Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
A CERTAIN YOUNG COUPLE ARE MISSING The Wonderful Bargains now on offer In the vast Selection of HOUSEHOLD FURNITURE, CARPETS, LINOLEUMS, &c., held by BEVAN & COMPANY. Ltd., Swansea, Cardiff u. PRESS OPINIONS. The Firm stands in the front rank of the fur. nishers of the United Kingdom. "—Newport "Argus," December 4th, 1913. To have honourably conducted a business for such a long period until it has attained its present huge proportions with Branches in all the principal towns in South Wales is surely a j ast reason for pardonable pride. "—Cardiff Western Mail," December 17,1913. "Generations of uninterrupted trading has made the name of Bevan & Company a Household Word throughout South Wales. "-Swansea Daily Post," December 20th, 1913. A s. d. ¡I Everlasting full-sized wire-woven MATTRESSES, from 0 9 11 Full-sized home-made FEATHER BED and BOLSTER, from 1 12 6 VERY massive two-inch pillar BEDSTEADS, from 1 12 6 The Largest Selection of OVERMANTELS in this part of the King- dom from 0 12 6 An Excellent Stock of DINING-ROOM SUITES, from 3 19 6 A Fine Array of DRAWING-ROOM SUITES, all coverings, from 7 17 6 Walnut SIDEBOARDS in great variety, plat-glass backs 3 16 6 £ s. d. Expanding DINING TABLES, from 1 12 6 Handsomely-bordered CARPETS, ready for laying, from 0 18 11 Capital AMERICAN ORGANS (ten years' warranty), from 7 12 6 The excellent 'COTTAGE' PIANOFORTE Full Compass, Handsome Walnut Case 15 15 0 The celebrated "PRINCIPALITY" PIANO (hundreds sold. A splendid Instrument in every particular 29 8 0 GENERAL PARTICULARS. Terms:-CASH OR CREDIT! PricesVERY LOWEST POSSIBLE f DeliveryFREE UP TO 200 MILES t I Catalogues: GRATIS & POST FREE!
.Pwnc y Dydd.
Pwnc y Dydd. GAN BRYNFAB. Nid oes dim ond swn rhyfel i'w glywed ymhob man heddyw, ac nid oes neb a wyr beth fydd canlyniadau y rhyfel mwyaf ofnadwy a welodd y byd erioed. Pedair mlynedd a deugain i'r haf hwn yr oedd y Ffrancod a'r Prwsiaid yn benben a'u gilydd, a gorliwiwyd yr afonydd a gwaed y ddwy blaid. Rhyfel am ddim oedd hi y pryd hwnnw. Methu penderfynu pwy a wisgai Goron Ysbaen wnaeth i'r ddwy genedl ruthro at yddfau eu gil- ydd. Trechwyd y Ffrancod, a chym- erwyd eu Hymerawdwr yn garchar- or, a llarpiodd Ymerhawdwr yr Al- maen ddwy dalaeth o Ffrainc, heblaw dau can miliwn o arian yn yspail rhyfel. Nid wyf am fanylu dim ar y ryfel presennol, rhaid gadael amser i esbonio ac egluro pethau wedi yr elo y mwg heibio, cyn anturio ysgrifennu llawer am y trychineb ofnadwy. Ond bwriadu son am ryfel 1870 oeddwn, ac mae yn hawddach ysgrifennu ar hwnnw, gan fod angof wedi tynnu ei llenni dros rai o'i nodweddion erchyll. Bu y beirdd yn canu, neu yn cwyno, Ilawer ynghylch y rhyfel hwnnw. Ebai Hwfa Mon:- "Ewrob o dan waeau orwedd-mewn Ilid Mae'n llawn o greulonedd; Rhed ei gwaed, brudia ei gwedd, Cn6a ddur mewn cynddaredd. Palwyd dan sedd Napoleon,—a gwyr- wyd Ei amgaerydd cryfion; Ei dyrau beilch hyd i'r bon Ysgwyd i gyd yn friwsion." Os ydych yn cofio, ffodd Ymherodres Ffrainc a'i thywysog bychan i'r wlad hon am ddiogelwch, ac ebai Tudno "0 nyth 'rebels' a thrwbwl,—at dir John Troes Eugenie 'i meddwl; Gobaith olaf o gwbwl Eugenie a'i bach oedd John Bull." Yn y flwyddyn 1871, yn Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl, rhoddid rhydd- id i'r beirdd i ddewis eu testynau eu hunain yng nghystadleuaeth y gadair. Ieuan Ionawr, Dolgellau, enillodd. Yr oedd ef wedi dewis "Yr Orsedd Wag a'r Bedydd Tan yn destyn. Mae rhai yn cofio i Napoleon fynd a'i dywysog bychan gydag ef i faes ei frwydr olaf-Sedan, i dderbyn ei "fedydd tan," meddai ef, a dyna roes ei gyweirnod i'r bardd. Ond ebai ef "Bu diwedd tost i'r 'bedydd tan." Beth pe buasai Ieuan yn fyw hedd- yw? Gwelsai mai dim ond chwarae oedd y rhyfel y canai ef am dano wrth yr Armagedon bresennol. "Cafodd Cyfandir cyfan Ar un dydd ei droi yn dan." Ond tan bach oedd hwnnw yn ymyl y goddaith sydd ar y Cyfandir heddyw. Fel y nodals rhyfel am y peth nesaf i ddim oedd yr un y canai Ieuan am dano, a dyma fel y cyfeiriai at hynny "Rhyw ddarbodus esgus oedd, Trwsiadus, ond trais ydoedd, Dwyn dwy deyrnas urddasol Druain i wae didroi'n ol; Pan heb un o'r pen bonedd I ymgais am y wag sedd." Ymddengys oddiwrth yr awdl fod cydymdeimlad y bardd gyda'r Prwsiaid, ac am a wn i yr oedd teimlad y wlad hon felly hefyd,' oherwydd nad oedd Pabyddiaeth Ffrainc yn arogli yn syber iawn, er nad ydyw Protestan- iaeth Ymeiawdwr yr Almaen yn sawru yn rhy dda ar ol eiddo ei dadcu- "Ergydiai y gwyr gydag ainc,-nes i warth Y syrthiai'r orseddfainc; Ar chwalfa yr uchelfainc Milwyr ffrom a loriai Ffrainc. Os ydych yn cofio daeth Garibaldi allan o blaid v Ffrancod, ond ni fu Uwydd ar ei waith:- "Aeth Garibaldi yn bur-iawn yno Yn unol ai natur, A'i freintiau, ni fu'r antur I'w einioes ond deilen sur." Pan mae dynion yn ehedeg trwy yr awyr i wyJio symudiadau v byddin- oedd; mae desgrifiad Ieuan Iona wr yn ymddangos yn hen ffasiynol iawn "Eu ffyrdd oedd ddirgel i ddweyd eu helynt, Weithiau, awyren, ar daith a yrrynt; Ac wrth aden colomen cylymynt Eiriau a boenai'r rhai a'i derbyniynt; Cario eu neges wnai'r corwynt-ar lwybr nef, O'r hyn i'w ddioddef i'w rhan oedd iddynt. Wedi traethu ar y rhyfel rhwng y ddwy genedl, daw y bardd at y gwrth- ryfel a ganlynodd:- "Rhuthra afon gwrthryfel-i'r dref gain, A llu yn ochain o'r llanw uchel, Ei dynion aflonydd-o afaelion Eu taeog alon frwydrant, a'u gilydd. Goludog loew adail, Dan gyffro'n siglo i'w sail; Fel aberth diwerth i dan Maluriwyd temlau arian. 0 rwysg yr anel, Paris a grynodd, Trafnidiaeth ddarfu, ei gallu gollodd; Gan waed bu'n feddw, gweddw ym- guddiodd 0 wydd y byd, a'i rhysedd a beidiodd. Darniwyd y flaenaf deyrnas Gan drigolion beilchion has, Nid a'n angof eu gofwy, Ac ar eu tir, curwyd hwy; Dyna wlad aeth dan lid Ion Ym mrwydrau ymherodron." Tua diwedd yr awdl mae y bardd yn troi i gysuro tipyn ar Napoleon:- "O'th 'fedydëf' a'th ofidiau-Napol- eon Hap welo'th hen ddyddiau; O'r dyrwygiad a'r drygau,—ar orsedd Aur y cei eistedd, o teli'r costau. Dyna ryw ddrychfeddwl i chwi am y rhyfel dros ddeugain mlynedd yn ol a chip hefyd ar ansawdd barddoniaeth y cyfnod hwnnw. Bu Napoleon fyw am flynyddoedd wedi i'r bardd gyfan- soddi ei awdl. Bu yn dda iddo am Brydain i dreulio y ran oedd yn ol o'i fywyd, wedi ei droi yn alltud o Ffrainc, ac hefyd am le i orwedd o dwrf rhyfeloedd y byd. Cafodd ei fab ei ladd tra yn ymladd yn y fyddin Brydeinig yng ngwlad y Zulu. Y mae y Gyn-Ymerodres o hyd yn fyw, yn agos i go mlwydd oed. Bu y Frenines Victoria a hithau yn gymdogion, a'r naill yn gysur i'r llall mewn Ilawer trallod.
Abergwynfi.I
Abergwynfi. I Marwolaeth. I Blin iawn gennym gofnodi marwol- aeth y chwaer hoff Mrs. Charlotte Hopkins, priod hoff y brawd Thomas Hopkins, 59 Jersey Road, o'r lie hwn, yr hyn gymerodd le Gorffennaf 30ain diweddaf, yn yr oedran teg o 70 mlwydd oed. Cafodd ein chwaer gystudd trwm a chaled, yr hyn barodd ei chaethywo i'w thy am dros bum mlynedd o amser, ac er dioddef yn galed gyda dirdyniadau corfforol, yr oedd bob amser mewn ys- bryd i ddiolch i'w Chreawdwr am ei bod hi fel ag yr oedd, a lawer gwaith dat- ganodd mewn teimladau ysbry dole dig y carai fyned at yr Iesu, canys llawer iawn gwell fyddai, ond credai hefyd mai i ryw ddoeth ddibenion yn ei olwg Ef y cedwid hi i fod yn angel gwar- cheidiol i'w theulu. Yr oedd ein chwaer yn un o'r rhai hynaf os nad yr hynaf o aelodau eglwys Caersalem, yn y lie hwn. Bu yn aelod yma am yn agos i 40 mlynedd. Yr oedd yma pan oedd yr eglwys fechan yn cyfarfod yn yr Hut ar ben y gwaith, a meddai harch mawr i'r hen weinidog, y Parch. W. Jones, sydd wedi blaenu er's dros 10 mlynedd. Er yn methu myned i'r cyfarfodydd er's tro fel cynt, amlwg yw fod yno fwlch mawr ar ei hoi, a lie gwag yn y teulu, lie bu yn briod ac yn fam dyner a gofalus. Truenus meddwl fod y tadau a'r mamau goreu yr ardal yn ein gadael. Hyderwn, er hynny, y ceir gweled y meibion yn dyfod i lanw lie y tadau, a'r merched le'r mamau. Y Sadwrn canlynol claddwyd ei gweddillion yng Nghladdfa Gyhoeddus yr ardal, a chafodd angladd barchus a lluosog. Gwasanaethwyd gan y Parch. D. Davies (ei gweinidog). Dygodd ef dystiolaeth uchel i'w chymeriad, gan gyfeirio at y golled fawr oedd ei symud- iad. Cydymdeimlir yn fawr a'n brawd yn ei unigedd a'i drallod ar ol priod mor ffyddlon, ac hefyd a'r plant gollasant fam mor dda. D.T.J.
I Colofn y Beirdd.
Colofn y Beirdd. Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. ———————————————————————— I SYR EDWARD ANNWYL. i Syr Edward Annwyl, anwyl ei enw, I A chlod anwylach, i'w wlad yn elw; Ei iaith addolodd, cwyd hithau ddelw Yn ei thrigleoedd i'w Hathro gloew; Ysgydwad a gloes geidw—Gymru'n gaeth Ym moddfa hiraeth am iddo farw. BRYNFAB. DIC SION DAFYDD." Die Sion Dafydd aeth i Lunden A'i drwyn fewn llathen i gynffon 116." GLAN Y GORS. 0 Richard John Davies, gofynnaf i ti, Yn enw y llinach farddonol, Am beidio cilwgu yn awr arnom ni 0 herwydd rhyw hurfwch boreuol: Yr oedd Glan y Gors yn fardd da, meddai rhai Anhysbys yng ngwyddor barddoni; Ond aeth yn un telpyn rhyddiaethol o glai Ar unwaith pan feiddiai'th lysenwi. Os aethost i Lunden wrth gynffon rhyw 16, I Pa fusnes i fardd oedd peth felly: Aeth yntau wrth gynffon rhyw ferlyn o'i I fro I'r Ddinas, tae fater am hynny; I Ac os oedd dy dafod, cyn terfyn y daith Yn mynd yn anystwyth wrth waeddi, Peth digon naturiol oedd newid dy iaith Am arall, mwy hawdd i'w pharablu. Os llithrai'r Gymraeg o'th dafod a'th lais Cynbod am bythefnos yn Llunden, Trysoraist felfedaidd frawddegau y Sais Cyn i ti adnabod llythyren Deallaist yn union fod geiriau, main, main, A'u gwreiddiau i gyd yn foneddig; Tra nad oedd un ystyr, na synnwyr, na sain, Yn nhalpau dy dadau nodedig. Nid oedd ond dy hunan trwy Gymru gyd Yn berchen ar glir amgyffredion I weled yr hen Omeraeg ar y pryd Yn bennyd ar dafod y Brython; Yn nos anwybodaeth-yn mhell o dy fro, Ti fuost i'th wlad yn weledydd; Mae'th genedl am hyny'n ddyledus i'r 116 Fu i ti'n amserol arweinydd. Tydi oedd y cyntaf i weled y wawr Tudraw i Glawdd Offa yn torri A ninnau, ond prin yn ei gweled yn awr, Gan gymaint ein rhagfarn a'n dellni; A thi ddarganfyddodd anferthwch y fraint 0 golli hen iaith dy gyn-dadau; Breuddwydiaist am wneud dy gyd- genedl yn Saint, Wrth ddim ond Seisnigo 'i tafodau. Mae rhai yn dy ddwrdio am gyfarch dy fam Mewn brawddeg o iaith rhywun arall, Ond heb erioed ddirnad y golled a'r cam A gafodd trwy fethu a'th ddeall: Ar ol bod yn Llunden—er mwyn dy hen wlad, Yn sathru ei hiaith i farwolaeth, Mae 'n resyn na chawsai'r hen wraig y mwynhad 0 fesur dyfnderau'th wybodaeth. Fe fu dy gydwladwyr yn llwydrew'r hen iaith, A'u barnau'n rhy gul i'th edmygu: Mesurwyd dy ddyddiau, cyhoeddwyd fel ffaith, I fardd Glan y Gors dy lindagu; Ond os y daeth terfyn daearol i'th hynt Yn rhywle yn myd y dychmygion. Ti ddaethost yn ol at dy genedl yn nghynt Nag Arthur o Ynys Afallon. Ar fi.1 o aelwydydd Cymreig mae dy lais Yn enwau y plant yn adseinio A byddai ar synwyr cyffredin yn drais I Li-au ac Ch-au dy flino: Mae Arthur, a Gruffydd, a Morfudd, a Men, Yn mynd fel ebillion trwy'th glustiau Tra Madge, Angelina, a Ludo, a Len, Yn lledu dy wen hyd dy gernau. Mae miloedd o hil yr hen, Gomer, a'u mawl I'th enw ar ffyrdd lachawdwriaeth. Am i dy glaer lugorn ysmicio ei gwawl I'w cadw o anial paganiaeth; Mae iaith yr hen Geltiaid o'r goreu at waith Am fara a chaws chwe' diwrnod; Ond byddai ei chreulon orlethu am saith, I'th dyner addolwyr, yn ormod. 0 Richard John Davies, trwy Walia i gyd, Nid oes yr un bardd wna'th lysenwi: A llu o lenorion sy'n awr ar eu hyd Yn llyfu dy draed, a'th glodfori; Fe welir dy gysgod gwladgarol yn awr, Ar bapyr ac inc Cymrodorion; A'th freision lythrennau yn fwy nag yn fawr Yn codi'r Gymraeg i'r uchelion. 0 Richard John Davies, tra Cymro yn bod Ti gedwi ei dafod yn Lo .V A thorf o'th gydwladwyr ledaenant dy glod Pan wedi anghofio dy enw; Yn nghanol y breintiau a ddygaist i ni, Mewn arswyd Ilewyga yr awen Wrth feddwl am dynged ein hiaith pe baet ti He*b fyned a'r 116 tua Llunden. BRYNFAB. YR AIL O FAI. I "Written in grief and admiration on the death of a notable genius and a noble Christian." I Cyflwynedig i Miss The Endowed I Schools, D.V.N. I "Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia, ac na fiina Duw tragwyddoldeb." Wy'n flin am danat, ferch y gofid mawr, Rhyfeddol yw dy ddolur, mor ddi-wawr Aeth blwyddi swyn dy fywyd pan oet ti A Ilygad glan dy galon yn eich bri Yn trefnu'r d'wrnod hwnnw'n bur eich dau, Heb ganfod cysgod angau'r Ail o Fai. Wy'n cynnyg iti ddagrau'm calon drom, Fel dagrau Jeremiah yn dy siom, Y siom nad ydwyt ti, na neb ond Du w Yn deall, hanfod dyfnaf teimlad briw, Dy galon gollodd galon yn y glyn A'th hiraeth wrth ei fedd yn fud a syn. Mi wn am nerth dy ddeall, hyddysg fun, Mawr fu dy syched, a ffynhonnau gwin Dysgeidiaeth oedd yn sychu ger dy fron, j A thithau ar dy ymchwil newydd lion Am win meddyliau'r oesau, ac yn yfed Eu gwinoedd fel y mynnet yn dy syched. Ond dyma ffynnon yfaist-Ffynnon i Duw A'i gudd Ragluniaeth yn ei dyfroeJd byw, Ni edy bias y dyfroedd mwy dy fin I dragwyddoldeb; bydd ei rin Yn goffa profiad ynnot am dy wae. A'r ffynnon darddodd iti'r Ail o Jai. — IN MEMORIAM.—EVELYN. I Leaves have their time to fall, And Bowers to wither at the north- wind's breath, I And stars to set—but all, j Thou hast all seasons for thine own, 0 Death." I —Mrs. Hemans. I Mor lwys yw llwybr bywyd ambell un, A gwawr y gwanwyn cynnar yn ei lun A llwyhr felly oedd i Evelyn byw Yn agor o dragwvddol wanwyn Duw. Arwriaeth y delfrydwr feddet ti, A'th Geriwb-feddwl oedd yn dringo fry Y Graig o Ddysg sydd yn yr uchelderau, Lie mae oraclau'r oesau'n torri'u henwau. Ond "Craig sydd uwch, y Graig sy'n hanfod Duw Oedd Craig dy ffydd a'th obaith, byw Oet ti i ddringo'n hoew am wirionedd Sy'n agor yn dragwyddol am orfoledd. Mor lan yw hud dy "Gerddi"—mor ddi- rith, Fel awen ieuanc wedi casglu'r gwlith Ar ddail a gwull Parnassus fore Mai, Pan fyddo'r gwlith yn drwm, heb gysgod trai. Mor llwm yw llwybrau'r goedlan i mi nawr, Mi gerddais yn dy gysgod lawer awr, A tithau yn dehongli iaith, a bydoedd. A minnau'n gwrando fel ar lais o'r nefoedd. Mi gadwaf dy gyfrinion fel y dydd. A'th feddwl mewn llythrennau ynnof fydd, Yn gyd-ran eneiniedig o esboniad Ar Dduw a thithau yn dy bur ddylan- wad. I Pruddedig wyf heb air na'th awen mwy, Ond gwn am un yn bruddach—gwyddost pwy, A wn i wyt ti cofio'r farwol nos Pan dd'wedaist ffarwel wrth dy rian dlos 1 0, gwn dy fod yn cofio-cofio'r oil Fu'n gysegredig iti-nid a'ngholl, Dy raglith ar y ddaear a'i dlysineb Cyn dechreu Uyfr mawr dy dragwydd- oldeb. Wylofus fun, mae'r addewidion fu, A'r cyfrinachau wrth hen "Gamfa gu" Yr "Hollies" wedi aros iti'n fyw, Ac heddyw nid oes neb ond ti a Duw All ddeall y "Llythyrau" a sgrifennwyd A serch ei gariad, ond y "Gan a Goll- wyd!" A wn i hoffet ti gael daddu'r oil Mewn rhyw anghofrwydd, a thragwydd- ol goll, Heb ystyr mwyach iddynt, na dy nef Yn rhan fydd iti ei gyfrinion ef A chedwi hwynt mi wn fel glan angelion Yn santaiddiolaf dy friwedig galon Fel "Cyfr'ol Goffa" iti o dy wae, Y nos a welaist ar yr Ail o Fai. GWYNWAWR. Gilfach-y-Glyn. GWYNWA WR.
Cadeiriad y Parch R. Beynon,…
Cadeiriad y Parch R. Beynon, Abercraf. Yn Eisteddfod Treorci, Mercher wedi'r Sulgwyn, am ei bryddest i'r "Carchar." Yn ei hardd gadair farddol-un a gawn A theg wyneb siriol; Och! sur iawn yw'r chwech sy' ar ol Dan boen nwydau'n benydiol. t Yn iach er cur carchar caeth,—a'i nawfr oer, Beynon sydd; o'i alaeth, Ac yn wael ei gynhaliaeth, Drwy fara dwr i fri daeth. DEWI GLAN RHONDDA. /1 Hardd wr y gadair dderi—yw Beynon,. Bennaf fardd Treorci Efe roes i'r "carchar" fri A'i awen lan eleni. EIFION DDU. Canai'n wir acenion-i "garchar," Go erchyll gyfeillach! Na'r gwyr cryfion, Beynon bach r Yn awr geir yn rhagorach. SOLFACHFAB. 0 awyr lleddf garchar llwyd-awen ber Beynon bach ryddhawyd; | Yno hon ni newynwyd- Ca'i lawn faeth heb scili'n fwyd.  S. NICHOLAS. I S. NICHOLAS.
Advertising
SARZINE BLOOD MIXTURE, CROEN IACH A GW AED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, tonad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, l/li & 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yo ychwanggol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. j I 1 MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these I Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. j S Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn triJIurf. j No. 1. George's Pile and Gravel Pills (label wen), No. 2. George's Gravel Pills (label las) 1 No. 3.-3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvohau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. j Gochelwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn egluc am ",George's Pills," j a gwelwch eich bod yn eu oael. j PERCHENOG- d. E. GEORGE, ty.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.