Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

-Y Stori. I i

Trefforest a'r Cylch. I

Adgofion am Heolyfelin. ,

News
Cite
Share

Adgofion am Heolyfelin. (YR AIL FILM.) Cynnwys y Film hon lawer o berson- au-crots yr hen amser sydd erbyn heddyw naill ai wedi cadw noswyl neu ar dynnu'r gwys i'r dalar. Prif wrthrych hon yw yr hen Sam Tomos, Ysguborwen. Pan oeddem ieu- ainc clywem yn ami am galon galedwch S hi yr hen Sam tuag at ei deulu a'r gweith- wyr. Mae D. A. Thomas wedi dweyd yn gyhoeddus droion y gwyddai beth oedd prinder arian llogell pan oedd yn y Coleg. Yr oedd Mrs. Thomas yn wraig garedig, ond yr hen Sam yn gybydd o'r iawn ryw. Nid oedd arian i'w gwastraffu yn y plas cadwai yr hen Sam wddf y sach yn eithaf tyn. Yr oedd gwaith y Sgubor ar wasgar ar II ochr mynydd Merthyr-dau bwll ac am- ryw leflau, a'r trams yn dod dros amryw I inclines i'r gwastad yn ymyl afon Cynon. Byddai hen bobl yn glanhau yr inclines, gan daflu popeth o'r neilltu. Yr hen Ddafydd Griffith, Glan-yr-afon, a'r hen Domos Domos, y Bont, oedd a'r gwaith hwn. Gweithient yn ddiwyd, ac yr oedd arnynt hwy fel eraill ofn yr hen Sam. Cerddai yr hen Sam y tram- ffyrdd beunydd, ac os gwelai ddarn bychan o lo wedi syrthio, codai ef, a byddai mor ofalus i'w ddiogelu a pe Jbuasai'n aur. Carwn allu rhoi portread byw o Sam a'i wraig. Ni welais esgidiau am ei draed heb dyllau ynddynt, ac odid na fyddai bodiau ei draed yn y golwg. Byddai fel rheol dyllau yn ei drowsis. Gwisgai bob amser got fawr o liw melyn. Ymwthiai ei grys allan ar ei ysgwyddau heibio i'r mwfflar oedd am i ei wddf. Pantiog a thyllog hefyd oedd ei het lwyd, a dygai ffon drwchus yn ei law. Petai arholiad yn ofynnol i fod yn Bwbach Brain pasiai yr hen Sam gydag I anrhydedd. Byddai ei wallt a'i locsis wedi eu troi fel bachau yn ymyf ei glustiau. Prin oedd yr enillion yr adeg hon fel I rheol, ac os digwyddai i rai o'r gweith- wyr daro ar waith gwael, fel nas gall- ent ennill bywoliaeth, ofer fyddai ceis- io dim gan y gaffers, sef John Wigley a I Llewelyn Jones. Nid oedd ganddynt hwy hawl i wneud i fyny'r diffygion yn enillion y gweithwyr. Gofalai Sam Tomos gadw'r hawl honno iddo'i hun. I Clywais fy nhad lawer gwaith yn cwyno o herwydd calon galed Sam, pan fethai gael deupen y llinyn ynghyd er gweith- io'n galed. Pan elai rhai o'r gweithwyr at Sam i j geisio ychydig o allowance pan fyddai'r gwaith yn dlawd, hynny yw y glo o ran ei ansawdd neu ei gyflwr yn gyfryw nas geHid ennill cyflog briodol wrth ei dorri a'i lanw, edrychai Sam ar eu dillad, ac os byddent yn ddidyllau, danodai iddynt eu bod mewn gwell amgylchiad- au nag efe ei hun, gan fod ei ddillad ef yn dyllau i gyd. Haerai ei fod yn methu cael dillad gwell, ac elai'r gweithwyr oddiwrtho a'u calonnau'n drwm. Nid rhyw hoff iawn oedd crots Heoly- felin o Sam Tomos, a bu rhai o honom yn ddrain yn ei ystlys. Un o boenydwyr Sam oedd John Llewelyn Jones, mab y gaffer. Un medrus oedd efe, a chyda Haw efe oeud y cyntaf y cyfarfum ag ef yn Soddy. Tennessee, a chawsom ymgom felus am droion yr yrfa. Ymhyfrydai o hyd tnewn anturiaethau peryglus. Aeth o'r lie hwnnw i Texas. Un arall o "grots drwg" yr ardal yn y dyddiau gynt yw David Johnson, Fernhill, Blaenrhondda, sydd yn oruch- wyliwr y lofa yno er's blynyddoedd. Yn dilyn y mae William Jones, mab T. Jones, y Ty Cornel; deil yntau swydd bwysig yng Nghastell Nedd. Tommy Owen bach eto oedd fel y gallestr a chyflymed a'r ewig. Y mae yntau a'i deulu wedi dychwelyd o'r Amerig er's Mynyddoedd, ac yn byw yn Nhreherbert. Un arall yw Dafydd Stephen, sydd er clod iddo wedi medru treulio'i oes yn yr hen ardal. Y mae John Elias yn yr Amerig er yn ieuanc. Yr oedd gennym ni'r crots drwg fam- au na fu mo'u gwell ar y ddaear. Can- iataer i mi gyfeirio at un o honynt. sef mam Dafydd Johnson. Dynes fechan. ysgafndroed a thrwsiadus ei gwisg yd- oedd, ac yn meddu ar dalent i goginio pethau blasus^—pastai neu bwdin; ni fu mo'i bath am bethau felly, ac arferai Tommy Hendon ddweyd fod y llyngyr yn chwibanu yn ei fol pan elai heibio'i drws gan mor ddymunol yr arogl. Rhaid cofio hefyd am Richard Lewis, sef y .Parch. R. Cynon Lewis, erbyn hyn. Hen grotyn ardderchog oedd ef ac mor drwg fel nad oedd fawr amheuaeth nad yn y pulpud y byddai ac yn addurn i'r swydd. Ar y Sadwrn pan nad oedd ysgoL cyrchem i'r Sguborwen, ac er neidio ar y "trams" ac ystranciaii ei-eill ni chafodd yr un o honom niwed. Pan welai Sam Tomos ni elai fel dyn a choll arno. Ysgydwai ei ffon yn fygythiol gan ruo arnom, a gwnaem ninnau ein goreu i'w yrru yn "wy gwallgo. Un diwrnod cymerodd Jac Llewelyn arno feddwl taw bwbach brain oedd Sam, gafaelodd mewn darn o I oa tharawodd ei het i ffwrdd. Gwnaeth Sam fwy o swn nag a wna bwbachod fel rheol, ac er nad b"fj III oeddem bu raid i ni ddianc ar ff r Bu cryn holi pwy oedd y crots-, ond nr y gwyddai llawer, buont yn ffyddion i'w dyledswydd a chadwyd y gyfr n- ach. (I Jbarhau.)

Llith o Abertawe.

Advertising