Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Morgan John Rhys.I

News
Cite
Share

Morgan John Rhys. I Ganwyd Morgan John Rhys ar yr I 8fed o Ragfyr, 1760, mewn ffermdy o'r enw "Graddfa," ym mhlwyf Llan- fabon, Sir Forgannwg. Enwau ei rieni oeddynt John ac Elizabeth Rhys. Amaethwr llwydd- iannus iawn oedd John Rhys, ac felly llwyddodd i roddi addysg oreu yr oes i'w blant. Yr oedd John ac Elizabeth Rhys yn Gristnogion trwyadl, ac yn aelodau ffyddlon yn hen Eglwys Fed- yddiedig Hengoed. Felly cafodd Morgan John Rhys ei ddysgu i barchu ei Greawdwr a'i Waredwr pan yn ieuanc. Ychydig wyddis am hanes boreol Morgan John Rhys, ond amlwg' yw iddo wneud yn fawr o'i fanteision cym- deithasol a chrefyddol. Derbyniodd Grist yn feistr pan yn ieuanc, a bed. yddiwyd ef yng Nghapel Hengoed gan un o'r Parchedigion canlynol, Lewis James neu Watkin Edwards, oher- wydd yr oedd y ddau yn gyfrifol am yr Eglwys yr adeg honno, a dechreu- odd bregethu yn fuan ar ol hynny. Dywedir ei fod yn cadw ysgol er mantais i ardalwyr Hengoed mewn adeilad a saif hyd heddyw ar ochr y bryn ychydig o ffordd o'r "Graddfa." Tua diwedd y flwyddyn 1786 aeth Morgan John Rhys i Goleg Bryste. Arhosodd yno flwyddyn, ac yna der- byniodd alwad i Eglwys Fedyddiedig Penygarn, Pontypwl. Ordeiniwyd ef yn weindog yno ar Dachwedd 1 7eg, 1787, pan bregethwyd ar "Ddyled- swydd y Gweinidog" gan y Parch. Benjamin Francis, a "Siars yr Eg- lwys" gan y Parch. D. Davies. Off- rymwyd y weddi gan y Parch. Wat- kin Edwards, ei weinidog. Wrth ddychwelyd o'r cyfarfod, dy- wedodd y Parch. Watkin Edwards am Morgan John Rhys "Mae gan Dduw waith mawr i'w wneud yn y lie hwn, neu yn rhyw le arall trwy y dyn hwn." Ni fu erioed broffwydoliaeth fwy cyw- ir. Yr oedd yn awr yn barod i waith ei fywyd, ac yn awyddus am wneud popeth yn ei allu i'w oes, nid yn unig ym Mhenygarn, ond mewn unrhyw le ac mewn unrhyw fodd yr oedd galw am dano. Ychydig wyddis am ei waith yn ys tod ei weinidogaeth ym Mhenygarn, nd yn ol y wybodaeth sydd gennym, dechreuodd yn 1789 gyhoeddi traeth- odau ar "Gaethwasiaeth yn America a Jamaica," a ddengys amcan mawr ei fywyd, sef Rhyddhau y Caethion ac Efengyleiddio yr Indiaid Cochion. Yng Ngwanwyn 1791 clywn fod -Morgan John Rhys yn pregethu yng Nghelynos, Llanwrtyd, gyda'r Parch. Dafydd Jones, gynt o Benygarn. 0 dan bregethu grymus y brodyr hyn, argyhoeddwyd dyn o'r en\v Morgan Waters, a fu ar ol hynny yn aelod gweithgar yn Eglwys Gelynos am 40 mlynedd. Dymuniad Waters cyn marw oedd cael ei gladdu yn y capel o ■dan y fan lie yr eisteddasai yn gwrando y gwroniaid enwog yn pregethu. Ond er ei fod yn gwneud cymaint o wasanaeth i Gymru, teimlodd Morgan John Rhys ei fod wedi ei alw i faes arall, sef i Ffrainc. Yn 1791 gwelir Eglwysi Penygarn a Thwyngwyn yn .anfon llythyr i'r Gymanfa a gynhal- iwyd yn Hengoed, yn datgan eu gofid ar ymadawiad eu gweinidog, Morgan John Rhys. Ar Orffennaf 24ain, 1791, pregeth- odd yn Llundain, ac wedi aros yno ychydig ddyddiau, cychwynodd i Ffrainc, a chyrhaeddodd yno ar ddi- wedd Haf, 1792, lle y treuliodd y gaeaf dilynol. Fel y gwyddis, yr oedd y blynydd- oedd 1789-93 yn nodedig iawn yn hanes Ffrainc am y chwildroad ofnad- wy—"Y French Revolution!" Am drigain mlynedd gwaradwydd- asai Louis XV. orsedd Ffrainc, ac ar ei farwolaeth ac esgyniad Louis XVI. cymerodd y chwildroad le. Cododd y werin-bobl yn erbyn y Brenin a'i Lyw- odraeth i symud yr iau oedd arnynt, .ac i ennill rhyddid cymdeithasol. Gwyr y sawl a ddarllenodd lyfrau fel "The Tale of Two Cities" gan Dickens, a'r "Scarlet Pimpernel," gyflwr ofnadwy y wlad yr adeg honno. I ennill ei ryddid, lladdodd y "mob" y brenin a'r frenhines a'r pendefigion i gyd; ond er hynny, nid oedd heddwch yn y wlad. Trwy ysgrifeniadau Robespierre ac ereill, gwelodd y werin dwyll yr offeir- iaid Pabyddol, ac mewn canlyniad, halogwyd ac yspeiliwyd yr eglwysi. Gosodwyd delw i'r dduwies "Reswm" yn Notre Dame, a gwelwyd dyrchafu rheswm ar draul diorseddu'r gwir a'r bywiol Dduw. Croesodd Morgan John Rhys i Ffrainc pan oedd y cythrwfl hwnnw yn ei anterth. Credodd i'r chwildroad agor ffordd i bregethu y Wir Efengyl, ac i ddosbarthu Beiblau rhad i'r Fran- cdd tlawd. Felly ardrethodd ystafell ym Mharis. Cynnorthwyid ef yn y gwaith gartref gan y Parchedigion D. Jones (gynt o Pontypwl), a Phetr I Williams. Darparwyd Bibl John Cann gan y ddau hyn yng Nghymru er ei argraffu a'i ddosbarthu yn Ffrainc. Yn y flwyddyn 1792, yng Nghyrnanfa r j Bedyddwyr ym Molleston, pasiwyd y I penderfyniad canlynol: Ar gais Mor- gan John Rhys, penBerfynwyd cymell yr eglwysi i wneud casgliadau er gyr- ru gair Duw at y Ffrancod, a bod yr arian i'w hanfon i Mr. Williams, Holyhead, er mwyn iddo eu tros- glwyddo i'r rhai sydd yn paratoi Beib- lau a'u hargraffu yn iaith y wlad hon- no. Felly gwelwn Morgan John Rhys yn cychwyn Beibl Gymdeithas, a hon- no y gyntaf yn y byd, oherwydd anfon- wyd Beiblau rhad i Ffrainc deuddeg mlynedd cyn cychwynia(k y Feibl Gymdeithas bresennol. ) Pan yn nghanol ei waith mawr ym Mharis, digwyddodd anghydfod rhwng Lloegr a Ffrainc, a gorfodwyd Mor- gan John Rhys i ddychwelyd. Ar ei ddychweliad i Gymru, ymsefydlodd yng Nghaerfyrddin. Ei anturiaeth fawr nesaf oedd cyhoeddi misolyn I Cymraeg, sef "Y Cylchgrawn." M. EVANS. t (I barhau).

Advertising

I Nodiadau ar "Nodion oI Frynaman."…

Advertising

[No title]

Eisteddfod Aberaman, Mehefin…

Eisteddfod Gadeiriol Carmel,…

Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe.

Advertising