Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

0 Bontardawe i Gaerdydd.

Trebr I

[No title]

I Danygraig, Pontardawy.I

News
Cite
Share

I Danygraig, Pontardawy. I Nos Fercher, Gorftennaf y i5ed, yn Festri y He uchod, cynhalivvyd cyfarfod i gadeirio ac anrhegu y Parch. Llew- elyn Bowyer, gweinidog yr eglwys. Rhywfodd neu gilydd, cyhoeddwyd y cyfarfod yn anghywir mewn man, sef nos Wener yn lie nos Fercher. Yr oedd yr ysgrifen yn ddigon clir, fel nad oedd angen g wneyd un cam- gymeriad. Fe fu y cam gyhoeddi yn achos i gamarwain Flawer o noson y cwrdd, ond er y camgymeriad, yr oedd v festri eang yn orlawn, a'r gwres er- byn canol v cyfarfod yn anioddefol i'r rhan fwyaf. Fel y gwyr darllenwyr y Darian" bellach i Mr. Bowyer ennill dwy gad- air farddol, un y Llungwyn, a'r Ilall Mawrthgwyn, y rhai a wnaent iddo bedair. Pan glywodd yr Eglwys am ei lwyddiant, llonnodd yn ddirfawr, ac aeth y syniad o wneyd cwrdd cadeirio iddo (fel tan trwy wellt), trwy y lie ben bwy gilydd. Er na fu Mr. Bow- yer yn eistedd o dan v cledd crioed (cyn y noson hon), cawd tipyn o waith ganddo i foddloni i gyfarfod cadeirio; pan gydsyniodd, awd ati ar unwaith i drefnu, ac er mwyn i'r eghvys ddangos ei llawenydd mewn modd ymarferol, penderfynwyd gwneyd iddo anrheg o sypyn o lylrau yn y cyfarfod hwnnw. Dyna fyr hanes o'r trefniadau erbyn y cyfarfod. Cadeirvdd y cyfarfod oedd v Parch. D. Jenkins, Ebenezer, Rhos, CilybefT- yll, a llywyddodd yn "grand," ac fel y I dywedodd un o'r uwchfeirniaid am un arall, .gwnaeth ei waith in fine style" and "punctuality." Fel yma oedd y rhaglcn Can gan Mr. Tom Ellis Lewis; ad- roddiad gan Miss Sarah E. Jones, Pontardawy; wythawd gan Mr. Rees Gwilym a'i gwmni; adroddiad gan Ynysferch Trebanos. Yna awd at y cadeirio. Yr Arch- dderwydd oedd y Bardd-bregethwr o Bantteg, a diogel yw popeth yn ei law ef, a thybiai y cadair fardd fod ei ben ddiogel yhyd ag y byddai y cledd yn llaw Ben. Cyrchwyd y bardd i'r llwyfan gan Banos a Myfyr Baran, a thra y cerdd- ent hNvN- i'r llwyfan chwareuai Mr. Rees Lewis, "See the Conquering Hero comes ar y piano. Yr oedd golwg farddonol iawn ar v beirdd few ddigwyddai fod i fyny; edrychent fel lot o wyddau wedi eu hanner rostio, a wir i chwi, Mr. Gol., yr oedd y beirdd hynny ddigwyddai fod yn aneglur gan eu teneuweh yn ach- wyn yn dost hefyd. Y cyntaf i arllwys cynnwys ei phiol oedd yr /Crchdderwyd'd. Yna Charles Williams, Toriad y Dydd, Doleu Fab, Tom Jones, Myfyr Baran, leuan ap William, William ap Tomos, Oliver, Meudwy, Banos, Daniel ap Matthew, Ap Rhys, Telynor, Urbanus, ac Hir- fryn. Yna canwyd can y cadeirio gan Miss E. Morgan, Alltwen. Daeth cynhyrchion y beirdd canlynol i law trwy ypost:—Ap Cledlvn, GwiJ- ym Cynlais, Parch. D. G. Jones, Soar, Pontardawy; Glan Clydach, ag Alfa. Ni ofynnaf am le i gynhyrchion y beirdd oedd yn bresennol, Mr. Gol., ond diolchaf am le i eiddo yr absen- olion. Wedi y cadeirio cafwyd can gan Miss Hannah Jones, Railway Terrace. Wedi hyn awd at ran bwysicaf y cyf- arfod, sef cyfhvyno llyfrau i'r gweini- dog ar ran yr eghvys gan Mr. Owen Mathias, y diacon hynaf. Dvna orch- wyl goreu y cyfarfod. Sylwodd Mr. Mathias yn ei anerchiad y buasai yr hyn roddid i'r gweinidog v noson honno yn dyfod yn ol i'r eglwys yn ddau ddyblyg. Sylwodd y cadeirydd yn ei anerchiad ef fod y llyfrau oedd ar y bwrdd o'i flaen yn ddigon i dynnu dwfr o ddannedd gosod. Wedi cyflwyno y rhodd, 1 cafwyd an- erchiadau crvno a phwrpasol gan y Parchn. H. Seiriol Williams, Taber- nacl, Pontardawy, a'r Parch. Gower Richards, Trebanos. Wedi'r anerchiadau vma, cafwyd can gan Mr. James Jenkins, Cily- bebyll, a thdn gan Barti Meibion Dany- graig, dan arweiniad Mr. Rees Gwilym. Wedi cynnyg ac eilio diolch i'r rhai a wasanaethent, canwvd "Hen NVIad fy Nhadau i ddiweddu gan Miss Elizabeth Morgan, Railway Bank. Yna ymadawodd v dort fawr i'w car- trefi. HIRFR. Ym mhur wyl meib Cymru Wen,—lie genir Liu y gan yn Ilawen- Ar luoedd araul awen, Cvnnyrch per Bowver fu'n ben. —Glan Clydach. AV el, dyma loy yw Boyer—bardd v byd, Bardd y beirdd bob amser, Er hwyt sy'n cymylu ser, H wn wasg awen pob scwcier. -Ap Cledlyn. Boyer bach a bia'r byd-ei awen Loyw swyna'r hollfyd, Awen gref Boyer hefyd I gwrr gwae a'n gyrr i gyd. —Gwilym Cynlais. Yn y "North" Hawn o nerthoedd-byw awen Bowyer drechodd luoedd, Yn hedd yr hen fynyddoedd. Awdurdod ar awdurdod oedd. Ar ffrwst efe i'r Fforest Faeh-wedyn Rodiodd yn fil cryfach; Ei lusern ni fu'i thlysach, Gwron o nerth a'i groen yn iach. -D. Jones. Pontardawe. Bowyer fawr aberu fyn-ei awen Yn hyawdl trwy'r dyffryn; Diwyd gawr "Awdurdod" gwyn-- Hwn yw "Titws Prestatyn." Iddo ef a'i riain dda-bydded gwen, Bydded gjvawr hen Walia; A byd hoff-bywyd o ha' Hyd eilfydv ddywed Alfa.

ISoar, Pontardawy.

BWRDD Y GOLYGYDD.I

[No title]

I Er Cof. !

[No title]

Advertising