Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
A CERTAIN YOUNG COUPLE ARE MISSING The Wonderful Bargains now on offer In the vast Selection of HOUSEHOLD FURNITURE, CARPEl S, LINOLEUMS, &c., held by BEVAN & COMPANY. Ltd., Swansea, Cardiff, tc. PRESS OPINIONS. The Firm fltande in the front rank of the fur- nishers of the United Kingdom. "—Newport" Argus," December 4th, 1913. To have honourably conducted a business for such a long period until it has attained its present huge proportions with Branches in all the principal towns in South Wales is surely a just reason for pardonable pride. "-Cardiff Western Mail," December 17,1913. Generations of uninterrupted trading has made the name of Bevan & Company a Household Word throughout South Wales."—Swansea Daily Poet," December 20th, 1913. £ s. d. Everlasting full-sized wire-woven MATTRESSES, from 0 9 11 Full-sized home-made FEATHER BED and BOLSTER, from 1 12 6 VERY massive Iwo-inch pillar BEDSTEADS, from 1 12 6 The Largest Selection of OVERMANTELS in this part of the King- dom from 0 12 6 J An Excellent Stock of DINING-ROOM SUITES, from 3 19 61 A Fine Array of DRAWING-ROOM SUITES, all coverings, ftom 7 17 6 Walnut SIDEBOARDS in great variety, plat-glass backs 3 16 6j t s. d. Expanding DINING TABLES, from 1 12 6 Handsomely-bordered CARPETS, ready for laying, from 0 18 11 Capital AMERICAN ORGANS (ten years' warranty), from 7 12 6 The excellent 'COTTAGE' PIANOFORTE Full Compass, Handsome Walnut Case 15 15 0 The celebrated "PRINCIPALITY" PIANO (hundreds sold. A splendid Instrument in every particular 29 8 0 w GENERAL PARTICULARS. Terms:-CASH OR CREDIT! PricesVERY LOWEST POSSIBLE! I I)elivery:-FREE UP TO 200 MILES I Catalogues: GRATIS & POST FREE!
-Y Stori. I i
Y Stori. NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MON. GAN J. TYWI JONES. I PENNOD IX. I Yr Ecsodus. I Byth er y noson y crogwyd Sparcer ganddo nid oedd Jac Martin heb achos i ofni fod ei fywyd mewn perigyl. Pan ar ol cwnhingod yn y no6, ei gi fwy nag unwaith a'i gosododd ar ei. wyliadwr- iaeth. Gwyddai yntau yn dda pwy oedd ganddo i'w ofni. Aethai hanes y "crogi" trwy yr holl wlad a daeth i glustiau'r gwarcheidweid. Triniwyd Sparcer yn chwerw gan y rhai hyn am ei fod trwy ei annoethineb wedi gwarthruddo ei hun fel swyddog cy- hoeddus. Bygythiai ei gyfeillion, oedd- ent wedi arfer ei amddiffyn, ei daflu dros y bwrdd y tro hwn, ac yr oedd yntau mewn bustl chwerwder, a llof- ruddiaeth yn ei galon. Gwyddai yn dda na fyddai iddo heddwch lie byddai Jac Martin. Un boreu pan gododd Jac gan fwr- iadu mynd i'w rodfeydd arferol, gwel- odd ei gi ar drengu, wedi ei wenwyno gan rywun yn ystod y nos. Daeth i'w feddwl ar unwaith fod hynny wedi ei wneud er mwyn i rywun fedru cymeryd mantais arno ac yntau yn ddiam- ddiffyn. Galwodd ei dad ato ac eglur- odd iddo'r sefyllfa. Rwan, nhad," meddai Jac, rydan ni wedi cael yr enw Genesis yn yr I Henfwth, ond rydach chi'n gweld mai'r peth gora i mi Jbellach fydd gneud Ecsodus o honof 'hun gynteg ag y medra i." "Jac annwl, lle'r ei dy?" gofynnai Mathew. "I Gwm Rhondda at Huw Morus," meddai Jac. Anfoddlon iawn oedd Mathew i Jac dorri ar draddodiadau'r teulu, ond gan mai mynd a fynnai nid oedd ond* dymuno'r goreu iddo. Byth er yma- dawiad Huw Morus, ffynasai cyfeill- garwch mawr rhwng Jac Martin a Nanno Meurig, cariad Huw. Siarad- ent gryn lawer am Huw, ac yr oedd doniolwch Jac a'i duedd reddfol i roi'r liw goreu ar bawb a phopeth lie byddai ei gydymdeimlad wedi peri cryn esmwythdra i feddwl Nanno. Gohebodd Nanno a Huw parthed bwriad Jac i fynd i Gwm Rhondda, ac addawodd yntau ei gyfarfod yng yng Nghaerdydd. Ni fu'r fath hiraeth erioed yn Llan- dderwydd a'r boreu yr aeth Jac Mar- tin, yr "angen cwnhingod" i ffwrdd. Ni ddisgynasai yno'r fath gawodydd ;;■* o fendithion a dymuniadau da ar ben neb. Ymhlith yr anrhegion a gawsai ar ei ymadawiad yr oedd Beibl a Llyfr Hymnau oddiwrth Nanno a'i meistres, sef Mrs. Edwards, Rhoseithin. Prisiai y pethau hyn uwchlaw popeth arall, a thystiai y dechreuai yntau ddarllen y Beibl bellach, ac y byddai wedi ei ddarllen o glawr i glawr cyn y dych- welai, a gwyddai pawb na fyddai ef byth yn addaw na bygwth heb feddwl eyflawni. Cafodd Jac ei hun un prynhawn yng Nghaerdydd yn unig ymhlith di- eithriaid, a Huw Morus heb fod yno yn ei gyfarfod yn ol yr addewid. "Keb, sir?" "Keb, sir?" gofynnai hanner dwsin i Jac ar ei ffordd allan o'r stesion. "No, thank you, gentlemen" medd- ai Jac. "Pwy ma rhain yn feddwl ydw i, tvhad It Ydan nhw'n meddwl mai fi ydi'r Marcwis of Anglisi?" gofynnai Jac rhyngddo ag ef ei hun. Wedi iddo holi a'i gyfeirio i stesion arall i fynd i Gwm Rhondda. clywai lais o'r tu ol iddo'n gofyn: "Sut rydach chi, wr diarth?" Trodd Jac i gyfeiriad y llais. "Ydach chwi wedi dod o bell heiddw 1" gofynnai dyn na welsai Jac erioed o'r blaen mo hono. "Y dw," meddai Jac- "0 Shir Fon. decent "Ie." "Roeddwn i'n ama. Mae dy leferydd yn dy gyhuddo di, chwedal yr hen Air hwnnw. t'n o Sir Fon ydw inna hefyd. "Ma'n dda iawn gin i gwrdd a chi. Lie rydach chi'n bywT ? Ydach chi ddim yn dod i rywle'n agos i Gwm Rhondda heno. cletidNi-eli r' gofynnai Jac, gan feddwl mai da fyddai cwmni gwr cyfar- wycld. Y d, n taid. Yno rydach chitha'n mynd felly?" mfcddai'r gwr dieithr. Ie, i Donypandy," meddai Jac. Me d dal Jac. Tyda ni wedi bod yn ffodtts," meddai'r gwr dieithr. ni awn hefo'n gilydd, does dim angen am i chi frysio, ma gynnon ni ddigonadd o amsor." Wel, gan mod i wedi cael cwmni un o'r hen shir, mi alia fod yn dawel, ond roeddwn i wedi meddwl dal y tren cynta gawn i fynd i fyny hefo fo." "Prin," meddai'r gwr dieithr, "y medrech ddal hwnnw, a fydd yn werth i chi gael golwg ar Gaerdydd. Ydach chi'n cymryd glasiad weithiau, deu- dwch?" "Rydw i wedi cymyd llawer o honyn nhw," meddai Jac, "ond tydw i ddim am gymryd glasiad tra fyddai i yn y Sowth. Rydw i wedi gaddo peidio, a be dal dyn ond ei air." "O," meddai'r gwr dieithr, "naiff glasiad, weithia, niwad yn y byd i chi. Ma'r Hwntws yma i gyd yn yfwrs trwm iawn, a'r rhai sy'n yfad sy'n gneud ora hefo nhw. Tacla ofnatsan ydan nhw. cofiwch. Y ffordd ora i fyw hefo nhw ydi i gneud nhw bob cyfla gewch chwi, ne mi gnan' nhw chi." "0 felly!" meddai Jac, dipyn yn amheus o athroniaeth y drefn hon, "ffordd ryfedd iawn ydi honna hefo pobol ydych chi'n byw yn i canol nhw. Tydw i erioed wedi arfer gneud neb." Wel, nhw'ch pluan chi 'nte," meddai'r gwr dieithr. Ma fo'n reit wir i chi. Ond prin rydw i'n coelio'ch bod chi mor ddiniwad ag ydach chi'n ceisio gneud ych hun." Cofiodd Jac mai o herwydd crogi Sparcer yn bennaf yr oedd yno. Ych- ydig a feddyliai fod hanes yr helynt hwnnw yn wybyddus i'r hwn oedd yn siarad ag ef. Wrth holi'r gwr dieithr ymhellach cafodd allan ei fod yn ad- nabod Huw Morris, ac fod ganddo syn- iad uchel am dano. Wedi ymgomio 'mhellach am wahanol bethau, meddai'r gwr dieithr o'r diwedd: "'Roedd gin i amcan yn ceisio gyn- noch clii i ddod i mewn. Ond dewch at y 'glenni fan yma am funud. Fedrwch chi neud allan be ydi hwn 1" "Medraf, ydw i'n meddwl," meddai Jac, cheque ydi o am .bum punt." Dyna fo. Mi fethas i fynd i'r bane mewn pryd, a does gin i ddim ond tair ceiniog o arian parod hefo mi. Fasach chi ddim ym medru rhoi benthyg rhyw bum swllt i mi tan awn ni i Donypandy. Chi gewch aros yn ein ty ni heno. Eisio'ch cael chi i mewn oedd arna i er mwyn i chi gael gweld hwn a gneud cymwynas hefo minna, gan y'n bod ni yn mynd hefo'n gilydd," meddai'r gwr dieithr. I Faswn i'n rhoi pum swllt i chi," ond swllt sy gin i heb newid sofran," meddai Jac. Wei, da chi dowch i mewn fan yma i gael newid. Ellwch yfad potelad o bop." Trodd Jac i fyned i mewn i wneud cymwynas a'i gydymaith. Anodd yw dweyd beth fuasai canlyniadau y cam hwn iddo. Ond trefnasai Rhagluniaeth ddoeth nad oedd i fyned i'r rhwyd. Helo, Martin"' meddai llais arall yn ei ymyl. Trodd Jac a gwelai y Parch. Morgan Rhys yn estyn ei law iddo, a gwen groesawus ar ei wyneb. "Mistar Rhys!" meddai Jac mewn syndod. Safodd y gwr dieithr o'r neilldu. "0 ble dethoch chi? Pwy fyse'n meddwl am ych gweld chi yng Nghaer- dydd?" gofynnai Morgan Rhys. Heddyw 'does i lawr. Rydw i wedi dod i gael gweld be fedra i neud o honi yn y Sowth yma. 'Roedd arna l eisio troi dalan fel ma nhw'n deud, a 'roedd- wn i'n teimlo na fedrwn i ddim newid y cyfeiriad yn Llandderwrydd rywsut," meddai Jac. Pam na fysech chi'n treio am swydd crogwr, Martin, yn lie B-? Mae e wedi rhoi')' gwaith i fynny. gofynnai Morgan Rhys. "Ha! ha" chwarddai Jac. faswn i ddim yn leicio rhoi rhaff am wddw neb. Am 'u canol nhw bydda i yn i rhoid hi pan fydda i'n crogi, a fasa hynny ddim yn atab y diben sy gin y llywodrath mewolwg, Mistar Rhys. Wei. ma'n dda gen i mod i wedi cwrdd a chi. Chi newch yn iawn yn y Sowth yma. Rw inna i lawr yma am ddau Sul. I ble ry'ch chi'n mynd heno, Martin ?" gofynnai Morgan Rhys. I Donypandy. Rydw i wedi cwrdd a dyn o Shir Fon, a mae o'n mynd i gymryd gofal o hono i," meddai Jac. "Felly, ond ble ry'ch chi'n mynd nawr ?" gofynnai Morgan Rhys, gan edrych ar y dafarn oedd o'u .blaen. 'Roeddwn i'n mynd i mewn hefo fo i newid sofran fan yma. Toeddwn i ddim ym meddwl yfad dim chwaith. Rydw i wedi deud na yfa i ddirn tra fydda i yn y Sowth. Ond 'toedd gin y gwr diarth yma ddim arian parod, er fod gynno fo cheque am bum punt. a roeddwn ihna am roid benthyg tipyn iddo tan aetha ni i Donypandy," meddai Jac. Cymerwch bwyll. Martin, galwch arno fe yma," meddai Morgan Rhys. Galwyd y gwr dieithr, ysgydwodd Morgan Rhys law ag ef, a gofynnodd iddo: Mo'yn newid cheque y'ch chi'n te? Gaf fi i gweld hi? Falle gallwn i 'nhewid hi i chi?" meddai Morgan Rhys. K a, syr, fydda i ddim yn hitio rhw lawar am i nhewid hi heno mwy," meddai'r gwr dieithr. 0 felly," meddai Morgan Rhys, "rw i bron yn siwr mod i wedi rhoi pris y tren i chi o Gaerdydd i Donypandy o'r bla'n. Nawr, gore pwy gynta rhowch chi'ch tra'd yn y tir, y scowndrel "Rydach chi'n harllug iawn, wr di- arth. Fydd yn well i chi i chymryd hi'n ara deg, rhag digwydd i chi rwbath a fo gwaeth. 'Tydw i ddim am gymryd gyn- noch chi er ych bod chi'n bygethwr," meddai y gwr dieithr, gan ymsythu o flaen Morgan Rhys. O, sefwch chi funed, dyco blisman yn dod. Fynnwn ni weld y cheque yna sy gyda chi nawr," meddai Morgan Rhys. Trodd y gwr dieithr ar ei sawdl. Dowch yn ych blaen," meddai wrth Jac Martin, "toeddwn i'n deud wrth- och chi am danyn nhw." "Nag ewch chi ddim gyda'r cnaf," meddai Morgan Rhys. Rhoddodd y gwr dieithr ei "draed yn y tir," chwedl pobl y Deheudir, ac edrycliai Jac Martin yn syn. 'Ry'ch chi'n gwbod nawr, Martin, beth oedd hwnna," meddai Morgan Rhys. Roedd o'n griadur perig, faswn i'n meddwl," meddai Jac, gresyn na faswn i wedi meddwl gofvn am i enw fo." Odd, cymerwch ofal o hyn mas pan gwrddwch chi a rhai felna. Gofalwch nag ewch chi i dafarn gyda nhw ar un cyfrif. Gyda Haw, odd rhywun wedi addo cwrdd a chi yn rhywle," gofyn- nai Morgan Rhys. 'Roeddwn i'n rhyw ddisgwyl y basa Huw Morus yma, bachgan o Lai- dderwydd acw sy yn Nhonypandy. SA. 'roedd y gwr diarth yna yn deud i fod o yn i nabod e a'i fod e yn y dre yma. Ma'n rhyfadd gin i na fasa fo wedi dwad i'r stesion," meddai Jac. Pwy yw Huw Morus? Ai fe yw'r bachgen sy'n caru Rhianon Meurig?" gofynnai Morgan Rhys. Ie, dyna fo. 'Roedd o'n mynd i ffwr yn fuan ar ol i chi ddod i Lan- dderwydd," meddai Jac. Odi e'n fachgen gweddwl o solid, Martin?" gofynnai Morgan Rhys. Wel, 'twn i ddim be i feddwl o hono fo, os ydi o yn y dre yma heddyw ag heb ddod i nghyfwr i," meddai Jac. Rw i wedi clywed amheueth yn i gylch e o'r ,bla'n. Ma'n ddrwg gen i am Nanno ma hi'n ferSh eithriadol o dda, ag os galla i cheiff Huw Morus 'moni. Ond gadewch iddo fe. Dewch gyda fi i Aberdar heno, Martin. Ma'n bwysig i chi ga'l whare teg i ddechre yn y Sowth yma. Mi ffeindia i loggings a gwaith i chi yno. Gewch aros gyda fi tra fydda i yno," meddai Morgan Rhys. As you like it, sir," meddai Jac, "ond rydw i'n wynebgaled hefo pre- gethwr hefyd, ond rydw i'n teimlo fel tasa 'nhraed i ar well gwaelod rwan." (I barhau.)
Trefforest a'r Cylch. I
Trefforest a'r Cylch. I Awst y iaf, 2il, a'r 3ydd, cynhaliodd eglwys y Groeswen ei gwyl bregethu. Gwasanaethodd y Parchn. Rhys J. Huws, Glanaman; Joseph James, Narberth; Joseph Jones, Aberhonddu; a D. Emrys James, Pontypridd. Cawd gwleddoedd fel arfer yn y Groeswen. Nid oes dim i'w glywed yma, fel ymhob lie arall, ond rhyfel. Buan y delo'r dydd y ceir heddwch. Ein cysur yw mai "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu. Grymus a chlir oedd anerchiad y Parch. W. A. Williams yn y Taber- nac! nos Fawrth diweddaf, a'r teimlad oedd iddo orffen yn rhy fuan. Da oedd deall fod y brawd ffydd- I lon George Griffiths, aelod a diacon hynaf yr eglwys, wedi cael adferiad iechyd i'w alluogi i ddod i'r moddion. Mae yma gydymdeimlad mawr a Mr. William Davies, Parade, ar farwol- aeth ei briod. Bu yn nychu yn hir, a bu yn dawel a c amyneddgar yn y cystudd blin. Yr Arglwydd a gys- godo y teulu yn y brofedigaeth. Cysur mawr gennyf weled cynull- eidfa Bethlehem, Rhyfelen, yn dal mor dda. Dyma faes i ddyn ieuanc am ei oes. Cawsom Sabath hapus gyda'r frawdoliaeth. CYFAILL JOHN. I
Adgofion am Heolyfelin. ,
Adgofion am Heolyfelin. (YR AIL FILM.) Cynnwys y Film hon lawer o berson- au-crots yr hen amser sydd erbyn heddyw naill ai wedi cadw noswyl neu ar dynnu'r gwys i'r dalar. Prif wrthrych hon yw yr hen Sam Tomos, Ysguborwen. Pan oeddem ieu- ainc clywem yn ami am galon galedwch S hi yr hen Sam tuag at ei deulu a'r gweith- wyr. Mae D. A. Thomas wedi dweyd yn gyhoeddus droion y gwyddai beth oedd prinder arian llogell pan oedd yn y Coleg. Yr oedd Mrs. Thomas yn wraig garedig, ond yr hen Sam yn gybydd o'r iawn ryw. Nid oedd arian i'w gwastraffu yn y plas cadwai yr hen Sam wddf y sach yn eithaf tyn. Yr oedd gwaith y Sgubor ar wasgar ar II ochr mynydd Merthyr-dau bwll ac am- ryw leflau, a'r trams yn dod dros amryw I inclines i'r gwastad yn ymyl afon Cynon. Byddai hen bobl yn glanhau yr inclines, gan daflu popeth o'r neilltu. Yr hen Ddafydd Griffith, Glan-yr-afon, a'r hen Domos Domos, y Bont, oedd a'r gwaith hwn. Gweithient yn ddiwyd, ac yr oedd arnynt hwy fel eraill ofn yr hen Sam. Cerddai yr hen Sam y tram- ffyrdd beunydd, ac os gwelai ddarn bychan o lo wedi syrthio, codai ef, a byddai mor ofalus i'w ddiogelu a pe Jbuasai'n aur. Carwn allu rhoi portread byw o Sam a'i wraig. Ni welais esgidiau am ei draed heb dyllau ynddynt, ac odid na fyddai bodiau ei draed yn y golwg. Byddai fel rheol dyllau yn ei drowsis. Gwisgai bob amser got fawr o liw melyn. Ymwthiai ei grys allan ar ei ysgwyddau heibio i'r mwfflar oedd am i ei wddf. Pantiog a thyllog hefyd oedd ei het lwyd, a dygai ffon drwchus yn ei law. Petai arholiad yn ofynnol i fod yn Bwbach Brain pasiai yr hen Sam gydag I anrhydedd. Byddai ei wallt a'i locsis wedi eu troi fel bachau yn ymyf ei glustiau. Prin oedd yr enillion yr adeg hon fel I rheol, ac os digwyddai i rai o'r gweith- wyr daro ar waith gwael, fel nas gall- ent ennill bywoliaeth, ofer fyddai ceis- io dim gan y gaffers, sef John Wigley a I Llewelyn Jones. Nid oedd ganddynt hwy hawl i wneud i fyny'r diffygion yn enillion y gweithwyr. Gofalai Sam Tomos gadw'r hawl honno iddo'i hun. I Clywais fy nhad lawer gwaith yn cwyno o herwydd calon galed Sam, pan fethai gael deupen y llinyn ynghyd er gweith- io'n galed. Pan elai rhai o'r gweithwyr at Sam i j geisio ychydig o allowance pan fyddai'r gwaith yn dlawd, hynny yw y glo o ran ei ansawdd neu ei gyflwr yn gyfryw nas geHid ennill cyflog briodol wrth ei dorri a'i lanw, edrychai Sam ar eu dillad, ac os byddent yn ddidyllau, danodai iddynt eu bod mewn gwell amgylchiad- au nag efe ei hun, gan fod ei ddillad ef yn dyllau i gyd. Haerai ei fod yn methu cael dillad gwell, ac elai'r gweithwyr oddiwrtho a'u calonnau'n drwm. Nid rhyw hoff iawn oedd crots Heoly- felin o Sam Tomos, a bu rhai o honom yn ddrain yn ei ystlys. Un o boenydwyr Sam oedd John Llewelyn Jones, mab y gaffer. Un medrus oedd efe, a chyda Haw efe oeud y cyntaf y cyfarfum ag ef yn Soddy. Tennessee, a chawsom ymgom felus am droion yr yrfa. Ymhyfrydai o hyd tnewn anturiaethau peryglus. Aeth o'r lie hwnnw i Texas. Un arall o "grots drwg" yr ardal yn y dyddiau gynt yw David Johnson, Fernhill, Blaenrhondda, sydd yn oruch- wyliwr y lofa yno er's blynyddoedd. Yn dilyn y mae William Jones, mab T. Jones, y Ty Cornel; deil yntau swydd bwysig yng Nghastell Nedd. Tommy Owen bach eto oedd fel y gallestr a chyflymed a'r ewig. Y mae yntau a'i deulu wedi dychwelyd o'r Amerig er's Mynyddoedd, ac yn byw yn Nhreherbert. Un arall yw Dafydd Stephen, sydd er clod iddo wedi medru treulio'i oes yn yr hen ardal. Y mae John Elias yn yr Amerig er yn ieuanc. Yr oedd gennym ni'r crots drwg fam- au na fu mo'u gwell ar y ddaear. Can- iataer i mi gyfeirio at un o honynt. sef mam Dafydd Johnson. Dynes fechan. ysgafndroed a thrwsiadus ei gwisg yd- oedd, ac yn meddu ar dalent i goginio pethau blasus^—pastai neu bwdin; ni fu mo'i bath am bethau felly, ac arferai Tommy Hendon ddweyd fod y llyngyr yn chwibanu yn ei fol pan elai heibio'i drws gan mor ddymunol yr arogl. Rhaid cofio hefyd am Richard Lewis, sef y .Parch. R. Cynon Lewis, erbyn hyn. Hen grotyn ardderchog oedd ef ac mor drwg fel nad oedd fawr amheuaeth nad yn y pulpud y byddai ac yn addurn i'r swydd. Ar y Sadwrn pan nad oedd ysgoL cyrchem i'r Sguborwen, ac er neidio ar y "trams" ac ystranciaii ei-eill ni chafodd yr un o honom niwed. Pan welai Sam Tomos ni elai fel dyn a choll arno. Ysgydwai ei ffon yn fygythiol gan ruo arnom, a gwnaem ninnau ein goreu i'w yrru yn "wy gwallgo. Un diwrnod cymerodd Jac Llewelyn arno feddwl taw bwbach brain oedd Sam, gafaelodd mewn darn o I oa tharawodd ei het i ffwrdd. Gwnaeth Sam fwy o swn nag a wna bwbachod fel rheol, ac er nad b"fj III oeddem bu raid i ni ddianc ar ff r Bu cryn holi pwy oedd y crots-, ond nr y gwyddai llawer, buont yn ffyddion i'w dyledswydd a chadwyd y gyfr n- ach. (I Jbarhau.)
Llith o Abertawe.
Llith o Abertawe. GAN TALNANT. Y Rhyfel yw testyn pob ysgwrs yma y dyddiau hyn, ac yn ol tystiolaeth yr awdurdodau mae nifer luosog yn ymuno a'r Fyddin. Dylanwada yr argyfwng yn llethol ar bob masnach ond y fasnach fwyd a pheiriannau rhyfel. Parthed y fas- nach fwyd, mae gormod o fynd ar honno, a phrisoedd, mewn canlyniad i ffolineb y bobl yn rhuthro i bwrcasu gormod, wedi eu codi i eithafion mellti- gedig o afresymol. Mae masnachwyr diegwyddor yn man- teisio ar amgylchiadau o'r fath i wneud mwy o elw ar eu nwyddau. Cynhyrf- wyd pobl y dref nos Wener gan hyn i'r fath raddau nes drylliasant ffenestri rhai masnachdai a pheri i ereill gau eu siopau mewn braw yn bur gynnar yn yr hwyr. Bu y dorf o gwmpas hyd n,es hanner nos. Aeth torf arall drwy y dref gan wneud gwrthdystiad wrth y prif fas- nachdai, gan ganu ou hlaen: Britons never shall be slaves," a "We'll hang old on a sour apple tree." Dylai hyn sobri tipyn ar awch y gweilch hyn i elwa yn annheg ar draul angen y -werin. Mae nifer o estroniaid wedi eu cy- meryd i'r ddalfa o herwydd ymddyg- iadau ameus yn yr ardal. Lion gennym gael ar ddeall i'r Fon- esig Helen Protheroe, merch dalentog ein cyd-wladwr, Dr. Dan Protheroe, gael cyfle i ganu yn y City Temple, Llundain, capel y diweddar Ddr. Joseph Parker. Nos Sul, Gorff. 26ain, canodd Hear my prayer" (Mendelssohn), a chafodd gymeradwyaeth fawr gan yr organydd enwog, J. Hawkins, a Iliaws o gerddorion athrylithgar ereill oedd yn bresennol; yn eu plith y byd-enwog James Sauvage, mab-yn-nghyfraith y diweddar Llew Llwyfo, yr hwn sydd a syniad uchel am ei llais a'i datganiad celfydd. Bu ei thad a hithau yn canu nos Sul diweddaf yng Nghapel Siloam, Pentre, Abertawe, lie mae Penar yn weinidog, a Dr. Protheroe hefyd yn ar- wain y cor. e
Advertising
  MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects -of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. ———— 4 H Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. i. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.3-eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Bvd-glodus hyn yo mhob man, tnawa Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. GocHelwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am George's Ems," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, Nt,. S., HIRW IN, ABEROARL