Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. Anfoner cynhyrchion ar gyfer y Golofn hon i Dyfnallt, Caerfyrddin. I I ISLWYN. (Gan J. Lloyd Thomas, Caerfyrddin.) (Parhad.) Dywedodd rhyw fardd Seisnig un- waith, "Poetry is the grandest chariot wherein king thoughts ride." Os yw hynyna yn gywir, diameu mai Islwyn oedd bardd godidocaf yr ynys hon, ac hwyrach y cyfanfyd. Yn yr oil o'i weithiau cawn enghreifftiau dirif o'r "meddyliau brenhinol hynny y son- ia'r bardd am danynt. Cymerwn un enghraifft o'r bryddest ar y "Nos :— "Pryd hyn Mae Natur dyner yn clustfeinio ar Ei holl ffynhonnau'n tarddu i'r lan o Dduw. Clyw swn y dyfroedd ar 1 echweddau ,r bryn, Dwrf gorfawreddog fel pe mynnal r rhaeadr I'r ser ei glywed a dweyd wrth Dduw Fod iddo eto ar y bryniau lef Dragwyddol o addoliad. Obry clyw Yr afon hithau ar ei milwedd daith, Yn llanw dyffryn ar ol dyffryn ag Angylaidd for o addoliadol swn, A'r ffynnon fach ymhell o fewn y goedwig, A lawenycha fod ei hodl hi Yn hyglyw yn y gyffredinol gerdd, A bod y ser yn gwrando arni hithau Yn canu yn y cor. Mae Natur yn addoli yn holl nerth, Holl fawredd yr elfennau Gwrendy'r mor Wyllt fawl y gwyntoedd nes ymgodo'i donnau, Fel gwynfyd o addolwyr, tua'r nef. Dyna feddyliau arddunol mewn gwisg odidog. Eto beiir llawer ar Islwyn am ddiff- yg trefn. "Bardd y Dragywyddol Heol yn fynych gelwir ef. Canodd unwaith "Daw adeg ar farddoniaeth na fydd un Dyfundrefn gaethol o fesurau blin Na deddf. Ond gredaf- Barddoniaeth, 0 Farddoniaeth! Pwy a roddes ] neb awdurdod ar y fath angyles I bennu dy derfynau? Ymaith Reol! Ffowch, ddeddfau dynol Rhowch i hon dragwyddol heol." Y tnae yn hiraethu hefyd am- "Y ddedwydd adeg, pan lifeiria cerdd O'r enaid pur, fel ffrwd o'r goedwig werdd. Ond ar ol cyfrif am bob peth nid ,oes cymaint yn y cyhuddiad o ddiffyg trefn, a dywedir ar awdurdod uchel nad oedd y bardd mewn difrif pan ys- grifennodd am "y dragwyddol heol." Hoffai ysgrifennu yn y mesurau caeth- ion hefyd, a gellir treulio llawer awr o fwyniant yng nghwmni Islwyn y Cynghaneddwr. Pan dramgwyddai ar ddeddfau trefn yn ddiau, yr oedd ganddo resymau cryfion am hynny. Nid byth yr abertha synnwyr i drefn na chwaith i odl. Drwy ddilyn y rheol hon y mae yn eglurach, yn symlach, ac yn ystwyth- ach na llawer bardd arall. Er mor fynych beiir arno, nid yw yn aberthu trefn ond i osod ei feddwl allan yn eglurach. Ac yn hyn gellir ei lwyr gyfiawnhau. Y mae llawer wedi darlunio Islwyn fel bardd prudd-der a thristwch. Cyf- ,eiriant at hoffder y bardd o'r nos a'r dymestl fel prawf o hyn. Ond anghofi- ant mai nid tywyllwch y nos a garai Islwyn, ond ei gwasanaeth i ddyn drwy ddatguddio iddo y nefoedd a'i gogon- iant-y ser a'r wenlloer yn y Ifurfafen uchod. Am y nos dywed:- "Euraidd adeg y bardd ydyw, Ac awr ber y cerub yw, Engyl ar ei hymyl hi, Miloedd a geir yn moli, Rhyw atgof ynof ennyn 0 deg etifeddiaeth dyn, O'i enwawg darddiad hynod, .A'i hawl i anfanvawl fod. Mi glywaf lwysaf leisiau A'u holl nwyf i'm llawenhau; Lleisiau nef, rhan cartrefawl, Er ymhell 'rwy'n cofio'r mawl. Ysbrydol leisiau brodyr Yw'r angel-don drwy 'nghlyw dyr; Mae perthynas urddasawl Rhyngof fi a'r eang fawl; Afradlon wyf, a'r odlau Myg a phell wna i'm goffhau Am annedd fy nymuniad laith fy Nuw, a thy fy Nhad." Hoffai hyd yn oed yn fwy y nos am ei dista-rw- d y gallai feddwl am ,ddirgelion byd anweledig ynddo. Dywed ei hun— "Y sanctaidd nos a'n tuedda ni—fwy- fwy At fyfyr a gweddi; Ei nefol-deg adeg hi Sydd hvvvlus i addoli." Lawer gwaith y dywedodd wrtho ei mun- "Efo'r awen awn yn Ilawen A llawn lleuad Tua'r glannau a'm meddyliau Am addoliad. Iae y ser feI am siarad Yn y nos am dy fy Nhad; Meddyliau uwch geirrau gaf O'r ser ddwyfolwers oraf." Yn hyn erys hoffder Islwyn o'r nos, a dywed yn odidog am Iesu yn caru distawrwydd y nos, yr adeg y gallai adael swn y dorf a dal cymundeb gyda'i Dad. I'w hoff fynydd, pan orffennai-y dydd, Mab Duw a esgynai; Natur oil yn ddistaw'r ai, Oblegid Duwdod blygai. Tybiaf fod syndod drwy'r ser—o'i wel- ed, Mor wyl yn y dyfnder; Priod Fab, anwylfab Ner, A'i bryd yn llawn o bryder (I barhau.)

Adgofion am Ysgol Comin, Heolyfelin.

Advertising

j "Ar y Tramp."I i )

Ysgrif ar Mr Henry Harries,…

Advertising