Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

0 Bontardawe i Gaerdydd.

News
Cite
Share

0 Bontardawe i Gaerdydd. YM MYNWENT Y GROESWEN. (Parhad). Wele ni a'n cefn ar vvyneb llawn, gonest a phenderfynol "Caledfryn," fel mae yn gerfiedig ar y marmor gan un o gerflimwyr gore Cymru, a rhy- fedd mor felus yw'r atgof o'i weled. Gyda Haw, gan i ni frysio heibio'i fedd ar ddiwedd ein llith ddiweddaf, rhaid i ni gael dyfynnu a ganlyn o un erthygl am dano: "Dylai rhai ganant gymaint ar gorn Islwyn, y disgybl ardderchog, gofio, ystyried a chydnabod ei rwym- edigaeth fythol i Galedfryn, ei athraw a'i brif gefnogydd." "Dyn a'i lond o ffyddlo,ndel)-ei galon Gilia rhag pob geudeb; j Dyn oedd na niwetdiai neb, A dyn gonest un gwyneb." Pwy a a o Gwmtawe neu ryw gwm arall o Gymru i'r Groesvven heb deimlo y carai ymbabellu gerllaw, canys yno y gorvvedd yr hyn sydd farwol o r gwreiddiol Barch. E. Gurnos Jones:- I PWy a'i awelodd ac a'i clywodd ar lwyfan Eisteddfodol, Gwleidyddol, neu mewn pulpud yn bregethwr neu dar- lithiwr, nad yn cofio dramodwr yng ngwir ystyr y gair, a phe'n fy\\ hedd- yw, Mr. Gol., a geid ymgodymwr ag ef yn gyfrinachol neu gyhoeddus ar Gymru a'r ddrama? Beth bynnag am hynny, y mae'n ddilys gennym gredu na chawsai na Chymru na'r ddrama yr un cam oddiar law Gurnos. Ond tydi, ddarllenydd, os wyt yn gwybod am y Gurnos Ystalyfera, neu, efallai, yn frodor o'r lie, na chred fel rhai o garedig bechadur/iaid y lie crybwyll- edig mai yno y ganwyd y Parch. E. Gurnos Jones, gan mai i blwyf Brech- fa, Sir Gaerfyrddin, y perthyn yr an- rhydedd y sydd ynglyn a hynny. Rhydd i ti gredu, er hynny, mai am y Parch. E. (Gurnos, Ystaiyfera) Jones yr ydym yn son, ond i ti ystyried fod hanes yn dweyd na wyddai y "lie" am y "dvn" cyn ei fod yn 16 mhyydd oed. Bydd yn dda gan y Tetynor os bydd i'r awgrym uchod arcs ar gof rhai o'i gyfeillion yn y Gurnos, Ys- taiyfera. Wei, am orweddle gwrth- rych ein sylw, er 1903, yn ddiddadl, y mae wedi bod yn gyrchfan llawer edmygydd o hono, ac nis gellir tlai. na meddwl yn uchel am y rhai a roes un arwedd ar ei goffadwriaeth mor ddio- gel mewn cof-golofn mor dda a chyn- hwysfawr, ie, a di-rodres. Wele yr aryrgrifcn- "Pregethwr, Darlithiwr, Bardd, Eisteddfodwr, y Parch. E. Gurnos Jones. Ganwyd, 1840; bu farw, Igo-, "Bro gyfan bery'i gofio, Eilun yr wyl yn ei ro," "Gosodwyd y maen hwn gan gyfeillion. Y tu arall i'r capel y saif maen coffa "Carnelian," yr hwn a fu farw yn 1910. Ystyrir ef gan awdurdodau barddas yn "arch englynwr ei oes," a ,I phwy a ddarllenodd ei englyn i'r "X Rays nad yw yn cofio ei ddwv linell olaf, os nad yr englyn i gyd- "Trwy ffyrdd nos y corff rydd naid Ymlaen i ymyl enaid." Ardderchog, yn wir, bvddai dvfynnu o orchestion englynol "Y Cam (fel y'i talfyrrir gan y "Frawdoliacth Farddol ") yn waith hawdd, ond rhaid i ni gadw o fewn terfynau gofod. Yn awr, ebai Tawelfryn, gan fod awdur yr englyn sydd ar y maen eoffn yn y cwmni, yr wyf yn galw arno i ddarlien vr englyn i'ch clyw, ac wele Brynfab vn cydsvnio ar unwaith, ac onid oedd yn amheuthun ei glywed a 'i weled yn "esgus darllen" englyn mur gampus- "Uwch annwyl lwch, a wen lon-a gofia Ei gofid, ei hen gyfaill flyddlon, A rhoddai ef fawredd hon Yng nghalonnau engtynion." Rhag i ti, ddarllenydd, feddwl fv mod yn shamio serch mewn englyn, barna drosot dy hun. A chyda dywedyd i ni fel cwmni gael bwyd meddwl o grwydro y fynwent hon, gallaf dystio fod coffa rhai o'r tadau Cymrcig mewn cadwraeth sicr tra bo byw un, os nad yr oil, o'r cwmni hwn. Gan droi ein ccfn ar yr hyn fledd fud o'r hyawdledd anfarwol, wele ni yn dilyn tine yr agoriadau sydd yn llaw lawelfryn, ac i fewn i'r capel, ac ymlaen yr awn yn dawel ac i fyny i'r areithfa i syllu ar blat "bronze" crogedig ar y mur y tu ol. Y mae er cof am y Parch. William Edwards, gweinidog cyntaf y Groeswen, a'r arch adeiladydd gynt y soniwyd am dano eisioes. Gwasanaethed a gan- lyn i egluro'i gynnwys:- "To the memory of the Rev. Wil- liam Edwards, the self-taught engineer and builder of the world-famed bridge over the Taff at Pontypridd and of other important bridges in South Wales. He was the first minister of this church, which he faithfully and earnestly served for 40 years. Born at Bryntail, Eglwysilan, in f/19; died August 7, 1789." Carem ychwancgu at hancs y gwr da a galluog dan sylw, yr helynt a'r drafferth a gafodd wrth adeiladu pont fawr Pontypridd, y bwa maen Hetaf yn Ewrop, os nad yr holl fyd, a'r hd) nt a fu ym mynwent Eglwysilan rhwng y Person a diadell y Groeswen ddiwrn- od ei gladdu, a rhwng cromfachau— A oes gan Eglwys Locgr yng ghym- I ru, ymhlith ei holl fynwentydd mawr- ion, un fynwent sy'n orweddfan i gymaint o enwogion ag. yw mvnwent y Groeswen, a hithau, cofier, a'i hagoriad yn ganlyniad uniongyrchol i'r helynt a fu yn Eglwysilan, ond, ys- ywaeth, rhaid ymatal gydag englyn VVatcyn Wyn i'r Grocswen:- "Llwythog yw'r pridd bob llathen— o lwch beirdd, Gloewach byd; mae'r awen A rhyw barch i'r dvwarchen, A'r gro sy' ar y Groes Wen Nid oedd i ni fyn'd allan o'r capel cyn canu, a ehanwyd emyn anfarwol Ieuan Gwynedd, "Er maint yw chwerw boen y byd," etc. Do, fc'i canwyd gydag arddeliad, ac organydd cyfarwydd, sef yr athraw yn ein eynorthwyo ar yr offeryn. \Vedi mynd allan, nid oedd ymadael a'r Groeswen yn ganiataol gan Tawelfryn. heb i ni ymweled a'r Manse." Cydsyniwyd a gwelwyd cryn dipyn o'i gynnwys— bwrdd crwn, ar yr hwn yr ysgrifenn- odd Williams Pantycelyn lawer os nad y rhan fwyaf o'i emynau a'i weithiau. Hefyd ei lawysgrif a phiol fcchan (nid wyf yn cofio ar ba enw arall y galwai Brynfab hi), yr hon a ddefnyddiai y Perganiedydd i droi cawl llysiau (neu ddiod-fain, fel y galwn ni hi), ond yn bennaf gwelwyd un o ddisgvnyddion yr emynydd ym mher- son Mrs. Tawelfryn Thomas, ac mae gennym y gair ei bod vn "direct" o'i Iwvnau ef. Fe! Tawelfryn cawsom hithau yn siriol a chroesawus iawn, ac yn hynod o ofalus am y creiriau gwerthfawr a nodwyd. Caffed hir oes pe ond i'r di- ben o ddiogelu pethau sy'n perthyn mor agos i goffa mor fendigedig ag eiddo Williams, Pantycelyn. Er cvstal oedd y "Manse a'i groesaw, rhaid oedd dymuno'n dda ac ysgwyd llaw a Mrs. Thomas, a thra'r oeddem ar gynnyg esgyn i'r cerbvd a'n hwyn- ebau ar Gaerflili, wele wraig oed- rannus ei golwg yn torri ar draws ein hymadroddion prysur gvdag awgrym ar i Dawelfryn a Brynfab sicrhau rhvw gynllun tuag at ddiogelu gtendid bedd Ieuan Gwynedd" Toe, ar gynhygiad rhywun neu, efallai, yr oil o honom yn y fan a'r lie cychwynwyd cronfa fechan i'r perwyl hwnnw, a thrwy bendcrfyn- iad ffurfiol ae unfrydol rhoddwvd hi yng ngofal sicr Tawelfryn. Cvnhydd- ed a pharhaed. Bendith ar yr hen foneddiges ann wyl (yr hon a berthvnai 1 Carnelian) am feddwl ac awgrvmu d I d dvledswydd mor bwysig. Hir oea iddi, a disgynned ei hysbryd ar holl ierched Cymru, fel nad anghofiant byth eu hamddiffynnydd. rO.N.-Eiddo Watcvn Wyn oedd vr ail englyn yn fy IIith diweddaf a dylasai fod mewn dyfynoda 11.1 (I barhau.)

Trebr I

[No title]

I Danygraig, Pontardawy.I

ISoar, Pontardawy.

BWRDD Y GOLYGYDD.I

[No title]

I Er Cof. !

[No title]

Advertising