Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. Yn agos i Aberystwyth y mae plasty henafol o'r enw Gogerddan- lie y mae Syr Edward Prys a'i deulu yn awr yn byw. Wele heddyw ystori am y lie hwnnw — Oesau yn ol, pan oedd pobl y wlad hon mewn rhyfel parhaus a'i gilydd, aeth Arglwydd Gogerddan allan a'i fyddin un diwrnod yn erõÿn ei elynion. Cymerodd ei fab hynaf—llanc ieuanc iawn-gydag ef i'r frwydr. Yn y dyddiau hynny yr oedd meibion y pendefigion i gyd yn filwyr. Gadawyd mam y bachgen yn unig yn y castell. Ni fedrai orffwys-yr oedd yn rhy ofidus ynghylch y frwydr ■=—felly cerddai yn ol a blaen ar nen y ty, yn disgwyl am ryw newydd o faes y gwaed. O'r diwedd, tua hanner dydd, gwelai ei mab ar gefn ei farch yn gyrru yn frysiog tua'r castell. Yr oedd yn fudr gan lwch a gwaed, ac yr oedd ei farch yn diferu chwys. Synnåi ei fam ei ei weled yn dychwelyd o'r frwydr wrtho'i hun, a phan oedd yn dod i fewn at y castell, gwaeddodd arno, "Ble mae dy dad?" Atebodd y bachgen, "Mae nhad o hyd yn ymladd. Daethum i yn ol, oherwydd gwelswn er's amser fod y dydd yn mynd yn ein herbyn. Carai y fam ei bachgen yn fawr, eithr ni fedrai oddef y syniad ei fod wedi dianc o faes y gad. Gwaeddodd arno: "Dos yn ol i'r frwydr, ac ymladd wrth ochr dy dad. Gwell fyddai gennyf dy weled yn dod adref yn farw, na'th weled yn dianc adref fel llwfrddyn Cywilyddiodd y bachgen, a brysiodd yn ei ol. Rhuthrodd i flaen y fyddin, lle'r ymladdai ei dad yn ddewr. O'r diwedd trechasant eu gelynion, ond ar foment eu buddugoliaeth, syrth- iodd y bachgen yn farw yn ymyl ei dad. Y noson honno daethpwyd a'i gorff marw adref i'r castell. W y lai ei fam yn chwerw. Blinai am ei geiriau celyd wrtho, a chredai mai hi oedd achos ei farwolaeth. Ond clyvvodd ryw lais dieithr yn galw arni o furiau'r castell. Dywedai "Llawenha am fod dy fab wedi dangos ei hun mor ddewr. Bydd son am ei wrhydri tra rhed afonydd drwy Gymru. A dywedodd y llais ymhellach, "Cofir, dithau hefyd, oherwydd dewr y buost drwy ddangos i'th fab fod angeu yn well na chywilydd." Yna cymerodd y telynor ei delyn, a chanodd benillion er cof am y di- gwyddiad. Cenir hwy vng Nghymru hyd y dydd Tiwn. Wele hwy — I BLAS GOGERDDAN. "I Bias Gogerddan heb dy dad! Fy mab, erglyw fy lief, Dos yn dy ol i faes y gad, Ac ymladd gydag ef Dy fam wyf fi, a gwell gan fam It golli'th waed fel dwfr, Neu agor drws i gorff y dewr, Na derbyn bachgen llwfr. I'r neuadd dos, ac yno gwel Arluniau'r Prysiaid pur; Mae tan yn llygaid llym pob un Yn goleu ar y mur." Nid fi yw'r mab amharcha'i fam Ac enw ty ei dad, "Cusenwch fi, fy mam," medd ef, Ac aeth yn ol i'r gad. Daeth ef yn ol i dy ei fam Ond nid, ond nid yn fyw; Medd hithau, "O! fy mab! fy mab! O! madd im', 0 Dduw!" Ar hyn atebai llais o'r mur- "Trwy Gymru tra rhed dwfr, Mil gwell yw marw'n fachgen dewr, Na byw yn fachgen llwfr!"
Carchar i Swyddogion Bwrdd…
Carchar i Swyddogion Bwrdd Canol Cymru. Dedfrydwyd Mr W. Crynant Griffiths i ddeuddeg mis o garchar; Mr C. W. Seymour i wyth mis; a Mr D. Williams i bedwar mis, sef clercod yn Swyddfa'r Bwrdd Canol yng Nghaerdydd am y diffyg o tua zCl,934 o orian yn eu cyfrifon. Dangosodd y prawf lacrwydd eithriadol ynglyn ag arolygiaeth y cyfrifon yn y swyddfa hon. Hyderwn y dysgir gwers oddiwrth yr amgylchiad anffodus hwn, ac y gofelir am well trefn yn y dyfodol. Sylwodd Llewelyn Williams mai Bwrdd Canol heb ganol iddo ydoedd.
Advertising
ALWAYS WELCOME A The Housewife who has j k BLANCH ;S Cream Puddings is never at i loss about the sweets course. A dainty and delicious dish—looks and tastes like cream. A penny packet makes a pint. ANY GROCER WILL SUPPLY Camberwell, London, AND St Peter's Street. Cardiff.
[No title]
Wrth ymdrochi ym mor Tenby, ddydd Mercher diweddaf, collodd dau fachgen eu bywydau. Eu henwau oedd Regin- ald Rees a Leslie Ponter, a'u hoedran oedd tua deuddeg oed.
Bethlehem, Mountain Ash.
Bethlehem, Mountain Ash. Cynhaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch. J. R. Evans, B.A., B.D., yn fugail ar yr eglwys uchod. nos Lun, Gorff. 20, 1914, y Parch. D. Jones, M.A., Penrhiwceibr, yn llywyddu. Daethai cynhulliad lluosog ynghyd, a chynrychiolaeth gref o eglwysi y dref a'r dosbarth, a nifer luosog o Ynys- hir. Dechreuwyd' y cyfarfod gan y Parch. Michael Williams, Cilfynydd. Eglurodd y llywydd amcan y cyfarfod, a galwodd ar Mr. David Thomas, Brynderwen, y trysorydcl, i roddi hanes yr eglwys a'r alwad. Gwnaeth yntau hynny yn ddeheuig, gan roddi hanes Methodistiaeth yn y dref o'r dechreu. Atgofiai ni mai dau fugail fuasai ar yr eglwys o'r cychwyn er's trigain mlynedd, ac felly fod cyfar- fod sefydlu yn beth anghynefin iddi. Ar ol hanes manwl o weithrediadau'r eglwys hyd farwolaeth y Parch. M. D. Jones, cawsom hanes y Pwyllgor Bugeiliol. Araf y symudasid, ac yn ffortunus syrthiodd y coelbren ar y Parch. J. R. Evans, ac er ei fod yn ddiethr i'r eglwys, syrthiwyd mewn cariad ag ef ar unwaith. Caniataodd yntau roddi ei enw o flaen yr eglwys. Dyma yr unig un y bu yr eglwys yn pleidleisio arno, ac yr oedd pawb yn unfryd i'w groesawu. Er ei fod yn hollo! hapus a phopeth yn ddymunol yn y Bwlch, credai Mr. Evans y byddai'r cylch yn eangach ym Mountain Ash nag ym Mrycheiniog, ac yr oeddynt yn llawen ei fod wedi dod i'w plith. Ar ran y frawdoliaeth crosawai Mr. Evans a'i chwaer, Miss Evans, gan ddymuno bendith ar eu llafur. Cefnogwyd mewn araith wresog gan Mr. Robert Williams. Yna galwodd y llywydd ar Mr. W. Parry ar ran Eglwys y Bwlch, a'r Parchn. E. Rowlands, Crughywel, a Lewis James, Builth, ar ran Cyfarfod Misol Brycheiniog. Mewn araith ddoniol yn Saesneg, datganodd Mr. Parry y golled oedd ef yn bersonol ac eglwys y Bwlch a'r lie yn gyffredinol wedi gael yn symudiad Mr. Evans. Nis gallai lai na galw pobl Mountain Ash yn "thieves and robbers," am ddwyn o honynt gymeriad mor ardderchog oddiarnynt. Cawsai ef Mr. Evans yn gyfaill ac arweinydd mewn amgylch- iadau dyrys yn ei hanes, ac yr oedd yn flin iawn o'i golli. Er y cyfan dymunai bob llwydd iddo yn ei faes newydd. Tystiolaethai y Parch. E. Row- lands, Crughywel, i alluoedd Mr. Evans fel bugail a phregethwr, ac ysgolhaig gwych, ond yr hyn a'i tarawai'n bennaf pan yn ei gwmni oedd ei gymeriad glan a phur. Rhodd- odd hefyd dystiolaeth uchel i'w waith a'i lafur gyda Chyngor yr Eglwysi Rhyddion. Llongyfarchai'r Parch. Lewis James yr eglwys ar ei dewisiad o ddyn da a phregethwr da; ei syml- rwydd a'i gwnai'n bregethwr da. Symlrwydd dyn oedd wedi gweled trwy ei bwnc. Apeliai ar iddynt ei gynorthwyo yn ei waith bugeiliol. Gallai tri chant gyda y gweinidog wneyd gwaith mawr. Teimlai fod y Cyfarfod Misol wedi cael colled. Yr oedd Mr. Evans wedi dod trwy y Bwlch i Fethlehem, a gobeithiai y byddai yn foddion i ddangos gogon- iant y Baban a anwyd yn Bethlehem i laweroedd. Croesawyd ef i'r dosbarth gan y Parchn. W. Davies, M.A., Beth- ania, a D. Lloyd, Penrhiwceibr. Mewn araith wresog a doniol, croesawai Mr. Davies ef fel hen gyf- aill, ac addawai iddo y lie yn y dos- barth a wnelai iddo ei hun. Dywedai y Parch. D. Lloyd ei fod yn adnabod yr eglwys yn dda-iddo fod yn aelod ynddi am flynyddau. Ad- roddodd atgofion am yr hen flaenori- aid a gofiai yno, a'i gofal fel "ceid- waid yr athrawiaeth. Cawsom gan- ddo amryw enghreifftiau o'r parch a gawsai'r hen weinidog pan yn eu plith. Yr oedd y' "tablet' yn yr addoldy a'r golofn hardd yn y gladdfa yn tystiolaethu i bawb fod yr eglwys wedi arfer parchu ei gweinidog. Yr oedd yn falch gweld Mrs. Jones a'r teulu yn gwneyd cymaint i groesawu y bugail newydd. Yna galwyd ar y gweinidog new- ydd. Dywedai ef fod y cyfarfod sefyd- lu hwn yn wahanol i'w gyfarfod sefyd- lu blaenorol. Elai i'r Bwlch o'r Coleg, ond yn awr yr oedd ganddo i dorri hen gysylltiadau ac ymadael a chyfeillion annwyl a gyfarfuasai yno, ac yr oedd ei gysylltiad ef a'r eglwys yn hapus a dymunol. Er hynny, credai fod yn Mountain Ash gylch eangach, a bwriadai weithio mewn gwaith y bwriadai geisio mwynhad. Gwyddai ei fod yn dilyn dyn mawr a phregethwr nerthol, ond hyderai y cai gydymdeimlad' a chydweithrediad yr holl aelodau. Diolchodd am y croesaw a'r sirioldeb a gwawsai gan bawb. Wedi canu, galwyd ar y Parch. R. S. Rogers, B. A., i'w groesawu ar ran eglwysi y dref. Dywedai ei fod ef a Mr. Evans wedi bod yn eistedd wrth yr un bwrdd ac yn poeni gyda'r un problemau yng Nghaerdydd, ac yr oedd yn falch o'r cyfte i'w groes- awu. Meddyliai yn uchel am yr eglwys, a dymunai fendith ar yr uniad hapus. Siaradodd y Parch. J. Wilson Roberts ar ran eglwys a chyfeillion Ynyshir. Dygai Mr. Roberts dystiol- aeth uchel iddo fel gwr ieuanc di- amheuol dduwiol a dysgedig, Cristion gloew, a chyfaill annwyl. Deuai Mr. Evans o stoc ardderchog, ei rieni yn dduwiol a charedig, a'i dad yn swydd- og parchus ac yn gefn i'r achos yn Y nyshir. Dr. D. M. Phillips, Tylorstown, a ddywedai ei fod wedi gwylio ei daith o'r cychwyn, ac yr oedd ganddo feddwl uchel o honno, fel un a safai bob amser dros egwyddorion yr efengyl. Yr oedd yn bregethwr coeth-yn cyfuno yr hen a'r newydd- yn dal at holl finellau hanfodol yr hen, ac yn ddigon agored i dderbyn y newydd wedi ei roi ar faen profiad. Er y cwbl, yr oedd ynddo bedwar diffyg-nid oedd yn wr priod, nid oedd yn Anfeidrol, yn holl-wybodol, nac yn holl-bresennol. Gallai wneyd y diffyg cyntaf i fyny, ond am y lleill rhaid fyddai cofio mai meidrol yd- oedd, nad oedd yn holl-wybodol-nis gallai wybod fod rhai yn sal heb i rywun ei hysbysu. Yr oedd hefyd yn gyfyngedig i un lle-nis gallai fod mewn cyfarfod pregethu ac yn y cyf- arfod gwedai, yn y cyfarfod misol, ac yn y seiat yr un pryd. Dymunai ar iddynt siarad yn barchus am dano wrth eu plant, a rhoddi ambell i air o ganmoliaeth iddo ar ol y bregeth ar y Sul. Y Parch. H. T. Stephens, Aberdar, fel y bugail hynaf yn y cyfarfod, a roddodd ei brofiad ef fel bugail, ac yn ei ffordd ddoniol ei hun rhoddodd groesaw calon iddo i'r cylch. Diweddwyd y cyfarfod' drwy weddi gan y Parch. D. John, B.A., Taibach, Port Talbot. Derbyniwyd llythyrau oddiwrth y rhai canlynol yn datgan eu gofid nas gallent fod yn bresennol:—Parchn. Isaac Morris, B.A., B.D., Ynysybwl; Cuthbert Thomas, B.A., Canton; J. Oliver Jenkins, Gilfach Goch; J. Vardre James, Newbridge; J. D. Thomas, Ffrwd, Mountain Ash; W. D. Morris, Cwmaman; D. Morgan (W.), Mountain Ash; R. Williams, Nazareth, Aberdar; E. Burges (S.), Mountain Ash; Thomas Davies, Blaenrhondda; Mr. John Jones, Aber- fan. Heblaw y gweinidogion gymeras- ant ran, gwelsom yn bresennol:- Parchn. J. Myddfai Jones, Cwm- bach; W. Pones, Abercynon; J. R. Hughes, Abercynon; W. Gregory, Bethel, Ynysybwl; John Lewis, Aber- (aman; E. W. Llewelyn, Aberaman; John Morgan, Bryn Seion, Aberdar; J. Pumpsaint Jones, Treharris; R. Gwmryn Jones, Miscyn; E. Lewis, Pontllanffraith; W. Edwards, M.A., Mountain Ash; John Phillips (A.), Mountain Ash; William Davies (A.), Mountain Ash; Isaac Bevan (A.), Miskin; Mr. Thomas Edmunds, Mountain Ash, Llywydd Undeb y Bedyddwyr, ac amryw eraill o leyg- wyr blaenaf y cylch. UN OEDD YNO. —
! : |Morgan John Rhys.
Morgan John Rhys. (Parhad.) Cychwynodd Morgan John Rhys i America Awst iaf, 1794. Glaniodd yno Hydref i2fed—mordaith o ddeg wythnos a thri niwrnod. Dyddorol iawn yw darllen ei ddyddiadur yn ystod ei fordaith. Fel y dywedwyd, glaniodd Morgan John Rhys yng Nghaerefrog Newydd, Hydref 12fed, 1794, a dywedir iddo dderbyn croeso gwresog iawn gan y Parch. D. Rogers, gweinidog yr Eglwys Fedyddiedig gyntaf yn Phila- delphia, a bu'r ddau yn gyfeillion tra ar y ddaear. Ni fedrai dyn mor weithgar a Mor- gan John Rhys fod yn segur, ac felly dechreuodd ar ei waith yn fuan ar ol glanio, a phregethodd yr Efengyl yn ei phurdeb gyda dylanwad a llwydd- iant eithriadol. Teithiodd lawer trwy'r wlad, yn pregethu Efengyl y Deyrnas, a chwilio am le cyfaddas i sefydlu tref- edigaeth. Ar ei ddychweliad i Philadelphia priododd Miss Ann Loxley, merch Col. Benjamin Loxley, swyddog o fyddin y Chwildroad Americanaidd, a dyn o gymeriad ardderchog. Ar ol aros am ddwy flynedd yn Philadelphia, trwy gymorth Dr. Benjamin Rush, prynodd ddarn mawr o dir ym Mhennsylvania, a enwodd' yn "Cambria o barch i'w wlad enedigol. Efe hefyd a dynnodd blan o brif-ddinas y sir, ac a'i henwodd yn Beulah. Symudodd ei deulu yno, a chydag ef aeth nifer o ymfudwyr Cymraeg. Efe oedd gweinidog cyntaf Eglwys Fedyddiedig Beulah. Symud- odd o Feulah i Somerset, lie y'i apwyntiwyd yn Ynad Heddwch, ac ar 01 hynny yn farnwr, heblaw i swyddi eraill. Ong yng nghanol ei waith a'i anrhydedd, ym mlodau'i fywyd bu farw yn sydyn o'r "pleurisy" Rhag- fyr 7fed, 1804, yn bedair a deugain oed. Bu ei ymadawiad fel ei fywyd yn llawn o heddwch. Wrth farw dyw- edodd wrth ei wraig ei fod yn clywed yr angylion yn canu y geiriau, "Come, waft on high, we wait to bear thy spirit to the sky." Claddwyd ef yn Eglwys Fedyddiedig gyntaf Philadelphia, a chodwyd cof-golofn ardderchog iddo. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru y golled, ond bu Tad yr Amddifad yn dirion iawn wrthynt yn eu tristwch. M. EVANS.
Llythyrau at fy Mhartnar.…
Llythyrau at fy Mhartnar. i I GAN JOHN TONYPANDY. ] Anwyl Bartnar,— 1 Anwyl Bartnar,- Clywais yn Heol y Frenhines nos Iau diweddar dy fod ti a'th wraig yn bwr- iadu dod lawr yma i fyw heb fod yn hir, a'th fod yn edrych ymlaen gyda phleser at yr amser pan fyddi yn un o ddinas- yddion prif ddinas Cymru. Pojb lwc i ti, machan i, a gobeithiaf na fydd i ti gael dy siomi ar ol dod i fyw yma. Ond gan nad wyt erioed wedi trigo tu allan i gwm Rhondda, a minnau bellach yn hen drigiannydd yng Nghaerdydd, car- wn i ti wybod tipyn bach am y dull o fyw sydd yma. Beth meddet, a ydyw'r j dull o fyw yn wahanol yna i'r hyn ydyw j yng Nghwm Rhondda? Ydyw, yn siwr i ti. Byddi yn cyfarfod a gwahanol fathau ar ddynion, gwahanol arferiad- au, a phopeth bron yn wahanol i Gwm Rhondda. Yn y gyfres hon o lythyrau, mi rof dipyn o ragolwg i ti, ac i'th wraig yn neillduol ar y ffordd y dis- gwylir i chwi ymddwyn yn y ddinas hon. Bydd eisieu i'th wraig wybod, oblegid fod y fath rules of etiquette gan y ladies yma. Ni fydd hi yn y class os na fydd hi'n altro tipyn o'r hyn yw hi nawr, neu o leiaf yr hyn oedd hi pan own i yn byw yn gyfagos i chi. Er enghraifft, nid gwneud cawl erbyn y deui di adre yn y nos fydd ei gwaith yn y prynhawn mwy- ach, ond derbyn gwahoddiadau y bon- eddigesau a mynd allan am walk, os gweli di fod yn dda, ar ol lunch (dyna'r enw ffasiynol sydd yma ar ginio), a dychwel tua deg o'r gloch y nos, neu efallai un ar ddeg, os bydd y cwmni o'r iawn ryw. Pa gwmni ?" meddet. 0, yr ychydig dewisol Bydd yn ffurfio'n glic bach er mwyn cael yr afternoon out- ings. Nid rhyw un clic bach sydd, ond degau o honynt. Mewn gwirionedd, gellir dweud fod hyn yn dyfod yn nod- wedd o fywyd cymdeithasol Caerdydd. Bydd y clic yr ymuna'th wraig a hwy (h.Y., gan gymeryd yn ganiataol ei bod am fwynhau'r bywyd cymdeithasol) yn dibynu yn hollol ar yr arian poced fydd hi'n gael gennyt ti. Os Jbydd y swm wythnosol yn fawr, gall gael mynediad i'r cylchoedd goreu, a gall fwynhau whiskies and soda ym mharlwr y bon- eddigesau yn y New Inn. Ond os rhyw goron yr wythnos, neu rywbeth tebyg fyddi'n ganiatau iddi, bydd raid iddi hithau ymfoddloni ar yfed stout yn y jug and bottle department. Efallai y bydd yn ddigon ffodus ambell waith i gyfarfod ag un o'r nuts o Gaerdydd (torraf y gneuen hon mewn llythyr dy- fodol), ac yma fe dhl ef o'i brinder am whisky and soda iddi hithau hefyd. Ond luxury fel rheol fydd hyn, ac nid yw yn ddoeth iddi chwennych unrhyw beth yn uwch na'r "botel stout fach wylaidd," neu'r "gwydryn cwrw di- niwed," dan orchymyn y meddyg. Prif rheswm y menywod am beidio cyfar- wyddo ag un ddiod sydd a'i phris uwch- law 2c. ydyw'r ffaith fod eu gwyr ar nos Sadwrn, neu nos Fercher, os mai siop- wyr ydynt, yn edrych ar eu harferion pan yn cydyfed yn y dafarn; ac os cred y gwr fod y wraig yn mynd yn or-was- traffus bydd yn atal y "caniatad" am fis neu ddau hyd nes y dychwel yr afradlon yn ol i'w harfer gyntefig. Dyna i ti un enghraifft fach o'r gwa- haniaeth dirfawr sydd rhwng arferion Caerdydd a Chwm Rhondda. Mae'n wir fod menywod yn yfed a llymeitian i fyny gyda chwi, ond mae ganddynt hyd yn hyn ddigon o'r gallu i gywilyddio yn aros i beidio rhuthro i dafarn i blith gwyr o gweision, a galw am lasiad o gwrw fel geilw plentyn am fara menyn. Ond y mae gennyf lawer eto i ddweud wrthyt, am y dull o wneud bwyd a glan- hau'r ty (os glanhau y gellir ei alw) a'r ffordd y mae pethau yn mynd ymlaen ar ddiwrnod gochi. Gyda golwg ar yr olaf gallaf dy gyfeirio at yr ysgrifen- iadau diweddaraf o eiddo gwragedd ar y cwestiwn o co-operative housekeep- ing. Ac yna mi soniaf wrthyt am y ffordd mae dynion ieuainc yn byw, yn ogystal a hen ddynion hefyd. Cofia, nid wyf am dy ddigalonni rhag dyfod yma i fyw. Os penderfyna dyn ieuanc gadw y llwybr uniawn a chodi gwrth- glawdd rhyngddo a'r mwyafrif o'r ar- ferion cymdeithasol sydd yn y ddinas, nis gallai byth gael gwell lie i ddyfod ymlaen yn y byd hwn na Chaerdydd. Ond y mae cymaint yn llithro i fewn i'r arferion cyffredinol Jbron yn ddiar- wybod iddynt eu hunain fel yr ystyriaf yn ddyledswydd arnaf i'th ragrybuddio. Gweli yn ddiameu, fod llawer o eir- iau Saesneg yn fy llythyr. Mae hyn i'w briodoli i'r ffasiwn sydd yma o gymysgu geiriau Saesneg a'n hym- ddyddanion Cymraeg, ac nid wyf yn | gallu ymysgwyd oddiwrth yr arferiad. Nid wyf wedi dirywio i'r fath raddau ag un o'm cyd-ddinasyddion (bum bron ag ysgrifennu cyd-drefwyr, yr hyn ys- tyrid yn insult i wyr Caerdydd) fel ag i ddarllen gyda syndod ar ddechreu llythyr Anwyl fraud yn lie "anwyl frawd." Eto i gyd, os na fyddwn ar ein gwyliadwriaeth, collwn ein Cym- raeg i gyd. Mae'n wir fod yr yspryd Cymreig mor fyw ag erioed, ac ystyrir mai priodol siarad yr hen iaith hyd yn nod ymhlith gwyr cyfoethog yn Roath Park. Nid yw'r gorlifiad Saesneg mor fawr ag ydoedd ddeng mlynedd nol, oblegid yn lle'r Cymry yn myned i addoldai'r Saeson, gwelir rhai o'r olaf yn dyfod i addoldai'r Cymry, ac o her- wydd hynny rhaid cael dash o'r Saes- neg yn ein pregethau. Trueni ydyw ein bod yn colli purdeb ein Cymraeg, < yn ngwyneb yr awydd sydd ymhlith y Saxoniaid a gwyr Alban i ddysgu iaith Paradwys. Pan ddeui i Caerdydd, ] byddi'n syn pan glywi "wee Mac: Gregors a little Patricks" yn siarad ] Cymraeg. Plant ydyw y rhai hyn i 1 ferched glan Cymry y rhai a briodas- ] ant gapteniaid llongau o'r Ysgotland a'r Iwerddon. Tra y mae eu tadau ar y mor mawr, mae'r plant yn ddiddig yn dysgu iaith eu mamau ar yr aelwyd gar- tref. Hwyrach y synnu yn fwy glywed plant Lloegr yn gallu siarad Cymraeg yn weddol ystwyth ar ol ei ddysgu yn yr ysgol ddyddiol, a thra nas gall eu tadau na'u mamau yngan yr un gair o iaith yr Eisteddfod, llawenychant yn fawr wrth weled eu hil yn coleddu'r Gymraeg, a rhoddant bob cqfnogaeth i'r yspryd newydd hwn sydd yn medd- iannu'r oes. Rhag i ti flino ar ormod o gronicl am arferion y brif ddinas, terfynaf nawr gan hyderu y caf ddychwel at y testyn eto yn fuan.—Ydwyf, etc., Dy hen bartnar, JOHN.
Pontycymer.
Pontycymer. Mae yn crogi uwchben a'r ardal gwm- wl yn meddu cryn dipyn o'r caddug er's tair wythnos, unig lofa y lie yn segur. Nis gallwn ei alw yn streic na chload allan. Nid yw pethau yn myned yn hapus er's misoedd, am fod gormod ymyrraeth gan y blaenoriaid. Collwyd tri diwrnod dri mis yn ol gyda'r anun- debwyr, etc. Mae Frank Hodges yn credu mewn gwneud pethau yn gyn- hyrfus. Y Sul cynhelir cyfarfodydd fynychaf er porthi y bobl ieuainc. Bu gorymdaith y Sul diweddaf, ac Harts- horn a Frank yn siarad yn yr awyr agored. Gofynnodd rhywun ble oedd J. Hugh Edwards. Atebodd Frank ei fod yn brysur yn ysgrifennu byw-gofiant Lloyd George. Mewn gwawd y gwnaed hyn. Nid oes neb o werth os nad yn I.L.P. Os cyfyd rhywun ar ei draed i siarad ar degwch i'r ddwy ochr, ni chai lonydd. Mae tipyn o'i hunan yn perthyn i Frank; mae yn Ruskin Col- lege man. Cred fod yn rhaid i bawb droi oddiar ei ffordd. Mae cryn wa- haniaeth rhyngddo a'r hen agent, sef Ald. John Thomas, J.P., yn ei swydd. Nid oes ymgais at derfynu y streic. Bu Winstone yma ddydd Gwener, ond ni wnaeth ddim. Rhoddwyd rhybudd yn ddigon cynnar os cymerai streic le na fyddai dechreu gweithio yn fuan wedyn am fod gwaith pwysig arall ar law. Ymwahanodd gweithwyr yr Ocean, Blaengarw, ddiwrnod cyntaf y streic, a dilynodd y glofeydd ereill wedyn. Brwydr ydyw rhwng y manager a Frank Hodges. Hawlia un y lofa er cael show cards, ond gwrthyd y Hall. Pe bai'r miner's agent yn gorfod byw ar y streic pay feallai y tynnai hynny dipyn o'i wynt ohono. Mae arnaf ofn y bydd y lofa yn segur am fisoedd lawer. Ddydd Llun, 13 eyfisol, bu Ysgolion Sabathol yr ardal yn gorymdeihio trwy y lie dan ganu Caneoun Seion. Ymun- odd yr eglwys y tro hwn, felly mae ar- goel am fwy o brawdgarwch. Da oedd gennyf eu gweld mor gryf. Blin gennyf fod Mrs. Saunders, priod ein gweinidog, yn parhau yn wael. Bu yng Nghaerdydd dan weithred law- feddygol. Mae yn gwella yn araf. Da oedd gennyf weled yr hen frawd William Evans, bookseller, yn cerdded gyda'r ysgol wedi adnewyddu ei nerth unwaith eto, ar ol caethiwed caled y gaeaf. Gobeithio y ca dipyn o nerth eto er ymladd a'r gaeaf sy'n dod. Da oedd gennyf weled gweddw y blaenor anwyl Moses Thomas, un fu a'i ysgwyddau yn dyn dan yr arch er dech- reua,d yr achos yn y cwm, a T. Fox a'i deulu wedi dod o Aberdar i'r wyl. Dyma deuluoedd teyrngar i'r achos trwy y blynyddoedd. BERDAR BACH.
I Cyhoeddwyd yn Aberdar. !
Cyhoeddwyd yn Aberdar. A WELSOCH CHWI EF? j Gwnaeth brodor o Aberdar sylw bum mlynedd yn ol a gyhoeddwyd yn y papurau lleol, a dynnodd sylw nid yn unig yma ond filltiroedd oddi- amgylch. Bydd yn ddiau'n dda gan ein darllenwyr wybod fod y ffeithlau heddyw ar ol blynyddoedd yn cael eu I cadarnhau yn frwdfrydig. Ebrill 14ydd, dywedodd Mr. T. Davies, 27 Meirion Street, Trecynon, i Aberdar, ger Ysgol y Pare:—"Gan fy mod yn gweithio allan ymhob tywydd yr wyf yn dueddol i gael annwyd, a hyn, yn ddios, fu dechreu fy ngofid. Byddai'r poen yn fy nghefn I weithiau yn ddirdynol, a theimlwn I yn anystwyth ac anodd plygu. Nid oedd y dwfr chwaith fel y dylai fod, I eithr yn gymylog ac yn gwaelodi. Cynghorwyd fi i gymryd Kidney Pills Doan at boen cefn. Felly y gwneuthum, a chefais hwynt yn feddyginiaeth effeithiol. Sythwyd fy I nghefn, ac adferwyd y "system ddyfrol. Cadwaf belennau Doan bob amser I gerllaw, a gallaf eu cymeradwyo gan gredu yn ddibetrus eu bod yn feddy- giniaeth dda. (Arwyddwyd), T. Davies." Pum mlynedd yn ddiweddarach, dywed Mr. Davies, "Y r wyf yn awr yn dda iawn, a phleser imi yw cymer- 'adwyo pelennau Doan." I Os gwelwch arwyddion amlwg o j annhrefn yn yr arennau a'r bledren, megis poen yn y cefn, anhawster gyda'r dwfr, gravel, drops, lumbago, neu wynegon, daliwch ati i gymryd Pills Doan at yr arennau neu symud pob arwyddion o glefyd dychrynllyd yr arennau. Cynorthwya pelennau Doan y "system" ddyfrol, yn debyg rel y gwna meddyginiaeth ryddhaol yr ynysgaroedd.
Briwsion o Aberpennar (Mountain…
Briwsion o Aberpennar (Mountain Ash). I Cyfarfodydd i'r plant a'r bobl ieuaiiM oedd gan y gwahanol gapelau y Su] wythnos i'r diweddaf. Ymddengys fod Bethania a Nazareth yn llawn y nos, a'r cyfarfodydd yn rhagorol. Cawsen< amser lied dda yn Soar a Bryn SeioD, Mae'n debyg i Dr. Arthur Jones yn ei araith yn y lie olaf awgrymu wrth weld difaterwch ac amharodrwydd dynion i fod yn athrawon, y dylai y Llywodraetb neu ryw allu arall ddewig dynion cym- wys. Dylid neillduo rhan o'r Sabbath i ddysgu Gair Duw i'r plant ac i Jbawb a ewyllysia hynny. Ddydd Llun aeth Ysgolion Bryn Seion a Soar i Barry Island i fwynhau awel iach y mor, ond daliwyd hwy gan y gwlaw, a chysgodi yn nhrysau y siop- au. Yr oedd llawer o'r rhieni a'r plant bychain a golwg ofldus arnynt. Aeth Bethania i Abertawe, ac ni thorrodd y cwmwl arnynt hwy. Er nad oedd y bugail gyda hwynt yn cychwyn, gwel- wyd gwr tal braf yn eu canol ar lan y traeth, ac yn chwarae gyda'r plant fel un o honynt. Dyma y ffordd i dynnu serch. Cadwodd Nazareth "at y cyfamod" oddiar agoriad eu capel, sef troi allan mewn gorymdaith trwy y dref gyda sain can a moliant. Mae ganddynt nifer fawr o blant bach i edrych ar eu hoi. Rhifa yr ysogl hon dros bedwar cant. Mae llafur cariad yn talu yn dda yn y fan hon. Eglwys 'y Bedyddwyr Seisnig ydyw hon, ac sydd heb we in- idog ar hyn o hyd. Clywais fod ei lygaid ar un o feibion Gwalia wen i ddod i'w dysgu. Blwyddyn yn ol yr oedd gweiddi mawr am yr holl Ysgolion Sabathol Ymneillduol i droi allan yn fintai fawr gyda'u gilydd, ac i gerdded trwy heol- ydd y ddinas, ac i uno i ganu rhai o Donau Seion. Eleni y maent wedi newid barn. Well done, Nazareth, am ddal yn ffyddlon er rhwystrau lu. Cafodd y Rhos a'i phlant ddydd gwyl hefyd, a gwyl fawr. Yr oedd Llywydd yr Undeb, Mr Thomas Edmunds, wedi cael gafael ar ei hen "ffedog wen," a'r proffwyd sydd yn torri "Bara y Bywyd mor flasus iddynt yno mewn afiaith yn chwarae ei ran yn deilwng ynghanol ei ddiadell. Mae glan y mor yn aros i Ysgolion y Ferch a'r Fam, Rhos a Ffrwd. Rhaid hysbysu fod Bethlehem, ysgol y proffwydi, wedi gwneyd yr un fath a Rhos. Te blasus a gawsant hwy hefyd yn y festri, ac wedi gorffen aethant yn fintai fawr i gae cyfagoB. MAB Y WAWR.
Maesteg.
Maesteg. Eisteddfod Tir larll Gwyl y Banc. Daeth y cyfansoddiadau sydd yn dwyn yr enwau canlynol i law: Awdl: "Elias y Thesbiaid Is- raeliad, Perorydd, loan, Cyfriniol, As- syriad. Gwlithyn. syr i a d Can Wladgarol.-Cardi o'r Caerau, Gwladgarwr Tawel, Llewelyn, Glyn- dwr, Un o'r Plant, Dos ym mlaen, Ei Edmygydd, Molwr o'r Miloedd, Ap 'Dan, Bryniog, Gwerinwr, Ap Cynwyd, Plwyf Margam, Blodyn y Grug, Iola Goch, Cymro Dewr. Englyn: "Y Llew II.-Marianydd, Dan y Coed, Tramorwr, Florestydl, Stanley, Mab o Festeg, Llwchyn, loio Wyn, Dafydd o'r Bryn, Taw, Heliwr Hoew, Diofn, Siors, O'r Ffau, Sylwed- ydd, Y Ddraig, Prydeiniwr, LIef o. r Goedwig, LIef o'r Goedwig (2), Sirn- rod, Beriah Bach, Samson, Daniel, 01- wyn, Tegid, Hen Ffarmwr, Heliwr, Gwynhefin, Rony, Brigyn o'r I Jwyn, Fyrnwy, LIef o'r Anialwch, Gwr a'i Ffau ger y Ffair, Hen Heliwr, Ofaus. Emyn.—Pererin (1) Addolwr, Mab y Storm, Neptune, Cedron, Dan Aden Mynydd Seion, Egwan, Pantyronen, Ap Gwilym, Esgob, loan Dyffryn, Is y Don, lolo, Pererin (2), Pererin ',3), Eiddil, Eiddil wr gan ddoluriau. Cyfieithiad (i'r Gymraeg).—Oy;no o Gaerfyrddin, Gwladgarwr, Ap J.;yw- arch, Ap Lladmerydd, Nid Americanwr, Elizabeth Davies, Ifan Dafydd, Dewi o'r Llwyni, Cymro, Brython, Waldo (1), Waldo (2), loan, Mab y Mynydd, Vis a Vis, Gwen, Cymerfab, Emerson Vychan. Cyfieithiad (i'r Saesneg). Delta, Vox Popular John Moore, Gerallt yr Ail, Emlyn, A.B.C., Nant y Mynydd, Anxious, Glanmor, Addolwr, Excelsior, Pelican oly Anialwch Llannydd, Wil- liam. Ystori Gymreig. Bryndir, Llarina, Ap Don, Mab y Mynydd (1), Mab y Mynydd (2), Daniel Dickens, lanto lefan. Dyna nhw, a gobeithio y byddaf wedi eu darllen cyn yr wyl. Yr eiddoch, BRYNFAB. Heblaw yr uchod, y cystadleuaethau eraill fel y canlyn:— Adroddiadau, 25. Prif Cystadleu- aeth Gorawl, 8. Ail Gyst. Gorawl, 8. Prif Cyst. Corau Meibion, 6. Ail Cyst. Corau Meibion, 5. Corau Plant, 5. Action Song, 4. Ton ar Emyn Neillduol, 30. Unawdiau Deuawdau, etc.. Ileisiol ac offerynol, 250. Fe wel y darllenydd fod lwyddiant yr Eisteddfod wedi ei sicrhau, a chlywir swn tyrfaoedd o wahanol gyfeiriadau yn gwneud eu ffordd tua'r Llwyni. YSG.