Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

"Cerddi Rhyddid." I

News
Cite
Share

"Cerddi Rhyddid." I [T. E. NICHOLAS. ] GAN BRYNFAB. t Nid oes un bardd yng Nghymru mor adnabyddus i'r werin ag awdwr y Cerddi hyn. Ffaglwr o fardd ydyw wedi bod erioed. Prin y mae yn cyf- ansoddi can heb roi defnyddiau coel- certh ynddi. Wedi marw R. J. Der- fel, efe yw yr unig fardd sydd yn dweyd yr hyn y mae yn ei feddwl, a hynny heb Jfalio brwynen pe digiai yr holl frodyr nad ydynt yn cydweled ag ef. Mae gwrhydri fel hyn .yn beth purion yn ami, ond mae perigl weithiau y ffordd hon. Ateb arafaidd a ddetry lid, ond gair garw a gyffry ddigofaint," ebai un callach na'r awdwr a minnau. Rhowch fflangell ar gefn ambell un, ac fe a a yn fwy aflywodraethus a chyndyn, a dyna y perigl sydd yng "Nghaneuon" T. E. Nicholas. Fe ddywedodd rhywun fod triagl yn fwy effeithiol na finegr i ddal cler; ond gan fod awdwr "Cerddi Rhyddid" yn anelu at greaduriaid uwch na "chlar," dichon nas gellir ei gondemnio am fod mor barod a'i botel finegr, neu ryw sylweddau cryfach fyth. Wrth nodi pethau fel hyn, nid wyf yn dweyd dim amharchus am yr awd- wr fel bardd. Rhaid credu ei fod yn gydwvbodol yn yr hyn a draethir gan- ddo, a rhydd i bob bardd ei farn a'i lafar. Yn ei gan "Gweriniaeth y Bardd," fe geir darlun cywir o'r awdwr, ac am nas gall droi ei gefn ar ei waith ei hun, dyma gip arno, rhag i bobl gredu fy mod yn ysgrifennu rhywbeth ar antur Mae curiad y cyfanfyd yn fy nwyfron, A gwaed cenhedloedd daear ynwy'n goch; Tynerwch y cyhydedd sy'n fy ngbalon, Ac oerni 'r gogledd a'i ystormydd broch; Mae,blodau'r meusydd yn fy mron yn tyfu, A drain ac ysgall a mieri'r byd; Mae adar y Baradwys ynwy'n canu, Ac erys a'i grafangau'n waed i gyd. o ddyfnder eigion teithiais trwy'r canrifoedd A cham fy nhyfiant i binaclau bod; Ac erys yn fy nwyfron reddfau'r dyfr- oedd, 'Mae'r bwystfil trwy'r datblygiad wedi dod; I Tymheredd y dyfnderau ynwyf erys, I Mae'r sarff a'r bwysfil ynwyf eto'n byw; A gwaith yr oesau fyrddiwn ydyw dad- rys Crafangau diafol a gorseddu Duw. Yn nes ymlaen yr ydym yn dyfod ar draws cân-" Y Cariad Gollwyd," ac yn hon yr wyf yn lied dybid gweld yr achos o'r wermod sydd yn rlfai o'r "Caneuon" I Anfarwol ydyw Cariad er y croesau, I Anfarwol ydyw er yr hoelion dur; Mae ergyd aden hwn dros bell fyn- ) yddau, ) A'i gan yn tarddu'n bur o fryniau j cur; Cerais enethig dlysa'r frodir dawel, I Chwareuais a'i llywethiau duon hi; Ac at ei bronnau gwynion fel y cwrel, Fel colomennod llithrai'm dwylaw i. i JDisgwyliais wrthi ganwaith wrth y gamfa, Daeth yno ganwaith trwy y gwyrdd- goed; Mae serch y byd yn mynnu cael ei oedfa,— A melvs ydyw cusan merch erioed. Mae cyfrinachau fil y gamfa honno? j Mae'r addewidion roddwyd yn yr alit ? Tymhestlog ydyw wybren cariad heno, Ac O! mae dagrau Slom ar rudd yn hallt. I Dewisodd hi y geiriau teg a'r fodrwy, Dewisodd aur y by*3, a gwenau I" ffawd; Mae'r hunanoldeb has na fed ei wob- i rwy I Mewn chwant anniv/all ac mewn geiriau gwawd Aeth hi i'w fforad a'r aur yn cuddlor croesau Aeth hi i'w ffordd yn d'dall i ddicnell chwant; A gwybu ganwaith yn y blin flynyddau Nad cynnyrch cariad oedd ei hanwyl; blant. I Pwy a wyr nad yw y penillion uchod yn agor y cloion i ddirgelwch II .ansawdd awen y bardd? Mae yn y "Cerddi" ddarnau o ddis- grifiadau erchyll; ond y maent yn ddarnau o wirionedd er hynny. Un felly yw y gan "Yn yr Hofel Trof i'r Hofelau afiach I gwmni puteiniaid y dref Try yr offeiriaid o'r fangre ddu I I chwilio am Grist a Nef. Mentraf i'r stefyll allan, Mentraf i ganol rhegfeydd; I Waced yw'r lie o gysuron byd Lawned yw'r lie o bangfeydd. Mae perchen yr afiach Hofelau Yn siarad ar lwyfan y wlad, Dadleua hawl y paganiaid pell I gariad a bendith y Tad. "Trueni i'r pagan farw Heb glywed Efengyl y Groes!" I A rhydd ei arian o galon rydd I ledu efengyl a moes. Hawdd esgeuluso'r agos, Hawdd ydyw cofio'r pell! Dedwyddach y pagan mewn caban dail Na'r Cymro mewn drewllyd gell. Mae crgydion ofnadwy yn ail a thrydydd ran "Yr Hofel." Priododd—daeth teulu-daeth angau, Daeth prinder, daeth newyn i'w rhan Daeth perchen ei chartref i chwalu'r nyth,— Hawliodd ei gyfiawn ran. Cadd gysgod mpwn hofel afiach, Heb ddodrefn—na modd i'w cael: Ar astell galed gorweddai'n flin,— A'r wlad at baganiaid yn hael! Daeth tyrfa y temlau allan, Heb vveled na chlywed Crist; Ond gwelsant yr organ-a chlywsant Am drueni'r paganiaid trist. [son Trof i'r hofelau afiach I gwmni fy Nuw a'r tylawd Gwell cwmni trueiniaid cwteri'r byd, Na chrefydd sy'n mathru brawd. Ni chroesaf y moroedd i garu, Ni ddringaf i'r Nef at fy Nuw; Mae'r truan yn ymyl-a'i riddfau sydd Yn torri o hyd ar fy nghlyw. Ar yr un cyweirnod eto y ceir "Chwalu'r Nyth." Cyfres o ganeuon yw y chwaliad. Dyma ddarn o un:- Dialgar ydyw Mamon, Gorthrymus ydyw trais; A rhaid i'r Cymro fyn'd o'i fwth Ar arch y blysig Sais. Efe bia'r ddaear dirion, Efe bia'r doldir bras, Cyn hir daw hwn i honni ei hawl I'r nef a'r awyr las Mae petris y mynyddoedd Yn werthfawr gan y gwr; A rhydd ei dir a'i greigiau ban I'r llwynog ffals yn dwr; Ond rhaid i weithiwr gefnu Ar dir yr estron balch, Am iddo feiddio ameu hawl Y cryf i'r glo a'r calch. Dyna linell y bardd trwy y Cerddi" hyn. Mae yn wir ei fod yn taro tan- nau eraill yma, ond nid yw yn gwneud hynny mor egniol ag ar y tannau pigog —bum bron a dweyd tannau gwen- wynllyd. Sylwer nad wyf yn beio y bardd am ganu fel ag y gwna. Ond yr wyf yn cwyno ei fod yr un ochr i'r berth o hyd. Addefaf fod miliynau yn ein gwlad yn cael ei gorthrymu, a'i newynu mewn hofelau, fel y nodir yma. Ond mae rhan fawr o'r miliynau hyn- ny yn eu cyflwr truenus oherwydd eu hesgeulusdod eu hunain. Onid ydym yn gwybod am ddigon wedi dibrisio eu cyfleusterau, pan mewn sefyllfaoedd cysurus, ac wedi disgyn yn llawn mor isel a'r iselaf a ddesgrifir yn y "Can- euon" hyn. Caner a ganer, a rhygner p. rygner ar y mater hwn, fe fydd tru- enusion yn y byd hyd byth, a mwy na'u hanner yn druenus heb le gan- jddynt i feio neb, ond hwy eu hunain am eu sefyllfa. Paham na chanai bardd y werin fwy i'r cyfeiriad hwnnw, (yn lie pwnio ar ben yr un dosbarth o hyd. Pe rhennid cyfoeth y byd yn gyfartal boreu yfory, ni fyddai eisiau aros blwyddyn i weled hanner y cyf- oeth wedi ei ollwng i waered i'r un gronfa fawr ag y rhannwyd ef o honi. Edryched y bardd i fwy nag un cyfeir- iad, a dylai weld mai nid ar yr un ochr i'r pwnc y mae yr holl ddrwg. Wedi raethu fel hyn, rhaid yw ychwanegu fod yng "gherddi Rhyddid" farddon- iaeth ragorol, a chelfyddyd gampus. Nid yn ami y ceir llyfr a chymaint o "fynd" yndd'o, yn annibynnol ar ei destynau. Dylai y llyfr gael gwerth- iant helaeth; os na cha, ni ddylai y bardd wastraffu rhagor o'i awen ar y miloedd gorthrymedig. Pris y "Cer- ddi" yw swllt, a gellir ei gael oddiwrth y cyhoeddwyr—Thomas a Parry, Abertawe.

Nodion o Ferndale.I

Nodion o Aberafan a'r Cylch

Tipyn o Bopeth o Bontardawy.

Nodion o'r Maerdy. I

Caerdydd.

Advertising