Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Morgan John Rhys.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Morgan John Rhys. I (Parhad.) Deuwn yn awr at ei fywyd a'i waith yn America. Yr ydym yn ddyledus yn bennaf i'r Dr. J. T. Griffith am lythyrau Morgan John Rhys, a gyhoeddir gan- ddo yn ei gyfrol werthfawr ar y gwrth- rych. Gwir y dywedir mai llythyrau sydd yn dangos cymeriad. Yn ei lythyrau daw Morgan John Rhys 7r golwg mewn modd a ddengys yn eglur ei fod yn ddyn mawr,—mawr ei nthrylith, ei wybod- aeth, ei frwdfrydedd, ei hyawdledd, a'i ymroddiad i apostolaeth ei fywyd. Tywynna ei ddyngarwch trwy bob gweithred a mudiad o'i eiddo. Addolai Ttyddid, ac yr oedd yn elyn anghymod- Ion i bob gormes, ffug a rhagrith mewn Jbyd ac eglwys. Dywed Spinther am y llythyrau: Gwelir ysgolheigdod uchel yn nod- weddu y llythyrau hyn. Coethder Saesneg, cyfoeth arddull, a gwelediad igreddfol i lygredd ac i'r egwyddorion a lywodraetha gymdeithas yn yr hen fyd a'r newydd." Dechreuodd ysgrifennu y llythyrau uchod ymhen wythnos ar ol glanio yn America. Amser cynhyrfus yn America oedd yr amser yr aeth Morgan John Rhys yno. Yr oedd y Taleithau mewn sefyllfa o brawf tanllyd. Yr oedd ganddynt i 'brofi eu gallu i lywodraethu eu hunain yn ol egwyddorion ryddid a chydradd- oldeb. Newydd fyned heibio oedd Rhyfel Annibyniaeth, Ymgorfforiad y Taleith- au, cyfansoddiad y llywodraeth ac ,etholiad y llywydd. Ond yr oedd yn aros ddau gwestiwn mawr, cyffrous a Phoenus-Caethwas- iaeth (Slavery), sef y pren Upas a blannodd Lloegr yn y wlad honno, a Gwareiddiad ac efengyleiddiad yr Indiaid Cochion—cyn-breswylwyr y -Cyfandir mawr. Yr oedd ein gwron, wrth gwrs, wedi hen wneud ei feddwl i fynny ar y pync- iau hyn. Iddo ef dyn oedd dyn, beth bynnag fyddai lliw ei groen, bydded ddu, coch, melyn, neu wyn; ac yr oedd i bob dyn ei hawl naturiol i'w ryddid ac i'w freintiau mewn gwladwriaeth a chref- _ydd. Yr oedd ei enaid yn fflam dros ryddhad y caethion, a thros efengyl- eiddiad yr Indiaid, ac ymaflodd ar un- waith yn y pynciau hynny gyda holl angerddoldeb ei natur. Ymwelodd a phlanigfaoedd y De, er bod yn dyst o resyndod cyflwr y caeth- ion yn eu bytho/i, wrth eu gwaith, wrth y bloc ac o dan y fflangell. Ymresymai a'u perchenogion ac a'u gyrrwyr; dad- lleddf-wneuthurwyr ac a'r ynadon areithiau yn y neuaddau trefol a'r neuaddau taleithol, ac anfonai'r ys- grifau mwyaf tanllyd i newyddiaduron y wlad. Ond nid siarad ac ysgrifennu yn unig yr oedd efe, eithr gweithredu yn holl frwdfrydedd ei enaid. Pan yn Savan- nah,—lie ychydig cyn ei fynediad ef yno—y fflangellwyd cynulleidfa gref- yddol o Negroaid a'u gweinidog hefyd, am ymgynnull i addoli Duw, dadleu- odd eu hachos, a bu yn offeryn i gych- wyn mudiad ymhlith y caethion, a lin- iarodd lawer ar gyflwr y milynau truein- iaid hynny. Cychwynodd yn Savannah ysgol ddyddiol i blant y Negroaid rhyddion, a phlant y Negroaid caethion y gwelai eu perchenogion yn dda ganiatau iddynt dderbyn addysg. Tebyg mai dyma'r ysgol gyntaf er- ioed a godwyd i blant y Negroaid. Rhyfedd yw ffordd Rhagluniaeth, a rhyfedd y gwasanaeth a wnaeth y Cym- ro hwn i'r byd. Fel y dywedwyd, efe gychwynodd yr Ysgol Sul yn Neheu- barth Cymru, efe hefyd a ffurfiodd Feibl Gymdeithas gyntaf yn y byd er rhoi Beiblau rhad i'r Ffrancod, ac wedi ei wrthod gan Gymru wele ef yn cych- wyn ysgolion dyddiol i Negroaid Ameri- ca. Ac nid hynny yn unig, eithr bu yn offeryn i arwain y Negroaid yn Savan- nah i oresgyn y rhwystr cyfreithiol oedd at eu ffordd i addoli Duw. Gwa- harddai y gyfraith i'r bobl dduon ym- gynnull mewn addoliad os na fyddai dyn gwyn yn pregethu iddynt, ac nid oedd dyn gwyn a wnai y gymwynas honno a hwynt yn Savannah. I gwrdd a'r anhawster hwnnw cyfarfu Morgan J. Rhys a Negroaid crefyddol y ddinas fyonno a'r cyffiniau (y rhai yn 1788 oedd- ynt wedi ymgorffoli yn eglwys Gristion- .,ogol, gyda dyn du—Andrew Bryan—yn weinidog, ond ar ol hynny wedi cael eu 1. chwalu o dan y fflangell), i gyhoeddi eu hanes mewn apel at gyfeillion dynol- iaeth a chrefydd. Yn eu hapel adrodd- asant hanes eu heglwys, a hanes y man- gellu am ymgynnull i addoli Duw, ac fel yr oeddynt drachefn a thrachefn wedi deisebu yr ynadon ar yr achos .ond mai cymaint a gawsant gan Gyngor y Ddinas oedd caniatad i ymgynnull mewn addoliad am ddeuddeg awr mewn blwyddyn. Yna apeliasant at eu cyd-ddynion a'u ,cycl-Gristionogion am eu cydymdeimlad a'u cymorth yn eu cynfyngder, gan der- fynu fel hyn: "Alas! in the land of liberty our toleration to worship God is limited to two days, and only twelve hours in the year, and for aught we know for ever. Where shall we turn our eyes? There is no place of worship in the city open nor convenient to receive us. Peaceable in the neighbourhood and obedient to our masters, must we be de- prived of the chief consolation we bad in life 1 Oh! fellow men, fellow Christ- ians, think of our condition, and afford us your friendly aid. Though the colour of our skin differ from yours, we have the same claim on humanity, the same hope of immortal Jblessedness. Our only petition at present is to have the privilege of worshipping God in the assembly of his saints. Signed on behalf of 400 members and near four hundred more who wish to be baptized, but have not as yet obtained leave "by their masters. SAMPSON BRYAN, EVAN CLAY, Deacons. I ANDREW BRYAN, Pastor." Dilynir yr uchod gan y mynegiad can- lynol, wedi ei arwyddo gan bump o Ddinasyddion Savannah a'i ddyddio Chwefror 24ain, 1795 :— We, the subscribers, having con- sidered the above case, think that the best means of relieving our brethren of colour is the erecting of a place of wor- ship, large and convenient to hold both black and white people together. The j principal objection being against the former to assemble alone, we have, I therefore, entered into a contract to I build such a place in the City of Savan- nah, 60 by 50 feet, with galleries all round. We have subscribed among ourselves in Savannah about 400 pounds sterling, but the building before it is finished will cost about ZCI,000 sterling, we trust that the friends of religion and liberty throughout the Un- ion will join us in assisting those who are deprived of the means of assisting themselves. Dyna fuddugoliaeth ardderchog ar ragfarn cenedlaethol. Y gwron o Gym- ru a fu eu tangnefedd hwy, ac a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngddynt hwy, a gaf- odd ddodi enw ar y ty newydd, ac efe a'i galwodd ef Beth-Shalom "-ty heddwch. Wele y cyfansoddiad a fabwysiadodd yr eglwys yn ei thy newydd:— (1) Crist yw Pen yr Eglwys hon. (2) Credinwyr yw yr unig aelodau. (3) Etholant eu swyddogion eu hunain. (4) Y Beibl yw yr unig reol o ffydd a gweithrediad. I Mae delw Morgan John Rhys yn amlwg ar y cwbl. I EI WAITH DROS YR INDIAID COCHION. Y cyntaf i ddwyn gwaith y genhad- aefch i sylw Bedyddwyr Cymru oedd Morgan John Rhys yn y 'Tabl' a gy- hoeddwyd ganddo yn 1793 yn cynnwys manylion o berthynas i wledydd y byd, ac anerchiad yn cymell Bedyddwyr Cymru i gyfrannu at y Gymdeithas a sefydlwyd yn 1792 yn Kettering. Tra yng Nghymru dadleuodd dros achos yr Indiaid Cochion trwy y Cylch- grawn, ac amcanodd ddefnyddio yr elw a ddelai o'r misolyn at gadw cenhadon i bregethu yr Efengyl i'r Indiaid, ac hefyd i agor drws i fyned at drigolion glannau y Missouri. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth wedi glanio yn America oedd myned at yr Indiaid Cochion. Mewn llythyr a an- fonodd o Washington, dyddiedig Awst 2lain, 1795, danghosodd ei sel dros ei waith. Ysgrifennodd :— Bum yn eu plith am dair wythnos. Pregethais o flaen y pennaeth ar y cwestiwn o anfon cenhadon atynt. Ychydig wneir er ceisio anfon yr Efengyl at y trueiniaid yma. Gwell gan amryw o'r gweinidogion dadleu ar bynciau annealladwy na chadw gorch- ymyn mawr Crist. 'Ewch i'r holl hyd a phregethwch yr Efengyl i bob creadur.' Mae'r Morav- I iaid wedi bod yn ddiwyd a gwelir llawer o'u disgyblion yn mysg yr Indiaid Gogleddol. } Gobeithiwn fod y dydd ar wawrio pan welir y rhai sydd mewn tywyllwch yn rodio mewn goleuni mawr. 'Doed yr Indiaid at yr orsedd, Doed y Negro dua'i liw.' Yn Ionawr, 1793, sefydlwyd Cym- deithas Genhadol yn Philadelphia, ac ar yr achlysur clywn fod Morgan John Rhys wedi pregethu tair pregeth. Nid oes amheuaeth na chymerai ran flaen- Haw yn y symudiad, ac mai efe mewn gwirionedd oedd ei gychwynydd. I M. EVANS.

Advertising

Y " Genhinen " EisteddfodoL1

Advertising