Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cymdeithasfa'r Methodistiaid.I

News
Cite
Share

Cymdeithasfa'r Methodistiaid. I Y PARCH. J. LEWIS, HEBRON. I Efe yw gweinidog yr eghvys He y cynhelir Cymdeithasfa'r De eleni. Y mae rhan dda o'r clod am y graen oedd ar yr holl drefniadau yn ddyled- us iddo ef. Beth bynnag yr ymeifl ei law ynddo, efe a'i gwna a'i holl egni. Y mae yn un o arweinwyr crefyddol amlycaf Aberdar, ac yn blaenori ymhob symudiad daionus. Yn Ystrad Rhondda y ganed Mr. Lewis yn y flwyddyn 1867. Dechreu- odd bregethu ym Mhenuel, Ponty- pridd, yn isgo. Aeth i Drefeca yn 1891, lie y bu'n vmbaratoi ar gyfer gwaith ei fywyd hyd 1893. Ordeini- wyd ef yng Nghymdeithasfa Llan- deilo yn 1893, a'r un flwyddyn ymfud- odd i'r Wladfa ym Mhatagonia i fu- geilio eglwysi'r Methodistiaid yno. Dychwelodd yn 1896 i Gwm Elan, Maesyfed, dan y Symudiad Ymosodol. Daeth i Lwydcoed yn 1897, lie yr ar- hosodd hyd 1900, pan dderbyniodd al- wad i'w faes presennol yn Hebron yn yr un cylch. Dengys y symudiad hwnnw y syniad uchel a golcddai'r ar- dal am dano." Cyhoeddodd gyfrol chwaethus o bregethau'r Parch. W. James, Beth- ania, dro'n ol. Bu ar daith yng Nghanada y flwyddyn ddiweddaf yn ymweled a'r Cymry sydd ar wasgar yno, ac edrych rhagolygon y wlad ar ran y Gymanfa Gyffredinol. Y mae Mr. Lewi s yn wr o wybodaeth eang, rhad- Ion ei-yspryd, ac yn genedlaetholwr brwdfrydig. Y PARCH. REES EVANS, LLAN- WRTYD. Y gwr uchod oedd llywydd cyfar- fodydd Cymdeithasfa'r Methodistiaid a gynhaliwyd yn Hebron, Aberaman. Y mac'n llywydd am ran o dair blyn- edd, sef peth eithriadol yn hanes y Cyfundeb. Y rheswm am hynny ydyw fod y ddau lywydd a'i olynodd yn eu beddau. Efe ydyw llywydd y Gym- anfa Gyffredinol eleni heblaw Cvm- deithasfa'r De. Ganed Mr. Evans yn yr Hafod, yn Sir Gaerfyrddin, ar yr 8fed o Fedi, 1845. Bwriadai ei rieni wneud ysgol- feistr ohono, a bu yng N gholeg Normalaidd, Bangor, yn gydcfrydydd a Syr Marchant Willliams ymysg er- 'illlian-is -mys g er- eill, er ymgyfaddasu i'r swydd honno. Bu'n cadw vsgol yn Ffestiniog, ac oddiyno aeth i Owen's College, Man- ceinion, i barhau ei efrydiau. Bu'n llwyddiannus i fyned drwy "matricu- lation" Prif Ysgol Llundain yn y dosbarth cyntaf, ac yn wythfed ar y rhestr. Pallodd ei nerth ar y ffordd, a gorfu iddo ddychwelyd adref yn ol pob argoel i farw. Ffordd ddirgelaidd oedd honno o'i dywys i waith mawr ei fywyd, oblegid yn ei nychdod pender- fynodd os cai ei arbed yr vmgysegrai i waith y weinidogaeth. Symudasai ei rieni i fyw yr adeg hon i ardal Llanwrtyd. Yno y dech- reuodd yntau bregethu yn y flwyddyn 1872, lie y mae'n weinidog bellach er's 36 o flynyddoedd. Y mae yn fawr ei barch a'i ddylanwad, 'nid yn unig yn Llanwrtyd, ond yn y Sir, ac, yn wir, yng Nghymru. Bu'n ysgrif- ennydd Trefeca am 12 mlynedd, a chasglodd £10,000 at y trysorfeydd. Gwyr dirwestwyr De a Gogledd am ei fedr a'i ddylanwad fel Prif Deml- ydd Cymru am 20 mlynedd. Y mae ei enwad parchus yn cydnabod ei alluoedd trwy bentyrru anrhydeddau arno, ac anrhydedda yntau ei enwad trwy lanw pob cylch yn wir urddasol.

Nodion o Aberafan a'r Cylch…

I H8 I Hirwaun. !

[No title]

Llith o Abertawe.I

I Aberteifi a'r Cylch. ! I

[No title]

Advertising