Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

0 Bontardawe i Gaerdydd. I

News
Cite
Share

0 Bontardawe i Gaerdydd. I (Parhad). I YM MYNWENT Y GROESWEN. I Y Groes Wen hoff gares wyd,— dwf Dy fynwes gysegrwyd [enwog 0 gofion dewrion diriwyd Cei'n hen fyw, cawn ninnau fwyd. Ac a ni yn awr yn ymlwybro o fedd i fedd, dan arweiniad Tawelfryn, yr oeddem yn arwr-addolwyr hynod o aiddgar, ac yn wir prin y gellid medd- wl am ddosbarth o weithwyr ar berer- indod mewn agwedd mor ddefosiynol, y naill fel y llall yn datgan mwynhad wrth ddilyn y Haw dywysol a chyfar- wydd,—llaw gynhefin a hoelio'r sylw gyda nghyntaf, yn ail, ac yn olaf,— llaw y pregethwr, onide? Wele ein llygaid yn disgyn ar feddfeini cyffredin (ond anghyffredin o hen) yng nghys- god mur y Capel, a llais yr arweinydd yn dywedyd-dyma lie y gorwedd gweddillion marwol rhai o ddisgynydd- ion v Parch. Wm. Edwards, gweinidog cyntaf y Groeswen, ac arch-adeiladydd pynt. Mae yn debyg i un o honynt, Dr. David Edwards, Caerffili, yn ei ddydd (dros ganrif yn ol) fod yn di- gwydd mynd heibio tra'r oeddis yn ar- loesi tir y fynwent, ac iddo waeddi oddiar ei ferlyn gan ofyn -A yw y He yn barod? Gwnewch frys, fechgyn, bvdd arnaf fi eisiau lie i orffwys un or dyddiau nesaf Nid oedd efe ond 32 mlwydd oed, ac yn feddyg. Eithriad allem feddwl oedd un yn chwennych marw mor ieuanc, yn yr oes ddi- ffwdan honno. Beth bvnnag, hynny a fu, a sicrhau iddo'i hun yr anrhydedd o fod y cyntaf i'w gladdu ym Mynwent y Groeswen. Hen fynwent y eyfiawnion-y llannerch Lie huna enwogion; Rhyw wely 1 anf arwolion Yw enw tir y fynwent hon. Hawdd y gellir maddeu i'r Doctor am ei uchelgais, os y rhagwelai efe y byddai ei orweddle mor deilwng o'r englyn uchod. Ymhlith y "cyfiawn- ion" caf hanes y Seraffaidd Barch. Griffith Hughes, ail weinidog y Groes- wen, a fu farw yn 1839. Dywedir am dano: "Yn ei alluoedd areithyddol, ehediadau dychymyg, a than barddon- ol, nid oedd Hughes un gradd yn is na Christmas Evans." Bid a fo am hynny, Heddwch i lwch y ddau, y naill yn y Groeswen a'r Hall yn Aber- tawe. Rhaid i mi frysio ymlaen, Mr. Gol., canys nid ydym eto wrth fedd arwr ein dydd—Y gwir anfarwol "Ieuan Gwynedd." Yn y byd arwrol Cym- reig, a oes hafal i'r bardd, v lienor, v pregethwr, y golygydd, y diwygiwr dirwestol a gwladgarol, a'r sant Ieuan Gwynedd? Y sawl sy'n abl i farnu, barned. Trwy lygad hanes yn unig y medrwn sbio ar gerddediad ein harwr ar ffordd fawr by wyd, ac O fel yr ydym yn dotio ar y fath gerdded di- wyro, yn llamu mor gawraidd dros ffosydd anfanteision, ac yn llosgi i lawr wrychoedd anhawsterau ac af- iechyd, nes iddo o'r diwedd fynd ei hunan yn aberth yn y fflam 0 Gym- ru os byth yr anghofi di y flwyddyn 1852, blwyddyn ymddatodiad amddi- ffynydd dy ferched a'th famau-dy haeddiant a fydd barn anghofrwydd. Ie, ynghyda melldith Cenhedloedd gwar ac anwar y ddaear ar dy wegil. Ond fy mamwlad annwyl! achuber di rhag hynny Cofia dithau, ddar- Uenydd, fod gwyliadwriaeth a rhwvmedigaeth wedi ei gosod i ti. Heddyw, wedi i ni blannu blodyn ein hedmygedd ar ei fedd, ac arogli mwy ar berarogl ei fywyd ym mlodeu- glwm Tawelfryn yn "Ei Gofiant iddo yr ydym un ac oil yn teimJo yn ein calon awydd ymweled eto a'r llecvn 7 bythwyrdd, a bwyta a chnoi cil ar hyn- ny o laswellt sydd yno er gweled a freintir ni a'r filfed ran o'i rinweddau a'i "ddiball ymroddiad" ef. Y mae yn bur debyg y bydd i'r dosbarth yn I ystod y gaeaf dyfodol ymgymeryd ag adfyfyrio y daith a'i chysylltiadau, ynghyda chloddio at wraidd yr elfen- j nau anfarwoldeb sydd yn haenau mor drwchus ym mywyd cyfoethog yr an- nwyl Ieuan. Cyn ymadael ag ef, ddarllenydd, gadawer i ni goffa geir- iau "Wil Ifan," bardd coron y Fenni: Tyr'd gyda mi At ddrws cartrefle llwyd ym Mynwy dlos, Ac yno ti gei weled dan ei loes, Waredwr ifanc Cymru a weli ef Yn plygu uwch y tudalennau gwyn, A rheiny'n tyfu'n bentwr dan ei law? Na ddywed air i dorri ar y myfyr drud, Ar doriad dydd bydd pob tudalen wen Yn darian lan vn llaw y werin dlawd I atal rhuthr y cleddyfau glâs. Ie, "rhuthr y cleddyfau glas," Gym- ru dlos! Eilun calon yr Ieuan. A fydd i ti anghofio "Brad y Llyfrau Gleision ? Yn rhodau nef anrhvdedd-y try byth Tra bo arfarwoledd 0 wydd byd ni chuddia bedd Ogoniant Ieuan Gwynedd." Wele ni yn awr, ebai Tawelfryn, wrth fedd y Parch. Moses Rees, tryd- ydd gweinidog y Groeswen, a gweith- iwr diflino gyda'r achos gore, ac a fu ddiwyd yn cymeradwyo Crist i bawb ar bob cyfle. Gorffwysodd yn 1856. Eto, y Parch. J. D. Williams, Caer- dydd, a fu farw hefyd yn 1856; ac efe ond 33 mlwydd oed Yr oedd yn un o'r pregethwyr rhagoraf a mwyaf pob- logaidd a ymddanghosodd yn Neheudir Cymru ynghanol y ganrif ddiweddaf, ond os yw ei enw fel pregethwr eith- riadol a gweinidog da yn felus ar dafod Eglwys gyfoethog Ebenezer, Caer- dydd, nis yw cyflwr ei fedd yn glod iddi, oblegid y mae lie i ofni nad ydyw y "railing" sydd o amgylch y bedd yn cofio pa bryd y bu dan oruchwyliaeth y brws paent. Rhaid fod hynny ers blwyddi lawer, canys Rhwd yw'r oll ar hyd y rhain, Anghofus, bron anghyfain Ac yn nesaf wele ni yng nghysgod colofn fawr o farmor brith a hardd, ac yn gerfiedig ar hon, mewn llythrennau "breision," y mae enw annwyl pedwer- ydd weinidog y Groeswen," Caled- fryn," ynghyda dyddiad ei eni yn 1801, a'i farw yn 1869, a hynny yn unig. "Llunier i gall hanner gair." "Caledfryn oedd wyn awenydd,— croew'i farn, Cywir fyw barablydd; Gwronol gysegr weinydd, A'i fawr ddawn yn fri ei ddydd." "Gadewch i'r dyn gysgu." (I barhau).

-... - - - Pontycymer.-1

Undeb y Cymdeithasau ! Cymraeg.

['Resolven.-I

[No title]

Colofn y Gohebiaethau. ]

Caerdydd.I

IYn Fan ac yn Amal.

Cyfarchlad i Dr. Glanvllle…

G.W.R.