Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Er Cof .i - I

News
Cite
Share

Er Cof .i I DEWl ALAW. I GAN GOCH Y BERLLAN. I B Gwyr "cylch cyfrin y Bont i Brynfab fod a'i guddbeithiadur ("camera obscura ") ei awen o am- gylch yn tynnu lluniau twysged o feirdd, a cherddorion, a gwyr lien y Bont, a'r cylch dro yn ol. A dywedir fod "Darluniau y Beirdd gan Ffrwd- wyllt yn mynd i'r cysgod, yn ymyl y lluniau a geir gan Brynfab, yn gym- aint ag fod "Gwr y Sgubor yn tynnu yn ddyblig, yr allanol a'r mewnol. A llyma y portread penigamp o Dewi yn ei wisg, a'i osgo, a'i ddull, a'i fyfyr: Os cwrddwch a dyn Yn dod wrtho'i hun A phib yn ei ben,— Fu unwaith yn wen,— Wei dyna etc: Y dyn mwyaf gwreiddiol, Nid ar yr holl heol, Ond yn yr holl le. Daw 'mlaen trwy y'stryd Heb weled dim byd, A welir gan lu Sy'n teithio bob tu; Ond eglur y gwel Ledrithion cerddorol A ffurfiau barddonol Ble bynnag yr ê1. Nid ydyw mewn brys Yn llewis ei grys, A chyn mynd yn hen Cyrhaeddai y tren Ar ol iddo fynd; A mygu a mygu 0 bellder heb wylltu A wnelai'r ffrind. Olwynion y byd Chwyrnellant o hyd, Ac amser a ffy 0 dwll a dol, Ac felly, naturiol Fod dyn mor hamddenot Bum munud ar ol. Anrhydedd y -gan A geidw yn lan, A chlvwir ei chlod t O'i enaid yn dod, Yn don ac yn dine; Ac nid yw fel dynion Sy'n hael ar y sebon A phrin ar yr inc. Os digon swrth yw, Ei frawddeg sy'n fyw 0 ffraethder nad all Dyn ffol na dyn call Ddwevd ail iddi hi; Ni wna byth yn anghall Ddynwared dyn arall I ennill ei fri. Yn byw'n yr un ty A balchder ni bu, Ac ni bu ei wrych Yn dreth ar y drych, Ond ambell waith; Ond bydd yng nghyfrinjon Mozart a Mendelssohn Chwe dydd o bob saith. Ni welir yn chwim Ei debyg mewn dim, Fel beirdd fu o'i flaen,- A d'wedyd yn blaen,— Gwnai "bopeth yn groes"; Ond boed iddo bellach Gael oriau disgleiriach I ddiwedd ei oes. Dyna foncyff o natur, ac athrylith hunanwrteithiedig, ac ni ellid ond yn anaml dod i gyffyrddiad a gwreidd- iolach o fewn deuddeg sir Cymru. Cusanodd ei fam ef am y tro cyntaf ag anwyldeb ei henaid ei hun mewn bwthyn to gwellt yn y Cei Newydd. A rhyw hen Buritan Ymneilltuol yn Maen-y-Groes fu yn rhoi "gwlith y fendith ar ei dalcen crib-fawr, a gwn fod hwnnw erbyn hyn yn ifelch fod y fath delpyn o athrylith wedi bod yn ei gol. Wedi tyfu yn llanc, cafodd ei hun yn ysgol seiri llongau y Cei, a digon tebyg fod yna dipyn o fri ar y porth- ladd y pryd hwnnw. Ai tybed fod yr hen Sian Geir annwyl wedi gweled "gwyneb haul a llygad goleuni y pryd hwnnw yn ei bwthyn llwyd-Iwm ar fin y don yn nhraeth Llanina. Cofi- on fil ati, yr hen farddones ddiddan, os yw tu yma i gylch y rhai sydd wedi angori yn nhawelwch y bedd. Ond gadawodd Dewi fro ei dadau, a daeth i Ferthyr Tydfil, pan oedd y gamlas a'r badau mewn bri rhwysg- fawr. Ac yma y cafodd efe wraig na bu ei charedicach na glanach ar ael- wyd, ac ni cheid par mwy cwm- ffwrddas na hwy hyd ddydd ei thranc hi. Disgynnodd ei goelbreta wedi hynny ym Mhontypridd, ond bu am ryw ys- paid o amser yn torri ei "fara chaws" allan wrth saernio badau ym mhen uchaf Cwmlas Aberdar. Ar dwthwn hwnnw yr oedd Alaw Goch yn ei Aod- au yn y cylch, a'i wladgarwch, a'i ddyngarwch yn deimledig o— "Lanandras i Dyddewi Ac o Gaergybi i Gaerdydd." Ac eraill o gyffelyb feddwl yn y cylch, ac yn egin enaid y genedl, megis Telynog, Hywcl Ddu, Pantygerdinen, Gwilym Gwent, Caradog, Tafalaw, ac Alaw Ddu. A gwn na bu Dewi yn ol heb dynnu dim a allai o "sap" o'r pwerau yna, ac i ddadblygu ei athryl- ith mewn awen a chan. Yn y trom- iad nesaf ceir nodiadau Ifano a dyfyn- iadau o ffrwd awen Dewi.

I "Goddefwch air y Cyngor.

Nodion o Glyn Nedd.

[No title]

Y Golofn Amaethyddol. I .t…

i ! -I 1 Trefforest a'r Cylch.…

I : | Ar Lannau Tawe. I

[No title]

Colofn y Beirdd.

- - -.- -. - _ - "- - _- _-J…

I Gohebiaeth.