Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. I GAN PEREDUR. I Streic Peirianwyr Morawl. I 0 herwydd yr annealltwriaeth rhwng peirianwyr morawl y Barri a'r Meistri, a llongau yn segur o'r hrwydd, acal- iwyd pyllau y Lady Lewis iiydd Sadwru, a gwnaed dros fil o weithwyr yn sgllr Y mae glofeydd Glanafon, Treherbert, hefyd wedi bod yn segur am rai diwrn- odau oherwydd yr un achos. Y mae yr ataliadau hyn yn enghreifftiau byw o agosrwydd y berthynas sydd eydrwng y gwahanol ddosbarthiadau llafurol, ac yn dangos yr angenreidrwydd am gyd- ddealltwriaeth a chydweithrediad per- ffaith fel ag sydd yn cael ei drefnu yn bresennol rhwng y glowyr, y cludwyr, a gweithwyr y relwes. Dyfais Obeithiol. I Dydd Gwener, yn Llundain, o flaen I cynhulliad o ddynion cyfriMl yn cyn- rychioli gwyddonwyr, perchnogion glo- feydd a gweithwyr, danghoswyd dyfais mewn gweithrediad, yr hwn sydd yn gallu dangos, a rhoddi rhybydd, pan y bydd awyr y lofa yn cynnwys cymysgfa beryglus o nwy. Profwyd y ddyfais drwy ei gosod mewn cysylltiad a chym- ysgedd o awyr oedd wedi ei gael yn un o lofeydd Deheudir Cymru. Pan fydd y cymysgedd awyrol-nwyol yn cyrraedd pwynt peryglus, fe gana cloch fechan rydd rybudd i'r sawl sydd yn cario yr offeryn. Crybwyllir yn obeithiol am y ddyfais gan y Meistri Robert Smillie a W. Brace, A.S. Beth am well awyriad 1 Anrhydedd i Arweinydd Llafur. Llongyfarchwn Mr Vernon Hartshorn, yr arweinydd llafur galluog a Ilwydd- iannus, ar ei benodiad yn ohebydd neill- tuol ar staff y Clarion," prif wythnos- olyn Sosialaidd y wlad hon. Teimlwn fod y penodiad hwn i gynrychiolydd o Gymru yn anrhydedd nid bychan, ac yn brawf y coleddir syniadau uchel gan berchnogion y Clarion am gymhwys- ter Mr Hartshorn fel arweinydd llafur. Dywed Golygydd y papur hwnnw, wrth nodi y penodiad, fod y brwýdrau Ilafur yn y misoedd nesaf i fod yn weithfaol a diwydiannol yn hytrach na pholiticaidd. Disgwylir i'r gohebydd neilltuol Mr Hartshorn, gadw darllenwyr y Clarion mewn llawn wybodaeth o'r ymgyrch weithfaol, mor belled ag y mae amgylch- iadau gweithwyr Cymru, a Ffederashwn y Glowyr yn mynd. Cynghorau Celt a Llafur. Da ydyw clywed fod gweithwyr Un- debol y Barri wedi penderfynu ffurfio Cyngor Celf a Llafur yn y dre. Y mae dinasyddion y dre flaenfynedol hon yn nodedig am eu beiddgarwch diwygiadol mewn amryw gyfeiriadau, yn neilltuol yn gysylltiedig agaddysg, ac y mae yn dda gennyf weled eu bod yn cynnyg at welliannau llafurol. Gall y Cyngor newydd wneyd gwyrthiau mewn cysyllt- iad a gwelliannau trefol a chymdeith- asol. I Cyngor Celf a Llafur Aberdar. Y mae y Cyngor hwn hefyd yn adnew- yddu ei nerth fel yr eryr. Yn y cyfar- fod misol nos Iau diweddaf rhoddwyd I derbyniad i dri undeb o weithwyr, y rhai a geisient aelodaeth. Y mae y Cyngor yn fyw gan weithgarwch yn awr, ac yn paratoi ar gyfer yr etholiad sydd yn ymyl. Derbyniwyd 18 o enwau person- au a gynhygir yn ymgeiswyr am y saith sedd newydd sydd i'w gosod yn y Cyngor Dosbarth. Gofynnir i'r gweith- wyr yn y gwahanol gyfrinfaoedd i ben- derfynu ar saith o'r nifer hyn i sefyll yn gynrychiolwyr llafurol. Pe byddai y saith yn llwyddiannus. ni ellid dweyd er hynny, fod llafur yn cael ei or-gyn- rychioli. Yn sicr, y mae effeithiolrwydd gwaith yr Aelodau Llafur presennol yn wystl fod popeth i'w ennill wrth yeh- wanegiad at eu nifer. Gobeithio y gwna y gweithwyr eu dyledswydd yn yr etholiad. Ramsay Macdonald a'r Saboth. I Faith gysurlawn i feibion lafur yw fod Mr Ramsay Macdonald, arweinydd y Blaid Lafur Seneddol, bob amser a'i ergyd yn gryf o blaid yr anianawd gref- yddol. Tra yn siarad yn Leicester y f dydd o'r blaen, apeliodd at y sefydliad- au crefyddol i ymdrechu rhag bydoli ac anghysegru y Sabath. Dylai y Sabath, meddai ef, gael ei gadw yn sanctaidd. Nid oedd y rhesymau ddygid ymlaen dros wneyd y dydd yn ddydd gwyl, yn ddim ond humbug. Edrychai ef ymlaen at yr amser pan y ca'i pawb gyfle i or- ) ffwystra a gwyl yn ystod y chwech I diwrnod arall o'r wythnos. Ardderch- j< og, Macdonald dyna hit dda dros yr hen ddiwrnod annwyl. Afiechyd Swyddog Llafur. • Blin ydyw clywed am afiechyd Mr. J. D. Morgan, goruchwyliwr gweithwyr y glo careg. Y mae wedi ei gynghori i orffwys oddiwrth ei waith am beth am- ser er ceisio adnewyddu ei iechyd. yr hwn sydd wedi bod yn dlawd er ys llawer o ddyddiau. Dymunwn iddo wellhad buan o sicr. Newyddion Da. Da ydym clywed fod Dosbarth ijlowyr Aberdar yn gwneyd trefniadau i gael Swyddfa at eu gwasanaeth mewn man canolog yn y dre. Y mae yn warth i ddosbarth sydd wedi bod mor flaen- fynedol, ei fod wedi bod cyhyd o dan I' gronglwyd gysyJItièdig a gwerthiant pethau meddwol. Gobeithio y bydd y symudiad hwn yn ddechreuad i lawer o bethau gwell yn Nosbarth Aberdar.
0 Lannau Tawe. I
0 Lannau Tawe. I Cn o'r bechgyn mwyaf gwreiddiol yng Nghwm Tawe yw Dafydd Rodric, y Camlesydd. Cyfarfu Mr Hill, fconedd- wr o Glydach, ag ef ar lan y Gamlas un boreu Llun yn ddiweddar, a gofynnodd iddo sut hwyl oedd arno. Dim hwyl dda atebai'i Camlesydd. "W el, wel, be sy'n bod?" gofynnai Mr Hill. Ma'r hen ganal lan yna gyferbyn a Hebron wedi tacu'n lan," ebai'r Camlesydd. "Oho, beth tagodd e?" gofynnai Mr Hill. Wel, ma'n debyg fod gweinidog Hebron wedi bod yn pregethu'n ddychrynllyd ar "fwrw allan gythreuliaid" nos Sul, a roedd y canal gyferbyn a'r capel yn Hawn o honyn nhw bora dydd Llun, ebai Dafydd. I Mewn cyfarfod ymadawol gynhaliwyd yn Ysgoldy Calfaria, Clydach, nos Fawrth diweddaf, anrhegwyd fy nghyf- aill Mr Edgar R. Davies, Brookwood House, Clydach, a dressing-case gan bobl ieuainc Calfaria ac eraill, ar ei ymadawiad am Stockton, New South Wales, er mwyn ei iechyd. Brawd yw Mr Davies i'r Parch. D. Christopher Davies, Cenhadwr ar lannau Congo. Llywyddodd y Parch. T. Valentine Evans, ac mewn geiriau care dig a theim- ladwy cyflwynodd iddo yr anrheg, gan ddatgan ei ofraith y byddai awyr heulog yr Awstralia yn help iddo adennill ei iechyd. Diolchodd Mr Davies am an- rheg mor wasanaethgart ac hefyd am y dymuniadau cynnes a charedig. Siar- adodd Mri. Willie Rees, "I vor Jones, John L. Rees, George Davies, a David Roderick yn ystod y cyfarfod, a chymer- odd y bonesau Hannah Richards a Mag- gie May Jones, a'r bonwyr Willie Wal- ters, Sam Samuel, Willie J. Roderick, Geo. Davies, Ivor Jones, ac Evan Owen Jones ran mewn canu ac adrodd. Hwyl- iodd Mr Davies o Tilbury ar yr agqrlong Orvietto boreu dydd Gwener diweddaf. Yn Eglwys Sant loan, Clydach, boreu dydd Mawrth diweddaf, o flaen cynhulliad lluosog, unwyd y fonesig Miss Lily Lewis, merch i Mr a Mrs Rees Lewis, masnachwyr. o High Street, Clydach, a'r Parch. David J. Rowland, B.A., mab i Mr a Mrs. Thomas Row- land, Calvert Terrace, Abertawe, mewn glan briodas. Yr oedd i'r ddau barch mawr yn y cylch. Cymerodd y bonesau Misses Maud a Minnie Lewis a'r bonwr Mr Thomas R. Rowland hefyd rhan yn y briodas. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yn Eglwys Bethel, Clydach, y Sul o'r blaen. Pregethodd y Parch. G. Evans, B.A. (Merthyr), a Mri. J. Lovering a J. Rhys Davies (Abertawe), a gweddiodd y Parch. D. J. Moses, B.A. (Tycroes). Cymerodd y chwiorydd Emily Purll, Gwennie Price, K. Stephens, Maud Purll, Edith Simmons, Alice Purll, ac E. Brookes. a'r brawd W. Thomas ran mewn canu ac adrodd yn ystod y dydd. LLEW. I
Dyffryn Afan. I
Dyffryn Afan. I Cafwyd gwledd anarferol yn Nhabor, j Cwmafon, nos Sul, Mai 28ain. Bu parti o Ebenezer, Aberafon, yma yn chwarae drama o waith "Mynyddfab." Enw y ddrama ydyw Adfywiad Crefyddol," ac y mae y llyfryn yn deilwng o sylw ein hysgolion Sabathol. Yr oedd y parti wedi eu hadrodd ychydig amser yn ol yn Ebenezer, ac wedi clywed am ei llwydd- iant gwahoddodd y brodyr yn Tabor liwynt i'w plith. Yr oedd disgwyliad mawr am danynt, ac ni chafodd neb ei siomi. Gresyn na ellid ail gychwyn yr hen arferiad da o ysgolion yn ymweled a'u gilydd i gynnal cyfarfodydd fel yma. Clywir fod eglwysi eraill yn y cylch yma yn awyddus i glywed adroddiad o'r llyfr rhagorol hwn. Bydd yn llawenydd gan ffrindiau lawer Miss Dorothy Jones, merch Mr. Charles Jones, Y.H., Aberafon. glywed am ei llwyddiant yn ennill y gradd o B.A. Prifysgol Cymru. Y mae Miss Jones yn dechreu dringo yn gynnar, a disgwyliwn yrfa lwyddiannus iddi.
.Hirwaun.
Hirwaun. Dydd Iau, Mehefin 25, gwelwyd sefyd- lu y Parch. M. P. Moses, Libanus, Aber- honddu, yn weinidog yr Annibynwyr Seisnig. Llywydd cyfarfod y prynhawn oedd y Parch. Jonathan Evans, Pen- arth,, a chafwyd araith gref gan yr Athro Joseph Jones, M.A., B.D., Aber- honddu. Croesawyd Mr Moses ar ran yr eglwysi gan y Parchn. E. Cefni Jones, R. Derfel Roberts, a Fisher Griffiths. Cynrychiolwyd eglwys Liban- us gan Mri. Williams a Pugh, dau o ddiaconiaid yr eglwys. Estynwyd croesaw ar ran Mount Pleasant gan y Canghellor J. 0. George. Yn yr hwyr cafwyd pregeth rymus gan y Parch. Jonathan Evans. I. I OH Iau diweddaf cynhaliwyd cyfar- fod neilltuol dan nawdd y Temlwyr Da yng nghapel Nebo. Cafwyd cyfarfod grymus iawn. Pob llwydd i'r Gym- deithas hon i hyrwyddo dirwest. Y mae Pwyllgor Cymanfa Ganu y Bedyddwyr wedi dechreu ar ei gwaith at y flwyddyn nesaf. Mr Wm. Thomas fydd yr arweinydd y tro nesaf eto. Bu y bardd-bregethwr byd-enwog Gwili yn cadw cyfarfodydd pregeth.u blynyddoI Seion (B.). Cawsom bre- geth (?ymraeg y prynhawn yn Ramoth. Y mae Gwili yn adeiladol bob amser, ac yn peri i bawb gnoi cil ar ol ei glywed.
[No title]
Mr. Wm. Jenkins, Y.H., Cymer. I Ymhlith y boneddigion a ffurfiant restr Ynadon newydd Morgannwg, nid oes enw teilvngach nag eiddo'r llanc o'r Cymer, a gerfiodd lwybr anrhyd- eddus iddo ei hun o'r talcen glo i'r fainc ynadol, sef Mr. Wm. Jenkins, prif swyddog Glowyr Dyffryn Afan. \Vedi ei eni ar Graig Fforchlas yn y Cwm anghysbell hwn (canys felly yr oedd yn 1871), cafodd brofiad cynnar mai caled yw ffawd pob gweithiwr ymestynna at hunan-ddiwylliant a dyrchafiad. Gorfu iddo gerdded i Glyncorrwg, sef taith o ddwy filltir a hanner ar hyd ffordd anial, er mwyn yr ychydig ysgol a gafodd. Ennillai fara ei hun wrth "gario twls" pan newydd adael ei 11 oed, a phan y cyrhaeddodd 12, cerddai dair milltir bob dydd i Lofa Abergwynfi i weithio un awr ar ddeg, am gyflog fechan. Pan ddaeth ysgol newydd i'r Cymer nid oedd neb ddaliai ar gyfleusterau yr Ysgol Nos a'r Dosbeirth Celf a Chan yn fwy nag ef. Buan y gwelwyd ef yn datblygu, a byth wedi hynny nid j yw wedi troi vn ol. Sieryd cerrig-mill- tir ei hvyddiant yn hyavvdl i bob dyn ieuane sydd a'r "plwc" i ddilyn ei ol. Dyma ychydig ohonynt i enwi y rhai a nodant ei fywyd cvhoeddus yn unig Aelod o Fwrdd Ysgol Plwyf Gyncorr- wg, 2 flynedd; Gyngor Dosbarthol Glyncorrwg, 12 mlynedd; Cynghor Sjrol, 7 mlynedd; Bwrdd Cymodol, 3 blynedd; Pwyllgor Mwnawl y Sir, 4 blvnedd. Efe hefyd oedd ysgrifen- nydd cyntaf Llyfrfa y Cymer, ac yr oedd yn un o sylfeinwyr y Faelfa Gyd- weithredol yn y lie. Drwy yr oil caf. odd amser i ganu a chystadlu fel un- awdydd ac arweinydd corau llwydd- iannus. Yn goron ar y cwbl, os ydych am ei weled ar y Sabath; ewch i Heb- ron, Cymer, a chwi a'i cewch yn ar- weinydd y gan, yn athraw yr Ysgol Sul, a swyddog diflino yn y gwaith. Proffwyda rhai o'r dewiniaid politic- aidd fod uchelderau ereill yn gwahodd Wm. Jenkins i'w dringo. Boed hyn- ny fel y bo, dwedwn ninnau mai pa le bynnag yr êl, bydd fel ei hun yn Gym- ro gwladgar a thwymgalon, yn peri clod i'r wlad a'i magodd.
'Nodion o'r Gogledd.I
Nodion o'r Gogledd. I GAN GLYNDWR. I Yn un o newyddiaduron y Gogledd yma ceir dadl ffrwd ar "A ddylai ein gweinidogion gystadlu mewn Eistedd- fodau a Chyfarfodydd Llenyddol 1" Maentumia un brawd eu bod yn cystad- lu am wobrwyon o 5s. i fyny, a'u bod yn esgeuluso eu gwaith trwy hynny. Am- ddiffynwr y gweinidogion a ddadleua nad ydynt yn esgeuluso eu gwaith. ac fod ganddynt amser a hawl i gystadlu. Nid af i mewn i'r ddadl yn y fan hon. Beth yw barn eich lluosog ddarllenwyr ar y pwnc 1 Pwy na chlywodd son am Bont Menai V Yn y dyddiau hyn ceisir gwneuthur i ffwrdd a'r tollau sydd raid eu tafu am groesi'r bont. Dywedir fod y tollau hyn yn parlysu masnach Sir Fon, ac yn ar- bennig felly eiddo tref Porthalthwy, sydd ar ochr Mon i'r bont. Fel y gwyddis, y mae Cyfundeb y M.C. wedi prynu y Goleuad (a gy- hoeddid gynt yn Nolgellau). Ym- ddanghosodd y rhifyn cyntaf yr wyth- nos ddiweddaf. Ei olygydd yw Mr E. Morgan Humphreys, Caernarfon. Teim- la hen gyhoeddwr y Goleuad" (Mr. E. W. Evans, Dolgellau) na chafodd chwarae teg gan y M. C. yn hyn o beth, ac y mae wedi eyhoeddi newyddiadur dan yr enw Y Cyinro." Y mae gan y Parch. R. H. Watkins, Dinorwig, ysgrifau gafaelgar yn y Geninen a'r Traethodydd di- weddaf. Cydymdeimlir a'r Parch. R. A. Wil- liams (Berw), Ficer Waenfawr, yn ei alar o golli ei briod hoff. Hebryngwyd ei gweddillion i Fynwent Bettws. Gar- mon, dydd lau diweddaf. Y mae ei hunig ferch ar ei ffordd i'r Aifft gyda'u phriod. Dydd fait diweddaf cynhaliwyd Brawdlys Chwarterol Caernarfon, a dedfrydwyd dwv Suffragette i dri mis o garchar bob un am dorri ffenestri yng Nghriccieth pan oedd Mr Lloyd George yn annerch cyfarfod yno yn ddiweddar. Ceisiodd y gyntaf neidio dros reiliau y dock, a bu raid cael chwech o 'warders' i'w dal yn llonydd. Ciciodd y dock yn yfflon. Tynnwyd esgidiau y llall oddiar ei thraed cyn dyfod a hi i'r llys. Nid oedd can gryfed merch a'r llall, ond siaradai fwy. Yr oedd yn darcalonus ei gweled yn lladd ei hunan yn y dock cyfyng. Dywedir iddi yn ddiweddar ddyfod i feddiant o £90,000, ac mai hi oedd yr un roddodd Pavilion y Kew Gardens, Llundain, ar dan yn ddi- weddar. Beth wneir a hwy? Dydd Iau diweddaf fe gynhaliwyd Gwyl Gerddorol Harlech yn y Castell henafol. Yr oedd yn orlawn. Bernir fod 8.000 o bobl yn bresennol. Yr oedd yno gor bron o bob ardal yn y Gogledd, a chanent ddarnau arbennig. Yn yr hwyr caed cyngerdd, a chanwyd dwy oratorio gan y codau undebol. Arwein- id gan Mr J. C1. MacLean, Porthmadog. Caed canu godidog, ac yr oedd "mynd" ar yr hen donau Cymreig. A oes gennych chwi wyliau tebvgvyn y De ? —
Nodion o Glyn Nedd.I
Nodion o Glyn Nedd. I (Gan TOM CYNON.) I Mae'n bleser gennyf hysbysu fod y Parch. T. Carmen Harris, gweinidog siriol y Bedyddwyr, wedi ymafael yn ei waith ar ol chwe mis o gystudd. Y mae'n dda gan y frawdoliaeth ei weled, er nad yw yn holliach. Nos Fercher, Gorffennaf y iaf, yn y Neuadd Gyhoeddus, perfformwyd y ddrama, "Y Bardd aV Cerddor" (Elffin). Y prif gymeriadau oeddynt: \V. Davies (Parch. W. Lloyd); Morgan Francis (J. Handel Jones); Miss M. J. Williams (morwyn Handel Jones); W. J. Watkins (Pugh, P'asllwyd); Mrs. C. A. Edwards (merch y Plas); Miss A. Lewis, "Llinos Nedd" (morwyn y Plas); Gwilym Morris (saer); Misses S. Jones, Laura Roberts, N» Williams a M Rees fcyfeillesau); Mrs. E. A. Jeffreys (Marged Lloyd); T. Davies E. J. Phillips, A. Davies a G. Davids (chwarelwyr). Canwyd gan Llinos Nedd, y telynor oedd S. Powell, a gof alai T. Morgan am chwythu'r com gwlad. Goialai W. Perkins am y ti-efniadq,i. Gwnaetl pawb eu rhdn yn dda, a theimlad pawb oedd "melus, moes mwy." Dydd Tau, yr wythnos o'r blaen, ym- welodd llu a Phontneddfechan o wa- hanol fannau. Ymwelwyd a'r amryw- iol olygfeydd rhamantus, ac yna ym- neillduwyd i Westi'r Angel i fwynhau gwledd a ddarparwyd gan Mrs. Jones. Treuliwyd gweddill y dydd i chwarae mewn cae cyfagos.
Advertising
8 UST" 9 MCNOIM MLT< and MORNEU I I WSC BIFURCATED RIVETS. M No need topuneb holes. Simply H  Ri?veett s. and bend ba2cCk? ■■ s.tO i,)rr on_ gs. -Iieeaatt and '-IttT,- FOR aallll loOcCa,l Troii- PRICE oor r seennd d I!- LIST. box ((a?r.s. oorrte e,l) tto-_ =now RRivvet ft Co.. LLttdd.
Treherbert.
Treherbert. Dymunwn hysbysu gyda llawenydd nifer luosog o ddarllenwyr y "Darian" fod Mr. Arnold James, ymhlith llu o ymgeiswyr, wedi pasio Arholiad Canol- 11 raddol Cymdeithas y Gyfraith (Inter- mediate Examination of the Law So- ciety), yn anrhydeddus. Yr oedd yr arholiad yn cynnwys dwy ran, sef Cyfraith a Chyfrifon; ac y mae'r gwr ieuanc wedi clirio y ddwy ran. Nid oes ganddo bellach ond un arholiad, cyn y bydd yn gyfreithiwr. Mae fel ei dad enwog, Mr. D. James (Defyn- nog), yn Gymro i'r earn, yn medru siarad ac ysgrifennu'r hen iaith yn rhwydd a chywir. Dymunwn fawr I hvyddiant iddo yn y dyfodol er cyr- raedd y safle urddasol fel cvfreithiwr enwog yn ein cwm poblog. ( Cafwyd pregeth hynod bwrpasol gan Dr. Harries boreu Sabath i'r plant yn Libanus, gan fod deiliaid yr Ysgol Sul a llawer o'r gynulleidfa yn bwriadu mynd i Aberafon dydd Llun am "out- ing," er mwyn iddynt fod yn ofalus a gwviiadwrus. Cymerodd yn destun y rhan olaf o adnod 23 o'r bennod 49 o Jeremiah-" Y mae gofal ar y m6r heb fedru gorffwys. Credwn y caiff y bregeth argraff neilltuol ar feddyliau y plant ac eraill pan yn Aberafon, ar y traeth ac yn y m6r, a'u gwneud yn ofalus yn ystod y dydd, ac y byddant tyn cofio ei eiriau tyner a dymunol. Treherbert. J. DUNCAN. I
! Gwobrau'r Darian! I
Gwobrau'r Darian! I DWY BUNT 0 WOBRAU. I Tra'n teimlo'n galonnog wrth y cyn- nydd sydd wedi ei wneud yng nghylch- rediad y Darian er pan mae wedi newid ddwylaw, eto teimla'r Cwmni y dylasai'r cynnydd, mewn rhai ardal- oedd yn enwedig, fod yn fwy nag ydyw a thrwy garedigrwydd rhai o honynt fe'n galluogir i gynnyg nifer o wobrau i'r dosbarthwyr ddanghosant fwyaf o gynnydd yng ngwerthiant y Darian yn ystod y chwe mis sy'n dechreu gyda Gorffennaf. *Y Brif Wobr 15s. Yr Ail Wobr 10s. Y Drydedd Wobr .78. 6c. Y Bedwaredd Wobr 5s. Y Burned Wobr 2s. 6c. Yn nghyd a Nifer o Lyfrau buddiol ac I adoiladol.. Cydnabyddir y gall ymddangos yn anawdd gwneud cyfiawnder rhwng dos- barthwyr mewn ardaloedd gwahanol, ac y gall y cyfleusterau i wneud cyn- nydd fod yn fwy mewn ardal boblog nag mewn pentref gwledig; ond yr ydym yn ffodus wedi sicrhau cydweith- rediad dau newyddiadurwr o brofiad a diamheuol eu cymeriad i ddal y fantol, bef-- Mr. D. John, Ferndale, a Mr. Gwyddonwy Evans, Aberdar,— Cadeirydd ac Ysgrifennydd Undeb Newyddiadunvyr a Llyfrwerthwyr Deheudir Cymru, I Y rhai a gymerant net sales" y chwarter presennol yn safon, ac a gymerant i ystyriaeth hefyd gynnydd y chwarter o'r blaen yng nghyd a natur poblogaeth cylch pob dosbarthwr. Yn y fel hyn fe ga pob un chwareu teg, a phob ymdrech ei chydnabod. Caiff hefyd y dosjbarthwr sydd yn awr yn cael dim ond dau neu dri chopi drwy gyfan- werthwr yr un fantais a'r hwn sydd yn cael parsel mwy yn syth o'r Swyddfa, ond iddo lanw'r many lion isod:— i Cyfeinad. i t Syr,-Byddwch gystal a chyo- nabod derbyniad fy nghais am gael cystadlu am wobrwyon y f)arian. Yr wyf yn awr yn gwerthu copi, ac yn eu cael drwy Cyfanwerthwr, yn Yr wyf yn bwr- iadu gwneud fy ngoreu i chwyddo yn y He hwn gylchrediad unig bapur Cymraeg Cenedlaethol y Deheudir-y Darian. I Y r eiddoch, (Enw) ) I I Gellir torri allan y "Coupon" uchod a'i anfon ar gerdyn drwy'r post am ddimai i'r Golygydd, Swyddfa'r "Dar- ian," Aberdar, yr hwn a gydnebydd dderbyniad pob un. Yn awr ynte, Ddosbarthwyr, yn wryw a benvw. HAI ATI!
[No title]
Dallwyd glowr o'r enw Isaac Barnes, Castleford, Caerefrog, gan fell ten dydd Mercher diweddaf. ac ymhen 24 awr fcrawyd ef gan fellten arall a daeth i weled drachefn. Yr oedd yn gorwedd yn ei wely pan darawyd ef yr ail dro, a I thaflwyd ef i'r llawr. Diolch i Dduw," ebe er syndod i bawb, yr wyf yn gweled. Gwir dywedodd, oblegid y mae yn gweled er yn dioddef oddiwrth I yr ergydion. I
Advertising
CYMERWCH HYN yN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain un a ddylai Parot: .d, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yo mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau lachaol ar 01 ugaio mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidip rhoddi enw i'r cyfarsoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y pWNC 0 JECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor vgyffre. din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wylSod beth sydd I i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol bwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol vmosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anbwylderau. Ku QUININE 3ITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaetb bysbysol orea er delio a'r Anwydwst yn ei wa- banol ffurfiau, gan ei bod Yo Barotoad sydd wedi ei barotoi YD fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogd a Gwaed. burol ereill, addas i'r Afu,, Treul. iad. a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan y. dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin a wendid a Uudded ar y corf. pEIDWCH OEDI. YSTYRIWCH YN aWR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yo dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agOS- af, ond pan yn prynu. mynweb weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn winoo- eddol. GWERTHIK YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2s. n9r °- a ^AS. 6ch. yr ua Unig Berchenogion tmrnt): BIITEII rnmm COMPANY LIMITED, £ LAH«LLY, Math Wales.