Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Olynydd Syr Edward Annwyl.

News
Cite
Share

Olynydd Syr Edward Annwyl. Mr. Gol.,—Yr ocddwn i a chyd- ymaith i mi y dydd o'r blaen yn teithio o Ogledd Cymru tua'r De ac o weled Aelod Seneddol o Gymro ar lwyfan gorsaf ar y ffordd, trodd ein hymddi- ddan ar sefyllfa wleidyddol Cymru. Triniwvd ami i agwedd ar y pyftciau pennaf eu pwys, a rhoes fy nghyd- ymaith Cymru Fydd ffrwyth ei feddwl a'i ddychymyg ef a minnau i ddarllen- wyr y "Darian yr wythnos aeth heibio dan y pennawd, "A Ddylai Lloyd George ffurfio Fiaid Newydd?" Wedi'n llusgo'n flin am rai oriau daeth y. peiriant a ni o'r diwedd i'r Mwythig, a phwy welem yno ond twr o athrawon a swyddogion a gwyr mawr ereill o Brifvsgol Cymru. Yr oedd twysged o honynt fel ninnau yn disgwyl tren buan a'i wyneb tua'r De, ac yn ddi- ymdroi-dyma fe'n dod. Bu Cymru Fydd a minnau mor ffodus a chael cwmni Mr. N., un o'r gwyr rhadlonaf a mwyaf deallus yn y wlad. A'r tren yn rhedeg yn araf allan o'r adeilad, gwelem Syr Edward Annwyl a'i law i lynv yn canu'n iach drwy'r ffenestr i'w gydarholwyr, a wyliai gyfle i fynd adref ffordd arall. Ni thraai fy nghydymaith wrtho er's gwell na dwy flynedd, a rhyfedd fu ganddo ei weled wedi newid cymaint yn ei wedd yng nghwrs hynny o yspaid. Wedi caei tan pib a llithro o honom yn esmwyth 1 blyg carped y seddau, pob un yn ei gornel ei hun, syrthiodd y siarad ar waith yr Athro Annwyl yn ymadael ag Aberystwyth dechreuwyd dyfalu dyfodol Caerlleon o dan nawdd dysg a dawn a mwvneidd-dra y marchog ad- nabyddus. Yna troisorh ein hwynebau ar gadair Gymraeg Coleg Aber- ystwyth. "Pwy meddech chwi, Mr. N., ebe fi, "sy'n debyg o ddilyn Syr Ed- ward? Os wyf yn fy lie, ni wnaed mo'r penodiad hyd yn hyn." "Naddo eto ac ni wneir ychwaith am dymor," ebe Mr. N. "Oni wel- soch chwi y dydd arall yn y papurau ddarfod i'r awdurdodau farnu'n ddoeth rannu'r gwaith am y llwyddyn nesaf rhwng y bechgyn sydd yn cynorth- wyo'r marchog ar hyn o bryd, sef yw rheiny Mr. Timothy Lewis, y Dr. Parry Williams, a Mr. T. Gwyn Jones." "Beth vw'r rheswm am lwybro'r ffordd honna?" ebe fi. A oes rhywbeth vnilawesyr axvtiurdodau, tybed? Mi glywais i sibrwd dro yn ol fod mudiad ar droed i geisio denu yr Athro Morris Jones i fynd yno o Fangor, ond ni wn i yn y byd pa un a oes gwir yn y stori ai peidio. Aberystwyth yw cartref y Llyfrfa Genedlaethol, fel y gwyr pawb I bellach, a Choleg Xberystwyth o'r herwydd ddylai fod y man goreu yn y byd am fyfvrdodau Cvmreig, yn en- wedig am ymchwiliad i iaith ac 1 hanes cenedl y Cvmry." "Dyna chwi wedi taro'r hoelen ar ei chlopa," meddai Mr. N. o'r diwedd, "ac y mae'n ddiameu gennyf fi fod mwy na hanner y gwir yn y gosodiad a wnewch chwi weithion. "Y mae yna bennau hirion wrth lyw'r coleg hwnna," ebe finnau, I "pennau gwladgarol yn gwybod am bopeth o bwys a dyddordeb am bob symdiad cenedlaethol, am bob bach- gen a merch obeithiol o Faenol Dewi i Gaergybi ym Mon Nid oes nemor o bapur newydd na math yn y byd ar gvhoeddiad y tu yma i'r Hafren na fydd ynddo hyspysiad am Goleg Cymru Aberystwyth. Efe yw'r unig goleg o'r tri sydd yn y "Darian fel y gwydd- och. "Ie, ie. Nid oes guro ar J. H. Davies," meddem ein tri gyda'n gil- vdd. "Ond i ddychwelyd at y pwnc a driniem gynneu, nid wyf yn tybied," ebe fi, "y gellir un unwedd lwyddo i ddenu yr Athro o Fangor i fynd yno, yn enwedig ac yntau newydd brynu car modur newvdd i dramwyo o Lan- fair i'r ddinas. Bangor yn ei farn ef a Mr. Shankland ddylai fod y man mwyaf ei glod yn y byd am Gymraeg, ac am a wn i na lwyddiant i gyrraedd eu hamcan pan gyhoedder yr ail ran o'r Gramadeg Hanesyddol a Chym- harol. Ofnaf y byddai caledi mawr yn Llanfair cyn y gellid llithro y gwr mawr o Fon o'i hen gartref ger y Fenai. "Os gwir y stori a daethwch chwi," ebe'm cydymaith wrthyf, "ac os gwir eich dyfaliad mai annichon fyddai tywys y gwr o Fangor tua Cheredig- ion. Ar bwy meddech chwi, Mr. N., y mae'r coelbren debycaf o ddisgyn am y gadair wag? "Yn ol a glywaf," meddwn innau, "rhwng tri athro cynorthwyol yr Ad- rannau Cymraeg y bydd yr ornest yn bennaf. Nid oes fawr mantais gan netn o'r tu allan, os gwir a ddywedir. Ni wyddom bawb o honom fod "possession is nine points of the law" yn wir ymhob oes. Dywedwch i ni dipyn o hanes cwrs pethau; fe wydd-' och chwi 'n burion o ba du y chwyth y gwynt pe gadawai'ch gofalwch chwi i agor eich genau. Wedi teithio eto gryn dipyn a thano'i bib ddwvwaith neu dair, dech- reuodd ymdoddi a llefarodd yn rhydd am 'v t  am y tro cyntaf. "Prin y rhaid i mi ddywedyd," meddai, "na wn i ddim yn y byd yn bendant am yr hyn yr holwch am dano, ac na fydd yr hyn a draethof yn ddim amgen nag a glywaf draw ac yma wrth dramwyo'r wlad l fwrw'm byd a'm hoes. Ond yr hyn a wn mi a'i dywedaf yn llawen i chwithau. Bydd gan y bechgyn y soniwch chwi am eu henwau gystal hawl a neb ar sylw'r penodwyr, ond yr wyf fi ymhell o fod o'r iiii farn a ebwi mai hwy'n unig a ystyrir ganddynt. Dilys fod yna bed- war neu bump o ysgolheigion ieuainc ereill yn hawlio ystyriaeth ofalus cyn y gwneir y penodiad. Nid angenrhaid i mi son \vrthych chwi, Mr. Cymro Llwyr, y try'r dewisiad ar dair ystyr- iaeth, a dyma nhw (i) cwrs addysgol pob ymgeisydd; (2) profiad yn y grefft o vmchwilio a gwerth cynhyrchion yr ymgeisydd ar faes ymchwiliad; (3) i profiad fel athro." "Da chwi, Mr. N., cymhwyswch y meini prawf yna gyntaf at dri darlith- ydd cynorthwyol colegau Cymru, ac yna at y gwyr ieuainc oedd ger bron eich llygaid chwi gynneu." "Fe fyddai'n anodd iawn, Mr, Cymro Llwyr, i mi wneuthur yr hyn a ofynnwch chwi wedi cinio mor dda ag a gawsom heddyw, ac mewn eerbyd mor foethus ag ydvw hwnyma a minnau heb nodyn na llyfr o fath yn y byd wrth fy elin. Ond os geill fy syn- iadau ar gwrs pethau ac ar siawns yr ymgeiswyr tebygol, ryngu'ch bodd chwi mewn ffordd yn y byd, yn enw dyn gostyngwch eich clustiau a minn- au a lefaraf yn decaf y medrwyf. Gor- eu peth fyddai dechreu gyda chynorth- wywr cyntaf y marchog, Ntr. Timothy Lewis, M.A., gan gadw o flaen ein llygaid y tri pheth a nodais gynneu. (I barhau.)

Bethania, Aberdar.I

/Caerdydd.I

IAr Lannau Tawe.|

Nodion o Frynaman.I

- - -Nodion o'r Maerdy.i

[No title]

I Ferndale.

Goheblaethau.I

I Colofn y Beirdd.

I CADAIR PENIEL GREEN.