Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

DYDD I All, GORFFENNAF 16,…

Nodiadau'r Golygydd.I

News
Cite
Share

Nodiadau'r Golygydd. I Gwelir ein bod yn y rhifyn hwn yn gwneud ychydig gyfnewidiad yn enw ein papur. Y Darian yn unig y gelwir ef o hyn allan. Nid yw hyn yn golygu y bydd yn llai nag y bu o Darian i'r Gweithiwr ac i iawnderau'r Werin. Gwyddom, er hynny, fod yr hen enw yn gamarweiniol i lawer. Tyb- iai y rhai hyn mai papur i drin materion gweithfaol yn unig oedd y Darian, ac mai'r wedd faterol ar fuddiannau'r llafurwr a gai sylw ynddi. Bydd y Darian o hyd yn fyw i'r wedd hon ar fuddiannau y werin. Ac nid ydym yn petruso dweyd nad oes bapur yn y wlad all fod yn fwy rhydd ac annibyn- nol mewn materion felly na'r Darian. Y mae ei gwasanaeth eisioes wedi ei gydnabod yn gyhoeddus mewn mwy nag un cyleh fel y papur cyntaf i roddi i'r cyhoedd adroddiad cywir a gonest o'r ffeithiau mewn amgylchiadau pwys- ig. Mewn materion felly nid yw yn ofni gwg nac yn chwennych ffafr neb. Ond y mae gan y Darian genhadaeth arall, ac yn unol a'r ddysgeidiaeth nad ar fara yn unig y bydd byw dyn, nid ydym yn petruso ystyried honno yn genhadaeth uwch a phwysicach. Nid mantais i'r werin ydyw iddi aros o hyd gyda'i brwydrau a'i thrafferthion a'i dioddefiadau. Nis gall hynny lai na difa'i nerth moesol a dirywio'u hysbryd. Ofnwn fod llawer y dyddiau hyn, a hynny hejb fod gyda'r amcanion goreu o bosibl yn porthi meddwl y werin a thosturi gwag, yn dweyd wrthi beun- ydd mor druenus y mae, ac yn ei hes- gusodi am bob diffyg a gwendid ar gyfrif ei thlodi a'r gorthrwm y mae dano. Credwn ninnau mai mantais ym mrwydrau bywyd yw llacio llinyn y bwa weithiau, ac arfer y meddwl i ymddi- fyrru mewn pethau uwch na'r materol. Sonnir llawer am ryw deyrnas sydd i'r gweithiwr yn rhywle ymhell y tudraw i faes brwydrau a dioddefiadau dider- fyn. Credwn ninnau fod i'r gweithiwr deyrnas yn ei ymyl yn aros iddo gy- meryd meddiant o honi, ac mai nid eraill, ond efe ei hun sydd ganddo i'w orchfygu. Bydd gorchfygu ei hun a ehymeryd meddiant o'r deyrnas sydd yn ei ymyl yn fantais, yn wir bydd yn arthepgor iddo i feddiannu'r Baradwys Fawr, ac i wneud y ddaear yn fwy tebyg i'r nef. Trwy feithrin yn yr ieuanc gariad at iaith a lien eu gwlad, at burdeb cymer- iad a harddwch moes, trwy gadw eu meddyliau gyda'r ysbrydol a'r pethau sydd yn dyrchafu ac yn cyfoethogi meddwl, credwn ein bod yn eu cynorth- wyo i gael ystyr uwch i frwydrau bywyd a mwyntiad mwy o honynt yn ogystal. Nid ydym fel rhai yn ceisio dysgu'r gweithiwr i gwyno ac i ochain yn dragwyddol, ac i ddweyd wrth bawb a'i gwelo, Gwelwch mor druenus wyf fi." Eithr yn hytrach credwn yn ei ddysgu i gymeryd meddiant o'r Deyrnas Fawr sydd ynddo ef ei hun. Credwn mewn tynnu mwynhad a gorfoledd o frwydrau bywyd. Ac nid anfuddiol yw tynnu ys- brydoliaeth yn awr ac eilwaith o Lyfr y Proffwyd Habacuc. Gwell gennym weled dynion yn brwydro tan ganu na than gwyno. A gwirionedd nas collir golwg arno yn y Darian yw mai a'r arfau nad ydynt gnawdol yn unig y gorchfygir ae mai defnyddio'r arfau hyn yn unig rydd ymwybyddiaeth o oruchaf- iaeth pan fo'r frwydr boethaf. Bythefnos yn ol gwnaethom gais ar i garedigion y Darian wneud eu goreu drosti, yn arbennig yn ystod misoedd yr Haf. Bu yr atebiad i'r cais hwnnw mor foddhaol fel yr ydym yn ei adnew- yddu yr wythnos hon. Pe caem nifer go dda i wneud yr hyn y mae tri neu bedwar eisioes wedi ei wneud byddai gennym gylchrediad teilwng i unig bapur Cymraeg anenwedol y Deheu- barth yn fuan iawn. Cofier mai yn isel iawn y cawsom y Darian, ac ymgymer- asom a'i chodi dan gredu fod ganddi hawl i fyw, ac i gael croeso fel papur Cymraeg ar aelwydydd Cymru'r De.

Dr. Gomer Lewis..I

im£=99e=a=9S9He BWRDD Y GOL.

I Colofn y Llyfrau. I

-wI Nodion o Glyn Nedd. I

Hirwaun.

Nodion o Abertawe.

Penderyn.

L.!————— 0 Lannau Tawe.

Advertising