Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. I Anfoner cynhyrchion ar gyfer y Golofn hon i Dyfnallt, Caerfyrddin. ISLWYN. (Gan J. Lloyd Thomas, Caerfyrddin.) (Parhad.) Ystyriwn yn awr rai o brif nod- weddion Islwyn fel bardd. Y peth cyntaf sydd yn tynnu sylw y ddar- llennydd myfyrgar yw ei wreiddiol- deb. Cymer y darllenydd yn ei gwm- ni i awyrgylch hollol wahanol i'r un o feirdd ereill Cymru. Nid yw byth yn cymeryd benthyg oddiwrth arall. Dywedod awdur dros yn ol, "Byddai Islwyn bob amser yn llosgi ei olew ei hun, ac nid oedd perygl i'w lusern ddiffodd oherwydd prinder olew." Er enghraifft y mae argraff newydd- deb a gwreiddioldeb ar y meddyliau a ganlyn :— ■"Sua'r afon ei physg, weithion, I hun dirion trwy'r dyfnderoedd, A breuddwydiant am ogoniant A llifeiriant y pell foroedd." Un o nerthoedd barddoniaeth Is- lwyn yw swyn y cyfrin a red fel edafedd eurliw drwy ei holl gyfan- soddiadau. Ni cheir hwyrach yr un bardd mor nerthol yn y cyfrin tu hwnt i wybod dyn ag Islwyn. Hoff yw o ganu am gyfrinion perthynas anian a'r byd tu hwnt i'r lien. Rhed swyn'a chyfaredd breuddwyd, cyfrinach a gweledigaeth drwy ei farddoniaeth. Y mae aneirif enghreifftiau o hyn. Cymerwn un- Onid oes Gan enaid hanes ynddo ei hun? Rhyw drai 0 dywyll bethau'n murmur o'r tu ol Ar bell, anghysbell draethau—traeth- lIe Y collwyd Adgof gyda gorfawr ddrylliau Rhyw fyd neu fydoedd. Pwy nad yw Yn teimlo weithiau fel pe byddai byd Hir anghofiedig, trwy ryw ongl bell O'i gynfod yn chwyrn hedeg neu yn cyffwrdd Rhyw benrhyn o adgofion.' Dyna welediad i ystafelloedd dir- gel y cyfrin. Yn wir, bardd dirgel- ion a chyfrinion oedd Islwyn. Rhydd purdeb a thynerwch cyfan- soddiadau y bardd werth ychwanegol arnynt. Y mae yn nodedig am bur- deb iaith a meddwl. Nid yw byth yn "ymó!ftwng i gyffwrdd a phethau annheilwng o'i sylw. Gellir teimlo ei -dynerwch yn darn i a ganlyn:- "Seren heddwch i'r crwydredig, Hyfryd yw goleuni hon; O siriola'r morwr unig Draw ar y don Seren ffydd, pan ballo'i hyder, Pan y llwyr ddiffygio'i fron, Dod i'w fynwes nefol gryfder Draw ar y don. Seren ddwyfol, arwain bellach, Dwg y crwydryn adre'n lion, Profwyd ef yn gyflawn mwyach Draw ar y don. Seren gobaith, 0! llewyrcha Ar y ooson olaf hon, Nes y try'n dragwyddol hindda Draw ar y don." J I I'm meddwl i y mae y darn hwn yn llawn o nodau "tannau euraidd ,tynerwch. Nis gellir dywedyd am un o'i gyfan- soddiadau nad ydyw yn arddunol. Pan gyffwrdd ag unrhyw wrthrych, boed mor isel a dinod ag a fo bosibl, gwisga ef ag arddunedd. Gwelir yr arddunedd hwn yn y darnau a ddyf- ynnwyd, ac y mae yn amlwg yn ei holl weithiau. Canodd bardd am delynwr un- waith- "He touched his harp and ages heard entranced." "Cyffyrddodd dannau ei delyn aur ac mewn syndod safai oesau i'w wran- .do." Ddedwydd adeg pan fydd hyn- yna yn hanes cywir am Islwyn. Y mae wedi cyffwrdd tannau mel ei delyn eisioes, ac y mae honno wedi canu yn swynol dros ben, ond bellach nid yw Cymru gyfan wedi gwrando ei leferydd dihafal. Eto y mae yr adeg i wawrio, a sicr yw "Deil ei waith tra bo'r iaith rydd, A Gwalia wrth ei-gilydd. (Diwedd.) [Nodiad Y mae ysgrif ddiddorol o eiddo Brynfab mewn llaw yn gwneud sylw o rai pethau yn yr ysgrif ddi- ddorol hon ar Islwyn.—Gol.j

Advertising

I Olynydd Syr Edward ! Annwyl.…

iHwnt ac Yma. I

[No title]

Beirdd y Bont.I

Aberpennar. I

Advertising