Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
THE BEST ADVERTISING I MEDIUM. Circulates throughout SOUTH WALES 'and MONMOUTHSHIRE.
Advertising
W. Williams ft Co. JEWELLERS, Ac.. 29 Castle St., Swansea. S"olailti": l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDINO RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry holl, dewch at y Cywro t Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron &0 awrleiaian, Gemau a chadwynan olatr: Yspeotol gelfydd, bin-fynegyda, Gwres-iesarydd, Cwmpawa mbr Geir gan Williams, HTOfy Castel1 Trowcb i mewn i wel'd ei not.
Advertising
Mwyn yw dwr yn mynd i waered,—a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. CEIR MWYNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED I Brynlau Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANGEN WEITHFAOEfJD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL. —J
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Gwlad a Senedd Tud. 1 Y Stori „ 2 Beirdd y Bont „ 2 V Caradog a'r Cor Mawr 2 Colofn y Bobl Ieuainc. 3 Llys Saesneg yng N ghymru. 3 Y Parch. Dafydd William, Waen- waelod 3 Adolygiadau 3 Ymolchfeydd Pen Pwll 3 Nodiadau'r Gol 4 Dr. Gomer Lewis 4 Colofn y Llyfrau 4 Colofn Llafur 5 Colofn y Plant 5 Colofn y Ddrama 5 0 Wy i Dywi 5 Morgan John Rhys. 6 Beirniadaethau 6 A ddylai Lloyd George ffurfio Plaid Newydd? 7 Mabinogion Abertawe ar Grwydr 7 Gwobrau'r Darian 7 Colofn y Beirdd v Adolygiad Cerddi Rhyddid 8 Newyddion Lleol 8
GWLAD A SENEDD.
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG (Cadwesid yn ol yr wythnos ddiweddaf) Llawenychu yn > Absenoldeb Troseddwyr yn uchel-lysoedd barn y mae trigcl* -,i Siroedd Flint, Trefaldwyn a Dinbych y dyddiau hyn. Yn y Wyddgrug ddydd Mawrth cyn y diweddaf nid oedd yno gymaint ag un troseddwr i'w ddwyn o flaen yr Eisteddfod Chwarterol, ac felly, hysbyswyd y rheithwyr dewisedig ac ereill nad oedd'galwad am danynt. Yn y Drefnewydd hefyd yn Eisteddiad Sir Drefaldwyn rhoddwyd par o fenyg gwynion i'r Cadeirydd am yr un rhes- wm. Nid oes ond dau droseddwr yn aros eu prawf yn Rhuthyn, yn Eistedd- iad Chwarterol Sir Ddinbych. A chofier mai dyma ddwy o siroedd gweithfaol y Gogledd, lie y ceir llawer o ddyfodiaid ymhlith y trigolion. Dwg hyn ar gof inni eiriau a glywsom yn cael eu dyfnnu gan y diweddar Henry Richard, A.S., yn Nhy y Farchnad yn Aberdar: siara d sydd "Pa wlad wedi'r siarad sydd Mor Itin a Chymru lonydd?" Gyda llaw, pwy tybed, yw awdwr dwy linell arall a adroddwyd gan y gwron a nodwyd y tro hwnnw? Yr oedd wedi bod yn siarad yn Saesneg, er Jbudd gwyr y wasg ys dywedai, ac yna trodd i'r Gymraeg gan ddatgan ei hoffder o'r hen iaith yn y cwjpled "Mai mil o leisiau melusion Mai y mel yn mola hon." Addawa Y Ddwy Fyddin Wyddelig I gyflawni gwaith rhyfedd iawn. I bob golwg, oddiwrthynt hwy y daw hedd- weh i'r Ynys Werdd. A dweyd y lleiaf y maent wedi cyfnewid ton pethau yn uchel-leoedd ein gwlad. Nid yw y pen- boethiaid Toriaidd mor barod i boeri tàn ag y buont. Dywedir hefyd fod cryn gyfeillgarwch yn ffynnu rhwng rhai adrannau o fyddin Ulster ac eiddo y Gwitfoddolwyr Cenedlaethol. Sonir am danynt yn myned trwy eu hymar- feriadau milwrol gyda'u gilydd, ac yn cyfnewid ymweliadau. Da iawn. Pob llwyddiant. Y mae Llyfr Glas y Llywodraeth yn rhoddi Ystadegau Geni a Marw am y flwyddyn 1912 newydd ddod allan o'r wasg, a chynhwysa lawer o ddefn- yddiau gwir ddiddorol. Rhwng y llin- ellau, gellir darllen cymeriad gwlad a'r cyfnewidiadau beunyddiol a gymerant le yn ei bywyd. Yn y peth hwn y mae y Cofrestrydd Cyffredinol yn un o broffwydi yr oes. Croniclwyd yn 1912 872,737 o enedigaethau, o ba rai yr oedd 37,528 yn anghyfreithlon. Ni fu er- ioed yn hanes y wlad cyn lleied o ened- igaethau ar gyfartaledd i'r boblogaeth. Rhoddir, er hynny, fraslinelliad o ys- tadegau 1913, ac yno ceir fod cynnydd o un y fil yn nifer y genedigaethau. Dyma'r cynnydd cyntaf gawd er's deng mlynedd. Ceir ffigyrau calonogol yn dynodi y marwolaethau. Y cyfartalerid yn 1912 oedd 13.3 y fil o'r boblogaeth, yr hyn sydd yn ymyl 2 y fil (1.9 per thousand) yn llai na chanolrif y deng mlynedi flaenorol. Golyga hyn arbediad o ryw 90,000 o fywydau yn y flwyddyn. Dar- llenwn gyda llawenydd y cofnodion hapusach ynglyn a Marwolaethau Babanod I dan flwydd oed. Yn 1912 rhifai y rhai hyn ryw 95 am bob mil o enedigaethau. Toll drom mae'n wir, ond y mae 30 y fil yn is na chanolrif y deng mlynedd flaenorol. Beth olyga hyn? Golyga arbediad 26,000 o fywydau babanod mewn un flwyddyn Golyga fwy, sef fod ton bywyd teuluol wedi gwella; fod mamau ar adegau geni a gwelyfod yn cael mwy o chwareuteg, ac fod y plen- tyn a enir yn dod i fyd a mwy o groesaw a chariad ynddo. Ond wrth edrych yn ol ymhellach daw ffeithiau mwy syn- fawr fyth i'n sylw. Ddydd Iau cyn y diweddaf yr oedd y Gwir Anrh. J. Her- bert Lewis, A.S., un o'r gweithwyr dyfalaf a gwerthfawrocaf a fedd ein Senedd, yn siarad mewn cynhadledd yn delio a'r mater hwn. yn Lerpwl. Un o'r pethau a ddywedodd oedd hyn: Pe bai cymaint o farw ar gyfartaledd ymhlith plant o dan bump oed yn 1906-10 ag oedd yn 1871-80, y buasai y marwolaethau yn 400,000 yn fwy nag oedd, yr hyn a ddangosai arbediad bywyd o 80,000 o.blant dan bump oed. yn flynyddol! Onid yw y ffigyrau hyn hefyd yn Talu Gwarogaeth i'n Cyfreithiau I lechydol I fel y gweinyddir hwy yn ein plith 1 Nid I yn ofer y pasiwyd y gwahanol gyfreith- iau sydd gennym i sicrhau iechyd y bobl; a chanmolwn ein cyrff cyhoeddus a'u swyddogion ar ffrwyth gwerthfawr eu llafur. Nid oes neb tuallan i'r swyddfa yn gwybod y llawenydd ga y Meddyg Cyhoeddus, ar ddiwedd chwar- ter neu flwyddyn, pan wel ystadegau y marwolaethau i lawr; heintiau wedi I lleihau, a iechyd cyffredinol gwell yn y dosbarth dan ei ofal. Treulia ef a'i gyd-swyddogion ddyddiau dyfal yn I chwilio y llynnoedd y dyfrheir y bobl o honynt; yn arolygu y llaethdai a'r beudai a gyflenwa laeth i'n cartrefi. Cadwant lygad llym ar rediad y caeth- ffosydd ac ar gyflyrau ein tai, a chwil- iant natur y gwahanol fwydydd a I ddygir i'r farchnad. Ffrwyth y cyfan I yw arbediad myrddiynau o fywydau ac ychwanegi at iechyd a chysur pawb o'r trigolion. Cwynir ar gynnydd yn y trethi, a gofynnir yn fynych: Beth ydym yn gael yn gyfnewid am danynt 2 I Wele uchod atebiad y Cofrestrydd Cyffredinol, ac atebiad hefyd gan I chwerthiniad iach 26,000 o fabanod fyddent yn eu beddau yr un flwyddyn onibai am yr hyn a nodwyd. Dywed yr ystadegau fod un clefyd creulon yn ennill tir yn ein gwlad, ond fod y darfodedigaeth yn lleihau o ran ei ddifrod. Y mae ein meddygon a'n gwyr cyhoeddus wedi ymosod o ddifrif ar yr olaf, ac amlwg yw fod buddugol- iaeth o'u tu. Bendith y nefoedd ar eu baner. Gallwn disgwyl ar fyr ymlid- iad llwyr y darfodedigaeth o'n tir. Yn anffodus methiant fu yr ymgais i I Arbed y Ci, druan, trwy ddeddf Seneddol. Pasiodd Mesur Syr Frederick Banbury i amddiffyn ein cwn rhag cyllell y gwyddonydd, ei ail- ddarlleniad yn Nhy y Cyffredin. Pan gyflwymyyd ef i bwyllgor. daliodd ri tfrfchwynebwyr ar eu cyfle. Ar hyn o bryd, trwyddedir meddygon neillduol a horina eu bod yn wyddonwyr, i arfer pob creulonwaith ar anifeiliaid mudion. Sicrheir llygod, cathod, cwn, guinea pigs a hreaduriaid ereill ag offer a wnaed at y pwrpas; yna cgorir hwy gwthir nodwyddau iddynt: pHodir JJl- ddynt hadau clefydau neilliiiol, a gwneir llu o arjbrawfion celyd crtill H. nynt. Gwir fod chloroform nln iyw gysg-bair cryf arall yn cael ei c'defn- yddio yn gyntaf i farweidtlio eu syn hwyrau a'u gosod i gysgu. Ond medd- ylier am ddioddefiadau y creaduriaid diniwed pan ddeffroant! Honnir fod hyn yn anghenrheidiol er gallu astudio cylchrediad y gwaed, gweithrediad gwahanol gynheddfau y corff; effeith- iau drugs neillduol ar gwrs a datblyg- iad heintiau, ac nas gellir cael y wybodaeth hon ond trwy aberth mil- oedd o'r creaduriaid hyn bob blwyddyn. Dygwyd Mesur i'r Senedd i adael y ci, un o gyfeillion ffyddlonaf dyn, allan o gyfres y creaduriaid oedd i ddioddef ond yn ofer. Dinystriwyd y Mesur yn y pwyllgor, trwy fod dyrnaid o bobl yn gallu cynnyg gwelliantau dinystriol. Yr hyn sydd yn syn yw, mai cynrychiolwyr y Prif Ysgolion fel Syr Philip Magnus oedd gelynion cyndynaf y Mesur. Yr Arglwyddi a'r Iwerddon. I Cyfyd rhywbeth tebyg i Avawr o'r diwedd ar achos profedigaethus yr Ynys Werdd. A thybed nad yw dydd ei rhyddhad wedi dod? Er's canrif- oedd nid yw wedi gweled dim ond hel- bulon diball er pan amddifadwyd hi o'i Senedd trwy drais a llwgr-wobrwyon, y mae wedi myned trwy dros ganrif gyf- an o ddioddef trwy orthwm, dirmyg, a thlodi, nas gwelir y fath ond yn eithr- iadol. Yn ben ar y cyfan, y mae oher- wydd y camwri uchod wedi ei chadw yn hualau y Babaeth, ac felly yn nos an- wybodaeth hefyd. Yr unig elfen gysur- ol yn ei hanes oedd ei gofcaith bywiol, cryf y cai eto weled ddyddiau gwell. Dyma'r lamp daflai oleu iddi ar lwybrau yr anialwch. Pwy nad ed- myga ffyddlondeb, dewrder, hunanym- wadiad ac amynedd y Gwyddelod yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf yn arbennig. Bellach y mae Ymreolaeth yn gystal a bod yn ffaith, a Thy yr Ar- glwyddi, am y waith gyntaf erioed, yn cydnabod hynny yn agored, ac yn ystyr- ied mesurau i osod y ddeddf newydd mewn gweithrediad. Canlyniad hyn yw, fod y ddadl yn cerdded tir uchel ac ymarferol. Cafwyd areithiau teilwng o'r amgylchiadau gan yr Arglwyddi Crewe, Morley, Bryce, Courtney, Mac- donnell, Wimborne, Islington, a Chan- ning, ond diohon fod gwrandawiad mwy astud yn cael ei roddi i j Araith Arglwydd Lansdowne. I Efe, y yn ymarferol, yw meistr Ty yr Arglwyddi ac arweinydd y Blaid Dori- aidd trwy y wlad. Y mae ei eiriau felly yn debyg o fod yn ddanghoseg o farn Toriaith Lloegr, i deimlad pobl Ulster, os tiad yu wir i ddymuniad yr orsedd yn ogystal. I gychwyn, addefai ei ar- glwyddiaeth fod Ymreolaeth wedi dod i aros, ac mai dyledswydd pob gwlad- weinydd bellach yw ystyried mesurau i osod Ymreolaeth mewn ymarferiad yn y modd mwyaf dymunol i bawb. Hon- nai fod yn ddyledswydd ar bawb i wneud ei oreu i atal gwrthryfel a thywallt gwaed yn ein gwlad. Dat- gartodd bob parodrwydd i roddi y sylw parchusaf i gynhygion y Llywodraeth, a nododd yn arjoennig dri phwynt a eilw am ystyriaeth, sef Pa fodd i dosbarthu yr adrannau hynny o Ulster sydd i gael eu dewis i sefyll allan o drefniant y Ddeddf N swydd; y darpariadau ar gyfer uno yr oil o' r Iwerddon dan Ym- reulaeth yn nes ymlaen ac, yn dryd- ydd, lywodraethiad Anghydffurfwyr Gwleidyddol Ulster yn y cyfamser. Y mae geiriau. Arglwydd Lansdowne wedi gosod gwedd newydd ar bethau. Dylid nodi er hynny fod Y Penboethyn Arglwydd Willoughby De Broke yn parhau i fytheirio yn erbyn pob cynnyg at heddwch. Cynhygiodd daflu y Mesur allan yn ddiseremoni a gwrth- lod ail-ddarlleniad iddo. Dyma'r gwr a enwogodd ei hun dair blynedd yn ol trwy geisio cael gan Dy yr Arglwyddi i daflu allan Fesur Mawr y Senedd. Llwyddodd i gael gan nifer o fan-Ar- glwyddi ieuainc, penchwiban i'w ddilyn yr adeg honno, ond yn ofer yr ym- drechodd. Ychydig o ganlynwyr sydd iddo yn'awr. Y mae hyd yn oed yr hen batriarch byr-bwyll a Thoriaidd Ar- glwydd Halsbury wedi troi ei gefn ar Willoughby De Broke. Carasai Ar- glwydd Londonderry ei gefnogi, ac eto ni feiddiai. Y cyfan fedrodd y gwr hwjnw ei wneud mewn modd o ddatgan rihgasirieb at Yrareolaeth a'r Llywodr- aeth bresennol oedd tywallt hynny o wawdeiriau a chasbethau ag oedd bosibl ar ben Mr Asquith. Rhyfedd fel y mae cryfder y Prif-weinidog yn cyn- hyrfu llid y silod hyn. Bellach gwyddom pwy yw j Aelodau y Pwyllgor Newydd I sydd wedi ei ethol gan Dy yr Arglwyddi i chwilio i fewn i gysylltiad yr Eglwys Esgofcol yng Nghymru a Chonfocasiwn Ca-ergaint ar ol Datgysylltiad, a hefyd i'r chwedl fod Anghydffurfwyr Cymru yn erbyn Dadwaddoliad. Wele y saith :— Toriaid Ardalydd Bath, Iarll Halsbury, ac Arglwyddi St. Aldwyn, Barnard a Wigan. Rhyddfrydwyr: Iarll Sheffield ac Arglwydd Courtney. Ac eithrio Iarll Sheffield, yr hwn sydd a'i gartref yn Mhenrhos, Sir Fon, beth wyr y gwyr uchod am Gymru a pha gymhwysder sydd ynddynt i wneud ar- chwiliad i fywyd a barn ein cenedl am D datgysylltiad a Dadwaddoliad ? Am Arglwydd Courtney addefwn ei fod yn ysgolhaig ac yn wr teg, tawel a hynod ddiduedd, ond ffolineb oedd cyfrif arno fel un o ddau i wynebu pump o Dori- aid selog yn yr ymchwil a nodwyd. Heblaw hyn, nid yw ei Ryddfrydiaeth o lawer uwchlaw amheuaeth, gan iddo fod am flynyddoedd gyda'r Toriaid fel Undebwr. Os yw Anghydffurfiaeth Cymru i gael chwarae teg a'r gwrth- dystiad i gael ei osod ar ei brawf. nid oes funud i'w cholli. Cyferfydd y pwyllgor yr wythnos nesaf i drefnu ei waith, ac nid yw yn debygol y ca Dat- gysylltwyr Cymru lawer o ffafr yn ngolwg yr Arglwyddi Halsbury a St. Aldwyn yn arbennig. Ni fu erioed elynion mwy anghymodlon i Ryddfrvd- iaeth ac Anghydffurfiaeth. [ (Yr Wythnos Hon. ) I Hon.) Peth newydd dan haul yw gweled Yr Arglwyddi yn Ystyried Ymreolaeth Iwerddon. Hyd yn hyn, eu hanes yw taflu pob -mesur o'r fath yn ddiseremoni dros y drws. Er i'r wlad, gyda mwyafrif llethol, ddatgan o'i blaid, ac er i Dy y Cyffredin roddi misoedd o lafur ffydd- Ion a goleuedig i'r gwaith o'i lunio, dyna fyddai ymddygiad dinystrllyd y gwyr hyn. Bellach ddaeth tro ar fyd. Y mae cynlluniau, pwyll, ac arafwch Mr Asquith wedi dwyn ffrwyth. Daeth Mesur Ymreolaeth yn ddeddf er gwaethaf holl nerthoedd yr Arglwyddi. Er mwyn hwyluso pethau ac i gyfarfod a rhagfarnau Ulster, daeth y Llywodr- aeth ag ail fesur i fewn, ac wrth hwnnw y mae y gwyr mawr a nodwyd yn gweithio. Dywedant eu bod yn ym- ostwng i'w ystyried er mwyn arbed tywallt gwaed yn Iwerddon. Trefna Mesur y Llywodraeth i ofyn i siroedd Ulster, bob yn un ac un, os ewyllysiant allan o'r Undei) Gwyddelig am chwech mlynedd. Y mae yr Arglwyddi, gyda mwyafrif gorlethol wedi cyfnewid hyn oil. Beth fynnant hwy yw cau Ulster allan yn gyfan ac yn hollol odanvrth Ddeddf Ymreolaeth, heb gymaint a son am roddi cyfle iddynt ail-uno yn nes ymlaen. Gwnaeth Arglwydd Mac- donnell gynnyg teg at gynllun arall. Y mae wedi rhoddi sylw maith a manwl i'r dy/ysbwnc Gwyddelig. a chydna- byddir ef yn awdurdod ar y mater. Cefnoga efe drefniant i roddi Ymreol- aeth i Ulster o fewn cylch Ymreolaeth Iwerddon gyfan. Ond y mae peth felly yn rhy ffafriol i'r Gwyddelod ac i'r Llywodraeth, ac felly rhaid ei wrthod yn bendant. Disgwylir y mesur i Dy y Cyffredin ar fyr, ac yna cawn weled meddwl y Llywodraeth am waith y Ty Toriaidd. Ymddibynna tynged Pryd- ain yn ogystal ag Iwerddon ar waith y Senedd yr wythnosau hyn. Bu I Y Llywodraeth ar Fin Dibyn unwaith yn ychwaneg nos Fawrth. Yr oedd yn ofynnol iddi osod terfynau i'r ddadl ar ei Mesur Ariannol, gan fod yn rhaid ei gael trwodd erbyn Awst 4ydd. Hoff ystryw y Toriaid yw gwastraffu amser ar bob mater bychan, a thaflu Illaid at brif aelodau y Llywodraeth. Diben y cyfan yw lladd amser a gyrru y Llywodraeth i gornel. Gobeithiant felly allu llesteirio y gwaith, creu siom- iant yn y wlad, ac felly ddwyn anfri ar Mr. Asquith a'i lu. Ar wahan i'r Mesur Ariannol, y mae gan yr olaf bethau pwysig ereill ar eu dwylo. Yn anffodus, ceir nifer o aelodau Rhydd- frydol sydd yn codi yn erbyn y Llywodr- aeth ac yn ei beirniadu yn llym. Eu dadl yw nad yw Canghellydd y Trysor- lys mor gynnil a gofalus ag y dylasai fod gydag arian y Llywodraeth. Dal- mai gwaith y Canghellydd yw gwylio ar yr hyn a werir gan y Swyddfeydd ereill. Yn lie hynny, weJf" Mr Lloyd George, trwy Yswiriaeth, Bwydd-daliadau i Hen Bobl, helpu y trethi lleol, a pheth- au felly yn troi i wario ei hun. Drwg yw gennym weled Mr Leif Jones ymhlith y rhai sydd yn troi ar y Llywodraeth. Pan awd i bleidlais nos Fawrth nid oedd mwyafrif y Llywodr- aeth ond 23, er i'r Gwyddelod a Phlaid Llafur ei chefnogi. GoJbeithiai yr Wrthblaid allu dymchwelyd y Weinydd- iaeth, a phe digwyddai anffawd felly pwy fedrai draethu y canlyniadau ? Synnwn fod neb ar yr enw Rhyddfryd- wr mor ddall na welai y rhwyd a daenir iddo. Ond y mae lie i ofni fod y Gylli- deb ei hun yn gwasgu ar wynt rhai o'r bobl hyn, ac mai hynny sydd y tu ol i'w sel dros reolau y Ty ac egwyddorion Anghydflurfiaeth. Carasem ofyn, beth fuasai sefyllfa pethau yn ein gwlad heddyw pe bai Canghellydd y Trysor- lys heb ymgymeryd a'r mesurau mawr- ion a basiwyd trwy eu ymdrechion. Buasai'r milynau wedi eu gwario yn ddios ar y Llynges a'r Fyddin, ond dim ar y tlawd a'r diymgeledd. Ymgeisydd o Gymro yn Preston. Un o'r gwleidyddwyr mwyaf goleued- ig yng X gogledd Cymru yw Mr Fred Llewelyn Jones o'r Wyddgrug yn Sir Fflint. Nid oes yn y wlad ychwaith wr ffyddlonach i Ryddfrydiaeth Radical- aidd. Taflwyd ef o swydd bwysig yn Sir Fflint gan y Toriaid pan gipiasant yr awenau dros dro, a hynny yn unig am ei ffyddlondeb i'w egwyddorion. Mab i ysgolfeistr ydyw, a weithreda fel cyfreithiwr. Graddiodd yn B.A. ac yn Ll. B., a deil at y gwaith o fyfyrio. Yn ddiweddar bu yn ymgydnabyddu cryn dipyn a ieithoedd Awstria a Thwrci, a ddidorol oedd ei glywed yn cymharu teithi y cyfryw ag eiddo y Gymraeg. Efe yw Crwner Sir Fflint, a chydna- byddir ef yn awdurdod ar Ddeddfau Addysg a Thrwyddedau ac ar Lywodr- aeth Leol. Byddai, yn amhosibl i wyr Preston gael ymgeisydd rhagorach, a chredwn y profai yn gaffaeliad i Dy y Cyffredin. Carasem ei weled yn cael sedd dros Gymru, ond paham y rhaid ini warafun iddo wynebu ar Loegr. Nid oes berigl iddo anghofio Cymru, oblegid y mae yn argraffedig ar lech ei ei galon ac ar bob cyneddf a fedd. Llwyddiant mawr iddo gipio un o'r ddwy sedd yn Preston sydd heddyw yn nwylo y Toriaid gyda mwyafrif o wyth cant i fil. Torrwyd Tywarchen Gyntaf fachydfalr Gogledd j ddydd LInn yng ngwydd cwmni mawr. (Pa enw Cymraeg gwell ellir gael am y gair Lladinaidd Sanatorium"?y Yr oedd D. S. Davids, Ysw., Plas Castell, Dinbych, er's tro wedi anrhegu Cym- deithas Coffadwriaeth Genedlaethol f Gymreig y Brenin Edward VII. a darn eang a chyfleus o dir wrth Bias Llan- gwynfan, ger Dinbych. Torrwyd y ywarchen gan Miss Davies, Plas Cas- tell, wyres y diweddar Thomas Gee, er cof am yr hwn y rhoddwyd y llecyn. Pwy mwy haeddiannol I w gofio yn barchus ac yn hir gan Gymru na Gee o Ddinbych," yr hwn a roddodd mi y "Faner" a'r "Gwyddoniadur" yn ogys- tal a gwasanaeth bywyd cryf a difeli yng nghylchoedd crefyddol, cymdeith- asol a gwleidyddol Cymru. Beth ddy- wedasai efe heddyw wrth ganfod safle bresennol Datgysylltiad a Phwnc y Tir? Pwy yn y wlad roddodd fwy o amser ac o ymdrech o blaid y mesurau hyn? Ein gobaith yw y bydd yr Iechydfa. new- ydd yn Nyffryn Clwyd, gyda phethau ereill, yn foddion i osod i lawr y gelyn creulon hwnnw, y Darfodedigae? sydd wedi dwyn oddiarnom ?'°" 0 flodau harddaf ein gwlad. ? ioed gadgyrch urddasolach na r hwn a ymleddir ar hyn o bryd i syroud y gely hwn o'r tir. Sonia rhai y cy r ean> mlynedd i wneud y gwa? hyder yw y llwyddir lawer yng nt ond os na gorc h wneir, bydd rhoddi canrif at y goreb- I wyl a llwyddo we dyn yn werth y gost.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y MYN. Eag.?u.dod 0 '?'" I rho# hYn drwy ddaMWt?tM ?""?* T* $shell Blood Poisoning a Marwolaeth. Maddyginimeth ffj!/yi'warler Er mwyn '1.01 P<ry<y' n ,?,,? mown ?y' 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUI A SION A GOMER'S BALM. Mae Hwn ,n awr y? M'' ''?' sv larn-Jiiw'jiySW*9** sior 2 diogel a ddergeafyddwy* eHoad «t f" Clwyfau, Ayoholllon, Tardd- lantau y Cnawd, Eozema, Craoh a Nodd yn ik Mhiniu Plant, Liosslad. IU, YIIII. d a n a u Bourvy, L I P I a n t + Benywed a B Babanod, 5' Tarwden, Co u t Cymalau Fowms, qheumat- „ ??j p? fr miM- POM .t?t echry'?* Cefn, PII.I. tyn mewn gt&t e v l=. H ).nod a Gwellhaodd Gomt-r a Balm ?<Ms, r?s..?— at CLWYFAO ar COE8AU. Miloodd yn tyatlo "till Effelthlau irhyftddol RHODDWCH BRAWF ARNO Gwellhttd sydd 81or. Ar werth gan bo¡;O¡;ørllt a  ??- w?eted ?en?w ?S*?* ??- MYR- weh weled enw assob NUO" iLr 180M blwch. Hob hyn nid Yw gywlr. Non danfoner ei gwerth (*-J! nou Stamps) at Jaooib Hughes, fioturl"g chow 1st, M. P .8., L. D..9arth, Cardlg. CWRTHODWCH BOB ?ETH ARALL.
-=:!: ARGLWYDD HOWARD* £ **L0,M…
=: ARGLWYDD HOWARD* £ **L0,M YN 000 ?' Y mae IJwyllgor wedi Ihvyddo 1 gaeI gan Arglwydd Ho???' un nosoa yn bresenn ac  lywyddu un noson aKSdMySU? ?erdar.
EILIR MAI.
EILIR MAI. EfegIpioddyGad? ynE_?ddfod Clydach dydd Sadwm d.wedda^ Cym- ro g???r yw Eilir  chredwr m?r Yn yr H?nl?h. sy'n golvgu Colofnau Cymraeg yr Herald of Wales. Llongyfarchiadau cynnes iddo.