Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. Anfoner cynhyrchion ar gyfer y Golofn hon i Dyfnallt, Caerfyrddin. ISLWYN. I <Gan J. Lloyd Thomas, Caerfyrddin.) I — ¡ (Par had.) Bwriadai rhieni Islwyn iddo fod yn "surveyor" a "mining engineer," ac ) i hynny yr oedd wedi ei addysgu. Ond gwelwyd yn fuan fod Islwyn wedi ei alw i waith uwch a rhagorach. Er I biynny, yr oedd llawer wedi eafod .cymhwysder i bregethu yn Islwyn, cyn iddo ef ei hun feddwl am hynny. Ond pan welodd yn eglur y gallai lafurio gydag effeithiolrwydd yn y cyfeiriad hwn, ymostyngodd ar unwaith. Yr oedd yn nodedig am y "ddawn i wedd- io," ac yn wir anfynych tlywyd neb yn gallu annerch gorsedd gras mor daer aic mor hyawdl ag ef. Gellir cym- hwyso ei eiriau am un o flaenoriaid y capel ato ef ei hun Gweddiwr mawr, gorchfygwr ydoedd ef, Nid ffurf ond bywyd oedd ei weddi gref, A phan offfenodd ei ddaearol daith Lle'r aethai'r weddi, y gweddiwr aeth.' Dechreuodd bregethu tua'r flwydd- yn 1854, ac ymhen pum mlynedd caf- odd ei alw i gymeryd gofal o'r achos yn Llangeitho, ac yno treuliodd ei oes benbwygilydd yn ardal ei febyd. Nid o eisiau galwad oddiwrth eglwysi mwy yr arhosodd, oherwydd ceisiodd llawer o eglwysi cryfaf y Methodistiaid «i gael yn weinidog iddynt, ond methu a wnaethant. Er iddo wrthod gofal eglwysi cefnog iawn, eto nid oedd yn segura yn y gwaith. Bywyd o lafur diderfyn oedd ei fywyd ef, fel y gellir canfod oddiwrth y cyfrolau trwchus o farddoniaeth a ysgrifennodd ynghyd a'i bregethau a'i draethodau. Rhagorai Islwyn ar y mwyafrif yn y modd y darllenai emynau. Arferai ddarllen mewn llais cymharol isel ac yn naturiol, ond yr oedd yn feddiannol ar y gallu o daflu gwawr o newydddeb drostynt, nes oedd emynau a glywyd ganwaith yn disgyn ar glustiau y gynulleidfa fel pe nad oeddynt wedi eu clywed erioed o'r blaen. Yr oedd yn emynydd rhagorol iawn hefyd, er mai ychydig o emynau a gyfansodd- ,odd. Efe yw awdwr yr emynau ad- ;nabyddus- "Gwel uwchlaw cymylau amser O fy enaid, gwel y tir," ac hefyd, "0 arwain fi i'th nefol ffyrdd, Yng nghanol temtasiynau fyrdd." Ar ol ei ordeinio, blynyddoedd o waith prysur a dreuliodd oherwydd .cyfansoddi gymaint ar gyfer eistedd- fodau, heblaw ei lafur yn y weinidog- aeth. Fel eisteddfodwr ni fu mor llwyddiannus ag y gellid disgwyl, ond beiwyd ef gan y mwyafrif o feirniaid am ddiffyg trefn, ac hefyd am syn- syniadau gordywyll. Ond er hynny, .enillodd ei awdl ar "Foses" gadair eis- teddfod y Rhyl yn 1870, ac yn 1872 cafodd Gadair Cybi am ei awdl ar "Gartref." Dwy flynedd yn olynol enillodd gadair Morgannwg yng Nghaerffili ar destyn "Y Wawr. Enillodd ei gadair olaf yn eisteddfod Treherbert yn 1877 am ei awdl ar "Y Nefoedd," ychydig fisoedd cyn ei <f arw. Gweithiodd yn eithriadol o galed yn .ystod haf a hydref 1877, ac effeithiodd hyn arno gymaint nes iddo gael ei gyfyngu i'w ystafell wedi llwyr fethu yn ei nerth. Pan ddaeth y gwanwyn yn ei dro, ni ddaeth ag adferiad i'r bardd, ond dihoeni a wnaeth. Y sgri- fennodd y peniHion a ganlyn tra oedd wedi ei gyfyngu i'w ystafell "Daeth yn ei dro y gwanwyn lion Y flwyddyn hon fel arfer Gan ddwyn i'r hen leshad o'i boen, I'r ieuanc hoen a llonder; I mi, fab lien, ni ddygodd ddim Ond cystudd Ilym a gwywder. Mae wedi agor ar y glas 0 flaen y plas fu lawen, Rosynnau'r glyn, ryw Seion glau, Ond nid rhosynnau'r Awen Mae wedi cau ar y ddwy foch Ddau rosyn coch y perchen. 'R'ol clywed trwy'r ffenestri can Yr adar clau yn pyncio, A gweled yn ymylu'r ffyrdd Friallu fyrdd, dros rifo; Mor brudd yw gweld yn nrych y bardd Y gwyneb hardd yn gwywo!" Dihoenodd drwy'r haf, a daeth yr Hydref a'i ddail crin i'r wlad ac ar yr ugeinfed o Dachwedd, pan ynghari- ol ymddiddan gyda chyfeillion yn ei ystafell, dechreuodd adrodd o'r Salm- au yr adnodau, "Ti yr hwn a wnaeth- ost i mi weled ami a blin gystuddiau a'm bywhei drachefn ac a'm cyfodi ,drachefn o orddyfnder y ddaear." Tra yn adrodd ehedodd ei ysbryd i Ganaan. "Gogoniant i'w meddu Mewn hedd i'w hetifeddu Heb elyn na dychryn du." I'r wlad yr hoffai son gymaint am dani fel yr "lawnwych le! dust ni chlywodd-a Un eiliad ni welodd [llygad Y bri teg a baratodd Yr lor gwir i'r rhai garodd." Aeth ar ol bywyd o lafur caled i dderbyn gwobr ei waith "i orffwys ym mherffaith hedd Gwynfa." (I barhau).

Llys Saesneg yng Nghymru.

I«—■————m Derbyniad Aberdar.

' ?m..f)P!ti'-"')m '.'< Caersalem…

Advertising

Y Parch Dafydd William, Waenwaelod.

—===—==-J Adolygiadau.r

II Goheblaeth.II

Advertising