Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
0 Wy i Dywi.I
0 Wy i Dywi. I CANRIF OLAF ANXIBYNIAETH MORGANNWG. I Cwersi mewn Hanes Lleol gan Lewis I Davies, Cymmer. Gwelodd Talaith Morgannwg yn ys- tod ei chanrif olaf o lywyddiaeth gar- trefol Jbedwar tywysog yr olynol ya y llinell union o Forgan Hen, sef ap Morgan, Ithel ap Owain Gwrgant ap Ithel, a Iestyn ap Gwrgant Gor oeawyd y ddau cyntaf gan yr hen Ithel. Felly mewn un ystyr aid yw yn briodol eu cyfrif hwy yn dywysrinca Morgannwg fel y cyfrifir llywodi-a- tn- wyr yn gyffredin. Ond gan iddynt /n eu dydd ddal y pen trymaf o'r Pywyid- iaeth (pan oedd Morgan yn rhy fl,h- lantus at y gwaith), rhoir eu lie iddynt gan y mwyafrif o haneswyr fel pe yn ben-tywysogion eu hunain. Ac er na ddatblygodd yr un o honynt y dalent i reoli mor amlwg ag a wnaeth Morgan ym mlodau ei ddyddiau, eto pan ys- tyriom yr oes y bucheddasant ynddi teilwng yw dweyd i Forgannwg fwyn- hau cryn lwyddiant o dan eu hawdur- dod. Dywed fraddodiad mai Caerdydd, Llansannor, a Margam oedd eu prif lysoedd, a bod cyfiawnder ar bob rhyw bryd yn cael gweinyddiad teg gan- ddynt ymhob cwr o'r dalaith. Gan nad beth am wiredd hynny gellir dadleu fod y dywediad yn cydweddu i'r dim a'r hyn a draetha hanes am Morgan a'i deulu yng ngoleuni y Brutiau. Cys- ylltir Ystrad Owain yn y Fro gan rai a'r Owain hwn gan ddweyd mai yno yr oedd ei breswylfod a gwneir yr un peth a Thondu mewn cysylltiad ag Ithel, gan honni mai talfyriad o Ton-Ithel- Ddu ydyw yr enw Tondu ei hun. gwrgant ap Ithel. I Wedi marwolaeth Owain yn 987 ac Ithel yn 994, syrthiodd yr awdurdod i law Gwrgant ap Ithel. A barnu oddi- wrth yr hyn a wyddom am dano, nis gallai, ar lawer ystyr, fyned i ddwylaw gwell. Tywysog oedd efe a roes ei fryd ar wella amaethyddiaeth ei wlad. Cyfartal yw hynny ymron a dweyd "gwella buddiannau ei wlad," oblegid yn yr amser hwnnw hwsmoniaeth, yn anad dim, oedd prif oruchwyliaeth pawb ar ostegiad udgyrn rhyfel. Yn hyn o beth dilynai Gwrgant gamrau un o'i hynafiaid, sef Rhys ap Arthfael, cyfreithiau yr hwn oedd ei batrwm yn y gwaith da. Atgoffir ni am fab Ithel yn awr gan amryw enwau Ileol a siarad- ant am dano. Y mae Cefn Gwrgan ym Margam ac Heol Wrgan, ger Llan- H. lrisantlJSeto yn. arcs, tra sieryd Rice Merrick o'r Cotrel yn 1578 am Cwrgan- :ston, not far from St. Donatt's, but is now altogether decayed." Hirwaen Wrgant. I Ond yr hyn rydd fwyaf o glod i'w goffadwriaeth ydyw y cytir (common) <ewog rhwng Aberdar a Chwmnedd a roddodd i'w ddeiliaid yng Ngogledd Morgannwg ac a elwir byth ar ei enw yn Hirwaen Wrgant. Darn o'r waen hon ydyw Pare Cyhoeddus Aberdar, a chyhoedda Ysgol y Comin yn ymyl, y ffaith i'r oesau ddel. Arni hefyd yr .adeiladwyd y rhan helaethaf o bentref Hirwaen, ynghyd a'r amryw dai gwas- garedig a adnabyddir wrth yr enw Rhigos. Yn wir, gelwir Rhigos yn Flaen Hirwaen gan lawer o'r hen fro- dorion hyd eto. Sonir am y rhandir hwn wrth ei enw .amryw weithiau yn adroddiadau .cwerylon y gwahanol Abatai yn y 13eg .a'r 14eg ganrif fel yn enwog am ei borfeydd, a chan John Leland yn 1540 am ei ferlynnod. "Broc" oedd lIiw y mwyafrif o'r rheiny, a dyna darddiad y Ilysenw roddir i bobl dda pentref Hirwaen hyd heddyw. Bu llawer o ymgyfreithio parthed y cytir o bryd i'w gilydd, ond nid oes gennym le i fanylu ar hynny yma mwg nag am y Cabanau Unos godwyd i fyny ac a fwriwyd llawr itua 70 mlynedd yn ol. Sefydliad arall a briodolir gan rai i Gwrgant ydyw Ffair y Waen, ger Dowlais. Dichon hynny fod yn gywir oblegid gwyddis ei bod yn hen, ond nid wyf fi yn bersonol wedi taraw ar un ffaith i brofi y gosodiad erioed. Nis gwn ychwaith am linell yng ngweithiau Thomas Stephens. Merthyr yn nodi y peth. Pe ar gael tebyg y buasai ei lygad craff ef wedi ei ganfod, oblegid treuliodd ein prif-hanesydd Ileol ei holl oes yn ymyl-ym Mhontneddfechan yn hogyn, a Merthyr Tydfil yn ddyn. lestyn ap Gwrgant. I Bu Gwrgant farw tua'r flwyddyn 1030, ac a ddilynwyd wedi cryn helbul gan ei fab, Iestyn ap Gwrgant. Dyma dywysog Cymreig olaf Morgannwg, ac .0 herwydd hynny gwyr pawb am ei enw os nad am ei hoes. Ystormus iawn fu ei holl yrfa, ac ymddengys iddo fucheddu fel rhyw Ishmael, "a'i law yn erbyn pawb, a Ilaw pawb yn ei erbyn yntau." Sieryd y Brutiau yn ddieithriad yn gas am dano, tra'r unig hen hanesydd a gymer ei du ydyw Rice Merrick, croniclydd Morgannwg. Efallai mai y rheswm am yr atgasedd cyffredinol tu- ag at ei goffa yw y ffaith mai megis ag y bu Gwrtheyrn yn gyfrwng i ddwyn y Saeson i'n gwlad gyntaf, Iestyn yntau fu yn borth i'r Normaiaid yr un fel. Cyn dechreu y Cyfnod Normanaidd yn ei hystori, rhaid rhoi trem yn ol ar unpeth neu ddau ym mywyd ein cyn- dadau cyn dechreu traethu am eu hel- yntion ynglyn a Gwyr y Cestyll.
Hwnt ac Yma.
Hwnt ac Yma. GAN LYWELYN. I ba beth, yn enw rheswm, y rhodd- odd Golygydd Wales le i'r ymgom gawsai rhywun gyda Freddie Welsh yn ei Nodiadau Misol am Awst 1 Pa gysur i Wlad Efengyl yw fod paffio yn chwar- ae sydd yn gydnaws a'r anianawd Gym- reig, ac y bydd Cymru yn debyg o gyn- hyrchu pen paffwyr y byd. Yr ydym yn gostwng ein pennau mewn cywilydd. Dichon, o ran hynny, mai amcan cy- hoeddi syniadau Freddie oedd peri i ni gywilyddio. Oes Aur Cymru yw testyn y bed- waredd o gyfres ysgrifau Llewelyn Williams, A.S., yn yr un cyhoeddiad. r Dengys ffolineb y dybiaeth boblogaidd fod gorffennol gwyn i Gymru hyd nes iddi ddechreu ymrannu yn ei herbyn ei hun, a thrwy hynny ei gorchfygu gan estroniaid. Y gwrthwyneb i hyn sydd ¡ wir. Llwythau Oeltaidd amrywiol oedd yma, ac yn ymladd a'i gilydd megis ag yr oedd yn Lloegr. Yn y chweched ganrif, dan Cunedda Wledig, y cafwyd rhyw rith o undeb gyntaf. Daeth yr Undeb yn amlycach hyd ddyddiau Llewelyn y Llyw Ola; ac nis gellir ond dychmygu beth fuasai hanes ein gwlad o hynny hyd yn awr pe nas cwympasai'r tywysog hwnnw trwy ddamwain ar lan- nau'r Irfon. Cred Llewelyn Williams fod Oes Aur Cymru ymlaen. Yn ei Nodiadal Misol—" Among the Welsh Churches," cefnoga'r Athro Joseff Jones y cais i ffurfio Undeb Cenedlaethol Eglwysi Efengylaidd Cymru." Rhydd fraslun diddorol o lafur a llwydd y Parch. James Evans, Caerdydd, ysgrifennydd y mudiad. Dywed yr Athro ymhellach fod am- ryw ohejbwyr eisoes wedi awgrymu mai un gwaith cymwys i'r Undeb fyddai dwyn allan Eiriadur Beiblaidd yn y Gymraeg. Diddorol yw ysgrif Gwilym Davies ar y Welsh Tramp yn yr un cyhoeddiad. Pe byddai Mr Lloyd George yn Arch- esgob," yw pennawd ysgrif gyntaf Wales, gan y Parch. James Jones, B.Sc. Awgrymu y mae'r awdur yr hyn allai Mr Lloyd George wneud fel Archesgob Eglwys Unedig Rydd Cymru yn y dy- fodol. Cred yr awdur fod rhai pethau yn awgrymu nad yw Lloyd George yn foddlon ar ffrwyth ei lafur a'i egni yn y byd gwleidyddol, ac y gallai trwy gysegru ei hun i gylch uwch ddeffro ys- bryd a fyddai'n fwy cynhyrchiol mewn daioni cymdeithasol. Un peth da sydd ynglyn a'r rhyfel bresennol, sef fod cynhyrchwyr llawer o newyddiaduron yrrcael Stwff o nodwedd wahanol i'w gyflwyno i'r cyhoedd. Heddyw y mae papurau arferent gy- hoeddi hanes puteindra a phob aflen- did, ynghyd a darluniau o ferched ymhob agwedd ac yn noeth lymnu yn ami yn cyhoeddi pethau eraill. Er mor ddychrynllyd yw'r rhyfel y mae'r cyf- newidiad yn y papurau yn fendithiol. A phwy a wyr nad yw rhyfel rhan hel- aeth o'r wasg yn erbyn purdeb a gwedd- eidd-dra, a'r ymgais egniol i feithrin tuedd gnawdol a llygredig yn yr ieu- ainc yn rhyfel mwy dychrynllyd yn y diwedd na'r rhyfel sy'n cochi Iwrop a gwaed y dyddiau hyn. Wele restr o'r llyfrau y rhoddwyd nifer o bob un o honynt yn anrhegion i blant yn Ysgol Sul y Glais yn ddi- weddar Myfanwy yn y Wlad," "En-I wau pethau cyffredin," "Dof a Gwyllt," "Bore Bywyd," "Tyddyn Dedwydd," Dyddiau'r Haf," Straeon y Cyf- nos," Hanes Harri Puw," Yr Adroddwr Ieuanc," "Er mwyn y gwr a garai," "Hanes y bachgen bychan," "Hau a Medi," "Y n oes yr arth a'r blaidd," "Gochelwch y Ci," "Ystoriwr y Plant," "Teulu Bach Nantoer," Geiriau a Gwyrthiau yr Iesu," "Plant bach Tygwyn," etc. Llyfrau Cymraeg ydynt Jbob un. Y mae lliaws o lyfrau Defynnog, Llewelyn Williams, Anthro- pos, Tecla Davies, Winnie Parri, O. M. Edwards, ac ereill wedi eu rhannu o bryd i'w gilydd. Y mae'n syn fod llawer dan yr argraff o hyd nad oes lyfrau i blant yn Gymraeg. Angen mawr yng Nghymru yw flyfrfa ganolog lie gellid cael rhestr o'r holl lyfrau a gyhoeddir yn Gymraeg fel y deuant allan o'r wasg, a lie y gellid dos- barthu y llyfrau o hono. Credaf y gwerthid cymaint ddwywaith o lyfrau Cymraeg pe ceid trefniadau priodol i'w dwyn i gyrraedd y cyhoedd. Bwriad- wn yn y man alw sylw pellach at y mater hwn. Tybed hefyd na ellid cael gair i'r Darian oddiwrth rai o'n Ilyfr- werthwyr gwlatgar ar y mater. Beth yw barn y Mri. Morgan a Higgs, Aber- tawe, Llewelyn Davies. Merthyr, ac eraill ? Mewn erthyl yn y "South Wales Daily News ychydig amser yn ol aw- grymid nad oedd le i'r Gymraeg mewn cylchoedd cyhoeddus, ac mai ar yr ael- wyd y dylesid ei chadw. Beth feddylia Undeb y Cymdeithasau Cymraeg o hyn? Fel rheol nid yw'r rhai a fynnant gyfyngu'r Gymraeg i'r aelwyd yn ei siarad ar yr aelwyd. Dowch a rhyw esgus dros yrru'r hen Gymraeg o'r golwg i rywle! Y mae ei siarad yn gy- hoedd neu yn rhywle y bo Sais neu un o epil yr hen Risiard gerllaw yn "bad form," os gwelwch chi fod yn dda! Hyderwn fod rhengoedd Undeb y Cymdeithasau wedi eu trefnu erhyn y gaeaf. Yn awr neu byth am dani, os am gryfhau safle y Gymraeg yn y wlad. Cofier fod ardaloedd eang yn y fantol. Meddylier am Aberdar. Er fod yma nifer luosog o eglwysi a'r weinidog- aeth yn Gymraeg ynddynt, Saesneg yw iaith y plant a'r bobl ieuainc. Y mae hyd yn oed y symudiad Sosialaidd yn wrth-Gymreig i'r eithaf. Mewn lle- oedd cylchynol, megis Cwmaman, Abercwmboi, Cwmbach, etc., lie clyw- ir y Gymraeg ar yr ystyrdoedd, nid oes ond nifer fechan fedr ddarllen nac ysgrifennu Cymraeg. Ymhen pum mlynedd eto os a pethau ymlaen fel yr ant yn bresennol, bydd Dyffryn c\ber- dar yn anobeithiol a'r Sais a'i gyn- ffonnwr grasol-Risiard Sion Ddafydd ar ei orsedd ymhob man. Un o amcanion Undeb y Cymdeith- asau Cymraeg yw cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i ddeffro yr ysbryd Cym- reig, ac i argraffu ar feddyliau'r Cymry y pwysigrwydd o arfer yr hen iaith ymhob man. Dyma faes pwysig yn Aberdar a'r cylch. Beth fwriada'r Cymrodorion wneud yn ystod y tymor nesaf. Mewn ardal He mae eglwysi Cymraeg yn rhifo'n cannoedd, a lie mae pawb bron sydd mewn oed yn deall Cymraeg a'r rhan fwyaf o hon- ynt yn medru ei siarad, ni ddylasai fod yn llawer o orchest i adfer y Gym- raeg yma. Y mae hyn yn bwysig i'r eglwysi eu hunain. Yn bresennol nid ydynt ond "feeders i'r eglwysi Saes- neg. Trwm yw y curo sydd wedi bod ar Eifionydd, golygydd y "Genhinen," oherwydd ysgrifau gwrth-weinidog- aethol a gwrth-eglwysig a gyhoeddir ganddo. Pa un a haeddai y chwipio i gyd ai peidio, y mae wedi ei chael yn dost. Yr ysgrif ar y "Pwlpud Pres" gan Ymdeithiwr yw yr olaf o'r ysgrifau y cwynir o'u plegid. Chwarae teg i Eifionydd, chwilio am Siluriad y mae, a methu cael un. Ni cheir ond un felly mewn cenhedlaeth. Gwr cadarn oedd Siluriad heb goll na diffyg yn ei arfogaeth, ac yn ymdaith yn amlder ei rym gan ddinoethu rhagrith a hym- byg y ffordd y cerddai. Nid oedd ar- fau ei wrthwynebwyr ond megis pistol- ion ceiniog diniwed i ymosod arno. Gwaelach na'r rhai ddaethant i ym- osod ar y Siluriad yw y llu efelychwyr sydd wedi bod iddo o hynny hyd yn awr-y man daclau sydd yn gwneud swn mawr ac yn lluchio ar eu cyfer heb ronyn o wahaniaeth ganddynt I ddannedd pwy y taflant faw. Gwaith y Siluriad nesaf fydd gwasgar ei efel- ychwyr. Hyderwn na ddioddefa'r "Genhinen oherwydd y tipyn an- noethineb a briodolir i'r Golygydd. Y felltith^nglyn a cyhoeddiadau Cym- raeg yw y ceisir ei drygu gan y rhai a anfoddlonir gan rywbeth fydd ynddynt yn awr ac eilwaith, tra y prynir cyhoeddiadau Saesneg gan nad pa mor aflan a llygredig y bo'u cynnwys. Pe byddai Cymry'n fwy ffyddlon i'w cyhoeddiadau eu hunain, ni fyddai angen chwilio am rywbeth i dynnu sylw ynddynt. Y mae "ceidwad" yn gwylio'r Cymro, ond yn gorfod gadael i'r Sais wneud fel y mynno. Dywedai Mr Hugh Edwards mewn araith ym Morgannwg mai coll mawr y Cymry oedd eu bod bob amser yn rhan- edig. Yr oeddynt yn rhanedig mewn crefydd a gwleidyddiaeth. Ond yn yr Eisteddfod nid oedd wahaniaeth o un- rhyw fath. Yr oedd yr eglwys a'r capl, yr holl enwadau, undebwyr, rhyddfryd- wyr a sosialiaid oil yn un. Anghofient eu gwahaniaethau ar lwyfan cyffredin. Dyma Brifysgol y Werin Gymreig." Cymro a'r Celt." Ond yn enw pob rheswm paham y cyfeirir at golliadau mawr Cymru fel pe na byddai y colliadau hyn yn nodwedd- iadol o neb arall. Nid oes eisiau gwyn- galchu Cymru, ond ni ddylid gadael yr argraff ar neb fod Cymru yn waeth yn y peth hyn a'r peth arall nag ydyw, neu yn waeth na chenhedloedd ag y mae mewn gwirionedd yn well na hwynt. Cynghorem Mr John Huw i ddarllen yn ofalus ysgrif Mr Llewelyn Williams, A.S., yn "W ales." ■
Gwaith yng Nghymru. j
Gwaith yng Nghymru. Hysbysir ni yn swyddogol fod y Dirprwywyr Yswiriant Cymreig yn cydweithredu yng Nghymru gyda'r PwyIIgor Ymgynghori (Advisory Com- mittee) a benodwyd gan y Gynghorfa (Cabinet) er dal i fyny waith yn ystod dryswch anorfod a achosir gan y rhyfel. Cadeirydd y Pwyllgor Ym- gynghori ydyw Llywydd Bwrdd Llyw- odraeth Leol. Mae Swyddfa wedi ei hagor yn 14 Richmond I Terrace, Caerdydd. Ei 'I chyfeiriad teligraff ydyw "Intelligence, Cardiff," a'i rhif ar y teliffon ydyw I "3988, Cardiff." Gofynnir yn daer i gyflogwyr drWy I Gymru hvrwyddo'r ffordd, ym mhob l modd dichonadwy, i geisiadau am ym- drafodaeth bersonnol ac atebion i ym- holiadau. Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Awst 11, 1914* j J
Advertising
c YWION! Cywion!! Chickens, fin- est Strains laying, 30s. dozen; two months old, los. three months, 15s. dozen. List free live delivery.—Good- win, Stratford, Essex.
I" Apel at Weithwyr Cymru."I…
I" Apel at Weithwyr Cymru." I I Y RHYFEL. I I Diolch yn gynnes i'r Golygydd am ei lith ardderchog ac amserol yn y i "Darian" am yr wvthnos ddiweddaf, ¡ a'r cwestiwn gynhygia ei hun i mi j yw, Pa le mae Cristnogion Ewrop yn j awr? Llawenychaf yn y ffaith fy mod yn perthyn i blaid sydd wedi sefyll ac yn sefyll yn erbyn rhyfel. Gwn y caniata'r Golygydd i mi wneud apel at I weithwyr Cymru yn yr argyfwng presennol. Diau y condemnia llawer fi am syniadau "anwladgarol, ond gallaf ddweyd eu bod wedi eu pwyso yn ofalus. Dyma ddywedodd Ramsay Mac- donald yn Nhy'r Cyffredin y dydd o'r blaen: "Credaf fod Syr Edward Grey yn anghywir. Credaf fod y Llywod- raeth a gynrychiola ac y siarada drosti yn anghywir. Credaf y prawf ded- fryd hanes yn y dyfodol eu bod yn anghywir. Ymladdwyd rhy- feloedd y Crimea er ein hanrhydedd. Rhuthrasom i ryfel Deheubarth Affrig er diogelu ein hanrhydedd. Apelia y gwyr anrhydeddus atom heddyw oher- wvdd ein hanrhydedd. Cyn belled ag y mae a fynnom ni a'r helynt, beth bynnag ddywedir am dan6m, dywedwn y dylai'r wlad gadw allan o'r rhyfel hon, oherwydd credwn yn gydwybodol y byddai drwy hynny yn gwneuthur yn iawn, ac mai hynny, a hynny yn unig, sydd mewn cytgord ag anrhydedd ein gwlad." Weithwyr Cymru, nid oes un anghydfod rhyngoch a gweithwyr y Cyfandir. Nid oes un anghydfod rhyngddynt hwy a chwi. Bodola yr anghydfod rhwng dosbarthiadau llywodraethol Ewrop. Mae dros filiwn o Undebwyr Crefftol a Sosialiaid yn Awstria, a thair miliwn yn yr Almaen wedi protestio yn erbyn y rhyfel. Weithwyr Cymru, unwch gyda gweithwyr Rwsia a Ffrainc, drwy ddweyd, er bod ein Llywodraeth- au yn cyhoeddi rhyfel, eich bod chwi yn cyhoeddi heddwch. Sefwch yn gadarn yn awr y brofedigaeth. Mae baner heddwth cenedlaethol yn fwy na baner Prydain, Almaen, Ffrainc, Awstria, a Rwsia. Chwifia dros bawb. pa raid sydd arnoch chwi i fyned i ryfel? Beth sydd gennych chwi i ennill drwy ryfel? Pa ddaioni enill- wyd gennych erioed drwy ryfel? Beth wnaeth y rhyfel ddiweddaf—rhyfel Deheubarth Affrig—drosoch ? Llof- ruddiwyd y pryd hwnnw ugain mil o weithwyr ar faes y gwaed. Yr ydych hyd yn hyn yn talu ^12,000,000 yn flynyddol o drethi ar fwyd oherwydd JJ" ymgyrch. Mae amodau byw gweithwyr Deheubarth Affrig yn waeth nag erioed. Perchnogion cyf- oethog y mwnau yn unig elwasant. Xi elwodd y gkweithwyr drwy unrhyw ryfel erioed. Nid eich rhyfel chwi yw y rhyfel bresennol. Nid rhyfel dos- barth gweithiol yr Almaen, Ffrainc, Awstria, na Rwsia ydyw, ond rhyfel cydrhwng Uchelwyr y gwahanol wledydd. Eu rhyfel hwy ydyw, ac nid yr eiddoch chwi. Rhyfel y dos- barth llywodraethol ydyw, ond ni ymladd y dosbarth hwnnw. Galwant arnoch chwi i ymladd. Gelwir ar eich tadau, eich brodyr, a'ch meibion i saethu y gweithwyr Almaenaidd. Bydd vn rhaid i weithwyr yr Almaen saethu eich tadau, eich brodyr, a'ch meibion. Nid oes yr un anghydfod rhyngoch, ond bydd raid i chwi ddioddef. Ond paham? Bydd yn rhaid i chwi dalu am y rhyfel ? Bydd raid dioddef eisiau a newyn. Bydd gwragedd a phlant yn llefain am yr hyn nid yw mwyach. Paham? Weithwyr Cymru, gellwch osod terfyn ar y gwae, hyd vn oed yn awr, os mynnweh. Nis gall yr un Llywodraeth fyned rhagddi a'r rhyfel os gall ei phobl ddweyd gyda digon o nerth, "Rhaid cael heddwch." Dywedwch hynny, ie, wrth y mil- oedd. Cerddwch .drwy'r ystrydoedd drwy ddweyd hynny. Crynhowch at eich gilydd mewn lleoedd cyhoeddus a phregethwch hynny. Dywedwch hvnny ymhob man, a pheidiwch atai dweyd hyd nes y gorfodir Llywodraeth y wlad hon a'r gwahanol wledydd i "ddal eu llaw." Weithwyr Cymru, na fradychwch eich cymrodyr y foment yma. Sef-- weh ochr yn ochr a'ch cydweithwyr yma a chydweithwyr Ewrop. Sefwch yn gadarn, os gadawa arweinwyr ein rhengoedd, ac os rhaid wynebu anaws- terau. Mae'r dyfodol yn dywyll, ond y mae unoliaeth y gweithwyr yn gor- wedd yn v gobaith a ddwg unwaith eto oleuni i werin Ewrop. Lawr a'r rhyfel. "Doed dy gleddvf yn dy wain," medd Iesu yn Z, Geth- semane. Gristnogion y wlad dihun- wch! ARONFA GRIFFITHS. Abercraf. i ■■■■
Advertising
h SARZ,NE" BLOOD MIXTUREJ CROEN IACH A GWAED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir cbwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, 1 mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, 1/li a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN ( LLETH. GWAED 1 GWAED 1 GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYP, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood ( Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynsri effelthlol at Creu Cwaed Nswydri, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar hel) Organau y Corff, drwy hyny yn laehau Dolur Pen, Olflyg Traut, Biliousness, —»» A fu Ddrw., Tarddiantau ar y Cnawd, /^A[/? /I/ TUI Cornwydon, fmfjt Tl f r Vf I/I/ Scurvy, Pllst u\5| A \l F Fits, Nlrw- ^2i\ aCV/ll ousnns, ^Jl/ Cwynt, Cwynegon (peu Cymal- wst), poen Gefn, LUIII- oago, Corlf- rwymadd ? Neuralgia. 81.i yr Aren- apt. I slider Yspryllll 8 VylVa! CyHa. BENYWODl At Anhwylderau tueddol I bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae ughes's Blood Pills" ym nodedig o effeithiol. Rhodder prawf < arnyot. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pill. hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwoh weled y Trade Mark, aef Hun Calon fel hyJI- tvW. t! bob blwoh. Heb hwn, twyU ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemiat a Stores am 1/1i, 2/t, 4¡1. Neu danfonwoh at Gwerth mewn btampa neu P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L 0.8 I Penarth, Cardiff. I Can, LienaCweriqi Gwaithy dlweddar Myfyp Wynn, sef BACHAN IFANC Y DARIAN. I Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLCH. DARNAU BARDDCNOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/. Drwy'r Poat 1/2. — I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, neu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. LAD;FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &o., they speedily afford relief and neve rfail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &0. Blanchard's are the Beet of all Pills for Woman. Sold in boxes, 1 il J. by BOOTS' Branches, and all Chemists. or post free, same price, from „BSLIE MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANB, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id, stamp r*4 PAGE Book about Herbs and how to use Dot them. Post free. 8end for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. TO prevent fraud see that you get 11 Estab- lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine.-Trimnell, The Herbalist, 144 Rich- mond-road, Cardiff. TRIMNELL'S PILLS AND POWDERS have cured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 on every label. -Tri mn ell, The Herbalist, 144 Riohmond Road, Cardiff. Agents wanted. EVERY WOMAN onould send two stamps for our 32 pai/e i I!usirated Book, containing Valuable Information how all Irregularities and Obstructions nmy tie enfirelj avoided or removed by simple means. Recem- :nended by eminent Physicians, as the unly Safe, Sure and Genuine Remedv. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established' 1862, MR. PAUL BLANCHARD, Olarranont House, Dalston 1 ane. f 'H1o. ETO DDIWRNOD ARALL GWEDDI AM BOB DYDD O'R FLWYDDYN, GAN J. H. JOWETT, M.A., 0.0. CYFIEITHBDIG L'B GVMBAEG GAN Y DIWEDDAB WILLIAM THOMAS, LLANGKFNL GOLYGWYD CAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A. PRIS SWYLLT. LLUNDAI> • Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion Efengylaidd, Memorial Hall, B.C. Y FORD. Yn cynnw a arlwy  i blank 0 bob oed, sef:- 13 o Bregethau A 13 o Delynegion. Mae'r gyfro! wedi 'i hadolygu yD y modd mwyaf ffafrxol ?' WMg ?Gsm!reig° mef^r QVJn/ru Oymru'r Beirniad, Y Cymru, Serel Ganmr, T Drywfa.. F!<t, s????' ??Mby?'n o ?? rrl  ,=, plant, &e. Y  i'w chaoi ar £ rbTn°idP^«il 0' jr Awdwt- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr. Swansea. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSaoL OntBV). Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL. evfef ArhoIiadM Parotoir yr efrydwyr ar gyfer ArhoUadau Prifysgol Cymru. Cynhygir ?ryw 0 YSgoloriaethau (rba Xf £ lyW* i 07B"7) 11 wyddyD hon. Am fanylion pellaob, ymofyner a- • B. DAVIES, M.A., Oofreatrydd. Dywedwch wrth bawb: lormas DA VIES'S COUGH MIXTURE I yn rhyddau Peswoh." ANWYD,PESWCH,?? -Mae rhai'n gyd?m bob   hinB&wdd gyfnewidiol fod l1awer 0 ddio. ddef oddi wrth )3eswch BronChitis, P&O, Dolur GwddtCc W Caothdra, Di«7» Anadl. y Mae yr 'hen Feddygim„tfc Cough Mixtur." Otto ar 1 Maen, ? yn oil « fwy nag 'A Knh amser wttu Jaw, 7y.m felus, yn cynnheau Y frest, rhydd hu au y phlegm- BW ydd doae mewn pryd yn ddigon. 1/li a 2/9 (postage, 30.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN. LLETH. THE Aberaman & WJountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the inost P..ornivent stations n Aberaman, Cwmaman. Cwmbach. Abercwmboi. Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels sbould be addressed to the MANAGEA, Public Hall & Institute, Aberaman) Aberdare Tel. P.O. 12, Aberuoatt. AM BOB MATH 0 ARGBAFFWAITH YMOFYNBR YN Swyddfa'r Leader," A Swyddfa'r "Da,.lan," 19 CARDIFF ST., ABEBDAB. DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture. Bedsteads, Bedding, (arpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. 21  srs m„„ Lane. Swansea. 21 High St 0 M<.?? I-ane, swcaltisea. rhe Largest and Cheapest Stearq Cabinet Manufactory i" South Walel"- Illustrated Catalogue, free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FBOM. Carriage Paid on an Orders abova Alt, or Oolivorodi Fret im our *w" Vows.