Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Dyngarwch a'r Weinidogaeth.…

News
Cite
Share

Dyngarwch a'r Weinidog- aeth. Erbyn hyn y mae llawer tro wedi .bod ar fyd oddiar yr amser pan adna- byddid Dr. Price, Penpound, fel dyn garwr. Synnir ni yn fawr wrth ddar- Ilen hanes Cynhadledd flynyddol Odyddion Manceinion, taw eleni wedi hanner can' mlynedd, y mae Gweinidog yr Efengyl yn llanw cadair lywyddol yr Urdd. Gwelsom i'r Doctor ei llanw yn 1864. Offeiriad a'i lleinw elelli., Anghofiwn ar hyn o bryd pa un ai y diweddar Barch. Sylvester Home neu y Parch. F. W. Meyer ddarlumai y weinidogaeth fel dosbarth o'r bobl yn y tarddiant, ond wedi hyn yn ddosbarth ar ei ben ei hun. Y mae yn ddihareb am bregethwyr ac offeiriaid taw y rhai gwaelaf o bawb ydynt fel pobl ynghylch masnach. Felly nid yn y llinell honnn gredwn ni y byddai cyfathrach y wein- idogaeth a'r werin o fudd.. Eto y mae lie i gredu fod y weinidogaeth wedi colli cyfleustra euraidd drwy adael y m'aes Dyngarol bron yn llwyr. Gwydd- om taw presenoldeb y cyfrinfaoedd yn y tafarndai fyddai un gwrthwynebiad mawr. Rheswm arall fyddai gan y weinidogaeth fyddai yr arfer o gyfar- fod nos Sadwrn. Eto pan gofiom mai datblygiad o'r cysegr ydyw llawer o'n sefydliadau godidocaf o'r Senedd i waered mae gennym le i honiadaeth,- nid ymffrost wag a ffol, ond hawl i glod teilwng am yr hyn ydyw cymdeithas yn gyffredinol ym Mhrydain oherwydd crefydd. Ychydig eto fedd y deyrnas hon i ymffrostio ynddo a ddatblygodd yn llwyr tuallan i grefydd. Beiwn y weinidogaeth fel corff am na chadwasai afael yn yr amrywiol urddau dyngarol. Gellid llawer o gymdeithas, ac yn neill- duol o gymdeithas a'i hamcan mor! grefyddol a chymdeithas ddyngarol. Llithrodd llawer o ddirywiad i'r cyfrin- faoedd unigol oherwydd absenoldejb gwroldeb moesol, ac y mae yn amheus gennym a fyddai cynifer wedi llechu cyhyd yn y tafarndai, pe byddai dynion crefyddol wedi bod ffyddloned i'r gyfrinfa ag y buont i grefydd. Mae gan bob hen urdd lyfr defosiwn, ae y mae hwnnw yn ddieithriad yn grefydd- ol. Ni allai amheuwyr feddiannu y gyfrinfa oherwydd tuedd grefyddol gref I yr urddau henaf. Gwelwyd taw un o feini tramgwydd y ffordd a flina yr j Odyddion yng Nghymru ydyw gwaith y Dirprwywyr Cymreig yn gorchymyn 'I y cyfrinfaoedd i ymadael a'r tafarndai. Er cymaint ydyw ffolineb ac anwybod- aeth gyffredinol y rhai ddweiswyd dan Ddeddf 1911, y mae hyn yn dra rhesym- ol, ac yn dra^hytunus a'r dosbarth I rhagoraf o aelodau. Byddai hyn gredwn wedi ei sylweddoli pe byddai y weinidogaeth wedi cymeryd ei lie yn yr urddau. Gan fod cynifer o aelodau erefyddol yn cadw yn ddifwlch gymer- j iad, ac hefyd yn parhau yn aelodau byw profa y gallai llawer mwy wneuthur I hynny er lies mawr i'r urdd a chrefydd. Mewn cynhadledd flynyddol cyIeirmi un Sais ein bod fel Cymry yn dra myn- achaidd ein golygiadau crefyddol, a dywedai y credem mai trwy ddianc o i- byd yn bennaf y gallem ddiwygio y byd. a galarai na welai y galluoedd crefydd- ol yn y Dywysogaeth yn fwy pleidiol i ddyngarwch yn y wedd hon. Credai y gallai y person a'r pregethwr fod wedi gwasanaethu dyngarwch er lies cyffred- inol yn fwy. Pan gofiom hefyd am y Ilong-ddrylliadau yn hanes y cyfrinfa- j oedd o herwydd y brofedigaeth gref, barnwn y peidiai Ilawer dyn ieuanc ym mhresenoldeb gweinidog ag estyn et law at y gwydryn bach deithiai o am- gylch yr ystafell.. Nid ydym hefyd heb gredu ar sail profiad fod ein crefydd wedi dangoB llawer o wendid barpi grechwen yn y byd. Danfonai amb ^il un crefyddol ei ddirprwywr fel na allai efe ei hun lithro mewn un modd. Ni 1 oes gyfrif gan y Pendefig beth ddi: wydd i'w was oherwydd ei arbed ef. Gallai y dirprwywr feddwi belled ag y pryderai ei gydgrefyddwr weithiau ond iddo ef ddianc rhag pob cyfrifoldei). Gyda'r gyfrinfa ddyngarol y mae Y, gyfrinfa undebol yn debyg. Datgy- syllta crefyddwyr eu crefydd a phob peth ond capel a festri. Gellid meddwl mai dyledswydd fydol hollol ydyw dar- bod, ac na pherthyn crefydd i ddim tu- allan i gapel a festri. Gwyddom y gallai llawer ysgrifennydd dystio fod gormod o wir yn hyn, a bod y cyfrinfa- oedd wedi lletya yn hwy yn y tafarndai oherwydd difrawder crefyddwyr, a'u llwfrdra. Byddai y sefyllfa ariannol yn well, heb son am gymeriad cyffredin- ol yr Urddau. Yn y gyfrinfa ddyngarol ac undebol y mae gelynion crefydd wedi meithrin hyawdledd. Cyn sefydliad yr Unde.bau Llafur a Chrefft, pie y gallai dyn o'r byd feithrin hyawdledd! Talai ei dreth a gofalai na anghofiai fwynhau y bendithion a'r mwyniant a ddeilliai. Oddiar y mae y cyfrinfaoedd wedi gwanhau mae'llawer tafarn wedi gwan- hau. Caniatawyd i'r Urddau ddirywio oherwydd iddynt bwyso cymaint ar ddiotwyr drwy ganiatad crefyddwyr ganiataent i ddynion sychedig ddifa y rhan ddeilliai iddynt hwy. Erbyn hyn y mae y golled yn hysbys. Anghofiodd y weinidogaeth a chrefyddwyr wasan- aeth "halen y byd." Dywedir fod treth ar halen a sebon yn Spaen yn effeithio yn dra niweidiol ar y genedl. Peth da ydyw halen, ac nid hawdd ydyw cael arall-beth cystal a sebon. Credwn mai achos tebyg fu yn falldod i Gymdeith- asau Dyngarol yng Nghymru. Rhaid cael asgwrn da yn y corff, rhaid hefyd gael glendid. Byddai cael lefain crefydd mewn llawer cymdeithas tu- allan i'r gymdeithas grefyddol yn fen dith i'n gwlad. Er cofier taw nid lefain y broffes olyga lefain crefydd. Lefain y broffes ddeiliog sydd wedi bod cyn- ddrwg a'r un achos dirywiad arall i gymdeithas. Gogoniant pennaf yr Efengyl ydyw ei threiddiad i'r bywyd beunyddiol "y bwyta gyda phublicanod a phechaduriaid." Gellir dysgu llawer mewn amgueddfa, ond feddyliai neb am newid amgueddfa am ysgol. Amguedd- feydd yn fwy nag ysgolion i'r byd ydyw y capeli a'r eglwysi. Gwr hynod gadarn yn grefyddol oedd y diweddar Syr William Reynell Anson. Yn Rhyd- ychain yr oedd y gwyddonwyr, llawer o honynt yn wrthwynehol i ddiwygiadau perthynol i adran duwinyddiaeth y Brif ysgol, a galwai eu pleidlais yn "bleidlais gadarn yr amgueddfa." Er mai rnudion oeddynt yn y ddadleuaeth, pleidleisient fel un gwr fel gwrthwyn- ebwyr. Methent oherwydd eu nifer ac y mae pleidlais crefydd yn y nifer heddyw yn debyg, yn bleidlais yr am- gueddfa. Ni thaena ei dylanwad allan i ddigon. Metha yr ymdrech dros I' gadwraeth y Sul oherwydd hyn. Cofier taw lefain a halen ddylai fod yng Nghymdeithas y Byd. I.G. I

w--I Hunangofiant y Parch.…

[No title]

Ymddiswyddiad y Parch H. Harries…

[No title]

Cyngor Celf a Llafur Aberdar.

IRhymni. -I

Advertising

Colofn y Beirdd. ! I

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.

[No title]