "GEM AU MAWZ991 SEF CASGLIAD 0 DONAU, SALMAU AC YMDEITHGAN. Pris, H.N., 8c. Solffa, 6c. Nid oes braidd un Gymanfa Ganu gyda'r Methodistiaid nad oes rhai Tonau o'r ucbod yn cael eu canu ynddynt. I Gwneir gostyngiad mawr yn y priB am 100 ac uchod. 00 YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? I CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT ANDIALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C.. OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Sdhools) SWANSEA. And 4Sa, Commero/al Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Y DARIAN YW'R Papur loreu i hysbysu Eisteddfodau. I Cyhoeddir beirniadaethau I yr Eisteddfodau a hysbys- ant ynddi. I Telerau arbennig. I Aufoner i Swyddfa'r DARIAN, Aberdar. 1 Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially log, rates: One week 4 wks. 18 wks. a. d. s. d. d. 10 words 0 a 1 18 0 » B > — I M 1 0 tO 7 1; These charges apply only to the follow ing classes of advertisements :-Apart- ments, Situationf3 (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, aad Miscellaneous Wants. Romittances may be made by Postal Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rat." will holt charged. Advertising and I'nblishing Cardiff Street, A berderm. Yn awn yn ballod Telyn Awen. (Isaac Eurfin Benjamin). Telynegion Serch, Gwl adgarweb, a Chrefydd, Pryddestau Cadeiriol, Darnau Adroddiadol, &o. Ar 91 o wahanol destynau, 18 yn eu mysg yn ddarnau buddagol. Pris 1/ wedi eu rfiwymo yn hardd 1/6 Cyboeddedig gan yr Awdwr, ac ar werth gan ISAAC EURFIN BENJAMIN, Bronheulog, Woodfield, Pearhiwefibec. Stamm" HANES PONTARDAWE A'R CYLCH. TRAETHAWD BUDDUGOL Can J. E. MORGAN (" Hirfryn"), Ailtwen, Pontardawe, Awdwr Hen Gymeriadau Gellinudd." Pris, 1/6 Net. Mewn Llian, 2/6 Net. Un o'r llyfrau mwyaf diddorol a ddarllenasom er's tro, ac ambell i stori ynddo yn peri i ni hanner hollti gan chwerthin." —Gol. y Darian." I'w gael oddiwrth yr Awdwr. ARGRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GTDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Gyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn ceir Esiamplau o Adroddiadau Eglwysig, lestynau a Rhaglent Eieteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &a. Pellseinydd: Central 151. Cofiwch yr enw— THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhat rn son am godi Cymru yn ei hol,; ein hawydd ni yw gyrra'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn oyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM 8AMPLAU. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pob Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan-, aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc j i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir pael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lie. yr wythnos, ls. 7c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dil yn unig yr anfonir hi trwy'r post.
DYDD IAU, AWST 27, 1914. Nodiadau'r…
DYDD IAU, AWST 27, 1914. Nodiadau'r Golygydd. Condemniwyd llawer ar y rhai a frys- iasant i godi pris y bwyd pan glywyd son am ryfel. Yr oedd cri yr hyn a elwir yn "Wasg" yn uchel iawn yn eu herbyn. Credwn erbyn heddyw fod y Wasg ei hun yn euog o raib sydd yn fwy anesgusodol o lawer na dim a wnaed gan fasnachwyr. Prynhawn ddoe ar yr heol clywem dyngu a rhegu ofnadwy a thyrfa yn ymgasglu o gwm- pas rhywun. Yr achos o dymer ddrwg y dyn oedd ei fod ar gyfrif yr hyn a welai ar hysbyslenni yn rhedeg I geis- io'r papur bedair neu bum gwaith y dydd y naill ddydd ar ol y llall er cy- hoeddiad y rhyfel, ac yn darllen ynddo ddoe yr hyn a ddarllenasai bob dydd er's pythefnos. Meddyliwch meddai, dweyd wrthym bob dydd nad yw'r Fyddin Brydeinig ddim yn y cymylau! Cydymdeimlem yn fawr a'r dyn. Gwaria llawer fel yntau arian y dylesid ei cadw i ddarpar bwyd i'r wraig a'r plant. Daw yn gyfyng ar lawer yn gynt nag y dylasai oherwydd yr arian a werir ar bapurau sydd a dim newydd ynddynt. Dipyn yn greulon yw dar- llen cynghorion sut i wneud y defnydd goreu o bethau, a beth i'w hau yn yr ardd ac yn y blaen fel y byddo gennym fresychen neu winwnsyn o leiaf yn yr adeg gyfyng a ofnir sydd o'n blaen; ac ar yr un pryd elwa ar awydd y bobl am glywed rhyw newydd. Nid yw hyn yn deg, nid yw'n anrhydeddus. Mewn gwirionedd, amheuwn a fu yna ddim ynglyn a'r rhyfel o'r dechreu yn waeth na'r ymddygiad hwn o eiddo'r wasg. Hyd yn hyn nid oes dim wedi galw am fwy o bapurau nag arfer, os dim gall- esid gwneud ar lai. Yn sicr nid oedd dim yn galw am aflonyddu mor am] ar bobl yn ystod y Sabath diweddaf. Gallesid tybied fod plant wedi eu cyf- arwyddo mewn rhai lleoedd i aflonyddu ar yr addoliad trwy waeddi newyddion rhyfel o flaen y capelau. Tvbed na ellir bod yn sobr a difrifol ar adeg fel hon. Marw'r Pab. I Bore dydd lati diweddaf bu farw Pius X. Dywedir mai gofid oherwydd y rhyfel erchyll a welai yn lledu dros ran mor fawr o'r byd a barasai ei wael- edd. Yn ystod y dyddiau olaf anfon- asai nifer aruthrol o delegrams i geisio atal yr erchylltra, ond yn ofer. Daeth- ai i'w gadair yn 1903, ac yr oedd iddo I air da. Gwnaethai enw iddo ei hun fel hugail yn hytrach nag yng nghysylltiad- au swyddogol ei eglwys. Yr oedd ef fel llawer dyn da arall yn well na'r gyfun- drefn y perthynasai iddi.
0 Wy i Dywi. !
0 Wy i Dywi. CANRIF OLAF ANNIBYNIAETH I MORGANNWG. Gwersi mewn Hanes Lleol gan Lewis I Davies, Cymmer. GWERIN BOBL YR HEN OESAU. I Ychydig fuasem yn wybod am fywyd cymdeithasol ein cenedl yn ystod y deg canrif cyntaf o Oed Crist .pe na fuasai gennym ond y Brutiau i draethu am dano. Dywed y rheiny lawer am ym. gyrchoedd y gwahanol dywysogion, am ymweliadau estroniaid, am bla a haint, ac am ddiffyg haul a lleuad, ond y peth nesaf i ddim am fywyd "bob-dydd" y bobl gyffredin. Nid ydym yn y tywyll- wch er hynny, oblegid llenwir y bwlch, a hynny yn lied lwyr, gan Gyfreithiau Hywel, y rhai a gasglwyd, fel y sylwas- om o'r blaen, pan oedd y lOfed ganrif tua ugain mlwydd oed. Oddiwrth y rhai hyn gwelir yn amlwg er fod Cym- ru yn bedair o dalaethau gwahan, mai yr un iaith, yr un defodau, yr un cyf- I reithiau, a'r un cynllun o wladwriaeth oedd gan yr oil. A loose federation of pastoral states" y geilw un awdur Seis- ¡ nig hwynt, ac y mae y disgrifiad yn un eithaf priodol, oblegid bywyd gwledig yn dibynnu ar ddeadelloedd o ychain, I defaid, a geifr oedd eiddo ein hynafiaid a dan eu tywysogion brodorol. Ych- ydig mewn rhif oedd y trefydd, ac fel I y tystia y blaenddodiad 'Caer' oedd o flaen enw pob un, nid oedd y rheiny ond amddiffynfeydd yma a thraw. Rhydd Nennius yn y 9fed ganrif restr gyflawn o ddinasoedd yr ynys yn ei amser ef, ac I ni welir un yn eu plith (yng Nghymru o leiaf) nad oedd yn bod yn nhymor y Rhufeiniaid bum canrif cyn hynny. Yn ofer v chwilir hanes am longwriaeth eang ,mwnfeydd prysur, neu law-weith- feydd trystfawr ynglyn a'r un o honynt. Yn wir sangodd ein cenedl fryniau a llethrau Morgannwg, Arfon a Dinbych am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd heb freuddwydio am y cyfoeth glo, haiarn, llechi, a phlwm oedd i'r ochr arall i'r dywarchen. Ychydig o goedwica a physgota, mwy o fugeilio ac ymrafaelio, —dyna bennod eu hanes <lrwy y canrif- oedd. Rhennid y tir, nid rhwng unigol- ion, ond rhwng llwythau, ac unrhyw aelod o honynt (os o waed Cymreig di- amheuol) a chystal hawl at ei gynhal- iaeth a'r tyywysog ei hun. Gelwid y darn tir berthynai i bob llwyth yn 'wely,' a bugeilid hwn gan yr aelodau gwrywaidd o dan lywyddiaeth y patri- arch neu ben-teulu. Clywsoch son gan bobl, mi wn ,am berthynas o'r 'nawfed ach.' Nid yw hynny ond gweddillyn o arferiad yr amser gynt pan y dielid sar- had ar unrhyw aelod o'r llwyth o fewn y cylch perthynasol gan y gweddiil o wyr y llwyth. Nid peth dibwys felly oedd bod o dras y cedyrn yn y dyddiau gynt, gellwch dybied. Dirwy oedd y ffurf gymerai y gosp am drosedd fynych- af, ac mor fanwl oedd y cyfreithiau fel nas medrid tramgwyddo braidd un- rhyw fodd heb fod maint a natur y gosp wedi eu trefnu rhagllaw. Cydmarol ychydig o aredig a hau llafur wnai yr hen Gyfnry, a thrwy 'gymhortha' (h.y., urideb gwaith o fewn cylch y llwyth) y gwnaent yr hyn a wnaent. Felly yn amser lnedi yr oedd y cnwd—ceirch fynychaf—i'w rannu rhwng y gwahanol deuluoedd am nad I oedd hawl unigol gan neb iddo. Am yr un rheswm ychydig iawn o'r tir a gaeid i fewn, a thros amser yn unig y cania- teid hynny, gymaint oedd eu heiddigedd II dros freintiau y llwyth fel llwyth. Mor wahanol heddyw pan y mae llaw bron ¡ pobun yn tynnu ato ei hun, a phan y gorfyddir cau i fewn bob dim ddigwydd fod ar elw dyn. Yn yr haf tywysid yr anifeiliaid i'r ucheldiroedd er mwyn y borfa geid yno yn anterth y flwyddyn. ond yn y gaeaf elent yn ol drachefn r iseldir er mwyn bod yn agos i hendre neu faerdre y llwyth. Ychydig iawn o wair a gesglid, ac o angenrheidrwvud lleddid y mwyafrif o'r anifeiliaid t;r j ywaidd er mwyn eu halltu yn gigfwyd y I gaeaf. ENWAU HEN AMAETHDAI. I Gwelir y ffeithiau hyn a channoedd o I' rai diddorol ereill o astudio Cyfreithiau Hywel Ddda. Ond i mi y pethau mwy- af eu diddordeb ydyw y rhai gysylltant yr 20fed ganrif a'r dyddiau pell hynny. A oes y fath gysylltiadau, meddwch chwi ? Oes, yn wir. Edrychwch am
[No title]
Blin iawn oedd gennym glywed, pan ar fynd i'r wasg, am farwolaeth un o hen ohebwyr ffyddlon y "Darian," Eos Hafod. o Ystrad Rhondda. Cydym- deimlwn yn fawr a'r teulu a'r perth- nasau. Cleddir ei weddillion dydd Sadwrn nesaf ym mynwent GyfeUlon? Pontypridd. Cychwynir o'r ty am ddau o'r gloch.
Trefforest a'r Cylch. ]
Trefforest a'r Cylch. ] Son am rai'n gadael y lie i amddiffyn eu gwlad glywir yma bob dydd, ynghyd a holi am y newydd diweddaraf. Dy- wed yr Efengyl: "Nac ymddielwch!" Y dydd o'r blaen bu farw y brawd Daniel Meredydd, Pontypridd. Gweith- iwr cadwyni oedd efe, ac yn enedigol o'r lie. Claddwyd ei weddillion Awst 20fed, yng Nglyntaf. Cwynir yn dost oherwydd y prisoedd ofynnir am fwyd, ac eto dyma'r wlad a elwir yn Gristnogol ac yn wlad y capeli mawr. Pwy sy'n credu yn Iesu o Nazareth heddyw. Credir mwy yn John Bull o lawer. Bu farw Mr Lawrence, Berw Road, mewn oedran teg. Yr oedd yn ddiacon ffyddlon yn Sardis er's blynycTdoedd lawer, a theimlir colled fawr ar ei ol. Son am gynnydd calonogol sydd yng N ghyfrinfa Craig-y-fforest. Er y pwyso a fu arni yr ydym yn werth dros dair mil o bunnoedd. Mr E. Hopkins, ein hysgrifennydd, yw is-lywydd yr Undejb Iforaidd am y flwyddyn. Priodas dda i Mr Gwilym Harri, ys- golfeistr Heolycyw, a'i briod ieuanc. Miss Edith Rees oedd hi gynt, ac yn ferch i'r lienor a'r bardd Morleisfab, Llangennech. Hir oes iddynt. I Dydd Gwener diweddaf claddwyd gweddillion Mr John Hughes, Porth, yng Nghladdfa Llethrdu. Yr oedd yn ddiacon ffyddlon ym Methania. Y dydd Iau blaenorol claddesid ei terch, sef Mrs. Pugh, o Donyrefail. Cydym- deimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedig- aeth ddyblig. C. JOHN.
ARGRAFFWAITH.
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraflfwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a't "Darian," 19 Cardiff Street. Aberdar.
IAr Lannau Tawe.
Ar Lannau Tawe. Yn ei huchel wyl flynyddol cafodd Calfaria, Clydach, y Sul a'r Llun diweddaf y fraint o wrando ar y Parch. J. Talfryn Lloyd, D.D., o Youngstown, America. Brodor o Benycae, ger Gogledd Cymru, yw efe. Y mae yn yr 'America ers deng mlynedd ar hugain, ac yn un o'r Cymry mwyaf adnabyddus yn y wlad honno. Y mae hefyd yn ddiarhebol am ei groeso i rai o'r hen wlad fydd yn galw heibio iddo. Nid yw'r cyfnod hir yn yr America wedi effeithio dim ar ei Gymraeg, ac yr oedd yn dda gennym ei glywed yn pregethu gyda'r Jath nerth a chynulliadau lluosog yn gwrando arno. Mae ystafell uchaf Neuadd Gy- hoeddus Clydach wedi ei throi yn ddarllenfa rad i'r bobl er yr wythnos ddiweddaf, ac i barhau felly tra par- hao'r rhyfel. Teimlir yn ddiolchgar i Mr. \V. J. Percy Player am y gym- wynas hon sydd yn rhoi mantais iV bobl i ddilyn hanes y rhyfel. Y mae Cwmni'r Mond, Clydach, wedi penderfynu talu hanner cyflog y gweithwvr a alwvõ i ffwrdd i'-w gwragedd, a swllt yn ychwaneg ar gyfer pob plentyn. Deg swllt fydd y swm lleiaf a delir. Y mae dau fachgen o'r Cwtsh sydd yn aros yn y Glais yn rhywle wedi bod yn chwarae "German spies yn yr ardal. Wrth eu bod yn syllu gyda syndod ar adeiladau mawrion Clydach a'r Glais tynnent svlw v "sentries. Pan ddeallasant hwvthau hyn syllent yn fwy o lawer ac nid oes sicrwydd na chawsant flas y bidog. Beth, bynnag y maent yn bvhafio'n well yn ddiweddar.
Heolgerrig, Merthyr.
Heolgerrig, Merthyr. Ar ol misoedd o gystudd bu farw'r' brawd Charles Peters yn 52 mlwydd oed. Brodor o Abernant ydoedd, ond yma y treuliasai y rhan fwyaf o'i oes. Yr oedd yn barchus iawn gan bawb yn y lie. Gadawodd weddw a phlant a pherthnasau. Claddwyd ei weddillion yn y gladdfa gyhoeddus Awst 8fed. Awst 8fed bu farw Mrs. Jones, priod Mr Thomas Jones, un o ddiaconiaid ffyddlon Calfaria (B.). Nychasai yn hir ond yn dawrel. Treuliasai ei oes yn y lie, ac yma'r oedd ei rieni o'i flaen. Dydd leu, Awst 13eg, claddwyd ei gweddillion yng Nghladdfa'r Cefn, pan weinyddwyd gan ysgrifennydd y llin- ellau hyn. Dymunwn nodded Duw i'n brawd a'i ddau fab, ac i'r perthnasan oil yn eu galar. Blin a dwys yw hir gystudd y chwaer garedig Eliza Harris. Un o'r cymer- iadau goreu a gyfarfuasom erioed yw hi. a dymunwn iddi adferiad buan. Yn ddiweddar bu farw Rees Harris, o'r Beiliglas. Tynnai yntau yn ami i Galfaria. Yn y Ty Cornel y dechreuwyd achos i'r Bedyddwyr ar Heolgerrig, a chredwn mai yno wrth ford grdn y pregethodd y Parch. W. E. Davies, D.D., Clydach Vale, ei bregeth gyntaf, tua phump a deugain o flynyddoedd yn ol. Nis gwn ond am un o Saint y Ty Cornel yn fyw yn awr, a hwnnw yw y brawd Griffith Hall. C. JOHN.
I-Cwmgors.-
Cwmgors. Prynhawn Sadwrn, Awst 16eg. daear- wyd yr hyn oedd farwol o'r cyfaill Evan Jones. Ty-twt, a gyfarfu a'i ddiwedd yn sydyn trwy i gwymp trwm ddod arno tra wrth ei waith fel glowr yng Nglofa Cwmgors. Daeth tyrfa fawr o'i gydweithwyr i dalu y gymwynas olaf iddo. Yr oedd yn weithiwr caled, ac yn un o'r rai mwyaf gofalus. Perchid ef yn fawr yn yr ardal. hi
0 Wy i Dywi. !
foment ar enwau Itawer o'n tyddynnod heddyw. 0 dan y Cyfreithiau gelwid prif orffwysfannau gaeafol y llwythau o dan amrywiol enwau, megis hendre, hendy, maerdre, a gaeafdre. Ond yr oedd tai ereill hefyd a breswylid yn yr haf yn unig, h.y., pan fyddai y creaduriaid yn yr ucheldiroedd. Yn y rhai hyn y trinid y Jblith y tymor hwnnw yn He cario y llaeth i waered i'r dyffryn i'w wneud yn gaws ac ymenyn yno. Gelwid yr hafdai hefyd o dan amrywiol enwau, megis hafod, hafdre, maerdy, a lluest. Fel yr elai amser heibio, ac yn enwedig o helaethu maes yr amaethu, gallai hafdy un genedlaeth ddyfod yn aeafdy i'r un ddilynnol, ond (a hyn sydd bwysig) cedwid yr enw cynhenid hyd yn oed ar ol newid pwrpas y ty. Gwyddis yn dda fod llawer o'n hamaethdai yn hen iawn, a gwyddis cystal a hynny fod y ty welir heddyw ar y buarth yn chweched neu seithfed yn olynnol i'r un tyddyn. Dyna Hafod- halog (Margam) fel engraifft. Sieryd Siarter yr Abaty am dano saith can- rif yn 01. ac nid fel ty newydd v pryd hwnnw, ond yn hytrach fel ty hen. Yn awr, edrychwch o'ch deutu. Onid oes yna gannoedd o'n ffermdai yn hendy, hendre, maerdre, maerdy, gaeaf-dre (wedi ei lygru yn goetre), hafdre (haw- dre yr un modd), hafod neu luest. Gwn yn bersonol am lawer hendre, megis Hendre Owain (Dyffryn Afan), Hendre Caradog (Cilybebyll), a'r Hendre Fawr (Rhigos). Y mae hefyd Hendy ger Pontarddulais, ac un arall ger Llan- trisant. Ceir Llanilltyd Faerdre yn yinyl Pontypridd, Maerdy mewn llawer man, ac Ynys y maerdy yn Llansawel. Nid ydym ychwaith heb Hawdre, canys y mae gan Bontrhydyfen a Thondu bob o un. Yr un wedd Hafod, a geir yng Nghwm Rhondda, Abertawe, a Mar- gam. Erys hefyd llawer Goitre fel y dengys Merthyr, Ystradfellte, Margam a Dunvant, tra mae o leiaf ddwsin o Luestai yn Nhir larll yn unig.