Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

0 Bontardawe i Gaerdydd. -i

News
Cite
Share

0 Bontardawe i Gaerdydd. GAN DELYNOR TREBANNOS. Tra'r oeddem ym Mynwent y Groeswen (paid a blino ar y fynwent, ddarllenydd, "canys dim end gair sydd gennyf -im dani), syluem ar Dawelfryn yn ymgvnghori a llyfr vn awr ac eilwaith, ac un tro ymesgus- ododd g-da'r ddihareb ganlynol: "Goreu cof, cof llyfr." O'r gore, ond nid dyna'r gair olaf am y cof- lyfr yna," ebe'r ysgrifennydd tan ei ddannedd. Wedi gollwng o'm llaw y llith ddiweddaf i'r "Darian," mynych y cofiat mor gymwys y ddihareb uchod, canys cyn i'r cwmni ymadael o'r "Manse," buom mor hy' a gofyn i Dawelfryn os oedd modd cael gafael ar gof-lyfr cyffelyb i'r un crybwylled- ig, ac yn y fan taflodd ar y bwrdd y gweddill gopiau oedd ar law, rhyw wyth neu ddeg o honynt. Hanner coron oedd ei bris ar ei gyhoeddiad," eb efe, "ond swllt yw yn awr." Nid oes raid i mi ychwanegu eu bachu oil gan y dosbarth, ac i Dawelfryn gael ei ofun am danynt yn ddi-stwr. Teitl y gyfrol gynhwysfawr yw "Pebyll Seion hanes ymdaith Cynulleidfaol- iaeth. A oes rywun neu rywrai yn meddwl cyhoeddi ail-argraffiad o honi? Beth bynnag, y mae yr hanes diddorol a gynhwysir ynddi yn hawlio hynny. Tra yn son am lyfr, onid purion gymwynas ag "Ysbryd y Deffro fyddai cyhoeddi llyfryn rhad ar hanes a buchedd yr enwogion sy'n naear y Groeswen; llaw-lyfr a werthid i'r Pererinion fel y cynhyddai di- ddordeb yn y coffadwriaethau teil- wng? Hanner gair i gall. Wel, am "Bebyll Seion," melus yw y gwaith o'i darllen, a grymus yw yr addewid o roddi ei benthyg eisoes i fwy nag un ag sydd o gyffelyb chwaeth a'r cwmni yn y gobaith y bydd o gym- aint budd iddynt ag y mae i ninnau. Yn awr, wele ni oil yn gom- fforddus y tu fewn i'r modur, a'r gyriedydd yn rhoi tro neu ddau ar ei gorn blaen, ac yna yn esgyn i'w gyfrwy ar ei war, ac yn trafod ei lwyth fel pe buasai deganaid neu fasgedaid o adar; pawb yn llawen o gwmni Brynfab a Thawelfryn eto; hwythau mor garedig a dal ymlaen am Gaerffili, a phe buasem yn gwybod y bore hvvnnw y byddai i ni fyn'd heibio mor agos i Abertridwr buasa; yn hysbys i Dewi Aur ein bod yn ei ^Idisgwyl i ymuno a ni, er ychwanegu at ein hyfrydwch a'n llawenydd. Er hynny, melys yw meddwl am y ddau enwog a nodwyd mor barod oeddent i ennyn ein diddordeb yn yr hvn oedd o bwys a gwerth galw'n sylw ato bob ochr i'r ffordd; ond, wele ni yn disgyn yn Nhonyfelin, ger yr hen gapel y bu'r dawnus Gristmas Evans mor amlwg ynddo ac o'i amgylch ac ymhell o'i olwg yn ei ddydd. Dyfal- wyd llawer wrth sbio ar yr hen adeilad cyffredin ei ddrych, ond sy'n awr yn dai annedd, ac awd ymlaen ac i Gaerffili, Vnd heb fawr o hamdden i sylwi ar ddim, canys i'r rhan luosocaf o honom yr hen Gastell ardderchog ei gadernid oedd y brif atynfa. Yr ydym yn awr ar ffordd droellog a chul yn ymlwybro'n hirheglog tuag ato, ac a'n llvgaid yn disgyn ac yn aros arno yr ydym yn cyrraedd porth yr amgylchfur. Taled pob un ei doll yw hi yma, grwgnached a sawl a fynno, a chan dalu bu ychydig o rwgnach gan rai hefyd. Wredi bod yn chwarae "sefyll yn syth yn erbyn yr hen dwr gogwyddol sydd wrth y fynedfa, awd i chwilio yr hen gaerfa gref a dychmygu maint y cyfrolau a'r math o hanes a fyddai pe y rhoddasid clust, llygad a lleferydd i gadarnfa mor hynod. Mud safem ar y ceyrydd Gan syllu dros y fro, A gwelem gledd 'rol cledd yn rhoi Rhyw druan yn y gro: 'Roedd su o fewn y tyrau Brudd-gofiai lawer oes, Yn marw ar ei gwaedlyd gledd A malldod yn ei moes. Ymholem,—a fu yma Ddadlenwr "Hawliau dyn," A hawliau'r iaith, sef iaith y wlad, Yn llosgi ar ei fin? Er hynny, y gyfrinach Ni ddeuai ffordd y clyw, Ond rhoed i'r tyrau glywed iaith Hen Walia eto'n fyw. (I barhau.) [Nodiad Y mae y gweddill o'r ysgrifau diddorol hyn mewn llaw o'r diwedd, ac os yn bosibl daw'r oil yn y nesaf.-Gol- ]

\I Delft.I

.Nodion o Bell ic Agos. I

I Ar Lannau Tawe. I

Colofn y Belrdd. I

Datblu Pnm-canmlwyddiant huno…

Advertising