Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. I DAN OLYGIAETH MOELONA. I CANTRE'R GWAELOD. I Ar ochr orllewinol Cymru, lie yn awr y gorwedd Ban Aberteifi, yr oedd un- waith ddarn mawr o wlad yn dwyn yr enw Cantref y Gwaelod. Gwlad dlos, wastad oedd, yn llawn dolydd hyfryd a choedydd prydferth. Yr oedd hefyd yn boblog iawn, oherwydd yr oedd yno un-ar-bymtheg o drefi-y mwyaf a'r gwychaf yn y wlad ag eithrio Caer- leon-ar-Wysg. Yr oedd y preswylwyr yn hapus a diddig. Enw eu brenin ar y pryd hwn oedd Gwyddno Garanhir (hynny yw, Gwyddno Goes Hir). Yr oeddent yn dra hoff o wledda a bod yn llawen, ac fel y cewch weled, un o'u gwleddoedd mawrion fu yn achos o'u dinystr. Er fod Cantref y Gwaelod yn nod- edig o ffrwythlon, yr oedd un anfan- tais ynglyn a'r wlad. Yr oedd yn isel iawn; y rhan fwyaf o honi yn is nag arwynebedd y mor. Felly, fel yn yr Iseldiroedd (Holland) hyd y dydd hwn, rhaid oedd adeiladu muriau mawrion i gadw'r mor allan. Ar enau un o'r afonydd redai drwy'r wlad, yr oedd math o glwvd enfawr wedi ei gosod yn y mur. Agorid y glwyd ar amser trai, a cheuld hi amser Ilanw. Dewiswyd swyddog i ofalu am y glwyd—i'w hagor a'i chau mewn pryd. Nid pawb gai fod yn getdwad y glwyd. Yr oedd y swydd yn un bwysig iawn. Yn amser Gwyddno Garanhir, enw ceidwad y glwyd oedd Seithenyn, ac yr oedd y Seithenyn hwn yn dueddol iawn i yfed gormod a meddwi. Mewn gair, nid oedd yn ddyn addas i gym- eryd gofal gwaith mor bwysig. Un noson cynhelid gwledd fawr ym mhalas y brenin yng Nghaerwydd- no. Yr oedd holl dywysogion a dyn- ion mawr y wlad yn y wledd, ac yn eu plith Seithenyn, ceidwad y glwyd. Fel arfer, yn y gwleddoedd hyn, yr oedd digon o win a medd i'w gael, ac eis- teddai'r gwahoddedigion yn hwyr wrthy bwrdd i fwyta ac yfed, ym- gomio a chanu, a mwynhau eu hunain. Eisteddai Seithenyn gyda hwy, heb gofio fod yn rhaid cau'r glwyd ar droad y llanw. Pan ddaeth yr amser i wneud hynny, yr oedd Seithenyn yn rhy feddw i symud o'r neuadd. Yna daeth dinystr erchyll ar Gan- tref y Gwaelod. Daeth y llanw, a thrwy y glwyd agored llifodd y mor dros y wlad. I wneud pethau'n waeth, cododd gwynt cryf o'r Gorllewin, a daeth tonnau mawrion i ruthro yn erbyn y mur. Llifodd y dyfroedd dig dros yr holl fro, gan orchuddio'r dol- ydd, dadwreiddio'r coed, dinystrio'r adeiladau, a boddi'r anifeiliaid a'r bobl. 1 Daeth y dyfroedd hefyd i neuadd y wledd, heb hidio gronyn am y brenin na'i dywysogion. Dihangodd y brenin drwy ryw fodd, ond boddwyd bron bawb o'i gyfeillion. Boddodd Seith- enyn cyn deffro o gwsg ei feddwdod. Erbyn y bore, yr oedd yr ystorm wedi tawelu, ond nid oedd gwlad brydferth Cantref y Gwaelod i'w gweld yn un- man. Yr oedd hi a'i dolydd a'i dyffrynnoedd, ei phobl, a'i dinasoedd, o'r golwg am byth ar waelod y mor. Dihangodd y brenin ac un neu ddau ereill i fynyddoedd Meirionnydd. Wedi hyn dywedir y deuai yn fynych i lan y mor, gan edrych yn brudd am ei wlad oedd dan y dyfnion donnau. Y dref agosaf at y He y safai Can. tref y Gwaelod yw Aberdyfi. Dywed rhai pobl y gellir clywed o draeth Aber- dyfi, ar ambell i noson dawel, swn clychau draw o'r mor. Daw eu swn gyda'r awel, weithiau'n agos, weith- iau 'mhell. Clychau rhai o eglwysi Cantre'r Gwaelod ydynt! Clywsoch am danynt yn y gan "Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, Meddai Clychau Aberdyfi."

Caerau, Maesteg. I

Morgan John Rhys. I

Cymrodorion y Barri.

Abercraf a'r Cylch. I

[No title]

IBeirdd y Bont.

Tipyn o Bopeth o Bontardawy.

Advertising

Undeb Ysgolion, Sabbothol…