Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
THE BEST ADVERTISING 1 MEDIUM, I Circulates throughout SOUTH WALES and MONMOUTHSHIRE,
Advertising
wowilliams&Co, JEWELLERS, &e» 29 Castle St., Swansea. SBoolalttios I get GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hofl, dewoh at y Oymro Os am heirdd fodrwyao aur, Oriadaron ac awrleisian, Gemaa a chadwynaa olaer. Ygnectol gelfydd, hln-fynegydd, Gwrea-fesu^ydd, Geir gan Williams, Heol y Oastell Trowcb i mewn i wel d ei atdr.
Advertising
r Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned.Ap HEFIN. CEIR MWYNHAD DYBLIO WRTH YFED DIM OND LEMWNED Bryniau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANGEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL. 1 J
4. Y CYNNWYS.i
4. Y CYNNWYS. 'Y Wlad a'r R4yfel Tud. 1 KSostau Rjiyfei I 1 "j Y e Pwnc y Dydd 2 •Colofn y Beirdd 2 i Morgan John Rhys 2 Y Genhinen Eisteddfodol 3 Nodiadau'i^ Golygydd 4 Eos Hafod. 4 Colofn y Plant 5 Llith Talnant 5 William Higgs 5 Beddau'r Gymraeg 6 iO Bontardawe i Gaerdydd. 6 Hwnt ac Yma 6 ,y Rhyfel <, 6 Yr Eisteddfod a'i Hawliau 6 Dyn a'i Ffordd 6 Celf Addurn Ysgol Sulien. 6 Beirniadaeth Eisteddfod Tir Iarll 7 Ysgrapiau o Ysgrepan Ap Hefin 7 Y Stori 8 Pontardawy 8 O'r Gogledd 8 Diwrnod Cneifio 8
Y Wlad yng Nghyflwr Rhyfel.
Y Wlad yng Nghyflwr Rhyfel. GAN EIN GOHEBYDD AR- BENNIG. < Fel dinasyddion Prydeinig yr ydym y dyddiqu hyn yn pasio trwy gwrs o brofiadau newyddion hollol. Arfer Cymro neu Sais gartref yw cario ei ben yn weddol uchel; edrych ar filwr fel rhywbeth y tuallan iddo ef ei hun ac ar heddgeidwad fel darn o'r peir- iant cymdeithasol oedd yn delio a drug weithredwyr ac a'r cyfryw yn unig. Nid oedd y got las na'r got goch ychwaith yn ddim o bwys yn ei -61wg i'r dyn gonest a heddychol. Parod oedd i ddweud mai castell y Prydeiniwr yw ei gartref. Heddyw, y mae Y CYFAN WEDI NEWID. Y milwr sydd ben. Cyll yr hedd- geidwad ei bwysigrwydd. Rhaid i bawb dalu sylw i'r milwr. Dyma deyrn newydd ein ystrydoedd. Nid oes nemor i ddim y tuallan i'w aw- Daw i orsaf y rheilffordd a gorchymyna wasanaeth y cerbydau, y peiriannau a'r gweision oil. Gwel y ffermwr gydag anifel a cherbyd mewn ffair neu farchnad, a chymer y ceffyl yn hollol ddiseremoni. Hola y ffermwr sut y mae ef a'i wraig i fyned a'u nwyddau gartref. Yr ateb swrth yw, "Fel y mynnont." Addewir tal gan y 'Llywodraeth yn nes ymlaen. Bvdd eisieu llong sydd yn y porth- ladd. ac ar air y swyddog milwrol nid oes neb all nachau. Pwy ddydd yma SAETHWYD DYN GERLLAW LERPWL dan amgylchiadau hynod. Yr oedd milwr ieuanc wedi ei osod i wylied pottt neillduol ac wedi derbyn cyfar- wyddiadau pendant sut i weithredu. Daeth masnachydd teithiol (pedlar) heibio yn ddigon difeddwl. "Pwy sydd yna?" holai y milwr. Chwardd- odd y teithiwr yn wawdus, a daeth yn nes. "Hands up," ebai y gwyliedydd. Gyda rheg a diystyrrwch aeth y" dyn yn ei flaen. Gyda hyn wele anelu'r gwn, a'r dinesydd ystyfnig a di- feddwl yn gorff Cynhaliwyd treng- holiad, a'r ddedfryd oedd fod y mil- wr wedi gwneud ei ddyledswydd, ac nad oedd unrhyw fai yn gorffwys arno. Da fydd i bawb ohonom geisio sylweddoli y cyfnewidiad mawr sydd wedi dod dros ein gwlad mewn ychydig ddyddiau. Cofiwn hefyd ei bod yn berygl bywyd i'r milwr ei hun wrthod ufuddhau i orchymyn ei swyddog. Teflir gwaith enfawr a hynod gyfrifol ar y fyddin a'r heddlu, pe ond yn unig GWYLIED PONTYDD A GWEITHFEYDD DWFR, a dyledswydd pob dinesydd yw rhoddi pob cynhorthwy posibl i hwyluso eu gwaith. Cyhoeddir pob math o chwedlau ac ystraeon. Nid oes "waterworks yn y wlad na ddywedir fod Germaniaid wedi eu dal yn gosod symiau enferth o wenwyn ynddo. Da fydd ini wrthod credu y ffiloregau hyn. Cynnyrch dychymyg cynhyrfus ac of nus ydynt. Ceir chwedlau tebyg am ein prif bontydd, sef fod tramor- iaid wedi eu gweled yn amcanu eu dinystrio. Hyn sydd wir fodd bynnag y mae holl dramoriaid y wlad erbyn hyn yn ymarferol dan law swyddogion y Llywodraeth, a'n holl borthladoedd, pontydd, a gweithfeydd dwfr o dan wyliadwriaeth ddydd a nos gan ein heiddgeidwaid a'n milwyr. Ceir felly ddiogelwch dwbl ynglyn a'r pethau hyn, fel nad oes eisieu i neb ohonom bryderu na cholli cwsg. Yn unig, cofiwn mai y milwr svdd yn teyrnasu. Er gwaethaf popeth i DISTAWRWYDD RHYFEDD a disgwyliad pryderus ac awyddus sydd i'w canfod ymhob cyfeiriad. Clywir rhywbeth fel swn traed tyrfa- oedd yn symud mewn tywyllwch. Yn ol pob tebyg y mae Germani erbyn hyn wedi dwyn ei nerth eithaf i du- eddau Ffrainc a Belgium. Y cwestiwn yw: pa le y bwriada daro? Y mae y byddinoedd gelynol yn gwynebu eu gllydd ar hyd Ilinell yn mesur tua 300 milldir o hyd, ac yn rhedeg o der- fynau Holland hyd Switzerland. Er hyn oil ffynna distawrwydd hynod am leoliad a threfniadau y Germaniaid. 0 ran hynny ychydig neu ddim a wyddom. am FYDDINOEDD PRYDEN, I FRAINC, A BELGIUM. Ceidw y Llywodareth ei Haw yn dyn ar y gwifrau a'r newyddiaduron. Ond gwyddom hyn, sef fod Ffrainc a Belgium er's dyddiau yn cydweithio yn egniol, ac fod milwyr Prydain eis- oes yn nghanol y miri. Y mae y newydd wedi dod yn ol fod un o'n cadfridogion, Syr J. M. Grierson, wedi marw yn g tren yn Ffrainc, ac fod dau wedi eu lladd mewn dam- wain i'w peiriant awyrol (aeroplane), sef yr Is-gapten E. W. C. Perry, a'r peiriannydd H. E. Parfitt. Crybwyllir hefyd am farwolaeth Major A. Hughes Onslow. Edrychir ar drosghvyddiad y mil, wyr Prydeinig i Ffrainc a Belgium fel UN 0 BRIF ORCHESTION MIL- WROL YR OESAU. Symudwyd y milwyr i Southampton I gyda'r gynnau, y cerbydau, Y meirch, yr ymborth, a'r holl daclau, I mewn distawrwydd, a dygwyd llynges liosog o longau mawrion o'r gwahanol borthladoedd i'w derbyn. Llwythwyd heb gymaint a sain udgorn. Dygwyd rhyfel-longau o For y Gogledd i'w tywys i'r Cyfandir. Glaniwyd mewn byr amser, heb golli cymaint ag un by\vyd.. a rhyddhawyd y llongau rhyfel drachefn ddyddiau cyn i sill o'r hanes gael ei gyhoeddi ym mhapurau y wlad. Nis gwyddom eto nifer ein milwyr yn Ffrainc. Awgrymir eu bod tua 160,000, ond nid yw hyn ond dyfaliad noeth. Gallwn fod yn sicr eu bod yn dyrfa fawr iawn. Dywed yr hanes iddynt gael I CROESO MAWR GAN Y FFRANCOD pan laniasant, a'u bod yn edrych yn iach ac yn Hawn yni ar ol eu mor* daith. Glantasant niewn tri o borth- laddoedd, sef yn Ostend, Calais, a Dunkirk, a throdd y tyrfaoedd allan i'w llongyfarch, fel y medr Ffrancod wneud. Aeth y Maeslywydd French i Paris, a thalodd ymweliad a'r Ar- lywydd Poincare, a Swyddfa Ryfel, ac a swyddfeydd ereill, ac yna aeth yn ei fodur at ei fyddin ei hun. Tynnir gorchudd tew dros yr holl lwyfan yn barhaus. Ni wyddai y milwyr i ba le y dygid hwy. Dywed- odd ambell i yrriedydd nad oedd ganddo syniad pa le yr oedd ei dren yn myned, ac ni hysbyswyd hyd yn oed y ffordd a gymerodd y Maeslyw- ydd French allan o Paris. Nid oes gennym y syniad lleiaf felly ymha ran o'r maes y mae milwyr Pryden ar hyn o bryd. Nid dibwys yw y gorch- wyl sydd yn nwylo I Y LLYNGES BRYDEINIG. Symuda mor ddistaw a chysgod dros y tonnau. Y mae ganddi i wyho llynges effro Germani yn barhaus; ffurfia osgorddlu gwarcheidiol i'r Ilongau gludant filwyr i'r cyfandir; ceidw yn agored lwybrau y dyfnder i'n llongau masnachol, ac ar yr un pryd gorfodir hi beunydd i ymogelyd rhag y peiriannau dinystriol sydd wcdi eu hau yn y dyfroedd yan y gelyn. Onibae am gryfder ein llynges buasem yn hollol at drugaredd Germani heddyw, oblegid y peth olaf gan unrhyw lywodraeth fyddai medd- wl am gludo milwyr dros y mor heb iddynt yn gyntaf allu sicrhau eu diogelwch. Y mledu y mae I Y FYDDIN GERMANAIDD fwy-fwy o hyd dros Ogleddbarth Belgium. Erbyn hyn cyrhaedda ei chorn gogleddol hyd at Antwerp. Er fod caerau Liege wedi dal allan yn rhyfeddol, y mae y llifeiriant Ger- manaidd wedi dylifo heibio iddynt ac wedi cyrraedd Belgium a Namur. Os yw caerau Liege felly yn parhau 1 ddal allan, y mae byddin Germani wedi eu chylchynu erbyn hyn, ac nid oes air yn dod oddiyno yn awr. Bu nifer o ysgarmesoedd brwd a gwaedlyd y tu allan i'r ddinas cyn bod I Y GERMANIAID WEDI CYM- ERYD BRUSSELS, ond diben y rhai hyn o du y Belgiaid oedd rhoddi amser i drigfolion y brif- ddinas glirio allan yn cfdiogel. Anogir y wlad i beidio gosod y pwys. lleiaf ar waith yr awdurdod yn ym- neillduo o Brussels. Nid yw hyn ond rhan o'r cynllun. Mor bell ag sydd bosibl, gofala y byddinoedd unedig am ddewis maes y frwydr eu hunain. Hyd yn hyn ychydig filwyr sydd wedi eu colli ganddynt, a'r ystiryw yw gorfodi Germani i ymledu allan. Bellach syrth byddin Belgium yn ol ar ddinas gadarn gaerog Antwerp sydd ar fin y mor, tra y Ffrancod yn ymdrefnu yn Namur, I dinks arall sydd yn gylchynedig gan gaorau anferthol. Ar yr olwg gyn- taf ymddengys pethau yn ddu yn Belgium, ond cyfyd y niwl pan goKwn y pethau a nodwyd uchod. Ar y Haw arall y mae ( •j I YIFFRANCOD YN ENNILL TIR I yng ngororau Metz, ac ar rai o hen feusydd 1870. Ymladdant yno mewn tir mynyddig ac ar hen diriogaethau ¡ Ffrainc, y rhai a ddygwyd oddiarni gan y Germani. Melus i galon y I Ffrancwr yw cael sangu ar y tir hwn, ac yn enwedig i gael y mwynhad o droi lluoedd ei hen elyn yn ol oddi- arno. Dywedir fod y Germaniaid wedi eu gyrru yn ol tua deng milldir I yn y cymdogaethau hyn. i ARFER GERMANI I yw taro a'i holl nerth pan dery. Disgwylir felly y bydd y frwydr sydd yn dod yn cael ei hymladd ar hyd yr holl linell, o Holland i Switzerland, ac y bydd y llynges Germanaidd hefyd yn debyg o feiddio llawer yr un pryd. Beth bynnag wna, y mae yn cael ei gwylio yn gyson gyda llygad barcut, ac y mae ei hanes a'i chyn- lluniau arferol yn berffaith hysbys. Os oes taro i iod, ac os yw yn hollol anobeithiol i osgoi y difrod alaethus, gore po gyntaf y tarewir mwyach. Fel y saif pethau, y mae y byd fel pe yn ngafaelion hunllef enbyd, ac yn cael ei ddal uwchben diben o drueni. Y clwdig o newyddion sydd yn dod o'r dwvrain, ond deallwn fod I BRWYDR FAWR I arail wedi d hymladd rhwng Awstria a Servia, ac fod y flaenaf wedi cael y gwaethaf. Rhifa yr Awstriaid 100,000 a'r Serviaid lawer yn llai, eto i gyd bu raid i'r ymosodwyr ffoi a gadael torf o laddedigion a chlwyf- edigion ar y maes. Y mae Monte- negro fechan, rhyfelgar eto ar y maes, yn cynorthwyo Servia. Dyw- edir fod Rwssia yn awr yn barod i gymeryd yr ymosodbl ar Awstria a Germani, a'i bod wedi dechreu yr Awstriaid a'r Germaniaid i'w gwlad eu hunain. Y mae hefyd wedi addo I YMREOLAETH I POLAND I ar ddiwedd y rhyfel. Gwlad wedi ei sarnu a'i rhwygo yn ofnadwy yw Poland. Rhanwyd hi fwy na chanrif yn ol yn dair adran cydrhwng Rwssia, Germani, ac Awstria, a mawr a dwfn yw ei dyhead trwy y blynydd- oedd am aduniad a bywyd cenedlaeth- ol llawn unwaith eto. Pe cydiai yr addewid hon gallasai y canlyniadau fod yn bwysig odiaeth ar y rhyfel bresennol. Y mae Pryden Fawr wedi derbyn adgyfnerthiad rhyfedd oddi- wrth ei gwaith yn pasio I DEDDF YMREOLAETH I IWERDDt)N, ac un o arwyr mwyaf poblogaidd y dydd yn ein plith yw Mr. John Red- mond, yr arweinydd Gwyddelig. Ym- ddengys fod Ymerawdwr Germani wedi cyfrif ar wrthryfel ym Mhryden, ac wedi cymeryd yn ganiataol na fedrai y deyrnas hon symud. Tyfeiai ei fod felly yn gweled ei adeg i gael Ffrainc unwaith eto dan draed, ac yna y gallasai aros cyfle buan arall i ddymchwelyd gallu Pryden Fawr. Yn ffodus nid felly y bu. Y mae Llywodraeth Pryden wedi ennill calon y Gwyddel trwy roddi ei ymddiried- aeth ynddo. Pan gyhoeddwyd rhyfel datganodd Mr. Redmond deimlad Iwerddon. Yr oeddynt Off-vn barod i sefvll fel un gwr o blaid y wlad hon yn nydd ei phrawf. Dywedodd Y gallasai Lloegr symud ei holl filwyr o'r Iwerddon, ac fod Y GWIRFODDOLWYR GWYDDELIG yn barod i amddiffyn yr Ynys Werdd rhag tramoriaid. Y fath gyfnewidiad ar bethau mewn ychydig amser! Erbyn hyn y mae Arglwydd Kitchen- er, yr hwn sydd wedi ei wneud yn ysgrifennydd rhyfel yn lie y Prif- weinidog, wedi ymgymeryd a'r gwaith o berffeithio ac arfogi y Gwvddelod hyn fel arnddiffyn wyr eu f gwfad Beth sydd wedi dod 0 Syr Edward Carson ? Cydnabydda ei gyfeillion ei bod wedi eu siomi ynddo. Erys yn ei ogof yn swrth a dywed- wst. Dyma'r gwladgarwr seiog ? feddyliai gymaint o'i Fren!n Ar wahan i hyn ni chlywir gair yn unlle < am ddadl chwerw Y mreolaeth, ac ar ol hyn anodd fydd cael dyn yn lie a dim o hono, faidd wrthod ei hawlfraint genedlaethol I'n chwaer ynys. Pe buasai y rhyfel bresennol wedi cym- eryd lie ychydig flynyddau yn ol, buasai pethau yn bur wahanol i'r hyn ydynt gyda'r wlad hon. Fel gyda Mr. Redmond felly hefyd gyda MR. D. LLOYD GEORGE, oblegid y mae yntau yn cael ei fen- dithio hefyd heddyw gan y rhai a'i melldithient fis yn ol. Hyd yn hyn nid yw Mr. Lloyd George wedi traethu gair yn gyhoeddus ar y rhyfel. Gwyddom oil ei fod yn ei ffieiddio i ddyfnder ei enaid ac nad oes garwr heddwch mwy selog ac aiddgar nag efe. Er hyn oil da gennym ei fod yn aros wrth ei swydd. Gwyr deithi ariannol y wlad yma yn hollol, ac yn yr oriau cyfyng hyn da fydd cael ei wasanaeth gwerthfawr. Canmolir ei waith eisoes gan bob dosbarth. Ar y cychwyn ymaflodd dychryn yn nghalonnau llaweroedd a phrynent hynny fedrent o fwydydd i'w tai. Mewn canlyniad, bygythid ni gan brinder, ac aeth y prisoedd i fyny yn ddisynnwyr. Ond yr oedd y Canghellor yn trin yr awenau, a ¡ thawelwyd y wlad yn bur fuan. (ialwodd lywiawdwyr yr ariandai at eu gilydd; cauwyd holl fanciau y wlad am ychydig ddyddiau; trefnwyd arian papur gan y Llywodraeth; rhoddwyd sicrwydd i'n cwmnioedd a yswirient ein masnach-longau ac agorwyd swyddfeydd newyddion yn ein holl borthladdoedd ar unwaith i'w cynorthwyo. Tawelodd y wlad; gostyngwyd y prisoedd, ac aeth ein llongau i'w hynt fel o'r blaen. Cyfrifir, hyd yn oed gan ei wrthwynebwyr pennaf, fod athrvlith ein cydwladwr wedi profi yn amhrisiadwv i'n teyrnas yn y cyfwng profedigaethus sydd wedi ein goddiweddyd. Erbyn hyn deallwn fod Y FRWYDR FAWR AR WAITH I ers dyddiau. Dywedodd un gohebydd iddi ddechreu nos Fawrth. Dywedai un arall dydd Gwener fod ganddo newyddion pwysig tri diwrnod oed, ond na feiddiai eu hysbysu am ychydig. Amlwg yw fod y ddwy fyddin ynghanol yr ornest ddychryn- llyd. Ond pan ystyriwn fod y Ilinell ar hyd yr hon yr ymleddir yn agos i dri chan milldir o hyd, ac fod yn ol pob tebyg dros filiwn o filwyr bob ochr ofer disgwyl am derfyniad buan iddi. Gall gymeryd deng ni- wrnod neu bythefnos. Heblaw hyn, naturiol disgwyl y bydd i'r naill a'r 11^11 o'r pleidiau gael eu buddugol- iaethau mewn gwahanol rannau o'r maes. Cymer amser i wybod pa fodd y saif pethau.
ICostau Rhyfel.I
Costau Rhyfel. I GAN EIN GOHEBYDD AR- BENNIG. Anodd yw i ni sylweddoli ystyr y symiau werir ar ryfel y dyddiau hyn gan mor aruthrol ydynt. Dichon er hyny y bydd y ffigyrau canlynol o ryw ychydig help i ddarllenwyr y Darian" i ddeall pethau. Costia tua chweigen y dydd y milwr i gadw y byddinoedd sydd heddyw ar y maes. Rhifa milwyr y saith gwlad sydd yn y gwddf a'u gilydd tua deg milwn, ac felly costia bOb dydd ^50,000,000 i'w cadw. Costia Hong rhyfel fel y Goeben neu yr Iron Duke C Y mae un o'r gynnau mawrion arferir yn werth ^20,000, a phob tro y gollyngir ergid gwerir ^300. Heblaw hyn wedi rhyw 150 o ergydion dyna'r magnel yn ddiwerth ac yn galw am ei newid Meddylier yn ogystal am yr atalfa ar fasnach, y dinystr ar dai, a phont- ydd, a chaerau, heb son sill am fvrddiynau y meirwon a'r anafusion, ynghyda'r gweddwon a'r amddifaid a wneir. Daw amser talu am hyn oil yn ol Haw, a'r adeg honno ar ysgwyddau ac ar gylla y we-in y daw y dreth. j Y tlawd go ddioddef, ond rhaid fydd talu rywsjt. Liesttiirir dix.adaLi cymdeithasol, codir pris y bwydydd, j ac y mae lie i ofni Y bydd yspryd I rhyfel mor fawr ei w\nc ag erioed. Er i Ffrainc gael ei lamsang a dan draed Germani yn 187c a'i gorfodi i ¡ dalu dirwy o ^200,000 Poo, talodd y I swm mewn deng ml,. nedd, ac ni ^rffwysodd ennyd awr' heb feithrin dyhcu am ei chyfle- yspryd dial a dyheu am ei chyftc. N? wna   porthi yspryd rhyfel. Pa bryd, O! pa bryd? y ca synnwyr  a gwareiddiad, heb son am ddysgeidiaeth y Crist Ie yn nghynghorau v gwledydd?
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AO Y MMAI RHAID Eigaulmoded 0 unrhyw alwad I rbal hyn drwy ddamwsjm RON gistvis as $$bell Blood Poisoning a Marwolaeth  EF MwYin YSSOI ,.rYI. rh"" .1 mown pryd. DOES DIM A liaR A GOMER'S BALM. Mae Hwn V" awr yn eagi @I gydnaked gan fi0e6 moddygii" NWY?4 ? erioed Bt «■•»• "Cr i* diog8i a dW"9' Clwyfau, Aoholllon, Tardd- lantau y Cnawd. Craoh i N I d d M f ° P I a n t Liosgiad. au, YSSAI. Sou r v Y, L lugr$d P I ant, Bcnywod » ■11 Tarwden, Cout, CymalaU Pomhis, qheumat- 4t Y ?edd p<? fy aos, poan If oedd pea fy ual. '?' ??" t mewn .tat ochry61. C.tn.Pt? ?Saodd Go?'' B? .(lUfhlrt '? b"T at CLWYFAU ar COESAU. Miloodd Yn TY-S"O "W offelthlau RhYf'eddOl8 RHSMWCHBHAWFARMO GWBllhad sydd s,or Ar worth   I /If. (;Ofyner al comiir,s Balm. jiyn- 1/1?. weled en" "D' H" ar bob blwch. Rob hYn nid yw gywlr- danfoner i gwerth (p 0. neu tam,') ?JaoohHM?'n"u';ff"?"" ChM- 1st. M.P.8.. L-OSmJ-"rut, CtfM. t«t M P. S .t L'?'' CWRTHODWOH 80B peTH ARALL.
Llansamlet.
Llansamlet. Dydd Gwener, Awst 2lain hebryng- sweddu?? o" y diweddar Mr. SlkfarThomas, Caerdydd, i'r gladd- fa ym Mynwent Ebenezer, LlwYn- c T £ Mr Thomas o r° Stdd parchusaf Llansamlet, a daliai swydd bwyB.g yn hwyddft y Ca«brian Coll.er.es, Ltd., YDg N- dydd. Bu farw yn sydyn, a gedy ar el ol dri o blant, sef Mrs. Llewe^^ a dvdd • Mr Ernest Thomas, e V ?arry M. Thomas Caerdyddy Mr Harry M. Thomas C,,??rdydd- prif alarwyr ???y?????fraith); Thomas (mab a merch-y njrhyfraith); f Mr a Mrs. Harry Thomas (mab a merch yng nghyfraith) Mr a Mr Joseph (chwaer a brawd yn^ hvfraith); Mrs ^raham Thomas (chwa.er); Mr a Mrs Abraham ( a c h waer yng H. Thomas, Y.H. (brawd a chwaer yng nghyfraith) Mri. M??? H. Thomas, Daniel H. Thonias, ?t John ii. Thomas Daniel H. Thomas a JM Thomas (brodyr), a. Mr Mr, Fdward H. Thomas (brawd ??,yngnghyf- gwelwyduYnmo?ddh iw??? ?, cam- raith). un oddiwrth Swyddfa'r Cam- brian Combine. } 8 Nghaerdydd, ac hefyd un o Swyddfar ??? ,ithfeydd yng Nghlydach Vale. ei hvnodion yr ymadawedig ydoedd  hoftder 0 Hodau, a tharawiadol iawn yd^dblodeuehvm byehan ag wrtho gerdyn yn dwyn yr ys?if, To our dear dada, from the ?tie garden which he loved." Daeth ? o gyfeiHion i'r hebryngfa? a gwas- anaethwyd gan V Parch. Thomas H es Ll' Jones, LJansamIet, a'r Parch. W. Sam- let Williama, Briton Ferry.