Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Eisteddfod Aberaman, Mehefin…

News
Cite
Share

Eisteddfod Aberaman, Mehefin 2, 1914. BEIRNIADAETH Y FARDDON- IAETH. Y CYWYDD—"YR EGINYN." (4) YN Y GOLEU.-Pryddest felus iawn, yn darllen yn rhydd, ac yn cyn- nwys cyffyrddiadau byw, a tharawiad- au hapus iawn. "Teimlais y tan cyn rhoi fy nghyntaf gam, Gwelais y goleu'n llygad pur fy mam, 'Roedd tan ei chalon yn goleuo 'i gwedd, Ni saif yr eira'n hir ond ar ei bedd Ni ddaw yr awel oer i galon baban, A gwsg yn swn emynau Dolwar Fech- an. Mae'r darn canol ychydig yn wannach yn ol ein barn ni na'r darn cyntaf a'r olaf. Diwedda yn rhagorol iawn. Mae pennill fel hwn yn un gwir werthfawr "Fu yno ond dau ar eu gliniau- Mi wn faint fu'n uno'n y gan, Ond nis gwn i rif yr angylion Ddisgynodd i weled y tan; Mi dysgais gyfrinach fy nghenedl, Mi wn pam mae Cymru yn fyw, Rwy'n cofio mai'r berth sydd yn llosgi Yw'r berth sydd yn llawnaf o Dduw. Pryddest dlos, swynol yw hon. Hon a Marworyn yw'r oreu hyd yn hyn. (5) PERERIN.—Mae gan y bardd hwn lawer o bethau rhagorol yma a thraw—llawer syniad byw a llawer tarawiad prydferth, a thuedda weithiau at feiddgarwch. Mae ganddo lawer o ddychymyg a nerth, ond nid yw wedi aeddfedu. Y mae yn gymysglyd iawn -credwn mai awen ieuanc sydd yma, os felly daw yn fwy gochelgar a phwyllog yn y man. (6) PANTYCELYN. Canu yn fwyn a llithrig, ac yn hoff o dine cvnghanedd felus yn awr ac eilwaith. Canu yn syml a naturiol, braidd yn rhy lyfn a llonydd ar destyn mor Hawn o dan. Tuedda weithiau at ryddiaeth "Er dadleu o'r gelynion Breswyliant rhwng ein ceig, Mai anffawd blin i'r genedl fach Yw'r anwyl 'd&n Cymreig Mae ynom ni o anian Y dwyfol dan dinam, Cawn wel'd eu concwest cyn bo hir Yng ngoleu clir ei fflam." Mae'r ddwy linell olaf yn lied dda, ond y pennill yn rhyddieithol iawn, ac yn enghraifit deg o nifer o benillion allem ddyfynu. Mae i'r bryddest hon ragoriaethau amlwg yn ei symledd a'i naturioldeb a'i barddoniaeth gartrefol a dirodres, ond v mae iddi hefyd ei diffygion. Y mae ormod ar y ffin rhwng barddoniaeth a rhyddiaith—daw geiriau i fewn iddi nad oes ganddynt nemawr neges. Mae ei chymedrolder yn llyffethair iddi. Nid vw yr awdwr wedi Uwyr ymdaflu i fro hud yr awen ar y testyn hwn. (7) NO. 27.-Dyma ni yn ol eto yn nhiriogaeth dychymyg go gryf. Mae fflam gan hwn, a honno vn medru trywanu a llosgi, ond y mae'r Haw yn anfedrus braidd wrth ddal yr awenau. Cawn ddarn hanesyddol i ddechreu yn 'led dda, gydag ambell gyffyrddiad j gwych :— "Yn ei oleu aeth gwladgarwch Ieuan Gwynedd fawr yn fflam; Cododd faner yn ei ddolur, Llif o waed yn lliwio'i lafur Wrth ddinoethi trais a cham." Wrth draethu ar "Y Tan," daw am- bell air f el hyn "Pwy all ddirnad posibilrwydd? Anhawdd ydyw ei ddisgrifio, Gwir Duw sydd yn dadebru," a llu o linellau gweinaid tebyg. Ceir hyn yn gymysgedig a chyffyrddiadau awenyddol a bfeiddgar "Haul Cyfiawnder Dwyfol Gariad, Gododd lenni dwyfol loes, Llifodd y gogoniant allan Cymru sy'n anghofio'i hunan, Gwel'd ei gwynfyd ar y Groes. Telyn angel ddaeth i'r galon, Llam yr ewig ddaeth i'r droed, Gweled treiglo meini adfyd, Ac agoryd dor o wynfyd Na bu angel ynddo erioed." Pryddest feddylgar, gydag elfen o wylltedd hoffus ynddo, ond yn rhy an- wastad. 8) GONIER. Dechreu yn go wreiddiol: — "Pan greodd Duw y Cymro, Ymhlith cenhedloedd byd-" Mae gan yr awdwr hwnei ffordd ei hun o feddwl, ac y mae yn cadw ei wreiddiolder dechreuol hyd ddiwedd ei gan. Mae ei fesur a'i acen yn dra doniol weithiau, a'r cyfan yn ffurfio can na cheir ei chyffelyb yn fynych- ond nid oes fawr reol ar ei awen- weithiau ymollynga i ryddiaith hollol, yna ambell darawiad go- dda; yna dweyd ar ei gyfer am amser-wel, pryddest go ryfedd yw hon a dweyd y lleiaf. )9) MAB YR ALLORAU.—Wele'r bardd naturiol dirodres unwaith eto: Yn nyfnder enaid Cymro y mae Secina glan, Ac ar ei allor yno mae'r diamgyffred dan Yn hanes brywdrau Cymru ceir hanes cenedl lan; Yn cerdded drwy fforestydd trais a'i chalon fawr ar dan; A'i ffydd a'i sel yn wenfflam yn nyfnder pob pruddhad, A'i heiyf gwladgarol yn ei llaw fel mellt yn nos y brad, Tra cof am fedd Llewelyn tra derw uwch ein creig, Ni all estronwynt ddiffodd nerth y gwladgar tan Cymreig." Dyria ddull yr awdwr o ganu. Mae ganddo gynllun naturiol fel ei awen, a'i ddull o fydryddu yn llednais fel ei feddwl. Cymer hon ei lie ymhlith y goreuon. (10) ACEN FFYDD. Pryddest wastad, lan, gref, yn drefnus ei chyn- llun, ac yn ddidramgwydd ei syniad- aeth. Mae swn gormod ymdrech yma weithiau ac ambell air llanw i wneud i fyny hyd y llinellau, "yng nghein- berth Horeb," "nef-hyawdledd," "nef-gynghanedd," rhos-lwyni moes a rhinwedd." Weithiau cymerir ef ymaith gan rwysg ei fesur, ac ym- ollynga i ryw fath o siarad hyawdl, heb ddigon o feddwl. Mae mynd rhwysgfawr yn hon, a llawer o'r "tan" ynddi, ond nid yw yn llosgi mor eirias ag yr ymddengys ar y dechreu. Mae'r fflamau weithiau yn rhuthro yn uchel, ond diffoddant yn rhy fuan. Nid yw'r tan yna yn llosgi yn ddigon clir a cfiyson. (I barhau.)

Advertising

Eisteddfod Gadeiriol Carmel,I…

[No title]

Colofn y Gohebiaethau.1

[No title]

Advertising