Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y DDRAMA.I

Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe.

Eisteddfod Aberaman, Mehefin…

I 0 Bwys i Amaethwyr. I

Nodion o'r Gogledd. Nodion…

News
Cite
Share

Nodion o'r Gogledd. Nodion o'r Gogledd. I GAN GLYNDWR. "Y mae yn dywydd anioddefol," dyna glywir ar bob llaw. Ag fel i dorri ar y gwres llethol cafwyd ystorm en- byd mewn parthau o Sir Gaernarfon dydd Sadwrn diweddaf (Gorffennaf lleg). Bernir i gwmwl dorri uwch ben digas Bangor. Yr oedd amryw droedfeddi o ddwfr yn amryw o'r tai yn Hirael. Lladdwyd nifer o wartheg mewn cae yn agos i'r Brifysgol. Tar- awyd ty gan fellten ffrochwyllt yn y Ceunant, ger Llanrug. Cafodd y teulu ddihangfa gyfryng. Lladdwyd amryw o anifeiliaid ar ffermydd yn Lleyn. Digwyddwn i fod gyda nifer o gyfeill- ion yn Dublin, ac ni chawsom ddiferyn o law yno. Efallai, gyda Haw, na fydd gair o hanes y wwdaith i Brifddinas Pat yn aniddorol i ddarllenwyr y "Dar- ian." Cychwynais o Gaernarfon gyda'r tren 8.22 am Fangor. Yna buom yn disgwyl hyd 12.40, pryd y cawsom dren i fyned a ni yn syth i Gaergybi. Annifyr yw teithio yn y nos: collir yr holl olygfeydd. AT ol cyrraedd gorsaf eang Caergybi bu raid i ni aros yno am yn agos i ddwy awr cyn byrddio yr agerlong, Scotia," i fyned a ni i Dublin. Yr oedd y mor fel gwydr o lonydd. Yn naturiol yr oedd llawer o Wyddelod ar y bwrdd, ac yr oeddynt yn dyrfus iawn. Cychwyn- odd fyned yn ymladdfa ddwywaith neu dair, ond gofalodd swyddogion y llestr am gael tawelwch. Yna gadawyd llon- ydd i'r Gwyddelod ganu a dawn sio yn eu hafiaith am Ould Ireland a My heart is in Erin," etc. Yna dechreu- odd nifer o filwyr oedd ar y JJwrdd ddawnsio y "Tango," er difyrrwch mawr i rai. Hyfryd oedd cael cyrraedd Dublin ar ol mordaith flin. Cawsom foreubryd gyda'n gilydd yn ngwledd-dy y Mri. Robert Roberts and Co., Lerpwl, yn Suffolk Street. Gwr ieuanc o Gaergybi oedd yn oruchwyliwr yma, ac efe oedd yr unig un a glywais yn siarad Cymraeg tra y bum yma. Ar ol boreubryd ffwrdd a ni am Phoenix Park, lie y cymerodd y llofruddiaeth alaethus le yn 1883-os wyf yn cofio'n iawn. Y mae yn lie hardd, ac yn cael ei gadw yn ofalus. Mewn un rhan gwelsom gofgolofn fawr i'r Due Wel- lington, ac mewn lie arall i'r Cadfridog Gough (dau Wyddel enwog). Wedi hynny aethom i'r Filodfa-neu y Zoo. Clywais mai hon oedd yr oreu ym Mhrydain Fawr, ond cefais fy siomi yn fawr ynddi. Yr oedd yma amryw o gawelli gweigion. Yr adrannau goreu ydoedd lie y cedwid y llewod, y jaegars, panthers, hyena, teigrod, etc. Gymaint o amrywiaeth sydd mewn lie fel hyn! Ar ol mwynhau ein hunain yn y fan hon cymerasom tram i lawr i ganol y ddinas-i Sackville Street—un o'r heol- ydd harddaf, meddir, yn yr holl fyd. Y mae yn llydan iawn, ac hefyd yn filldiroedd o hyd. Brithir hi a chof- golofnau, megis i O'Connell, Parnell, etc. Rhed yr Afon Liffey trwy y ddinas, ond rhaid dweyd nad yw yr afon hon yn ychwanegu dim at hardd- wch y lie. Y mae yna adeiladau gor- wych, ond llawer ohonynt eisieu gwas- anaeth y paentiwr. Yr oeddwn yn cael golwg fudr ar bopeth yma, bron. Ar ol cael byrbryd cymerasom tram i Fynwent Glasnevin-y fynwent hardd- af yn y byd, meddir. Yn wir, yr oedd yn werth talu ymweliad a'r fynwent hon. Y mae yn hynod o fawr, a brithir hi a chofgolofnau a cherrig naddu gorwych. Mewn un peth y mae y Gwyddelod yn wahanot i ni—codant garreg bedd ar lecyn neillduol yn y fyn- went er na fydd y person hwnnw wedi ei gladdu yno. Er engraifft, ceir carreg fedd i'r tri Gwyddel grogwyd yng Ngharchar Manchester lawer bhvyddyn yn ol, o achos y cythrwfl fu yn y ddinas yno gyda'r Gwyddelod. Ceir bedd a charreg hardd i Parnell-ernad yw wedi ei gladdu yno. Rhaid disgyn i lawr grisiau mewn un lie yno, ac yna cewch weled rhyw fath o ogofeydd a chlwyd haearn ar y fynedfa. I fewn y mae yr eirch i'w gweled-saith neu wyth mewn ami i gell. Gellir gweled arch O'Connell, ae os eir i fewn i'r gell gellir cyffwrdd a'r arch, sydd yn fregus iawn er.byn hyn. Nid oeddwn yn hoffi hyn-gwneuthur arddanghosfa o'r marw. Dywedodd Abraham, Cleddwch y marw o'm golwg." Ac fel y dywedodd y diweddar Ceulanvdd: Rhodder i'r meirw heddweh, Beunydd, a llonydd i'w llwch!" Ond, er hynny, gallwn ddilyn eu es- iampl mewn llawer o bethau, yn ar- bennig mewn parchu gorweddfan y marw. Ar hyd y fynwent gwelais y rhybuddion: | Do not touch the flowers, They are sacred to the dead." Mor dIws, ac mor wir. Ar ol gadael y fynwent awd am de, ac am 9.30 yr oeddem yn y "Scotia" drachefn yn eychwyn am Gaergybi, ac am Gymru- hon yw'r oreu yn y byd." Lie mae Pabyddiaeth yn ffynu, yno ceir tlodi. Felly yn Dublin. Sefais am tua deng munyd gyferbyn un prif eglwys, a dylifai y bobl i fewn ac allan, a dynion hanner meddw yn tynnu eu hetiau o ran parch i Mair wrth basio'r eglwys. Wedi hynny sefais gyferbyn a thafarndy, a dylifai dynion a merched allan wrth yr ugeiniau. Gerllaw yr oedd chwareudy, ac o'i blaen canai plant carpiog, er rhoddi yr arian a gaffent i'w rhieni i gael diod. Ie, gall- wn ddweyd yng Nghymru gyda'r bardd: Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw, Am yr Efengyl sanctaidd."

.Llansamlet. I

Advertising