Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

A Ddylai Lloyd George ,ffurfio…

News
Cite
Share

A Ddylai Lloyd George ffurfio Plaid Newydd ? Y mae'r arwyddion gwleidyddol yn tueddi i brofi'n fwy-fwy fod Lloyd George a nifer o werinwyr eraill o'u lie yn y Blaid Ryddfrydol. Nid yw'r arwyddion hyn ond datblygiad naturiol y bywyd newydd sydd er's blynydd- oedd yn gweithio i'r amlwg ym mywyd y wlad. Y mae'r Blaid Ryddfrydol yn raddol ymrannu y blynyddoedd di- weddaf. Y mae llawer o Ryddfrydwyr a fu unwaith yn frwdfrydig dros y blaid erbyn hyn yn teimlo mai'r unig rwymyn sydd yn eu cysylltu a hi yw dynion fel Lloyd George, a'r mesurau a fwriedir yn fuan eu rhoddi ar lyfrau'r wlad. Wedi hynny, teimlir nas gall y blaid fel y'i cyfansoddir yn y Senedd wasanaethu'r dyheadau gwleidyddol a goleddant. Y mae corff mawr y bobl a ystyrrid gynt yn gyfeillion Rhydd- frydiaeth, sef y dosbarth gweithiol yn troi ymaith i gorlan y Blaid Lafurol ac yn breuddwydio am y dydd y gwelir un o bleidiau mawr y Senedd yn eu cyn- rychioli hwy. Nodwn yr ystyriaethau canlynol dros i'r Canghellor, a'r Rhyddfrydwyr sydd o gyffelyb feddwl ag ef, ynghyda Phlaid Llafur ymuno i ffurfio un blaid wleidyddol werinol. Galwer hi beth a fynner. Plaid y Rhyddfrydiaeth Newydd, Plaid Llafur, Plaid Cynnydd, Y Blaid Sosialaida, neu ar unrhyw enw y cytunir arno. Angenrhaid yw symud i'r cyfeiriad hwn, ar un Haw er mwyn y mesavau pwysig sydd yn galw am ddedHfi arnynt er lies y wlad a ffyniant y hilI.); ac ar y Haw arall oherwydd anallu y pleidiau gwleidyddol fel y'u cyfan- soddir yn y Senedd i wneuthur ewytlvs mwyafrif yr etholwyr. Dylanwad Traddodiad. I Traddodiad yn unig sydd yn cyfrif fod llawer yn galw eu hunain yn Rhydd- frydwyr ac yn aros yn y blaid yn y Senedd. Toriaid ydynt o ran argy- hoeddiad, ac fel Toriaid y gweithredant bob amser y byddo hynny yn gyfleus. Ymhellach, yr un dylanwad ynghydag ymlyniad diymollwng yn eu cylwladwr anrhydeddus, Lloyd George, a geidw lawer o Gymry gwladgar yn y blaid, yn enwedig yn y De. 23 o Fwyafrif. I Y mae'r difaterwch sydd ymysg y Blaid Ryddfrydol fel y'i dangoswyd yn y pleidleisio ar y Budget yn ddiweddar, yn profi fod deddfwriaeth werinol yn anghydnaws ag anianawd llawer a gynrychiola eu hetholaethau yn y Sen- edd fel Rhyddfrydwyr. Diameu mai Cyfalafwyr ydynt wedi ymdynghedu i amddiffyn eu buddiannau eu hunain, ac nid i hyrwyddo hawliau'r bobl. Aw- grymai y "South Wales Daily News" ddydd Iau diweddaf fod y mwyafrif bychan yn ddangoseg o gyflwr anghyd- ryw y blaid Ryddfrydol, ac yn galw'n uchel am wylio gofalus rhag i ystranc- iau o'r fath ddifetha ymdrechion blyn- yddoedd pan ar gael eu coroni. Cofier mai Plaid Llafur a achujbodd y Llyw- odraeth ac nid ei chyfeillion proffes- edig. Deddfwriaeth Lloyd George. I Y mae'r hyn a elwir yn ddeddfwriaeth Lloyd George, er yn boblogaidd yn y wlad, yn ymddangos yn amhoblogaidd yn y Senedd. Ofn y dyn ac nid cariad at ei waith sydd yn peri i lawer gadw'n ddistaw. Os yw sibrydion yn wir, a thebyg eu bod, gorfuwyd i'n Canghell- or ymladd hyd yn oed yn ei Gyfrin- gyngor dros ei fesurau; ac oni buasai am ei athrylith, y mae'n ameus a fu- asai'r wlad wedi cael degwm o'r hyn a gafwyd trwyddo'n barod. Y mae gwir gyfeillion y Canghellor ymhlith y Radi- caliaid sydd yn ei blaid, a chynrych- iolwyr Llafur. Dynion y bobl ydynt hwy, dyna ydyw yntau, a gwasan- aethu'r bobl ydyw amcan ei fywyd. < Y Blaid Wyddelig. I Bydd Ymreolaeth i'r Iwerddon yn ei gwneud yn anhebgorol i'r Blaid Rydd- i frydol i ad-drefnu ei thy. Bydd cyn- rychiolaeth yr Iwerddon yn y Senedd yn llai o rai degau, a'r aelodau Gwydd- elig hynny yn fwy diymddiried nag yn awr. Y mae ffyddlondeb y Rhyddfryd- wyr iddynt yn bresennol yn eu gorfodi i lynnu wrth y Blaid, ond wedi iddynt lwyddo yn yr amcan hwn ni fydd dim ond atgof am garedigrwydd yn y gor- ffennol yn sylfaen i Ryddfrydwyr 1 obeithio yn eu cynhorthwy mewn cyfyngderau. Yn y dyfodol bydd y Gwyddelod yn gweithredu yn unol a'u hegwyddorion cyffredinol. Hyd yma, aberthwyd pob egwyddor o'u tu er mwyn Ymreolaeth. Dylid cofio mai Pabyddion fydd y mwyafrif o honynt, a bydd lies y Babaeth yn fater fydd yn eu gyrru ar draws Anghydffurfwyr y ty ymhob pwnc y cyfyd crefydd i sylw. Feallai y tybir fod ei achos hwy ag eiddo'r Anghydffurwyr yn debyg o'u huno, gan fod Eglwys Loegr yn wrth- wynebol iddynt. Ond dylid cofio nad yw'r Babaeth nac Eglwys Loegr yn noddi Rhyddid Crefyddol. Heblaw hynny, y mae Eglwys Loegr yn y blyn- yddoedd hyn yn nesu'n gyflym at y Babaeth, a llawer o Eglwyswyr yn dy- heu am weled y dydd pan fyddo'u heglwys yn ol yng nghorlan y Pab. 0 dan yr amgylchiadau bydd yn rhaid i'r Rhyddfrydwyr beidio dibynnu arnynt, ac i sichau digon o nerth ar wahan iddynt i gario'r ty. Trwy ffurfio plaid newydd fydd yn uno holl nerthoedd y wlad sydd o blaid cynnydd, a sicrhau cydymdeimlad y bobl a hi gellir disgwyl diwygiadau effeithiol, a hynny'n fuan. I Cenedlaetholdeft. I Feallai nad gormod dweyd fod Plaid Llafur i raddau'n bresennol yn wrth- genedlaethol, am y rheswm fod corff cenedl y Cymry er o'r un farn a'r blaid honno'n wleidyddol, yn ymgadw tu- allan iddi oherwydd fod eu harweinwyr felly. Y mae'r ieuenctyd mewn perigl o droi ymaith oddiwrth arweinwyr y genedl, ac yn y bobl ieuainc y mae gobaith y dyfodol. Os llwyddir i uno Cymru yn wleidyddol yn bresennol, credwn fod sefydliadau'r genedl yn ddiogelach nag erioed. Y mae llu o Gymry yn ddistaw heddyw yn wleid- yddol rhag gyrru'r ddwy blaid, sef y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Llafur yn y wlad ymhfellach oddiwrth eu gilydo. Hiraethant am weled y dydd pan ddaw arweinydd allan i wneud pleidiau cyn- nydd yn un blaid fawr, a honno yn fyddin gref yn ymladd am hawliau'r genedl yn wleidyddol a chymdeithasol, a'r genedl yn gyfan tuol iddi. Y mae'r dyn gennym, ond ei gael at y gwaith, sef ein cydwladwr o Gricieth. CYMRU FYDD. I

i ii i — Colofn y Beirdd.

[No title]

[No title]

-Nodion o Abertawe. I -I

Gwobrau'r Darian!

[No title]