Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
PUMP 0 GANEUON NEWYDD. I HEN FWTHYN FY NHAD (My Fatherlig Old Home). Can i Contralto neu Baritone. Pris 6c. I MAE LLONG FY HARRI'N DOD YN OL (My Happy's Ship is coming back). Can i Soprano. Pris 6e. BLODAU AC ADAR I MI (Birds and Blossoms). Pris Is. Y Tair uohod gan D. JKNKINS.. DYFFRYN HIRAETH (The Valley of Rest). C&n i Contralto neu Baritone gan Bryceson Treharne. Pris lB. (Wedi ei dethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1915). GWENFRON. CAn i Baritone gan Mr. Lloyd Edwards, Llundain. Pris I s. Geiriau Saesneg a Chymraeg, Solffa a'r Hen Nodiant i'r pum' Can. Cyhoeddedig gan D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)., Aberystwyth. ATTODIAD I 44 GEMAU MAWL," SEF CASGLIAD 0 DONAU, SALMAU AC YMDEITHGAN. Pris, H.N., 8c. Solffa, 6c. Nid oes braidd un Gymanfa Ganu gyda'r Methodistiaid nad oes rhai Tonau o'r uchod yn cael eu canu ynddynt. i Gwneir gostyngiad mawr yn y pris am 100 ac uchod. —^——mBP DO YOU SUFFER FRONQ EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT ANDTALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, OPHTHALMIC OPTICIAN, I OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 43a, Commercial Street, Aberdare- PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Y DARIAN YW'R Papur Goreu I i hysbysu Eisteddfodau. I • Cyhoeddir beirniadaethau yr Eisteddiodau a hysbys-j ant ynddi. i ) t ■ — ( Telerau arbennig. A-nfoner i Swyddfa'r DARIAN, Aberdar. # Prepaid 8mall Advertisement. ( Inserted at the following specially loft rates: One week 4 wks- H wfr. a. d. < d- • li 10 words 0 6 1 < 8 18 0 < a 3 I 10 1 0 3 0 7 < These charges apply only to the follow ing clasges of advertisements: Apart ments, Situations (Vacant or Wanted. I To be Let or Sold, Lost or Found, w(j Miscellaneous Wants. Romittances may be made by Pnit*, Orders or half-penny stamp* If not prepaid double rate will h- charged. Advertising and Publishing OUrTis Cardiff Street, Aberdare. » — i Yn awr yn barod Telyn Awen (Isaac Eurfin Benjamin). Telynegion Serch, Gwladgarwch, a. Chrefydd, i Pryddestan (;adeiriol, Darn&uAdroddisdol, &e. A r 91 o wahanol destypau, 18 yu en mysg yn ddnra&u buddugol. Pris 1/ wedi eu rhwymo yn hardd 1/6 Cyhoeddedig gan yr Awdwr, ac ar werth gan ISAAC EURFIN BENJAMIN, Bronheulog, Woodfleld, Feurhiwceiber. KING EDWARD VII. 's HOSPITAL, CARDIFF. Closing of Out-Patient Department. NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Out-patient Department of the King Edward VII.'s Hospital, Cardiff, will Remain Closed until Further Notice. Accidents, Casualities, and Cases of Emergency will, however, be attended to as usual. By Order of the Board of Manage- ment, LEONARD D. REA, Secretary and Gen. Supt. 12th August, 1914. HANES PONTARDAWE A'R CYLCH. TRAETHAWD BUDDUGOL Can J. E. MORGAN ("Hirfryn"), Alltwen, Pontardawe, Awdwr Hen Gymeriadau Gellinudd." Pris, 1/6 Net. Mewn Llian, 2/6 Net. "Un o'r llyfrau mwyaf diddorol a ddarllenasom er's tro, ac ambell i stori ynddo yn peri i ni hanner hollti gan chwerthin."—Gol. y Darian." I'w gael oddiwrth yr Awdwr. ARGRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llytbyr-gerdyn oeir Eaiampiao o Adroddiadau Eglwystg, lestynau a Rhagleni Eieteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &0. Pelfseinydd Central 151. Coflwch yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hoi; ein hawydd ni yw gyrra'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn oyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y geifyddyd o Argraffa. I ANFONWCH AM 8AMPLA.U. Y DARIAN. Nid Amddiftyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pob Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lie. yr wythnos, Is. 7!c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner Jblwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dal yn unig yr anfonir hi trwy'r post.
I DYDD IA U, AWST 20, 1914.1…
DYDD IA U, AWST 20, 1914. Nodiadau'r Golygydd. Bydd yn Llanymddyfri gynhadledd bwysig Medi'r 16eg a'r 18fed i ystyried y cwestiwn o ffurfio Undeb rhwng Eglwysi Efengylaidd Cymru. Ceir y rheswm am y syniudiad hwn yn y para- graff a ganlyn o gylch-Iythyr sydd wedi ei anion ailan wedi ei lofnodi gan In o anveinwyr y gwahanol enwaclan Yr ydym o'r farn, gan hynny, fod yr adeg wedi dod i ffurfio Undeb Cenedlaethol o holl Eglwysi Efengyl- aidd Cymru. Ein bwriad cyntaf ydoedd ffiti-fio undeb- o'i- fath ynglyn a Chyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion, eithr ymwithyd y Parch. F. B. Meyer a'r Cyngor Cenedlaeth- ol yn Llundain yn bendant ag un- rhyw gorff cenedlaethol i Gymru, ond yn unig fel is-bwyllgor o'r Pwyllgor yn Llundain, gyda'r swyddogion yn y Memorial Hall yn swyddogion iddo." Nodir amryw bethau eraill a ddangh- osent drahauster y Sais tuag at y I Cymro ynghyd a'i duedd i ddiystyrru buddiannau Cymru a'i phobl. Nid yw'n ddrwg gennym am y rhwyg I oddiwrth Gyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion. Nid oedd ym- I ddygiad awdurdodau y Cyngor hwnnw tuag at Gymru, ond yr hyn ellid ddis- gwyl, ac nid oedd ond yr hyn a haeddai ein harweinwyr. Os oes gwaith i un- deb o'r fath credwn mai mantais i Gymru fydd gweithio'n annibynol ar linellau cenedlaethol. Awgryma rhai fod cwestiynnau nas gall Cymru eu hwynebau ar ei phen ei hun. Ond tyb- ed y bydd annibyniaeth Cymru yn rhwystr iddi i gydweithio a Chyngor Lloegr mewn materion sydd yn gyffredin i eglwysi'r ddwy wlad? A fydd Undeb Cenedlaethol yn fwy an- effeithiol yng Nghymru nag Ls-bwyll- gor o Bwyllgor Llundain 1 Y cwestiwn ynglyn a'r Undeb hwn eto yw-beth a wna i feithrin ac i gyfoethogi bywyd cenedlaettol Cymru 1 A fydd o fantais i iaith, llenyddiaeth, a delfrydau ein cenedl 1 Cyn y bydd yn deilwng o'i alw yn Undeb Cenedlaethol Eglwysi Efengylaidd Cymru, bydd raid iddo fod yn amddiffyn cryf i'r Gymraeg, ac yn foddion i gryfhau ei safle yn yr eglwysi. Byddai yn well heb yr Undeb oni chedwir hyn mewn golwg. Y mae'n bwysig i eglwysi Cymraeg wylio'u buddiannau yn y mater yma. Y mae'r Gymraeg a llenyddiaeth Cymru yn fwy diogelwch na dim i'r ysbryd gwerinol ac efengylaidd. Dichon wedi'r cyfan mai r ndeb Eglwysi Cymraeg fyddai o fwyaf bendith i Gymru. Methwn a deall paham nas gall yr eglwysi hynny sydd wedi gwadu eu hiaith ac yn byw ar lenyddiaeth Seisnig foddloni ar Is- bwyllgor o Bwyllgor Llundain. Gydag eglwysi Cymraeg y mae'n wahanol; y mae rhyw ystyr i genedlaetholdeb mewn perthynas a hwy. Wei, yn Llanymddyfri y bydd y Gyn- hadledd a benderfyna'r cwestiwn o gael Undeb Cenedlaethol i Gymru. Yn y dref honno y mae "Ty'r Ficer," a cher- llaw y mae Ystradwallter a'r Tonn a Phantycelyn. Rhoddodd yr ardal hon i Gymru rai o'i meibion goreu. Oddiyma y daeth emynau a chaniadau anfarwol yn yr hen Gymraeg. Yma hefyd yn enw addysg y diystyrrwyd yr hen iaith yn yr ysgolion. Nid oedd ryddid i yngau iaith ein perganiedydd o'r tu fewn i furiau'r ysgol yno hyd yn ddiweddar iawn. Yma y bu offeiriaio, athrawon, a siopwyr a chrach foneddigion yn siarad Saesneg am eu bod yn tybiect mai anfri arnynt oedd bod yn Gymry. Yma y mae capel Saesneg i goffa Williams Pantycelyn. Yma y mae Seisnigeidd- iwTch* yn llethu diwylliant gwerinol un o'r ardaloedd mwyaf athrylithgar yn ein gwlad. Beth a wna yr Undeb a geisir i iachau briwiau'u cenedl. Os bydd y gynhadledd a gynhelir yno yn deilwng o'r amcan a briodolir iddi, bydd Llanymddyfri yn fwy Cymreig ar 01 ei hymweliad a'r lie. Nid yw sylwadau "Tegerin yn y "Darian" ddiweddaf ar ein hvsgrif arweiniol ar Wallgofrwydd Bwyst- fileiddiwch" yn y "Darian" cyn I hynny wedi newid dim ar ein syniad am ryfel. Anffodus iawn oedd ei ddyfvniad o Carlyle. Yr oedd y rhai hynny yn cadarnhau y cwbl a ddywed- asom. Yr unig wrthwynebiad syd5i gennym i sylwadau Carlyle yw ei fod yn galW y rhai a ddanfonir allan i sacthu eu gilydd yn ffyliaid. Xid ffvliaid mo lawer o honynt, adwaenom rai yn eu plith sydd yn rhagorolion y ddaear. Cyfrifasom yn ffyliaid y j llywodraethwyr cyfrwys y dywed Carlyle eu bod yn cweryla, ac yn danfon allan i saethu eu gilydd well dynion na hwy eu hunain. Nid yn unig y maent yn ffyliaid ac yn gyfrwys, y maent yn llwfriaid yn ogystal. Nid oes lwfryn gwaeth nag Ymerawdwr Germani yn yr holl fyd heddyw. Yr oeddem yn berffaith gydwybodol pan yn dweyd y gadawn am byth fy mhroffes Gristiongol cyn y dywedwn air o gyfiawnhad i'r rhyfel hon nac i lInrhyw ryfel arall. Yr hyn y synn- wn ato yw fod cynifer o'r un farn yn hollol a ninnau gyda golwg ar ryfel, ond, ie "ond," daw rhyw ond rhyng- ddynt a'u Gethsemane a rhyngddynt a'i buddugoliaeth hefyd—y mae yn rhyfel a'r ysbryd aflan yn y tir a rhaid mynd gydag ef! Dvfynna "Tegerin eto o Tenny- son— I t "A pence that is full of wrongs, Horrible, hateful, monstrous, not to be told." Awgryma mai yr heddwch hwn- heddwch ar unrhyw delerau a gym- eradwyir gennym. Nid felly. Cydna- byddwn er hynny ein bod yn cyfrif Mab y Saer o, Nazareth yn uwch awdurdod na Tennyson, ac yn meddu ar olvgwedd gywirach o natur am- gylchiadau'r byd a'r modd i gyfannu ei rwygiadau. Gwr cvfoethog oedd Tennyson, bardd brenhinol, ac un a gvmerai ei alu gan ddynion yn "arglwvdd." A gwyddys nad llawer o rai cyfoethogion a alwodd Efe. Yn sicr nid yw ffrwyth a wen gocth Tennyson i ddistewi lleferydd Iesu o Xazareth. Fin dadl yw ei fod ef wedi condemnio rhyfel, ac nad yw ei ddysg- eidiaeth yn cyfiawnhau y fath farbar- | eiddiwch o dan unrhyw amgylchiadau. Y mae'n amlwg tra credir mewn rhyfel o gwbl mai rhyfel a fydd, ac nas gellir ei hosgoi. Afresymoldeb j i'r eithaf i'n tyb ni yw tybied ei bod yn ddyledswydd ar Gristion i bleidio heddwch tra mae heddwch, ond ei bod yn gymaint dyledswydd arno i bleidio rhyfel os bydd rhyfel. Nid heddwch ar unrhyw delerau yw I arwyddair y Cristion nad yw yn credu mewn tywallt gwaed. Cymysgu pethau a'u gilydd yw amgrymu dim o'r fath. Cyhoeddi aneffeithiolrwydd hollol y cleddyf i unioni drygau wnaeth Iesu o Nazareth, ynghyd a mynegi'r ddeddf-v ddeddf sy'n ddiffael— "Canys pawb ar a gymerant gle-dd- \d I yf a ddifethir a chleadyi." Ai nid yw gweithrediadau'r ddeddf hon yn ddigon amlwg. Gwnaeth Iesu o Nazareth fwy na hyn; datguddiodd nerth inw Y., nerth na thycia'r un gallu daearol yn ei erbyn. Eler a'r byd i Gethsemane unwaith eto, a gwelir yno ddiystyrru nid yn unig help cleddyf Simon Pedr, ond help mwy ha deuddeg lleng o angelion. Pa- ham? Wei, yn sicr, am nad oedd angen am danynt, am na fyddai go- baith daioni o ymddibynnu arnynt. Daiohi ei hun yw y nerth mwyaf a'r dylanwad cryfaf. Y mae'r gwir Gristion nid yn wan a llwfr, nid yn credu mewn "dim gwrthwynebiad," fel y dywed rhai, ond yn ddigon cryf i orchfygu drygioni trwy ddaioni, yn ddigon cryf pan darewir ef ar y nail! gern i droi'r llall. Nid gorchfygu gelyn yw ei ladd. A dyna welir yn Gethsemane. y da'n ddigon cryf i ddioddef, ac yn gorchfygu trwy ddioddef. Nid oes bellach ff., dd mewn daioni. Llecha Cristionogion yn awr o'r tu ol i'r magnelau a nerth Llvnges y wlad neu amlder ei byddinoedd yn unig a rydd iddynt esn-wyth gwsg. Nid yw'r eglwys fel cyfangorff mwy- ach yn credu. Y mae wedi ei cham- ddysgu ar hyd yr oesau. Bydd raid iddi cyn y'i gwelir yn deilwng o'i phen fynd yn ol at Iesu o Nazareth a gwrando ar ei eiriau ef yn eu syml- rwydd heb esboniadau y papurau aristocrataidd sydd yn honni dysgu Cristionogaeth yn Lloegr. Rhaid cychwyn o'r newydd gydag ef a'i ddilvn dros Cedron i'r Ardd ac i'r Groes. Hyn wnaeth y rhai a welsent ei ogoniant Ef. Hyn wnaeth Ardderch- og lu'r Merthyri. Dioddefasant eu hunain a thynnodd eu dioddef hwv ymerodraethau i'r llawr. Rhyw hanner credu y mae yr Eglwys hedd- yw—rhyw gredu a thynnu'n ol i goll- edigaeth pan ddaw'n brawf. Bydd raid iddi gredu'n llwyr ac ymddiried hyd yr eithaf yn ei Phen, ac yn yr arfau nid ydynt gna wdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr. Bryd hynny y gwelir gwawr gogon- iant mwyaf Prydain, ac nid yn nin- ystr Germani fel y cyhoeddir mewn rhai pupurau. Colier hyn, y c}rmeradwywn yn galonnog .bob symudiad i gynorthwyo y rhai ddioddefant mewn unrhyw fodd.o herwydd y rhyfel bresennol. Y mae cynorthwyorr anghenus yn Gristionogol ymhob amgylchiad, gan nad pa un a ydym yn credu mewn rhyfel ai peidio. Gadawer i ni weled Cristionogion yn deilwng o'u proffes yn hyn beth bynnag.
J.Piaeth Aberdar.
J.Piaeth Aberdar. Ni ddylid gadael i'r rhestr newydd o ynadon a yehwanegir ar y faine yn Aberdar ddianc yn ddisylw. Dengys fod rhyw ddylanwad yn gweithio na ddylid mo'i oddef, oblegid nis gellir de all rhai penodiadau ond yn v goleuni hwnnw. C'werylwn vnghyich y ddau Sais a anrhydeddwyd. Os yw Sais yn gymhwysach na neb arall, dewiser ef ar bob cyfrif. Y ddau Sais cyfeiriwn atynt vdynt Mr Manders a Mr Hodges. Y mae Mr Manders yn grocer llwydd- iannus ac yn shareholder cryf yn rhai o r gweithfeydd glo. Cynrychiolid y pyllau glo yn ardderchog ar y fainc yn barod. Nid yw'r boneddwr hwn yn meddu ar ysbryd cyhoeddus, ni wasan- aethodd ar y byrddau, ac ni aberthodd arian nac amser i wasanaethu'r bobl. Y peth pwysicaf yn ei hanes yw iddo gasglu arian yma. Masnachwr yw Mr Hodges yntau. Bu'n uchgwnstabl AJberdar dro'n ol. Nid yw'n meddu ar ysbryd cyhoeddus, ac ni wasanaethodd y lie ar y byrddau mwy na Mr Manders. Cofier mai safle o anrhydedd yw swydd uchgwnstabl, ac felly ni edrychwn ar y safle honno fel gwasanaeth. Dealled y darllenydd mai nid ein hamcan yw dweyd dim yn wael am y boneddigion hyn, oblegid hyd y gwydd- Oil) dynion rhagorol ydynt. Ein dibeii yw galw sylw at y ffaith fod yn y lie dclynion yn medru'r ddwy iaith—cym- ,or hwyster pwysig mewn ardal (iymraeg. dynion a roddodd flvnyddoedd o was- anaeth cyhoeddus. rhai wedi gwasan- aethu ar y fainc yn barod fel Cadeir- wyr- y Cyngoi-, ac yn byw mewn ardal- oedd poblog heb ynad, ac yn gyinhwys- ach i safle fel hon ar lawer cyfrif. A oes gan rvwun esboniad ar beth fel hyn ?
Advertising
ALWAYS WELCOME The Housewife who has j k BLANCH'S Cream Puddings is never at 1 loss about the sweets course. A dainty and delicious dish-looks and tastes like cream. A penny packet makes a pint. ANY GROCER WILL SUPPLY Camberwell, London, ) -J <«t! AND St. Peter's Street, CardiH.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. YMOLCHFEYDD PEN PYLLAU. Mr. Got),gydd.-Nid oes ynnof awydd o gwbl ymddadleu a "Gwerin- wr" parthed cymeriad y glowr Cym- reig. Yn ol ei farn ef nid ydym eto yn ddigon gwareiddiedig i fanteisio ar ddarpariadau y Ddeddf ynglyn a baddonau pen pyllau. Ac yn wir, os vdyw ei ddarluniad ef o honom yn gywir, nis gellir ei feio. Rhydd iddo ef ei farn. Gwn fod yn ein plith am- bell un ddigon anystyriol, ond nid teg condemnio dosbarth o bobl am hyn a'i hamddifadu o un o ragorfreintiau mwyaf anghenreidiol ein dydd. N is gwn ond am ychydig iawn o enghreifftiau o anrhefnusrwydd o dan y pyllau ar derfyn y dydd gwaith; y rheol yw fod pawb yn aros ei dro yn drefnus, ac os bydd rhai methedig yn ein plith cant fyned i fyny heb ofyn iddynt aros eu tro o gwbl. Dyna fy mhrofiad ar ol gweithio mewn deg o wahanol lofeydd Morgannwg. Ymddengys i mi nad yw "Gwerinwr" yn ddarllenwr eang nac yn sylwedydd craff, neu o'r hyn lleiaf nid yw ei gof yn ei wasanaethu yn dda. Gwna gam a mi, ac ar wirionedd vn ei gyfeiriad at fy ngwaith yn ceisio symud y dreth annheg a ofynnid gan Gyngor y Rhondda am y baddonau a'r w. c. 's yn nhai y gweithwyr. Gofynnai y Cyngor hwn ddeg swllt o dal ych- wanegol am ddwfr i faddon a chwe swllt am ddwfr i'r w.c., os byddai ychwaneg nag un (w.c., nid baddon) yn perthvn i'r ty. Ystyriem hyn yn dreth ar lendid a gweddeidd-dra. Yr ydwyf gyda chynhorthwy fy nghyd- aelodau Llafur wedi llwyddo i symud y dreth hon oddiar dai sydd a'u hardreth yn ddeuddeg punt a chwei- gen ac isod. Barned eich darllenwyr os ydyw hyn yn symud y baich oddiar ysgwydd y cryf a'i osod ar y gwan fel y myn "Gweriniwr. Yn sicr, i'r meddwl diragfarn, cam i gyfeiriad gwareiddiad uwch fydd cael y baddon- au ar ben y pwll. Y r eiddoch, etc., JAMES JAMES (Iago Penrhys.) Ystrad Rhondda. ) "CAMFA GERRIG." Mr. Gol. ,-Gwelais frawddeg yn cynnwys y geiriau uchod yn y "Dar- ian" am yr wythnos ddiweddaf, ac y mae wedi peri peth syndod i mi. "Camfa Goed" oeddwn wedi arfer synio am dani a "mur" o gerrig, ond yn ol syniad gwyr Sir Fon mae'n briodol son am gamfa gerrig. Byddai plethu camfa drwsiadus o -wrysg Ilathriidd y c!(xMlau yn cael ei ystyried yn rhan amlwg a phwysig 0' gelfyddyd yr amaethwr flynyddaty, yn ol, ac yr oedd bod yn feistr yn y gangen hon yn ychwanegu cryn law- er at werth gwasanaethw r amaethydd- ol yng ngolwg y cyflogwyr ar ben tymor. Carwn gael gair gan ryw wr cyfarwydd ar y priodoldeb o alw "bwlch vn y clawdd wedi ei lanw a cherrig yn gamfa. Efallai mai cymal o ddvsgeidiaeth yr Ysgol Newydd ydyw, oherwydd deallwn, fod gan awdurdodau y ysgol hon hawl i enwi pethau mewn ffyrdd' rhyfedd iawn weithiau. Digon tebyg- fod y gwr o'r "Ysgubor wedi plethu llawer camfa yw ei fywyd, a byddai' gair ar eu defnyddiau yn dderlSyniol gan luaws.—Yr eiddoch, etc., J. JAMES (loan Gwyllt.) | O I) IA D Nid bwlch mewn clawdd wedi ei gau a cherrig nac a choed ychwaith yw camfa, neu, o leiaf, nid yw pob bwlch a gauir felly'n gamfa. Y mae camfa, a'i coed ai cerrig a to, wedi ei gwneyd fel y gellir camu drosti. I'r diben hwn gwelir camfeydd a blethwvd o goed a pholyn neu ddau wedi eu gyrru i'r ddaear o bobtu iddynt i ffurfio "steps" fel y galler myned drostynt yn hwyl- us. Gwehveh ar ein mynyddoedd yn yr hen waliau sychion uchel a wnaed mor gelfydd gan ein tadau gerrig hirion yn dod allan o honynt, dair neu bedair weithiau, y gellwch gamu o'r naill i'r llall i fyny un ochr i'r wal, a cheir rhai yr un modd i fynd i lawr yr ochr arall—dvma gamfa gerrig i chwi. Ym Mon, He ceir mwy cyfiawn- der o gerrig nag o goed, y mae cam- feydd cerrig yn gyffredin iawn. Gwelir hwy braidd bob amser wrth v glwvd fydd ar enau'r ffordd a dry o'r briffordd at amaethefai. Ceir dwv neu dair neu ychwaneg o risiau a wnaed o gerrig o bobtu, tebyg i'r grisiau sydd gennych yn mvnd i'r Hofft, a charreg a thipyn o faint ynddi i gamu drosti yn uchaf. Y mae camfa felly'n hwylus pan fo eisiau cadw'r glwvd (neu'r gat) dan glo. Xid oes a fynno unrhyw ddvsgeidiaeth newydd na hen a'r mater. Ar Iwvbrau troed drwy r meusydd y mae camfeydd yn bethau cyffredin iawn, a dichon nad oes neb a fagwyd mewn gwlad nad oes ganddo atgofion melus am gamfa 'I' cae," sydd ar ol hvnnv wedi bod yn destyn llawer telyneg dlos.- Gal. ]
ARGRAFFWAITH.
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaitfe ymofyner yn Swyddfa"r Leader" a'r DariHn." C.'ardifT Street., Aherdar.