Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Y Stori.

News
Cite
Share

Y Stori. NANNO. BYWYD PENTREFOL YM MON. (GAN J. TYWI JONES.) PENNOD VIII. Christian Dokerins. Elai pethau ymlaen yn esmwyth yn y Capel Bach. Glynai yr eglwys a'r gweinidog yn eu penderfyniad na ddy- wedent ddim wrth neb, ac na wnaent sylw o ddim a ddywedid gan neb am danynt. Nid mor esmwyth ydoedd ar y rhai aethant allan. Ni fchlywent "na siw na miw" parthed yr hyn fwriadai yr eglwys wneyd yn y mater. Y sefyllfa oedd hon-Sian a'i phlaid yn credu y byddai raid i'r eglwys wneud rhywbeth, a'r eglwys yn ddistaw ac yn bender- fynol na wnaent ddim pellach yn y mater, ond myned ymlaen fel pe na ddigwyddasai dim o werth i sylwi arno. Dechreuai Sian holi yn bryderus ar hyd a lied y pentref ymhen ychydig wythnosau— Yda nhw ddim am neud dim tua r Capal Bach yna deudwch?" Credai Sian yn sicr nas gallai y Capel Bach fforddio. colli cynifer o bobl heb wneud rhywbeth i geisio eu cael yn ol. Mewn unrhyw drafodaeth felly yr oedd hi yn barod i chwarae ei chardiau. Dis- gwyliai y deuai dirprwyaeth o'r eglwys atynt i geisio gwneud heddwch. Felly yr arferid gwneud yno. Gallai hi, os na chai Jbopeth i'w boddlonrwydd, hawlio cael "brodyr o'r wlad" yno i orffen pethau yn raenus. Nid oedd arni ofn y canlyniadau gyda'r rhai hyn. Yr oedd eisoes wedi dechreu parotoi v ffordd i gael William Owen a Morgan Rhyp i'r llwch. Ei gofid mawr oedd nad oedd un arwydd y bwriadai yr eg- lwys roddi'r achlysur iddi i ennill buddugoliaeth unwaith eto. Taenid y su o Benmon i Ben Caergybi fod helynt na fu erioed ei thebyg yn y Capel Bach. Prin y gallai neb, er hynny, ddirnad fod unrhyw berthynas rhwng yr hanes oedd ar lafar gwlad a'r helynt a gymerodd le y nos Sul hwnnw yn ystod y cymundeb. Taenid gan rai fod y blaenoriaid yno wedi troi yn amheuwyr, os nad yn anffyddwyr hollol, ac y cefnogid hwy gan y gweinidog. Nid ystyrient fod nac ystyr na sylwedd ysbrydol mewn dim a wnaent gydi chrefydd. Rhyw fath o drefniannau clwb i ddifyrru eu hunain oedd y cwbl. Haerid hefyd fod goreuon yr eglwys, fel protest yn erbyn y sefyllfa, wedi codi a myned allan yn eu dagrau wrth weled yr anfri a deflid ar y Gwaredwr a i achos. Deuai yr hanes fel hyn i glustiau rhai o lefarwyr y cynhadleddau, ac edrychai y rhai hyn ymlaen am gyfle ardderch og i ddisgleirio yn y Cyfarfod Chwarter nesaf o eiddo'r Gymanfa yn y sir. Nid yn ami y caent achos mor ddiddorol i arfer en doniau ynglyn ag ef. Yr oedd cwestiwn o ffydd ac athrawiaeth yn ogystal a chweryl i ddyfod ger eu bron, a pharatoent areithiau tanllyd a hy- awdl, y gwrandawai pawb arnynt ?'u llygaid a'u cegau a'u clustiau yn agored. Gyda'r amcan hwn mewn golwg, aeth Ifan Siambers i Fangor i ymgynghori ag Athraw'r Athrofa parthed y llyfr goreu ar Christian Dokerins. Gan nad oedd yr Athraw gartref ar y pryd, bu raid iddo foddloni ar hynny o gyfar- wyddid a allai y myfyrwyr roddi iddo. Cynghorwyd ef ganddynt hwy yn ddi- frifol anghyffredin i fyned i siop neill- duol a phrynu dau lyfryn swllt-" The Word of Cant" a "Give the Devil his due "—fel y rhai tebycaf o fod yn fuddiol iddo ef ar gwestiwn yr athraw- iaeth, ac hefyd fel rhai oeddent mewn bri mawr yn y Colegau. Bu'r ddau lyfr hyn yn agoriad llygaid i Ifan Siambers. Gwelai yn awr sut yr aeth Morgan Rhys yn anffyddiwr. fan grybwyllwyd achos y eweryl yn Llan- dderwydd vn y Cyfarod Chwarter fel un a ddeuai vn rheolaidd o dan y pennawd Materion Ereill oedd ar y rhag- len, cododd Ifan Siambers, ac mewn araith hir a sychlyd, gwnaeth ymdrech orchestol i brofi fod "mwy na chwestiwn o gweryl rhwng personau a'u gilydd yn oblygedig yn achos Llandderwydd. Tystiai fod sylfeini'r ffydd mewn pervgl yno, ac fod y drwg yn cyrraedd ym mhellach na Llandderwydd. Yr oedd yn bryd oferholio'r Colegau. Hwy oedd yn llygru'r athrawiaeth drwy Nven- wynb y meddyliau ddeuent i'r pwlpud- au drwyddynt. Bu ef yn gwneyd ym- chwiliad ar ei gyfrifoldeb ei hun i'r hyn a ddysgid ynddynt. ac yr oedd wedi ei synnu. Yr oedd wedi prynu a darllen dau lyfr Seisnig a astudid gan y myfyr- wrr, a'r unig gasgliad y gallai ef ddyfod iddo oedd fod y Colegau yn disgyblu r bechgyn i ddymchwel ffydd yr eglwysi. Hawliai gael pwyllgor o ddiaconiaid i oruchwylio maes yr efrydiaeth yn y Colegau, ac i brofi "orthodoxy" pob gweinidog newydd a ddeuai i'r Sir. Drwy gydsyniad a chymeradwyaeth pwyllgor felly yr elai pob myfyriwr i'r Colegau, a chredai nad oedd ond teg iddynt fyned drwy ddwylaw yr un pwyllgor ar eu dyfodiad o'r Colegau, fel y gellid cael allan pa un ai er drwg ai er da v llafuriasant. Buasai yr hyn a geisiai ef, pe mewn arferiad, wedi osgoi y gwarthrudd a'r blinder a oddiwedd- odd yr achos yn Llandderwydd. Cymerodd gryn amser i frodyr call y gynhadledd i argyhoeddi Ifan nad oedd yr un o'r ddau lyfr a enwodd yn cael eu hastudio mewn unrhyw Goleg, ac mai ei gymeryd yn ysgafn a wnaethai y myfyrwyr. Prin y credai ef fod y fath beth yn bosibl. Bu raid ei gymeryd yn ysgafn yn y gynhadledd drachefn cyn cael taw arno. Cawsai un o'r brodyr yr hanes gan y myfyrwyr eu hunain, a thystiai hwnnw mai cymeradwyo y ddau lyfr a ddarfu iddynt fel rhai fydd- ent yn debyg iawn o fod yn fuddiol i Ifan ei hun. Cynghorai y brawd hwn ef yn garedig i adael Christian Dokerins a'r iaith Saesneg yn Honydd, a chyfyngu ei hun i "Ser" yr enwad a'r "Hauwr." Aeth cryn amser i osod Ifan yn iawn, a buwyd yn hir iawn yn dod at y 'cweryl,' er difyrrwch mawr i Morgan Rhys a Wiliam Owen, a siomedigaeth dost i Ben a Ned Huws, a ddaethent yno i gynrychioli Sian. Pan ddeuwyd at yr achos o'r diwedd, treuliwyd y gweddill o'r amser i ym holi.beth fyddai oreu wneyd, ynghyd a'r angen mawr am ddoethineb mewn achosion o'r fath. Yna cododd rhywun i ddyweyd y carai ef, cyn clywed rhagor, gael gwybod beth oedd eisiau'i wneud yno. Y canlyniad oedd iddynt gael allan nad oedd ganddynt hawl i drin y mater o gwbl hyd oni ddeuai cais oddiwrth yr eglwys yn ogystal ag oddi- wrth y rhai aethant allan, yn ol gofyn- ion y rheolau. Ffrwyth yr holl ymdrin- iaeth oedd penderfyniad yn "annog yn garedig y blaid arall yn Llandderwydd i ganiatau i'r Gymanfa ddewis rhai i'w cvnorthwvo i adfer heddwch yn eu plith." Edrychai rhai o'r cynadleddwyr yn erfyniadol ar Morgan Rhys a Wiliam Owen pen basiwyd y penderfyniad hwn. Ni chaed oddiwrthynt hwythau nac am- nad na gair y cydsynient nac y cyflwyn- ent y mater i'r eglwys. Parodd eu dis- tawrwydd hwy gryn ofid i rai, ac fel pe i'w rhoddi ar eu gwyliadwriaeth, cod- odd Mr. Speicem a dywedodd: 'Rydw i yn hollol gydweled a'r penderfyniad sydd newydd ei basio, ond mae eisiau i ni gofio mai ein dyledswydd ni mewn amgylchiadau eithriadol yw gadael pob I rheol o'r neilltu. Y mae y rheolau yn bodoli er mwyn yr achos, ac nid yr achos er mwyn y rheolau. 'Rydw i am awgrymu i'r blaid arall yn Llan- dderwydd i gadw hyn mewn cof gyda'r penderfyniad sydd wedi ei basio, a na fedran nhw ddim llechu yng nghysgod rheol, os bydd amgylchiadau yn galw am i ni ymyrraeth." Unig atebiad Morgan Rhys a Wiliam Owen oedd gwen hapus ar eu hwyneb- au. Cyn i'r Cadeirydd gael amser i alw ar un i derfynu'r gynhadledd trwy weddi, cododd Ned Huws ar ran Sian ni feiddiai ef fyned adref heb ddweyd rhywbeth. Tyhiodd y cynrychiolwyr mai am ddangos ei farf iddynt yr oedd, wrth ei weled yn tynnu ei law drosti ac yn dal y droell. Yna cauodd ei lygaid, ac agorodd pawb eraill eu llygairl hwythau. Meddai Ned o'r diwedd :— 'Rydw i-yn ddiolchgar-na fedra i-- ddim deud-i Mistar—Ifan—o'r Siam- ber-a-Mistar Speicem—, a'r ewbwl- ddeuda i-rwan-ydi 'radnod honno —o—lyfr y pygethwrs-yr hyn wyt-ar fedar i—neud—o—wel—gna—ar—frys— 0 frodyr—tyred—drosodd—cynorthwya -ni. Aethai yr amser erbyn hyn ymhell, a therfynwyd trwy weddi heb gofio dewis heddychwyr i fyned i Landderwydd (s digwyddai i'r blaid arall gydymffurfio a'r cais. Ar gyfrif hyn, mae'n debyg, y llongyferchid Morgan Rhys a Wiliam Owen ar ffrwyth yr ymchwiliad. Ymffrostiai Sian y byddai Mistar Speicem yn Llandderwydd yn fuan eto i wneud trefn ar bethau, ac y torrai "y rheola yn dipia" os byddai angen i gael pethau i'w lie. (I barhau.)

Advertising

I j Ferndale. !-I

Nodion o Frynaman.

I Abercanaid. I-

Advertising