Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Morgan John Rhys.I

Advertising

I Nodiadau ar "Nodion oI Frynaman."…

Advertising

[No title]

Eisteddfod Aberaman, Mehefin…

Eisteddfod Gadeiriol Carmel,…

News
Cite
Share

Eisteddfod Gadeiriol Carmel, Pontlliw, Mehefin 15, 1914. Beirniadaeth y Bryddest, "Rhagot Gymru (Heb fod dros 150 o linellau). Ar y testyn hapus a tharawmdol hwn caed un-ar-ddeg o bryddestau, a diau fod yma ddau ddosbarth, am nad yw'r chwech olaf yn ogyfuwch mewn teilyng- dod a'r pump blaenaf o gryn bellter. Lleolir bwy mor agos ag y gellir yn ol eu graddau. Llais y Ddurtur.—Nid yw hon o gwbl yn bryddest wael, er fod rhaid ei gosod ar y gwaelod. Y mae, er hynny, yn wallus ei horgraff ac anystwyth ei mydr. Hefyd mae'r arddull weithiau'n draethodol. Cawod wlith datblygiad meddwl, le, a'r meddwl hwnnw sydd," etc. Dyblir geiriau yn ddiystyr megis: Glasu, glasu; cilio, cilio; trefna, trefna; diosg, diosg, etc." Ceir yma ami i gyffyrddiad da, megis Ffordd y Groes yw ffordd y goron, Rhaid cael nos i weld ymhell." Ond ar y cyfan nid yw'n ddigon awen- yddol, a syllir gormod i'r gorffennol. Os ieuangc yw'r awdur hwn, y mae gobaith bardd ohono. Eco.—Egyr y bryddest hon ar fesur traethodol, ac y mae iddi hithau eto ei meflau mewn orgraff. Mae ynddi weithiau duedd i fod yn gymysglyd, bryd arall yn eithafol, fel yn y llineIl: Mae'r bydoedd yn caru dy ddewrder di-ildio." Erys yn rhy hir gyda phethau a aeth- ant heibio, ac y mae'n ddiffygiol mewn cynllun: Gwellha wrth fynd rhagddi, a cheir, cyn y diwedd, lawer o gymhar- iaethau gwir farddonol, ond y pentyrrir gormod ohonynt ar ei gilydd. Medd yr ymgeisydd hwn ar awen gref, ond ei bod heb ei disgyblu. Mae yma hefyd olion brys neu ddiofalwch, a rhaid i'r bardd feistroli allanolion pethau'n llwyrach. John Jones leuangaf. Gwallus a meflog eto mewn iaith, ac heb feistroli cystrawen. Mynychir y pennawd, Rhagot Gymru," gan yr ymgeisydd hwn i raddau gormodol. Mae'r brydd- est hon ychydig yn fwy cynlluniol na'r lleill y sylwyd arnynt. Nid yw'r bardd bob amser yn ddigon gofalus am briod- oldeb ffigyrau, e.g., Ar adenydd mwyn awelon Clywaf anthem clychau'r wawr." Un ddistaw yw'r wawr; a gwell fuasai "gwefusau" awelon. Ceir gan yr ym- geisydd gyfeiriadau at grefydd, y gen- hadaeth, yr iaith, gwladgarwch, etc., ond nid oes yn ei waith loewder a chein- der digonol. Llangc Penllwyd o Lan Taf.—Mesur afrosgo ddewisodd efe i agor ei brydd- est, a bydd yr acen weithiau ar air rhy wan i'w dal i fyny. Ar y goreu nis gellir dweyd fod yn hon fwy na phryd- yddiaeth gymeradwy, ac yn wir, am- bell waith, try'n rhyddiaith noeth, fel yn y pennill: Mae gennyt arweinwyr gorenwog yn awr Yn dadleu dy hawliau yn wrol ar lawr Y Senedd Brydeinig, a chodant eu lief Nes delwi arweinwyr pob gwlad dan y nef. j I Y mae hi hefyd yn ormod hanesgerdd a rhy fach o broffwydgan. Pennill j cyffredin yw pennill yr hawliau, ac nid yw fel cyfanwaith yn ddigon barddonol. Henffych Well.-Dechreuir yn fwy addawol na dim gaed eto. Ond hanes- yddir hytrach gormod ar y cychwyn, ac o brin y mae'r cyfeiriad at allorau Baal yn destynol. Tuedd y bryddest hon yw gorganmol Cymru; ceir ynddi hefyd lawer o gyffredinedd a pheth cloffni. Mae yma ormod o ymadroddion fel Gymru wen, Gymru fwyn, Gymru anwyl," etc. Ond er dywedyd hyn yr ydys yn dweyd fod ynddi hefyd lawer iawn o farddoniaeth dda, ond y llwybrir ymlaen yn ddigynllun. Carwn dine y bardd yma, a diau fod iddo ddyfodol. (I Jbarhau.) BRYNACH. I

Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe.

Advertising