Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Rhai o Ryfeddodau yr Aifft…

News
Cite
Share

Rhai o Ryfeddodau yr Aifft I GAN D. D. JONES, Coldstream Guards, Chelsea Barracks. II. Eithriad heddyw yw i ddyn baratoi ei fedd ei hun. Yn hyn o beth teith- iasom ym mhell oddiwrth yr hen Aifftiaid, oblegid beddau yw y pyra- midiau a adeiladwyd, gan mwyaf, gan frenhinoedd tra yn fyw i ddiogelu eu cyrff ar ol marw. Tybid pryd hwnnw, yn yr Aifft, fod y rhan anfarwol o ddyn, ar ol ysgariad yr angau, yn crwydro am oesoedd drwy wahanol brofiadau, ac wedi hynny yn dychwelyd i geisio y peth er trigo ynddo drachefn ym mhlith dynion. Peth pwysig felly oedd cadw y corff rhag llygru. Ceisid gwneud hynny drwy ei ber-arogli, a gofalu ei gladdu mewn bedd mor ddiogel ag oedd modd. Nis gallai hyd yn oed frenin ymddiried mwv i'w olynwyr na'r gwaith o ber-arogli ei gorff; daeth yn rhan bwysig o ddyledswydd y penaeth i baratoi diogelfan ei gladdedigaeth ei hun. Ac nid y brenin yn unig wnai hynny; yr oedd r un mor angenrheidiol i'r deilia1 i sicrhau fod ei gorff ar gael pan ddychwelai ei ysbryd o wlad y cys godau. Ond rhaid oedd i'r tlawd fodd- loni ar fedd yr un faint a'i boc-i Felly o amgylch pyramid anferth y brenin ceir rhai by chain lie gorweddai ei weision. Mae yn werth cofio taw pyramid yw y gwaith celfydd hynaf ar y ddaear y mae gennym hanes credadwy ar glawr am dano. A phan ystyriom amcan yr hen feddau hyn gwelwn mai un o ffeithiau mawr y Narci-Id- iad borcuaf oedd ffydd mewn bj è anweledig a bywyd tu draw i'r l-edd Ond tyrd ddarllenydd gyda mi i weled y pyramid mwyaf. Digwydda hwnnw hefyd fod yn un o'r rhai per- ffeithiaf, sef carnedd fawr Cheops, un o saith rhyfeddod yr hen fyd. Fe saif bron yr oil o'r pyramidiau ar ucheldir, y tu gorllewinol i'r Nil, gerllaw i Cairo, prif-ddinas bres- ennol yr Aifft. Yr agosaf i Cairo, a'r mwyaf nodedig, yw tri phyramid Giza, un o'r rhai yw eiddo Cheops. Gorwedda y carneddau eriftll tua'r deheu i'r tri hyn, rai dwseni a hon- ynt, un yma ac arall acw, am ryw ugain milltir o ffordd. Heblaw y pyramidiau, ar hyd a lied yr ucheldir hwn, mae yna feddau eraill yn ddi- rifedi, o wahanol ffurfiau, ac yn perthyn i wahanol oesoedd. Nid yw y rhan hon o'r wlad ond mynwent fawr hen ddinas Memphis a orweddai un amser yn y gwastadedd islaw ar lan yr afon. Pan gychwynwn o Cairo gwelwn byramidiau Giza yn glir, fel pinaclau bryniau, chwech milltir oddiwrthym Sylweddolir eu maintioli yn oreu o bell. Siomir ambell un pan jn agos atynt. Y rheswm am hynny, greuii i. yw nad yw eu hochrau yn unions) th, Maent yn gogwyddo oddiwrtf n- fel t6 ty, ac felly ymddangosant yn llai nag ydynt i un a sylla arnynt o agos. Mae tramffordd o Cairo i'r pyramid- iau, ac awn gyda honno hyd o fewn chwarter milltir iddynt. Pan ddis- gynwn o'r tram ymgasglai dwseni o hogiau o'n hamgylch. Cynhygiai rhai gamelod neu asynod i'n cario; dymunai eraill fod yn arweinyddion i ni ar draed; eraill am werthu eu nwyddau. Poena llawer ni am rodd- ion (bac-shish). Mae twrdd yr oil yn fyddarus. Y ffordd hawddaf o'r dryswch yw cyflogi asyn, a chofio cytuno ym mlaen 11aw beth i'w dalu. Yna fe ymedy yr haid a ni i boeni ym- welwyr eraill. Ca ambell un ei berswadio i gym- eryd camel. Ond mae y creadur hwnnw yn siglo gormod, fel Hong mewn storm, a pherigl i'r anghyfar- wydd deimlo rhyw gynhyrfiad o'r gwaelodion-tebyg i eiddo clefyd y mor! Heblaw hyn mae cwymp o uchder cefn camel yn beth mwy ddi- frifol na disgyniad sydyn dros glustiau Ned. Felly cymorth y gwr a'r clustiau hirion gawn i ddringo i fyny y rhiw serth, dywodlyd, a'n harweinia i'r ucheldir. Mae ein cefnau yn awr ar y gwastadedd ffrwythlawn a gyrhaeddir gan ddwfr y Nil, a'n hwynebau ar y pyramidiau ac ar ddiffeithwch mawr y Sahara tu draw iddynt. Pyramid Cheops gyrhaeddwn gyn- taf. Meddiennir ni a braw wrth gofio fod yr adeilad anferth o'n blaen wedi gor-oesi ugeiniau o gan- rifoedd. Daw Genesis i'r meddwl eto. Cofiwn y crybwylliad cyntaf yn yr hen lyfr am yr Aifft, sef hanes Abra- ham yn tramwyo yno. Yn sicr, nis gallai yr hen batriarch lai na gweled y pyramidiau. Amhosibl i ymwelydd a'r rhan bwysicaf o'r Aifft beidio a'u canfod. Pa amseriad bynnag gys- ylltwn ag ymweliad Abraham a'r wlad, rhaid i ni osod y pyramidiau lawer yn foreuach. Felly dyma ni o flaen adeilad welodd Abraham, un a godwyd o leiaf fil neu ddwy o flwyddi cyn ei amser ef. Nid oes hanes yn y byd ond ar furiau hen feddau a themlau yr Aifft a a ni yn ol mor bell. Ceir dau ofyniad weithiau yng nglyn a'r pyramidiau. Y cyntaf yw Paham na allodd dyn ar hyd ei hanes godi adeiladau eraill ydynt wedi herio amser fel y rhain? Yr ail ofyniad yw Pa fodd yr adeiladwyd hwynt? Bydd ateb yr olaf yn rhoddi goleu ar y cyntaf, a cheisiwn wneud hynny wrth graffu ar byramid Cheops sydd yn awr o'n blatin. Adeilad pedair ochrog yw, yn I llydan ar y gwaelod ac yn culhau yn raddol tuag i fyny hyd nes cyferfydd y pedair ochr mewn llwyfan bychan ar ei ben. Mae ei waelod yn cuddio tair erw ar ddeg o dir. Mesura pob ochr ar y gwaelod saith cant a hanner o droedfeddi. Ei uchder presennol yw pedwar cant a hanner o droed- feddi. Heblaw ffordd gul arweinia i fcwn iddo, ac ychydig o ystafelloedd yn y canol, nad ydynt mewn cyd- ) mariaeth ond tyllau bychain, nid oes wacder o'i fewn. Mac yr oil yn graig svlweddol, wedi ei ffurfio o feini mawr, lawer o honynt yn dynelli o bwysau, wedi eu trin yn bedair och- rog. Mae pwysau yr adeilad tua saith miliwn o dynelli. Math o gerrig calch yw y nifer mwyaf o'r meini, wedi eu cloddio o'r mynydd sydd tu arall i'r Nil. Felly cawsant eu cario dros afon lydan a'u llusgo wyth neu ddeg milltir o ffordd. Heblaw trin y meini mawr a'u cael i'r lie, rhaid ei fod yn waith miloedd o ddynion am I flynyddoedd i'w codi yn adeilad fel j hwn. Mae llawer o ithfaen (granite I y Sais) y tu fewn, yn feini anferth, I wedi eu dwyn gyda'r afon dros bum I can milltir o Asswan. Rhaid gadael hyd y tro nesaf ein profiad yn dringo y pyramid; yn gwthio ein ffordd trwy yr twll cul i'w ganol, ac hefyd yr eglurhad a roddir inni gan ymchwilwyr diweddar ar y I modd yr adciladwyd ef.

Seer, ger Porthcawl.

Advertising

Am Dro i'r Neuaddlwyd. I

Cynhadledd yr Ysgolion Sul…

Eisteddfod GenedlaetholI Llydaw.

Advertising

iNodion Heolycyw.

Advertising

I Tonyrefail a'i Helyntion.

I Cwmaman.