Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. 1 STORIAU AM GWN. I (DAN OLYGIAETH MOELONA.) Diau eich bod i gyd yn gwybod I hanes Gelert, ci enwog y Tywysog I Llewelyn. Yr oedd y ci hwn mor ddeallus a ffyddlon, fel y gadewid ef yn fynych ei hunan i ofalu am dy ac am blentyn y Tywysog. In di- wrnod pan ddychwelodd Llewelyn i'r ty wedi bod allan yn hela, cafodd y crud a'i wyneb i waered ar y 11awr, a'r ci yn diferu o waed. Tybiodd ar y foment fod y ci wedi lladd a bwyta'r plentyn, ac heb aros i edrych try wan- odd ei gleddyf drwyddo mewn cyn- ddaredd. Pan oedd y ci yn trcngu wrth ei draed, clywodd y lywysog lais y plentyn. Cododd y crud, ac odditano gwelodd ei faban bach yn ddianaf ac yn gwenu. Gerllaw, gwelodd gelain waedlyd blaidd, a'r hwn y buasai y ci ffyddlon yn ymladd, er diogelu'r plentyn. Hawddach dychmygu na darlunio teimladau r Tywvsog wedi gweled iddo ladd ceid- wad ei blentyn. Ni fedrai dim a wnai mwyach alw bywyd Gelert yn ol. vr oil allasai'r Tywysog wneud oedd ei gladdu, a chodi cof-golofn ar ci fedd. Adwaenir y fan hyd y dydd heddyw wrth yr enw "Bedd Gelert." II. I Ychydig amser yn ol, aeth ffermwr o Sir Gaerfyrddin i ffair Tregaron gyda'i ddefaid a'i ddau gi. Wedi gwerthu'r anifeiliaid, parotodd y ffermwr i ddychwelyd, ond pan aeth i edrych am ei gwn gwelodd fod uno honynt, Nan, wedi cael teulu ncwydd o gwn bach. Nid allai Nan a'i rhai bychain gerdded adref, felly gadaw- odd y ffermwr hwy yng ngofal ei gyfaill yn Nhregaron, ac aeth adref. Bu'r cyfaill yn ofalus iawn o honynt. Rhoddodd iddynt wely clyd, a dyg- odd iddynt bob dydd eu bwyd yn ei bryd. Ymhen ychydig ddyddiau nid oedd Nan na'i chwn bach i'w gweled yn unman, a phan aeth y gwr a ofalai am danynt i edrych am ei het, gwel- odd fod honno hefyd ar goil. Aed chwilio, a chwiliwyd yn hir ac yn ddyfal, ond ni chaed son am Nan na'r tri chi bach na'r het. Ysgrifenn odd y dyn I at ei gyfaill yn Sir Gaer- fvrddin i'w hysbysu o'i golled. Ymhen diwrnod neu ddau cafodd yr ateb a ganlyn — "Mae gennyf newydd da i jlnvi. Nid oes eisieu i chwi chwilio nnvv- ixchw Cyriiaeddodd Nan yina heddyw, gyda'i thri ci bach yn eich het chwi." Gwelsai Nan y dyn yn rhoi ei het am ei ben. Deallodd rywfodd y gallai vr het ddal ei rhai bychain hi. Gwyl- iodd ei chyfle i'w chael; rhoddodd y tri chi bvchan vnddi, a chariodd hwv rhwng ei danedd am ddyddiau ar hyd V ffordd y daethai i'r ffair, a chvr- haeddodd yn ddiogel ei hen gartref. III. Yr oedd unwaith forwyn i fonedd- wr yn gyrru baban mewn cerbvd bychan tair olwyn i lawr drwy riw serth. Yr oedd ci ei meistr, ci mawr Newfoundland yn ei dilyn. Yn sydyn cymerwyd y ferch mewn llewyg, a gollyngodfl ei gafael yn y cerbyd. Olwynodd hwnnw yn gyflym ar y goriwaered nes gosod y plentyn mewn dirfawr berygl. Gwelodd y ci ffvddlon a chall berygl y plentyn. Rhedodd ar ei ol, cymerodd afael a'i ddannedd yn y ffedog ledr, nes peri i'r cerbyd sefvll. Mewn munud arall buasai'r cerbyd wedi syrthio bend ram- wnwgl dros ddibyn. Ni flinai y rhieni ganmol a chofleidio'r ci wedi deall iddo achub eu plentyn o safn angeu. D.S.—Ceir cystadleuaeth eto yn y rhifyn nesaf o'r "Darian." Mynnwch gael y papur mewn pryd. I

Tonyrefail. I

Morgan John Rhys.I

ITredegar.I

Milwyr y Fyddin Gadw | (Reservists)…

Newyddlon Rhyfel ynI Aberdar.

Priodas Dan o'r Porth yn y…

Advertising