Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y DDRAMA.I

News
Cite
Share

COLOFN Y DDRAMA. I NEUADD Y GWEITHIWR, CWMPARC. Perfformiwyd drama, "Yr Hen I Grydd," yn y lie uchod nos lau di- weddaf gan Gwmni Cadwgan, Tre- orci—cwmni sydd bellaeh yn adna- byddus fel rhai yn gwybod eu dyled- swydd i gofio'r gweiniaid. Maent yn aelodau crefyddol yn Eglwys Anni- bynnol Hermon. Dengys fod 61 gweithgarwch ar bob cangen o wy- bodaeth. Nis geflir peidio eu canmol am eu perfformiad da a'u meistrolaeth o reolau y llwyfan. Eu harweinydd ydyw Mr. Evan Thomas, Glanhafren, gwr teilwng o'r swydd, ac yn uchel ei barch gan y gymdeithas. Tros- glwyddir yr elw i weddw ac amddifaid y diweddar David Jones, Cwmbychan, Treorci. Ewch rhagoch eto i wneud daioni yw dymuniad UN 0 GWMPARC. LLE CYNNAL Y DDRAMA. I Mr. Gol.,—Mae yn amlwg fod y ddrama wedi dyfod i aros am ryw dymor, dros pa cyhyd, dichon nad oes neb yn ein gwlad fedr ddweyd. Edrychir ar y newyddbeth yma fel peth diniwed, ac o bosibl dyrchafol, gan lawer. Ystyria eraill, fel yr wyf yn clywed mewn ymddiddanion, fod y mudiad yma yn ddiniwed, ond nad oes dim ynddo i ddyrchafu cymdeith- as. Dywedir fod rhyw bethau yn ein hoes ni nad ydynt na da na drwg, ac y gellir eu cefnogi, canys, er nad ydynt yn eglur yn dda, nid ydynt chwaith yn ddrwg. Dywed rhai am y "Cinemas nad ydynt yn ddrwg, tra y cyfaddefir hefyd nad ydynt yn dda i buro cym- deithas a gwella moes, gan fod y fath gymysgedd yn cael eu dwyn iddynt. Nid wyf fi am benderfynu dim mewn perthynas ar Ddrama; os ydyw yn ddiniwed ac yn ddyrchafol, fel y dylai fod, ac yn beth i'w chef- nogi, y mae yn ymholiad yn ymwthio yn naturiol i'r meddwl- Y m mha le y dylid cynnal y Ddrama Dywedir am y "Cinemas" mai nid da eu bod yn rhy agos i'r dafarn na'r addoldy. Ai safle felly sydd i'w rhoddi i'r ddrama ? Os mai mewn math o chwareudai y cynhelir y ddrama y dyddiau hyn, paham y gwneir hynny? Os ydyw o natur ddyrchafol, paham na ddygir hi yn agos at yr addoldy? Ai priodol ei chynnal yn yr ystafell, a elwir y festri, sydd dan yr un to a'r addoldy? Hwyrach y gwna rai o'ch darllenwyr roddi goleuni i un sydd mewn am- wybodaeth yn y peth yma.—Yr eidd- och, v CYMRO. II! I ■

Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe.

Eisteddfod Aberaman, Mehefin…

I 0 Bwys i Amaethwyr. I

Nodion o'r Gogledd. Nodion…

.Llansamlet. I

Advertising