Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
COLOFN Y BOBL IEUAINC.
COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. Anfoner cynhyrchion ar gyfer y Golofn hon i Dyfnallt, Caerfyrddin. ISLWYN. I <Gan J. Lloyd Thomas, Caerfyrddin.) I — ¡ (Par had.) Bwriadai rhieni Islwyn iddo fod yn "surveyor" a "mining engineer," ac ) i hynny yr oedd wedi ei addysgu. Ond gwelwyd yn fuan fod Islwyn wedi ei alw i waith uwch a rhagorach. Er I biynny, yr oedd llawer wedi eafod .cymhwysder i bregethu yn Islwyn, cyn iddo ef ei hun feddwl am hynny. Ond pan welodd yn eglur y gallai lafurio gydag effeithiolrwydd yn y cyfeiriad hwn, ymostyngodd ar unwaith. Yr oedd yn nodedig am y "ddawn i wedd- io," ac yn wir anfynych tlywyd neb yn gallu annerch gorsedd gras mor daer aic mor hyawdl ag ef. Gellir cym- hwyso ei eiriau am un o flaenoriaid y capel ato ef ei hun Gweddiwr mawr, gorchfygwr ydoedd ef, Nid ffurf ond bywyd oedd ei weddi gref, A phan offfenodd ei ddaearol daith Lle'r aethai'r weddi, y gweddiwr aeth.' Dechreuodd bregethu tua'r flwydd- yn 1854, ac ymhen pum mlynedd caf- odd ei alw i gymeryd gofal o'r achos yn Llangeitho, ac yno treuliodd ei oes benbwygilydd yn ardal ei febyd. Nid o eisiau galwad oddiwrth eglwysi mwy yr arhosodd, oherwydd ceisiodd llawer o eglwysi cryfaf y Methodistiaid «i gael yn weinidog iddynt, ond methu a wnaethant. Er iddo wrthod gofal eglwysi cefnog iawn, eto nid oedd yn segura yn y gwaith. Bywyd o lafur diderfyn oedd ei fywyd ef, fel y gellir canfod oddiwrth y cyfrolau trwchus o farddoniaeth a ysgrifennodd ynghyd a'i bregethau a'i draethodau. Rhagorai Islwyn ar y mwyafrif yn y modd y darllenai emynau. Arferai ddarllen mewn llais cymharol isel ac yn naturiol, ond yr oedd yn feddiannol ar y gallu o daflu gwawr o newydddeb drostynt, nes oedd emynau a glywyd ganwaith yn disgyn ar glustiau y gynulleidfa fel pe nad oeddynt wedi eu clywed erioed o'r blaen. Yr oedd yn emynydd rhagorol iawn hefyd, er mai ychydig o emynau a gyfansodd- ,odd. Efe yw awdwr yr emynau ad- ;nabyddus- "Gwel uwchlaw cymylau amser O fy enaid, gwel y tir," ac hefyd, "0 arwain fi i'th nefol ffyrdd, Yng nghanol temtasiynau fyrdd." Ar ol ei ordeinio, blynyddoedd o waith prysur a dreuliodd oherwydd .cyfansoddi gymaint ar gyfer eistedd- fodau, heblaw ei lafur yn y weinidog- aeth. Fel eisteddfodwr ni fu mor llwyddiannus ag y gellid disgwyl, ond beiwyd ef gan y mwyafrif o feirniaid am ddiffyg trefn, ac hefyd am syn- syniadau gordywyll. Ond er hynny, .enillodd ei awdl ar "Foses" gadair eis- teddfod y Rhyl yn 1870, ac yn 1872 cafodd Gadair Cybi am ei awdl ar "Gartref." Dwy flynedd yn olynol enillodd gadair Morgannwg yng Nghaerffili ar destyn "Y Wawr. Enillodd ei gadair olaf yn eisteddfod Treherbert yn 1877 am ei awdl ar "Y Nefoedd," ychydig fisoedd cyn ei <f arw. Gweithiodd yn eithriadol o galed yn .ystod haf a hydref 1877, ac effeithiodd hyn arno gymaint nes iddo gael ei gyfyngu i'w ystafell wedi llwyr fethu yn ei nerth. Pan ddaeth y gwanwyn yn ei dro, ni ddaeth ag adferiad i'r bardd, ond dihoeni a wnaeth. Y sgri- fennodd y peniHion a ganlyn tra oedd wedi ei gyfyngu i'w ystafell "Daeth yn ei dro y gwanwyn lion Y flwyddyn hon fel arfer Gan ddwyn i'r hen leshad o'i boen, I'r ieuanc hoen a llonder; I mi, fab lien, ni ddygodd ddim Ond cystudd Ilym a gwywder. Mae wedi agor ar y glas 0 flaen y plas fu lawen, Rosynnau'r glyn, ryw Seion glau, Ond nid rhosynnau'r Awen Mae wedi cau ar y ddwy foch Ddau rosyn coch y perchen. 'R'ol clywed trwy'r ffenestri can Yr adar clau yn pyncio, A gweled yn ymylu'r ffyrdd Friallu fyrdd, dros rifo; Mor brudd yw gweld yn nrych y bardd Y gwyneb hardd yn gwywo!" Dihoenodd drwy'r haf, a daeth yr Hydref a'i ddail crin i'r wlad ac ar yr ugeinfed o Dachwedd, pan ynghari- ol ymddiddan gyda chyfeillion yn ei ystafell, dechreuodd adrodd o'r Salm- au yr adnodau, "Ti yr hwn a wnaeth- ost i mi weled ami a blin gystuddiau a'm bywhei drachefn ac a'm cyfodi ,drachefn o orddyfnder y ddaear." Tra yn adrodd ehedodd ei ysbryd i Ganaan. "Gogoniant i'w meddu Mewn hedd i'w hetifeddu Heb elyn na dychryn du." I'r wlad yr hoffai son gymaint am dani fel yr "lawnwych le! dust ni chlywodd-a Un eiliad ni welodd [llygad Y bri teg a baratodd Yr lor gwir i'r rhai garodd." Aeth ar ol bywyd o lafur caled i dderbyn gwobr ei waith "i orffwys ym mherffaith hedd Gwynfa." (I barhau).
Llys Saesneg yng Nghymru.
Llys Saesneg yng Nghymru. Yn y llys yng Nghastellnedd, dydd Gwener, gwysiwyd Cymro o Hirwaun am beidio cadw ei lusern mewn lie diogel dan y ddaear. Pan ofynnwyd i'r cyhuddedig a oedd yn gwrthwynebu Æun o'r ynad'on i eistedd ar ei achos, sef darllawydd oedd yn un o berchen- ogion y gwaith, atebodd Yes." Gof- ynnwyd yr un peth iddo drachefn, ac lyn lie dweyd "Yes" fel y tro cyntaf, atebodd "Cymraeg, please." Ardder- chog! Y mae eisieu i bob Cymro wneud yn debyg, a phenderfynnu siarad Cymraeg ymhob man yng Nghymru. Y peth sydd yn syndod yw fod yn rhaid cael cyfieithydd i'r Cymro am nad oedd yr iaith Gymraeg yn wybyddus i wyr y gyfraith, a hynny mewn llys yng nghanol poblogaeth o Gymry. Ni cha'r Cymro hyd yn oed amddiffyn ei hun yn iaith y wlad yng Nahymru heddyw, heb ei osod ar yr un tir ag estroniaid! am mai Saeson a Die Shonis sydd ar y Fainc. Boed pob Cymro yn ffyddlon, a daw "peth- au'n well" yn fuan.
I«—■————m Derbyniad Aberdar.
I «—■————m Derbyniad Aberdar. Saif gair cymydog am wirionedd, ac am y rheswm hwn nis gellir ameu mynegiad rhydd-agored un o drigolion Aberdar. Dywed Mrs. M. Evans, Bryn Elwyn House, Gospel Hall-road, Gadlys, Aberdar: "Yn awr ac yn y man yr oeddwn yn ddarostyngedig i boenau llymion a brathol yn fy nghefn a'm lwynau. Gwnai pob annwyd a gawn y drwg yn waeth. Weithiau yr oedd plygu yn anodd i mi, a chawn ymosod- iadau o ysgafnder a chur pen. "Yr oedd gwaelodion grafelaidd i'r hyn ddeuai o'r arennau y rhai yr oedd eu rhyddhau yn boenus. Cynghorodd ffrindiau fi i gymeryd pelenau Doan at boen cefn a'r aren- nau. Gwnaethum felly, a phrofasant yn effeithiol i symud y poenau, a daeth y dwfr yn naturiol. Yr wyf bob am- ser yn cymeradwyo pelenau Doari, am eu bod yn feddyginiaeth ragorol at yr arennau.-(Llofnodwyd) Mrs. Evans." Teifl annwyd a chryd faich trwm an yr arennau, am eu bod yn cau i fyny'r chwys-dyllau, fel y mae'r amhuredd ddylasai ddyfod allan trwy'r croen yn gorfod mynd trwy'r arennau. Y mae annwyd o ganlyniad yn un o'r achos- ion mwyaf cyffredin o annhrefn difri- fol yn yr arennau a'r bledren; a pheth da yw cymeryd cwrs o Belenau DÓan at boen cefn a'r arennau tra yn gwella oddiwrth annwyd neu'r annwydwst. Cynorthwyai hyn yr arennau yn y gwaith ychwanegol a deflir arnynt gan eich diogelu rhag poen cefn, gwnegon, dyfrglwyf, grafel ac annhrefn dyfrol poenus. Pris 2s. gc. y blwch, chwe blwch am 13s. gc.; i'w cael oddiwrth yr holl fasnachwyr, neu oddiwrth Foster McCIellan Co., 8, Wells St., Oxford St., London, W. Na ofyn- nwch .am \belenau poen cefn, neu'r ,arennaui-gofynnwch yn eglur am belenau Doan at boen cefn a'r aren- nau, yr un fath ag a gafodd Mrs. Evans.
' ?m..f)P!ti'-"')m '.'< Caersalem…
?m..f)P!ti')m < Caersalem Newydd, Cymer. Cynhaliodd yr eglwys uchod cyfar- fod blynyddol yr Ysgol Sul ddydd Sul, Gorffennaf 5ed. Arweiniwyd y cyfar- fodydd gan y gweinidog, Parch. W. Oscar Owens. Arweinydd y plant oedd Mr. Tom Abraham, a neilltuwyd cyfarfod y boreu a'r prynhawn iddynt hwy, a'r hwyr i'r oedolion. Yr ad- roddwyr oeddynt: Huw Roberts, Gar- field J. Howells, Willie H. Jones, j Edna May Jones, Alice Jones, Lily Plummer, Katie Thomas, Gwynfryn Jones, Rosamond M. Jones, Lily Jones Arwyn Thomas, Gwendoline Morgans Evelyn Williams; y datganwyr Rhis- iart Arfon, M. E. J. Howells, Ida j Thomas, Haydn Croker. Yn yr hwyr cafwyd can gan Miss A. M. Abraham; adroddiad gan Rowland Williams. Cafwyd pedwarawd offerynnol ddwy- waith gan Aneurin Parker a'i gyfeill- ion. Can gan J. H. Roberts; unawd ar y crwth gan Aneurin Parker; can gan Tom Abraham; adroddiad gan T. Morgan; pedwarawd gan Miss Elsie Williams a'i chyfeillesau. Cawsom gyfarfodydd da. Aeth yr Ysgol am bleser-daith ddydd Llun i Benarth, a mwynhawyd y cyfan yn fawr.
Advertising
A BTIFICIAL LIMBSj, Crutches, Eyes, Deformity Boots. Fiat-Foot j Supports, Steelless Easifit" Trusses, etc. lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-8. List free. Tel. 1282.-Allen Pearce, 23 Charles Street, Cardiff.
Y Parch Dafydd William, Waenwaelod.
Y Parch Dafydd William, Waenwaelod. Papur a ddarllenwyd i'r Cym- deithasau Cymraeg wrth ei gofgolofn gan Dr. Thomas, Caerffili- "Ar hyd rhiwiau a chymydci ein hoff hen Walia gwelir bvthvnod ac amaeth- dai sydd ar unwaith yn tynnu ein syiw am eu glendid a'u gwyndra. Mae y mur yn rhyfeddol o dlws, am fod rhos- ynau coch a gwyn yn plethu eu hun- ain ar hyd-ddo hyd ymyl y to, ac y mae'r tamaid tir o flaen y ty wedi ei brydferthu gan deim (thyme), llygad y dydd, rhosmari, a llawer ereill o lysiau meddygol. Dichon nad oes dim sydd yn addurniadol yn un o'r preswylfeydd yma, ond rhaid i ni beidio anghofio mai mewn tai o'r fath y ganwyd nifer o'n goreuon fel gwladgarwyr, beirdd, pregethwyr, a llenorion. Efallai nad oes un gof-golofn gen- edlaethol (ac y mae'n warth i ni fel cenedl orfod cyfaddef hynny) nac 'un garreg arw a dwy lythyren' i ddangos lie mae eu llwch yn gorwedd, eto y mae son am danynt yn cynhesu myn- wesau miloedd o'u dilynwyr, ac yn destyn balchder i ni heddyw. Mewn 'bwthyn to cawn' o'r disgrifiad blaen- orol a elwid Waenwaelod ar lethr dde- orllewin 'Mynydd Bach' Caerffili, y ganwyd Dafydd William, gwrthrych ein braslun, yn y flwyddyn 1738. "Mab ydoedd i William Dafydd, a gofynnol yw dweyd er egluro'i hanes .mai hen arfer y Cymry er cyn cof yd- oedd troi enw cyntaf y tad yn gyfenw i'r plentyn. Ganed ei dad yn Llwyn- y-barcud, ger Pontfaen, Morgannwg, a theg yw cydnabod fod ymdrech wedi ei wneud i amddifadu y gymydogaeth hon o'i hawl i fod yn lie genedigol Dafydd William, ond ceir digon o sicrwydd erbyn hyn i brofi taw ardal Caerffili oedd y man lie y gwelodd efe lygaid goleuni gyntaf. "Cadwai ei dad fasnachdy bychan, ac yr oedd wedi ymdrechu cynyddu ei enillion drwy agor gwaith glo cartrefol, yr hwn, yn debyg i lawer anthuriaeth p'r fath, a drodd allan yn fethiant. "Dyma yr adeg y daeth yr anfarwol Hywel Harris i'r gymdogaeth, a dych- welodd William Dafydd at grefydd. Ymunodd ag eglwys Watford, y pryd hwnnw dan ofal y Parch. Dafydd Wil- liams, Pwllypant, o dan yr hwn y gos- ododd efe ei fab i dderbyn addvsg, gan hollol feddwl ei ddwyn i fyny i'r weini- dogaeth. Yn anffodus bu farw ei dad yn fuan, a gadawodd Dafydd a'i dair chwaer i ofal tyner eu mam, ac er gwaethaf yr amgylchiadau chwer- waf, gwnaeth hi ymdrech egniol i gario allan ddymuniadau ei phriod ymadawedig, ac o'r ysgol wledig yn Watford cafodd Dafydd William fyn- ediad llwyddiannus i Goleg Henadur- iaethol Caerfyrddin. "Nid oedd ganddo, fel y mae yn ddigon amlwg, un duedd at y weini- dogaeth, ond er gwaethaf hyn oil caf- odd alwad i weinidogaethu yr Eglwys Gynulleidfaol yn Frome, Gwlad yr .Haf, lie yr enillodd fawr barch gan y gynulleidfa. "Pan yn 22ain oed, oherwydd ei fri a'i allu, cafodd alwad i Eglwys Ariaidd yn Exeter. Yma fe ddechreuodd was- anaeth Undodol, yr hwn a gymerodd ei gynulleidfa i fyny. Wedi cael ei anfoddloni mewn rhyw fodd, cafodd alwad i Lundain. Yma gweinyddai fel bugail yn Highgate, lie y traddod- odd bregethau ar 'Ragrith Crefyddol,' y rhai a gyhoeddwyd ganddo mewn dwy gyfrol. Wedi hyn cyfansoddodd Lythyr i Dafydd Garrick,' y gwydd- onwr, "Traethodau ar Addoliad Cy- hoeddus,' a 'Gwladgarwch a Dyfeisiau Diwvgiad. "Yn 1773 cychwynodd ysgol yn Chelsea ar.linellau Comenius, y gram- adegydd Morafaidd enwog, pryd yr ymgasglodd lluaws o ysgolheigion at ei draed. Yr oedd y tal ofynnid gan- ddo yn uchel; eto i gyd, y mae yn debygol mai yn ei ysgol ef y cafodd llawer o ddynion talentog yr oes ddi- lynol eu meithriniad. Pan yn Chelsea y derbyniodd er- gyd trymaf ei fywyd, yr hon fu bron a'i ddyrysu. Collodd ei wraig ar en- edigaeth ei ferch Emelie, neu mewn tymor byr iawn wedi hyn. Digwydd- odd hynny ar y gfed o Ragfyr, 1774, am ddeg o'r gloch y nos. Yn ei ofid ciliodd yn sydyn i rywle yn Derbyshire. Pan yn Chelsea ysgrifennodd draethawd ar 'Ysgolheigiaeth,' a chydag ef yr adeg honno y cafodd Benjamin Franklin gysgod a nawdd. Amcanai y ddau ffurfio credo newydd o dan yr enw 'Cred yn Nuw,' a derbyn- id hwy gan ddynion o nod a goleu. jOnd nid oedd eu hymgais yn cael cef- nogaeth gan grefyddwyr yn gyffred- inol. "Y sgrifennodd dwysged o erthyglau ar wahanol bynciau, ond fel syifaen- ydd y Drysorfa Lenyddol Frenhinol y gwnaeth enw anfarwol iddo ei hun. Rhanodd y Gymdeithas hon dros £,150,000 i awdwyr anghenus a theil- wng, ac i Dafydd William, y Cymro o'r ardal hon, y mae y clod yn ddyled- us am ei sylfaeniad. "Dylid cofnodi hefyd mai ein harwr ddarfu dynnu rheolau ffurflywodraeth Werinol Ffrainc ar ol y Chwyldroad yn 1791. Yr oedd yn hynod o hapus i gyn- nyg neu i ateb Ilwnc-destynau yng nghyfarfodydd blynyddol y Gym- deithas. "Bu farw yng nghartrefle y mudiad yn Guard-stret, Soho, ar y 2gain o Fehefin, 1816, a chladdwyd ef yn Eg- lwys St. Anne's Soho. Cafodd el wylio yn ei gystudd gan "dduwies cariad," sef ei nith, Ann Watkin, merch i'w chwaer, sef Mrs. Watkin Abram, Cwmwbwr. Nid oedd yn anghofio ei berthynasau, canys yr oedd yn rhoi i'w frawd-yng-nghyfraith, y Parch. Walter Thomas, cyn-weinidog Llanfaches, y swm o ^5 bob hanner blwyddyn, ac i'w chwaer, Joan Hedges 2s. 6c. yn wythnosol. Yn awr yr ydym yn gadael Daf- ydd William, y bachgen o ardal Caer- ffili, yr hwn a enillodd iddo ei hun safle I fel lienor, hanesydd Sir Fynwy, gwleid- yddwr, cyfaill y llenorion anghenus, lletywr i Franklin ac eraill, i huno yn dawel mewn gobaith sicr na fydd marw y sawl sydd yn byw yng nghalonnau y rhai ydys yn eu gadael o'n hoi. Heddwch iw lwch."
—===—==-J Adolygiadau.r
—===—==- J Adolygiadau. r "Y Seren Gomer. "-Rhifyn cyfoeth- og yw yr un am Orffennaf o'r cyhoedd- iad hwn. Yr ysgrif gyntaf geir yn- ddo ydyw eiddo'r Parch. D. C. Jones, Penygraig, ar "Gydwybod." Y mae efe yn un o'r rhai hynny sydd bob am- ser yn ddiddorol ac yn ddarllenadwy. Dilynir hon gan ysgrif ar "Y Materol a'r Ysbrydol," gan y Parch. D. Powell (Lerpwl); "Trem ar Fedyddwyr Parth- au Uchaf Glannau Teifi," gan y Parch. T. R. Morgan, Swyddffynnon; "Y Parch. B. Thomas, Treletert," gan y Parch. W. Rees (Arianglawdd), a dy- wed efe bethau diddorol iawn am yr hen batriarch. Gresyn na fyddai'r vsgrif hon yn hwy. Ceir pethau eraill diddorol yn "Y Seren," ac y mae'r nodiadau ar Lyfrau gan y Golygydd, sef y Parch. D. Wyre Lewis, yn wir werthfawr. Argreffir "Y Seren" yn bresennol gan Mri. Wra. Jones a'i fab, Barmouth. "Efengyl Mathew." Cyf. I. Es. boniad at wasanaeth Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymreig yw hwn, wedi ei ysgrifennu gan yr Athro Joseph Jones, Aberhonddu, ac i'w gael o Lyfrfa'r Annibynwyr. Y mae'n bleser calon gennym gymeradwyo'r gyfrol fechan hon i sylw. Fel rheol, gellid tybied fod esboniadau Cymraeg wedi eu hargraffu gyda'r bwriad idd- ynt fod yn flinder i'r cnawd eu darllen, gan faned y llythyren, a butred yr ar- graffwaith. Dyma esboniad gwahanol, y mae hwn mewn llythyren fras, a'r gwaith yn lan a deniadol i'r llygad. Ceir yn y Rhagarweiniad y driniaeth oreu ydym wedi weled yn Gymraeg ar yr Efengylau Synoptaidd. Y mae yr esboniad ar yr Efengyl hefyd, heb- law bod yn ffrwyth myfyrdod eang a darllen manwl un o ysgolheigion gore Cymru, wedi ei ysgrifennu mewn ar- ddull syml a darllenadwy, a'r sylwadau yd bachu yn y cof. Y mae'n bleser ei ddarllen, a bydd yn sicr o wneud Efengyl Mathew yn fwy diddorol nag erioed i ddeiliaid yr Ysgol Sul. "Angels in Wales," by Margam Jones: London, John Long, Ltd., Norris-st., Haymarket. Stori ydyw hon gan y gweinidog athrylithgar o Lwydcoed, Aberdar. Y mae'n gyfrol ddestlus o 320 o dudalennau. Darllen- llenasom hi trwodd gyda bias. Rhodd- asom hi i'r plant, ac y maent hwythau wedi cael bias arni hefyd. Ysgrifenna'r avtdwr mewn arddull hynod o naturiol. Y mae ganddo fedr arbennig i bortre- adu cymeriadau, ac i lunio ymddi- ddanion diddorol a byw. Ceir yn y gyfrol ddarluniau o gymeriadau a gwaith hen grefyddwyr syml a gonest ein gwlad gan un sydd yn eu deall, ac mewn cydymdeimlad a hwynt, ac y mae hynny ynddo ei hun yn amheuthun y dyddiau hyn pan mae cynifer mor egniol i godi eu diffygion ar drostan i'w gwaradwyddo. Disgwyliwn gael hamdden i wneud sylw pellach o'r gyfrol yn y man.
II Goheblaeth.II
I I Goheblaeth. I I YMOLCHFEYDD PEN PWLL. I Mr. Gol.-Caniatewch eich gofod unwaith eto i mi i sylwi ar y mater uchod. A ydyw Mr. Edgar Chappell yn gallu dweyd faint o leoedd ymolch fydd yn eisieu ar ryw ddwy fil a han- ner o bersonau, a phob un i gael deng munud, a lie yn barod pan y'u codir o'r pwll fel na fydd rhaid i neb aros yn ei chwys ? Ymddengys mai cywilydd crach fon- eddigion i weled wyneb du'r glowr ar yr heol yn dod o'i waith sydd wrth wraidd y cynllun. "Shower Bath" ydyw i fod, ond os felly, bydd deng munud yn ddigon prin i ambell un i olchi ei wyneb a'i ddwylo, a gadael y gweddill nes mynd adref. Beth am y dillad newid? Dywedir y bydd lie i bob glowr i gadw ei ddill- ad, a chlo arno. Er hynny, bydd y cloion yr un fath, a gall yr un allwedd agor y cwbl, a phob un gymeryd dillad y sawl a fynno. Bydd yn ofynnol myned a'r dillad adref ar ddiwedd wythnos, a'r un modd pan fydd eisieu eu cyweirio. Yna myned a hwy yn ol fel "lodger" a'i becyn. Cyffelyb a'r esgidiau. Bydd yn rhaid myned a'r rhai hynny yn ol a blaen er cadw'r traed yn gysurus. Y cynllun gore fyddai cael baddon i bob ty. Dylid gwrthod cynllun pob ty newydd oddieithr fod baddon a scyl- yri iddo, a dylid eu rhoddi mewn hen dai. Canmolaf y gwragedd sydd yn ang- hefnogi y cynllun newydd. Bydd y gwyr hynny sydd yn chwannog i'r ddiod wedi ymolch ar ben pwll yn myn- ed i'r dafarn i dreulio eu hamser yn hvtrach na myned i'w cartrefi fel o'r blaen. Deliwch ati, wragedd! I BATH.
Advertising
V GWAEDI GWAEDl GWAED 1 MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUll CRYP, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynstf effeithiol at Crsu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar hell Organau y Carll, drwy hyny yn Italian Dolur Pan, Diffyg Traul, AOVT\ Biliousness, Afu Odrwg, Tarddlantau IfH jj IflIf ar y Cnawd, J lb/\jl IIIII Cornwydon, mmt jiff \/jjf1l I Sourvy, Piles V\ji 1 \I Fits, Nerv- ousnsss, I c w y n t Owynagon (neu yCj^n«l- wst), Pean Cefn, LUM- bago, Corll- rWY18edd, Neuralgia, Anhwyldw- au yr Aron- au, Iselder Surnl y Cylla. BENYWOD! At Anhwvlderau tueddol I bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae Hughes's Blood Pills" ya nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pilli hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwoh weled y Trade Mark, sef llun Calon fel hyn- I8r ar bob blwch. Heb hwn, twjll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Storea am 1/1 i, 2/t, 4/S. Neu danfonwoh el Gwerth mewn Stampa neu P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHE81 I MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Ponatoth, Cardiff. Can, LienaCweriq G walthy dlweddai* Myfyr Wynn, sef BAC HAN IFANC Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLOH, DARNAU BARDDCNOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/. Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, nen oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. LALP:FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &c.. they speedily afford relief and neve rfail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple. &o. Blanchard's are the Beet of all Pllle for Womea. Sold in boxes, 1 Ili. by BOOTS' Branches, and aU Chemists, or post free, same price, from _BSLIB MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp A PAGE Book about Herbs and how to use Ot them. Post free. Send for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. TO prevent fraud see that you get Estab. lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without whioh none are genuine.-Trimuell, The Herbalist, 114 Rich- mond-road, Cardiff. TRIMNELL'S PILLS AND POWDERS JL have cured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 on every label.—Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond Road, Cardiff. Agents wanted. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page lliustratec Book, containing Valuable Information how all Irregularities and Obstructions may be entirelj avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only Bafe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. thousands of Testimonials. Established 1861 MR. PAUL BLANCHARD, Gl*r«mont House, Dalston T-ane, T DdoL ETO DDIWRNOD ARALL GWEDDI AM BOB DYDD O'R FLWYDDYN, GAN J. H. JOWETT, M.A., D.D. CYFIEITHEDIG I'R GYMBAEG GAN Y DIWEDDAR WILLIAM THOMAS, LLAKGKFUI. GOLYGWYD GAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A. PRIS SWYLLT. LLUNDAIN: Cyngor Cenedlaethol yr Eølwysi Rbyddion Efengylaidd, Memorial Hall, B.C. Y FORD. Yn cynnwys arlwy flsol1 am BwyddwP i blant 0 bob oed, sel 13 o Bregethau A 13 o Delynegion. Mae'r gvfrol wedi 'i hadolygu yn y modd    Beimiad, Y Bryt1wn, Y Tyst, Cymru, Cymm,r  &c., Re y mae'r Awdwr wedi derbyn Uu 0 Ivthyrau oMm? <?;??th bregetbwyr, .Ori.l, plant, &a. y  i'w obasi u   ?Sw6t8? yr A wdwr- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr. Swansea. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHKffYSGOL CYMBU). Prifathraw- T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Oymru. Cynhygir amryw o YSgoloriaetbaU (rhal 0 honynt yn gyfvngedig i Gym? y °??'' hon. Am fanylion pellach, ymofyner H. DAVIES, M.A., Oofrestrydd. Dywedwch wrth bawb: Y ma. DA VIES'S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswoh. ANWYD, PESWCH, I^fEN .p1^ -Mae rhai'n gjd» m 0 ddio.   P", ?°lur Gwddf, Anadl. Y mae yr heL Feddyginiseth Davie. Cough Mixture" etto 1 blaen, ? yn cael ei gWerthfawrOgl  fwy nag erioed bobam»« wrth law, ya felus, vn cynnhesu y ireet, w j rh^dd- fe l ua, yn cyimheau n'est., ?"? ?" hau y phlegm. BydddOB.m.yn? yn ddigon. 1/H a 2/9 (postage, 30.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN LLETH. THE Aberaman & fountain Ash Billposting and Advertising Go. Proprietors of the most prominent station. In Aberaman, CWOlaman. Cwmbach, Abercwmbol. Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. Ail cOlDmUDicatioDS aDd parcell should b. addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman, Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. AM BOB MATH 0 ARGBAFFWAITH YMOFYNBR YN Swyddfa'r Leader," A Swyddfa'r "Daplan," 19 CARDIFF ST., ABEBDAB. DOWN & SONS, FOB GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. C"ZN,NT WOBKS:-  21 HiX STa Morr? Lane, l" The Largest and Cheapest Steaiq Cabinet Hanufaotory iq South Wales. Illustrated Catalogues free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above ale, or Delivered Froe ill our Vans.