Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
THE BEST ADVERTISING MEDIUM. Circulates throughout SOUTH WALES 4 and MONMOUTHSHIRE.
Advertising
W. Williams « Co. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. Specialities l8ct GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, 18ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyM aur, Oriaduron ac awrleisian, Gemau a chadwynau claer: Yspeotol gelfydd, hin-fynegyda, Gwree-fesnrydd, Cwmpawa mOr Geir gan Williams, Heol y castell Trowch i mewn i wel'd ei ator.
Advertising
——— -I Mwyn yw dwr yn mynd i waered,—a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, # Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. CEIR MWYNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED Brynlau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYOD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANOEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFÄOL. I
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Gwlad a. Senedd Tud. 1 Colofn Llafur 1 Nanno 2 Jasiuh Jenkins ar y Tramp. 2 Tipyn o Bopeth o Bontardawy. 2 Colofn y Bobl Ieuainc 3 Olynydd Syr Edward Annwyl 3 Hwnt ac Yma 3 Beirdd y Bont 3 Sabath Dinesig Aberpennar 3 Eu Hiaith a Gadwant 4 Rhai o Ryfeddodau'r Aifft „ 4 O Wy i Dywi. 4 Cymanfa'r Methodistiaid 5 Llith Abertawe 5 Colofn y Plant 6 Sefydlu Gweinidog ym Mountain Ash 6 Morgan John Rhys 6 "'Llythyrau at fy Mhartnar" 6 Eisteddfod Tir Iarll  6 Briwsion o Aberpennar 6 Colofn y Ddrania 7 Beirniadaeth Pontardawe 7 Nodion o'r Gogledd 7 Llansamlet 7 Colofn y Beirdd. 8 Er Cof am Dewi Alaw 8 Y Golofn Amaethyddol 8
r! GWLAD A SENEDD. j
GWLAD A SENEDD. GA?N ? EIN GOHEBYDD ARBENNIG. j Yr hyn sydd wedi myned a sylw gwlad a Senedd y dyddiau diweddaf yw Y Gynhadledd yn Nhy y Brenin. 0 ran y personau a'i ffurfiant anawdd fuasai cael cwmni mwy diddorol. Saif y Prif-weinidog a Changhellydd y Try- sorlys dros y Llywodraeth. Dros y Toriaid saif eu harweinyddion yn y ddau Dy Seneddol, sef Ardalydd Lansdowne a Mr. Bonar Law. Cynrychiolir y Blaid Wyddelig gan Mr. John Redmond a Mr John Dillon, tra y ceir Syr Edward Car- son a Captain Craig yn edrych ar ol buddiannau Ulster. Y mae Plaid Llafur a llu o Ryddfrydwyr yn gwrth- dystio yn y modd cryfaf yn erbyn cyn- wys y ddau olaf yn y gynhadledd, oblegid cyfrifant nad yw Carson a Craig yn ddim amgen dau wrth-filwyr a ddysg- ant ac a daer anogant filoedd Ulster i godi arfau yn erhyn y Brenin. Gwrthdystir yn bendant hefyd yn er- byn Ymyriad y Brenin I ac yn arbennig yn erbyn ei araith wrth agor y gynhadledd. Yn ol cyfraith y wlad nid oes hawl gan v pen-coronog i gymeryd plaid, nac ychwaith i gvmeryd unrhyw fesurau ynglyn a gwaith y deyrnas ond wrth gyfarwyddyd y Prif- weinidog. Unwaith y cymer y Bfrenin blaid eyll bob hawl i deyrngarwch ei bobl, a chymhella wrthwynebiad y sawl nad ydynt o'r blaid ffafredig. Ddeu- gain mlynedd yn ol siaredid. yn gryf yn ffafi- gvverinlvwodraeth ym Mhryden, ond trwy ddoethineb Victoria ac Edward VII. dath yr orsedd i fri yn serch y bobl. Y mae yn anffodus i Sior V. iddo gael ei alw i deyrnasu mewn amser- oedd mor brofedigaethus, a'n gobaith yw yr arddengys yntau yn helaeth o ddoethineb a phwyll ei dad a'i nain. Gifynnir yn fynych ac yn uchel I Pmvy Afwotfct y Gynhadledd? Gyda'i deyrngarwch arferol y mae Ur. Asquith wedi sefyll yn yr adwy ac wedi cynieryd arno ei hun bob cyfrifoldejo am alw y Gynhadledd, ac am yr araith. Pa fodd y saif pethau rhwng y Brenin a'i Brifweinidog nis gwyddom. Yn ol yr arwyddion, ffynna cyfeillgarwch rhyng- ddynt. Ond addefir fod mwyafrif cyf- eillion neilltuol y penadur yn Doriaid. Nid yw i'w feio am hyn, ond nis gall y ffaith lai na chreu rhagfarn yn ei er- byn mewn mannau, yn enwedig heddyw pan y mae gweithwyr y wlad yn symud gyda'r fath nerth ac unfrydedd. Myh rhai mai ystryw Doriaidd yw y Gynhad- ledd i wanychu y Llywodraeth a gwneud Deddf y Senedd yn ddirym. Nid oedd un galwad ar Mr. Asquith i alw ei wrth- wynebwyr ynghyd, tra yr oedd llawr Ty y Cyffredin at ei wasanaeth a Deddf y Senedd mewn grym. Crechwena llawer o Doriaid a thystiant fod y mater mewn dadl wedi ei symud o lawr y Ty i Balas Brenhinol Buckingham. Ond, tybed, Beth Fydd y Canlyniadau? I Yn ol yr hanes ni ddeilliodd dim o'r holl drafodaeth. Yr ydym felly yn union lie yr oeddym. Y mae y Llywodr- aeth a'r Gwyddelod wedi tystio, dros- odd a throsodd, fod yn rhaid i fesur Ymreolaeth fyned trwodd ac i'r oil o'r Iwerddon gael ei chynnwys ynddo. Ar eu llw, myn Syr Edward Carson a'i gefnogwyr gael Ulster yn gyfan ac yn hollol allan o'r Mesur. Tystiant na wna dim llai y tro er atal tywallt gwaed. I gyfarfod a hyn cynhygiodd y Llywodraeth adael i siroedd Ulster, trwy bleidlais, benderfynu, pob un drosti ei hun, a fynent aros allan o'r Ddeddf am chwech mlynedd. Gwrthyd Carson a'i gwmni hyn gyda dirmyg. Dyna lie yr ydym ar hyn o bryd. Un peth sydd sicr: rhaid i rywun blygu llawer, neu gwelir pethau yn y wlad hon na welwyd eu tebyg yma er's canrif- oedd. Beth Fydd y Cam Nesaf I yn yr helynt, tybed? Dywedir fod yn mwriad y Llywodraeth all basio y Mesur Gwelliannol Gwyddelig trwy Dy y Cyffredin. Ond, beth dal hynny? Bydd yn hollol ddiwerth heb gymeradwyaeth yr arglwyddi. Gwyddys eu meddwl hwy am dano. Onid ydynt wedi ei doi y tu chwith allan. Ac nid yw hwn yn flwydd oed. Pe bai yn ddwyflwydd gall- asai Deddf y Senedd gydio ynddo a'i droi yn ddeddf ar waethaf yr arglwyddi. Y drwg yw, nid oes obaith cyfaddawd a chyd-ddealltwriaeth. Eel y dywedoad y Prifweinidog nos Wener Nid oedd i'r pleidiau fan cyfarfod o gwbl Wewn egwyddor na manylion. Xis nailwn weled unrhyw ffordd yn agored i Mr. Asquith a'r Llywodraeth ond symud ymlaen, yn araf a thawel, gan osod Ym- reolaeth yn ddeddf ar lyfrau y wlad. yna ei gweinyddu yn gryf ac yn ddiotn doed a ddelo. Arswydwn feddwl am dywallt gwaed ar ein tir; ond. os na fyn yr ychydig wrando ar lais y werin, beth allwn wneud ? Un peth sydd sicr aed y Frenhiniaeth a Thy yr Arglwyddi lie yr elont, y mae ffyniant y weriniaeth yn ddiogel yn y pen draw. Erbyn hyn y mae I Y Mesur Ariannol wedi myned trwy Dy y Cyffredin yn  ddiogel. Cysgodwyd ef i raddau hel- j < aeth gan helynt Iwerddon. Nis gwyr y j Toriaid beth i'w wneud a Mr. Lloyd, George. Cydnabyddir ei fedr hynod yn i llywio y mesur trwy y Ty; caniataodd lu o fan welliannau ynddo, ac yn y di- í wedd aeth trwodd heb gymaint a rhan- t nu y Ty. Eto i gyd cystadleuai Captain J Pretyman, Mr. Austen Chamberlain, ac ereill yn y gwaith o ddifrio y Canghell- ydd. Ychydig er hynny y mae eu difri- aeth yn fennu arno Y mae fel dwfr ar gefn hwyaden. Gwyr yn dda gryfder ei achos a gwendid safle ei wrthwynebwyr. | 0 ran hynny dyna brif reswm yr ei-lict arno. Eu cwyn barhaus yn ei erbyn yw ei fod. yn I Gwario Gormod o Arian. Cymhellodd Mr Lloyd George hwy i feirniadu ar y pen hwnnw pan fyddai y Ty yn ystyried costau adeiladu llongau rhyfel. Yr hyn sydd yn hynod yw, y caiff wario faint fyn ar y fyddin a'r llynges, ond cyn gynted ag y sonir am wario ar gysur, iechyd, ac addysg y werin codant eu llef mewn arswyd ar unwaith. Cwynai y Canghellydd ar yr ysfa ynfyd sydd ar wledydd y ddaear am wario ar arfau rhyfel! Ofna na cheir llawer o atalfa ar yr oferedd hwn hyd nes y gwel y rhai sydd a chanddynt fuddiannau ariannol mawrion mai gwas- traff a ffolinejb yw. Proffwyda fod y dyddiau hynny hefyd ar wawrio. Ar wahan i hyn, addawa ostyngiad syl- weddol yng ngo £ ynibn y Llynges y flwyddyn nesaf. Y mae gennym felly le i ddisgwyl am gyfraniad sylweddol yn y Budget nesaf at y Trethi Lleol ac am ddeddfau newyddion i liniaru cyni y bobl. I Traethodd Mr. Lloyd George I bethau cryfion am gyflwr Ewrop y dydd- iau hyn. Cyfeiriodd at eiriau y Due o Wellington yn 1842, pryd yr oedd 215,000,000 yn ddigon i gyfarfod a gofyn- ion y Fyddin a'r Llynges yn y wlad hon. Daliai y Due fod y cyflwr ar beth- au yr adeg honno yn gyfystyr a rhyfel. Heddyw gwario Ewrop t350,000,000 y flwyddyn ar beiriannau ryfel a darpar- I iaethau i wasgar difrod a chelanedd. Aeth ein eydwladwr ymlaen fel y can- Iyn A ellir amgyffred fod Ty y Cyff redin yn edrych ar y cyflwr hwn ar bethau fel un i barhau? Nis gallaf gredu y fath beth. Gwnai i un arswydo ac anobeithio am synnwyr cyffredin cenhedloedd pe gallem ddychmygu fod y gwario yma ar arfau sydd yn rhyfel ynddo ei hun i barhau." Dengys fod y gwledydd heddyw yn ymgystadlu wrth drethu eu hunain a difetha eu pobl yn y gwaith ynfyd o gadw llyngesoedd a byddinoedd mawrion. Myn gredu fod I Heddwch Parhaol yn Bosibl I os, meddai, y gall gwareiddiad setlo cwerylon unigolion ac annealltwriaeth- au ardaloedd, beth sydd yn rhwystro iddynt drefnu mesurau i gyflafareddu I rhwng gwledydd yr un modd? Y mae yn edrych ymlaen at yr amser pan fydd y gwledydd wedi dod i'w synnwyr; yr arbedir y symiau anferth a werir ar ar- fau rhyfel ac y troir hwy i sianeli gwell a mwy cynhyrchiol o ddaioni. Heddyw treulia y wlad hon yn unig zC80,000,000 y I' flwyddyn ar y Fyddin a'r Llynges! Dyna dros filiwn a hanner yr wythnos, a'r oIL yn ymarferol, wedi ei dynnu o chwys a gwaed y gweithiwr! Ddechreu yr I wythnos bu y Brenin a Thywysog Cym- ru yn taflu golwg dros y Llynges. Dy- wedir fod yno dros ddau cant o longau yn estyn dros ddeugain milldir o ddwr. Yn arwynebol gwnai olygfa ysplenydd, ond pan gofir fod pob llong a gwr yn y lie yn nodoli wrth eu swydd i ladd ac i ddinystrio ac yn gynnyrch y casineb a'r eiddigedd hwnnw sydd yng nghalon dyn at ei gyd-ddyn, cawn olwg arall ar bethau. Pan gonr am wastraff y gwled- edd ar ddarpariadau rhyfel ac ar y fas- nach feddwol, y syndod yw fod ein hil- iogaeth yn ffynnu o gwbl, ac nad yw, er ys talm, wedi diflannu yngrym ei llygredd a'i gwendid ei hun. Y mae Ewrop eto mewn cynnwrf a Swn Rhyfel yn y Gwynt. Y tro hwn Awstria a Servia yw y ddwy wlad sydd mewn dadl. Tadogir llofruddiaeth Tywysog Coron Awstria a'i briod i gymdeithasau yn Servia sydd yn cynllwyn brad a dinystr i Awstria. Ymddengys fod y cysylltiad wedi ei brofi yn yr ymchwiliadau ynglyn a marwol- aeth y Tywysog. Danfonodd Awstria neges at Servia yn hawlio nifer o bethau pw -i,ig ac eithriadol. Hawlia Servia i gosbi rhai, i ddiswyddo ereill, ac i gy- meryd mesurau cryfion ac uniongyrchol l i osod i lawr y cymdeithasau a nodwyd. Mwy na hyn, hawlia i hyn gael ei wneud ) trwy gymorth a gwybodaeth Awstria ei hun. Rhaid cofio fod Servia yn parhau ) yn wan ac yn glwyfus ar ol y rhyfel ddi- weddar a Thwrei. Os eir i ryfel, bydd RwSsia yn amddiifyn Servia a Germani yn nchri gydag Awstria. Ac onid yw Rwsia a Ffrainc yn rhwym i amddiffyn y naill y llall 1 A phwy wyr pa le y saif Lloegr. Nid y bobl sydd yn gwneud y cytundebau rhyngwladwr- iaethol hyn, ond y Llywodraethau eu hunain.
I Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin. It Para ,n wael y mae'r gweinidog a'r graftaadegydd y Parch. J. Llewelyn Hughes, Rehoboth. Cymerir ei le Sul ar ol Sul gan weinidogion y cylch. arch. W. R. Watkyn, M.A., Llan- ellir. a'r Parch. Roland Jones, B.A.. Troedyrhnv, Merthyr, wasanaethai yng nghyrddau blynyddol Pontyberem y Sul a'i- Llun diweddaf. Sul neu ddau yn ol cyfnewidiai y Parch. M. T. Rees, Meinciau, a'r Parch. E. T. Jones, Llanelli, bulpudau a'i gil- vdd—yr olaf yno ar ran y cynllun gwein- idogsethol. Y bardd awenber y Parch. E. J. Hp-bert, Cydweli, gloriannai')' beirdd v v j; ;ted(lfod Mynydd y Garreg; a .qynyd-d Duw" yn destun y Gaair a'r i gini. a r Rarch. T. Orchwy Bowen. Llanelli, yn ei chipio oddiar naw o feirdd. Pelydrog Dafen enhillodd hanner y wojor am y darn adroddiadol i blentyn vn Llannon. Bardd ar ymweliad a'i fro ei hun yd- oedd Alaw Sylen, Abercwmboi. Mwyn- haodd pawb ei gwmni. a chroesawyd ef yn ol gan ami un o Gwm Aberdar i Gwm Lliedi. Ei frawd naturiol, Mr. T. Ed- munds, Mountain Ash, yw Llywydd Fn- deb Bedyddwyr Cymru eleni. Hawdd fuasai llenwi colofnau y "Darian" a rhai o droion a straeon y bardd hwn, ond yxnataliwn. Hen law yw Alaw Sylen.—ie, bardd Abercwmboi addien Pump Heol fel pwmp awen Wna'n cawr yn ieuanc a hen. Y mae Myfyrfab yn rhoddi fyny ar- weinyddiaeth Cwmni Dramyddol Felin- foel. Gresyn hyn. Y mae gwyr Pontyates yn hwylio ati i gynnal Eisteddfod Fawreddog dydd Mawrth, Awst 4ydd. Defnyddir yr elw tuag at gael Neuadd Gyhoeddus i'r lie. Mr. Cyril Jenkins gloriana'r cantorion, a Dyfnallt y beirdd a'r adroddwyr. Y mae symudiad ar droed yn ardal y Pump Heol hefyd tuag at gael Neuad4 Gyhoeddus yno. Y mae yno lyfrgell gy- hoeddus eisioes. Mr J. M. Jones, yr ysgolfeistr, yw'r ysgrifennydd, ac y mae'n ymdrechol iawn drosti. Fel hyn ca fantais i wneud rhywbeth o hyd dros y plant fu tan ei ofal. Gwyn fyd na fuasai ysgolfeistr cyffelyb iddo yn mhob ardal. MYRDDIN MIN Y MOR. I
Aberdar..
Aberdar.. Yng ngwasanaeth yr hwyr y Sul di- weddaf, yn Eglwys Soar, gwnaeth y gweinidog, y Parch. T. Eli Evans, gyf- eiriadau tyner at y diweddar gerddor Mr Harry Evans, F.R.C.O. Chwareu- odd yr organydd, Mr W. M. Lewis A V.C.M., y "Dead March" (Saul) ar ddiwedd y gwasanaeth.
[No title]
Cynhwysai'r 869 siopau hynny 302 o siopau general grocery; 187 o siopau llyfrwerthwyr, tybaco, etc. 169 o siop- au teisennod; 64 o dai bwyta 65 yn gwerthu ffrwythau; 30 yn gwerthu llaeth; 20 yn gwerthu dillad; 8 yn gwerthu cig. Gwaith y gweddill oedd benthyg moduriau, bicycles, a thynnu lluniau.
I COLOFN LLAFUR.
I COLOFN LLAFUR. I GAN PEREDUR. I Plaid Llafur yn y Ty. Y mae y Blaid Lafur Seneddol wedi cyhoeddi pamffledyn y dyddiau hyn, a ddengys weithgarwch y blaid yn y Ty yn ystod y Senedd-dymor diweddaf. Crybwyllir yr amgylchiadau cysylltied- ig a'r gwahanol fesurau y cymerodd y blaid ddiddordeb neillduol ynddynt, a danghosir fel y mae ei dylanwad wedi effeithio er llwyddiant a sicrwydd y mesurau hynny oeddynt yn ymwneud yn neillduol a bywyd y werin weithgar. I Mesurau y Cwmnioedd Mawrion. I Onibuasai am bresenoldeb yr Aelod- au Llafur, gwthiasai y meistri cyfalafol fesurau drwy y Senedd fyddai yn rhoddi manteision neillduol iddynt hwy en hunain, ar draul beichio a gorlethu y I gweithwyr a'r cyhoedd. Y mae cwmni- oedd y rheilffyrdd yn neillduol wedi gorfod teimlo oddiwrth weithgarweh a gofal yr Aelodau Llafurol. Llawer o fan fesurau a ataliwyd neu a wrthwyn- ebwyd er mwyn lies y gweithiwr. i Buddioldeb Annibyniaeth y Blaid. Pan gofiwn fod meistri perchenogol y diwydiannau mawrion fel y rheilffyrdd. haearn-weithiau, a'r glof eydd,' yn Rhyddfrydwyr a Thoriaid, ac mai lles- iant presonol yn y ffurf o elw ariannol oddiwrth y diwydiannau hyn ga yr ys- tyriaeth flaenaf ganddynt, nid yw yn syndod eu bod yn colli eu hunaniaeth wleidyddol ac yn ymuno bob amser pan y daw cwestiwn o hawliau llafur o flaen y Ty. Felly y mae annibyniaeth y Blaid Lafur ar y ddwy blaid hynafol arall, yn hanfodol er sicrhau llesiant cyffredinol I y gweithwyr. Y Blaid Ryddfrydol Mewn Gwarth. Y mae yr amgylchiadau Seneddol mewn cysylltiad ag achos yr Iwerddon wedi dangos i'r byd wendid y Blaid Ryddfrydol, a'i harweinwyr yn neillduol iawn, ac yn gyfatebol yn dangos nerth a gwroldeb y Blaid Lafur. Y mae yr olaf wedi ennill edmygedd gwerinwyr y byd drwy y penderfyniad o JJrotest an- fonwyd ganddynt i'r Prifweinidog As- quith a'r Brenin, yn erbyn yr olaf yn ymyrrid a breintiau Ty y Cyffredin. Os yw Mr Lloyd George am gadw ei gymer- iad gwleidyddol yn ddilychwyn, y mae yn bryd iddo gymeryd yr awgrym a roddwyd iddo yn y "Darian" wythnos neu ddwy yn ol, a chymeryd ei safle yn y Blaid Lafur fel yr unig blaid sydd yn deilwng o gymeradwyaeth dynion in- plyg a gonest. Tyfiant Undebol. Mewn adroddiad sydd wedi ei gy- hoeddi gan brif gofrestrydd y cymdeith- asau dyngarol, danghosir fod cynnydd yr undebwyr llafurol wedi bod yn fawr iawn yn ystod y deng mlynedd oedd yn diweddu yn 1912. Y maent wedi dyblu yn eu nifer. Ar gyfartaledd, y mae y cynnydd wedi bod yn 102,200 yn flyn- yddol. Yng ngwyneb y ffaith ofidus o'r lleihad parhaol gymer le yn nifer aelod- au y gwahanol gyfundrefnau crefyddol, y mae-yr hanes hwn geir o Iwyddiant yr ysbryd brawdgarol yn y cyfundrefnau llafurol drwy yr holl wlad yn gysurlawn iawn. Anghydfod Cenedlaethol. Blin ydyw clywed fod anghydfod wedi torri allan rhwng y Cymry a'r gweith- wyr Yspeinaidd a Ffrengig sydd yn gwelthio yng nglofa A bercraf. Drwy ffrwgwd gymerodd le, ac ymosodiad un o'r tramorwyr ar Gymro, y mae y Cyrn- ry wedi gwrod myned i lawr i'r lofa i gydweithio gyda'r dynion "dwad." Y maent hefyd wedi apelio at yr agent I geisio eu helpu i gael gwared o'r tra- morwyr o'r cymdogaethau. Ar y llaw arall, y mae un o'r dynion mwyaf dylan- wadol ar ochr y tramorwyr yn gwneyd apel neilltuol yn gofyn am nawdd y Ffederashwn ar ran ei gyd-dramorwyr am eu bod yn aelodau rheolaidd a ffydd- lawn o'r undeb. Y mae yr achos o ddi- ddordeb mawr i weithwyr Cwm Tawe. I Glowyr Scotland. Cawn fod achos glowyr Scotland yn penderfynu gweithio dim ond pedwar diwrnod yr wythnos, wedi cael ei wrthod gan y Ffederashwn. Y maent, er hyn- ny, wedi penderfynu nad yw cynygiad y meistri i ostwng y gyflog, i'w gymeryd o gwbl. Gosodir holl nerth yr Undeb I drwy y wlad i weithrediad cyn y ca'r < gweithwyr eu gorfodi i gymeryd y gos- < tyngiad. Y mae y cewri gweithfaol fel < yn ymbarotoi i ryfel, yn gyfalafol a 1 llafurol. (
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID COfALU All IIItHIU Eagouluadod o '??'"?  hyn drwy ddamwain ? ?' .,11'" Blood poleoning a IMIarwolaeth.  El mwyn yqol ,.rYII rhsld 21 Ymrf&r tn<wn?y*' -DOES DIM MOR LLWVDDIAIIUB A ftiOR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr    sier a dioe" ddarglkimfyddwy# erioed at Clwyfau, Aroholllon, Tardd- lantau Y Cnawd, Eczema, Craoh a Nadd yn Mhenau Plant, Llosglad. au, Yesal. d a n a u Scurvy, L I u g r a* Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Gout, Cymaiau Poenus, Rhoumat. ics, Poo" Cafn, PHaa. Hynod 8 offelthiel at CL WYFAU ar COESAU. u Yr()d P?' ? M48-  pohry?? ?,S3a ?. B"- hi yD bur  hi yn bur fa?*' Mlloedd yn tystlo l'w Effelthlau i?hyteddol- RHQDDWGH BRAWF ARNO owollhcsdeydd StOr. Ar werth gan bob Chemilt A Stores so Ar werth eM ?? .SS?'t Balm. My?- 1/1). Goffer  ?MtM' M bob wch weled enw "a. H u.n. ar bob blwch. Heb hyn w d !r gywir. Nt* danfonere' g.? neQ danfoner ei ^*1-M«niifaaturlng Chaa- 1st, M. P .S., L.D.? poarlb, C.ri.. CWRTHODWCH 808 PETH ARALL.
Penderyn-
Penderyn- Prynhawn dvdd 1™ ? diweddaf, tra vn dilvn ei al- ?w?e<hga'e? th ?el?dw? yng ghwar weddiga»eetth h feefl ^cnhwarelwr yng Nghwar Stuart syr h? ?? ?? g-?iel(A-Uch- Jones drosyd  ?? nid  serth yn y fan hono, ? l?eddarn 01 fel ag i gan ? ?? au iddo hthro drosti ran o'r fT ^,1 Bu f?? am vchvdig amser "? ?- ?dogartref, ? siaradai beth ar "v ffordd, ond pan welsom ,f yn y <y vr oedd ar anadlu e, olaf. Efc oedd -foreman" y cwar a llinwai rhai .wvddi o bwys mewn cymde?as ?y vr ardal a rhoddwn gofnodiad bel- :haS yr wythnos nesaf ac ha^K angladd, yr hon fydd y Llun nesaf, Gorff. ?a'? i gladdfa Capel ,v  yddwyr, lIe yr oedd yn ddiacon. D.C. D.C.
Cadoxton, Barri.
Cadoxton, Barri. Gorffennaf y l712 „ i'r 20fed, cynhal- GorSenuaf y ????., iodd Eglwys y B?"? ,He ?wn ei j,hregethwyd chyfarfod T.  Llwyny- gan y Parchn. i- Pia/aclnglisjan??, Y J1 Ma• rtin yn gwneud Y mae Mr. D. J. Martin ;yn gwneud enw ?godray? nHwydd?nnus?yn?y??i, ? bwr- iadant fynd i Fangor eleni.
Advertising
A RTIFICIAL LIMBS, Crutches, A????.T AT ?r ?IMBBoSo, ?. Flat-Foe. ?'sbteeuea?a Easi6t"Tru?s, ? Supports, X  Beits? neic ;tc. Jay attendant HeLtB, Beft- Jorsets F!Mtic Stockings, Truces. ? ?r. DiIY, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-8 ?t f? 7 Tel. 1282-Allen Pearce, 23 Dharles Street. Cardiff.