Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

.Pwnc y Dydd.

News
Cite
Share

Pwnc y Dydd. GAN BRYNFAB. Nid oes dim ond swn rhyfel i'w glywed ymhob man heddyw, ac nid oes neb a wyr beth fydd canlyniadau y rhyfel mwyaf ofnadwy a welodd y byd erioed. Pedair mlynedd a deugain i'r haf hwn yr oedd y Ffrancod a'r Prwsiaid yn benben a'u gilydd, a gorliwiwyd yr afonydd a gwaed y ddwy blaid. Rhyfel am ddim oedd hi y pryd hwnnw. Methu penderfynu pwy a wisgai Goron Ysbaen wnaeth i'r ddwy genedl ruthro at yddfau eu gil- ydd. Trechwyd y Ffrancod, a chym- erwyd eu Hymerawdwr yn garchar- or, a llarpiodd Ymerhawdwr yr Al- maen ddwy dalaeth o Ffrainc, heblaw dau can miliwn o arian yn yspail rhyfel. Nid wyf am fanylu dim ar y ryfel presennol, rhaid gadael amser i esbonio ac egluro pethau wedi yr elo y mwg heibio, cyn anturio ysgrifennu llawer am y trychineb ofnadwy. Ond bwriadu son am ryfel 1870 oeddwn, ac mae yn hawddach ysgrifennu ar hwnnw, gan fod angof wedi tynnu ei llenni dros rai o'i nodweddion erchyll. Bu y beirdd yn canu, neu yn cwyno, Ilawer ynghylch y rhyfel hwnnw. Ebai Hwfa Mon:- "Ewrob o dan waeau orwedd-mewn Ilid Mae'n llawn o greulonedd; Rhed ei gwaed, brudia ei gwedd, Cn6a ddur mewn cynddaredd. Palwyd dan sedd Napoleon,—a gwyr- wyd Ei amgaerydd cryfion; Ei dyrau beilch hyd i'r bon Ysgwyd i gyd yn friwsion." Os ydych yn cofio, ffodd Ymherodres Ffrainc a'i thywysog bychan i'r wlad hon am ddiogelwch, ac ebai Tudno "0 nyth 'rebels' a thrwbwl,—at dir John Troes Eugenie 'i meddwl; Gobaith olaf o gwbwl Eugenie a'i bach oedd John Bull." Yn y flwyddyn 1871, yn Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl, rhoddid rhydd- id i'r beirdd i ddewis eu testynau eu hunain yng nghystadleuaeth y gadair. Ieuan Ionawr, Dolgellau, enillodd. Yr oedd ef wedi dewis "Yr Orsedd Wag a'r Bedydd Tan yn destyn. Mae rhai yn cofio i Napoleon fynd a'i dywysog bychan gydag ef i faes ei frwydr olaf-Sedan, i dderbyn ei "fedydd tan," meddai ef, a dyna roes ei gyweirnod i'r bardd. Ond ebai ef "Bu diwedd tost i'r 'bedydd tan." Beth pe buasai Ieuan yn fyw hedd- yw? Gwelsai mai dim ond chwarae oedd y rhyfel y canai ef am dano wrth yr Armagedon bresennol. "Cafodd Cyfandir cyfan Ar un dydd ei droi yn dan." Ond tan bach oedd hwnnw yn ymyl y goddaith sydd ar y Cyfandir heddyw. Fel y nodals rhyfel am y peth nesaf i ddim oedd yr un y canai Ieuan am dano, a dyma fel y cyfeiriai at hynny "Rhyw ddarbodus esgus oedd, Trwsiadus, ond trais ydoedd, Dwyn dwy deyrnas urddasol Druain i wae didroi'n ol; Pan heb un o'r pen bonedd I ymgais am y wag sedd." Ymddengys oddiwrth yr awdl fod cydymdeimlad y bardd gyda'r Prwsiaid, ac am a wn i yr oedd teimlad y wlad hon felly hefyd,' oherwydd nad oedd Pabyddiaeth Ffrainc yn arogli yn syber iawn, er nad ydyw Protestan- iaeth Ymeiawdwr yr Almaen yn sawru yn rhy dda ar ol eiddo ei dadcu- "Ergydiai y gwyr gydag ainc,-nes i warth Y syrthiai'r orseddfainc; Ar chwalfa yr uchelfainc Milwyr ffrom a loriai Ffrainc. Os ydych yn cofio daeth Garibaldi allan o blaid v Ffrancod, ond ni fu Uwydd ar ei waith:- "Aeth Garibaldi yn bur-iawn yno Yn unol ai natur, A'i freintiau, ni fu'r antur I'w einioes ond deilen sur." Pan mae dynion yn ehedeg trwy yr awyr i wyJio symudiadau v byddin- oedd; mae desgrifiad Ieuan Iona wr yn ymddangos yn hen ffasiynol iawn "Eu ffyrdd oedd ddirgel i ddweyd eu helynt, Weithiau, awyren, ar daith a yrrynt; Ac wrth aden colomen cylymynt Eiriau a boenai'r rhai a'i derbyniynt; Cario eu neges wnai'r corwynt-ar lwybr nef, O'r hyn i'w ddioddef i'w rhan oedd iddynt. Wedi traethu ar y rhyfel rhwng y ddwy genedl, daw y bardd at y gwrth- ryfel a ganlynodd:- "Rhuthra afon gwrthryfel-i'r dref gain, A llu yn ochain o'r llanw uchel, Ei dynion aflonydd-o afaelion Eu taeog alon frwydrant, a'u gilydd. Goludog loew adail, Dan gyffro'n siglo i'w sail; Fel aberth diwerth i dan Maluriwyd temlau arian. 0 rwysg yr anel, Paris a grynodd, Trafnidiaeth ddarfu, ei gallu gollodd; Gan waed bu'n feddw, gweddw ym- guddiodd 0 wydd y byd, a'i rhysedd a beidiodd. Darniwyd y flaenaf deyrnas Gan drigolion beilchion has, Nid a'n angof eu gofwy, Ac ar eu tir, curwyd hwy; Dyna wlad aeth dan lid Ion Ym mrwydrau ymherodron." Tua diwedd yr awdl mae y bardd yn troi i gysuro tipyn ar Napoleon:- "O'th 'fedydëf' a'th ofidiau-Napol- eon Hap welo'th hen ddyddiau; O'r dyrwygiad a'r drygau,—ar orsedd Aur y cei eistedd, o teli'r costau. Dyna ryw ddrychfeddwl i chwi am y rhyfel dros ddeugain mlynedd yn ol a chip hefyd ar ansawdd barddoniaeth y cyfnod hwnnw. Bu Napoleon fyw am flynyddoedd wedi i'r bardd gyfan- soddi ei awdl. Bu yn dda iddo am Brydain i dreulio y ran oedd yn ol o'i fywyd, wedi ei droi yn alltud o Ffrainc, ac hefyd am le i orwedd o dwrf rhyfeloedd y byd. Cafodd ei fab ei ladd tra yn ymladd yn y fyddin Brydeinig yng ngwlad y Zulu. Y mae y Gyn-Ymerodres o hyd yn fyw, yn agos i go mlwydd oed. Bu y Frenines Victoria a hithau yn gymdogion, a'r naill yn gysur i'r llall mewn Ilawer trallod.

Abergwynfi.I

I Colofn y Beirdd.

Cadeiriad y Parch R. Beynon,…

Advertising