Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
*'I for *AN'S ■uiJcHE^ H CARDIFF (2)^H^ NEVI"RT FONTYPOOL H PONTYPRIDD B| SWANSEA HH LLANELLY^ Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £ 5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan & Co., Ld., Wales' Largest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Cheat with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top anti Tile Back, and Two strong Cane-aeated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered III Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori-I
Y Stori- NANNO. BYWYD PENTREFOL MON. I GAN J. TYWI JONES. I PENXOD VI. I Ffrae yn y Capel Bach. I Chwery y capel ran bwysig ym mywyd Llandderwydd, fel yn eiddo pob lie arall yng Nghymru. Hawsed fyddai actio drama heb ei phrif gymeriad, ac heb ei llwyfan, efallai, a gadael y capel allan o fywyd Llandderwydd. Ceir yno dri o gapelau; un ohonynt yn y pentref, a dau arall ac eglwys o fewn cyrraedd iddo. Capel mawr, hardd, y Methodist- iaid sydd yn y pentref. Capel llai o faint a mwy diaddurn, ac wedi ei godi dipyn o'r neilldu yw eiddo'r Annibyn- wyr. Yn fwy o'r neilldu, yn llai, ac yn t fwy diaddurn byth, y mae capel bach y Bedyddwyr. Nodir, yn ami, fel esgusawd dros nerth y Methodistiaid ym Mon, iddynt gael y blaen ar enwadau ereill. Nid felly y bu yn Llandderwydd. Y Bed- vddwyr gawsant eu traed i lawr yno gyntaf, yna'r Annibynwyr, a'r Method- istiaid yn olaf. Y Bedyddwyr oeddynt fwyaf llewyrchus yma am flynyddoedd. Gwelodd yr Annibynwyr hir dywydd garw. Ar ol hir frwydro llwyddasant i gadw'r terfysgwyr draw, drwy fygwth cyfraith arnynt am roddi curfa i rywun yn y capel. Daeth llewyrch ar eu hachos, a thangnefedd i'w plith pan gawsant waredigaeth oddiwrth y rhai hyn. I'r Bedyddwyr, ymhen amser, y bu'r anffawd o dderbyn y rhai hyn i'w plith, ar broffes o edifeirwcK am eu pechodau. Ki fu graen- byth ar yr achos. Ni fu'r pechaduriaid edifeiriol fawr amser nad oeddynt eto yn geiliog- od ymladdgar. Aeth teulu ar ol teulu allan o'u plegid. A thrwy ryw amryfus- edd'cadarn, gallent ymffrostio fod aw- durdodau goruchel yr enwad yn y sir o'u plaid. Ymddengys hefyd mai oherwydd parodrwydd tybiedig y rhai hyn i ym- ostwng i unrhyw amod a osodai "y brodyr o'r wlad" i lawr, nas gofynnid ganddynt hwy i wneyd dim o bwys tuag- at gael heddwch, ac y gofynnid gan y lleill i wneyd gormod. Y "brodyr o'r wlad" y gelwir ymwelwyr o'r Gymanfa. Eu hamod gyntaf a phwysicaf bob am amser oedd, A wnewch chwi roddi i fewn yn dawel i'r hyn Joenderfynwn ni" Yr oedd gan yr un elai i mewn yn raenus, a gwen ar ei wvneb, drwy y porth cyfyng hwn fantais fawr ar y lleill. Gnawn ni'n taid, unrhyw beth, frodyr, er mwyn tangnefedd," fyddai ateb Sian bob amser. Ateb rhai a feddent rywfaint o hunan- barch fyddai, "Rhoddwn i fewn o bo- peth rhesymol." Ond ni wnai ateb fel yr olaf mo'r tro i'r brodvr o'r wlad, a dechreuent ar eu gwaith o brofi'r achos yn rhagfarnllyd. Y canlyniad bob amser fu ymwrthod a'r rhai na addawsent ymostwng yn ddiamodol a chadw y ffug-ostyngedig i mewn ac efallai eu dal i fyny fel esiam- pl odidog o Gristionogion "boneddig- aidd a hawdd eu trin." Y mae achos y Methodisfiaid yn flodeuog mewn nifer, ac i fod yn onest, mewn rhinweddau gwerthfawr yn ogys- tal. Y maent hwy er's amser maith yn mwynhau bugeiliaeth ddoeth a manwl y Parch. Glyn Ifan, ac yn ddyledus i Sian Huws am yrru oddiwrth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr lawer o'u haelodau goreu. Nodweddir holl symudiadau yr eglwys hon gan reoleidd-dra, effeithiol- rwydd, ac urddas. Ni chlywir byth ain helynt na ffrae yno. Haera Sian Huws yn ami fod yno hefyd "ddeunydd storm," ac y tyr ar eu pennau yn fuan iawn. Kid yw'r broffwydoliaeth byth yn dod i ben er ei chyhoeddi yn hir ac vn ami. Ni charem ddweyd fod yr eglwys hon yn berffaith, nac fod pleid- iau ohoni yn hollol rydd o deimlidau cryfion tuagat eu gilydd ar adegau (.nd gwyr Glyn Ifan a'i flaenoriaid 1 i dim i sut i gadw'r heddwch. A chvvedl Mathew Martin pan mewn ymdduldan am y peth, Os nad oes yno heddwch perffaith, y mae yno heddwch boneddig- aidd, bob amser. Gan nad sut y mae eu traed yn ymddwyn dan y bwrdd, y maent yn gofalu parchu wynebau eu gilydd uwch ei ben." A hwyrach mai gorchest fud liol iawn i eglwys ydyw arfer cadw heddwch b«.n- eddigaidd yn y golwg, pan nad yw i heddwch perffaith yn gyrhaedda-Jwy. Rhydd cyflwr felly gyfle i gym/lau dixm i fyned heibio, heb dywallt eu defnyn | nau mwyaf llidiog i blith y sa;n' Ych- j ydig o amser, yn ami iawn, 'Jdeuai a llawer o bethau dyrus i'w lie. Er fod llywodraeth a threfniadau yr eglwys hon ar linellau Preshyteraidd. ni fwyn- haodd eglwys erioed well democrataeth. Y mae ewyllys a theimlad yr eglwys bob amser fel pe'n ymgorffori'n esmwyth yn eiddo'r arweinwyr. Os fcyfyd amgylch- iadau arbennig, y mae y Cwrdd Misol o'r tu ol yn gwneyd yr oil a fedr doeth- ineb oreu'r sir ei wneyd, a llysoedd ereill drachefn os bydd angen. Y mae eglwysi'r Bedyddwyr a'r An- nibynwyr o'r tu arall, yn Llandderwydd, er yn cael eu llywodraethu ar linellau a honnir sydd yn ddemocrataidd hollol, at drugaredd mympwy penrydd ac afres- ymol. Wrth roddi pob math o faft gwestiynnau i lais yr eglwys, fel y dy- wedir, ca creaduriaid na oddefid mo honynt mewn tafarndy gyfle i ddangos eu hunain. Llwyddai un anhydrin i beri mwy o aflwvdd i'r Bedyddwyr neu'r Annibynwyr nag a fedrai y brodyr da oedd yno wneyd o ddaioni, er iddynt weithio a'u holl egni. Ni fu graen ar ddim gan y Bedydd- wyr o dan deyrnasiad Sian. Aeth eu democrataeth yn unbennaeth, neu yn ffwl-bennaeth o'r fath fwyaf penrydd a dinystriol. Ychydig cyn yr adeg y dechreua'r hanes hwn, daethai atynt fachgen ieu- anc cryf yn weinidog; Morgan Rhys oedd ei enw. Ceisiodd Sian a'r teulu wneyd llawer ohono, a thybient yn sicr y cawsent ef o'u tu hwy yn mhob helynt a ddigwyddai godi. Buan y daethant i ddeall, er hynny, nad mor hawdd oedd codi helynt o dan ei wein- idogaeth ef. Cai Morgan Rhys gryn ddifvrrwch wrth wrando ar Sian yn son am Mistar Speicem fel awdurdod uchaf yr enwad yn y sir yr adeg honno. (I barhau.)
Pontygwaith.I
Pontygwaith. I Cyfnewidiad er Cwell. I Mr. Golygydd,— Ie, dyna brofiad cyffredinol y cylch y trof ynddo-y cylch hwnnw sydd a'i natur yn llosgi dros burdeb a pharhad y Gymraeg, yw fod y cyfnewidiad di- weddar ynglyn a'r "Darian" yn un er gwell. Mae llawer droisant eu cefnau arni yn nydd ei darostyngiad, erbyn hyn wedi troi yn eu holau i'w chroesawu gyda breichiau agored. Dymunaf bob llwydd i chwi yn eich anturiaeth fawr. Erfyniaf ychydig ofod i draethu gair neu ddau. Bid sicr credaf nad yw peth- au yn wahanol heddyw i'r hyn oeddent. Ni chaniateid gynt gyhoeddi dim ond yr eithriadol—rhywbeth tuallan i gylch cyffredin bywyd personol a chymdeith- asol, a diameu mai megis ag yr oedd yn y dechreuad y mae yr awrhon. 'Er hynny nis gallaf lai na sylwi fod rhyw- beth wedi suddo i wreiddiau bywyd cymdeithas sydd yn ei newid trwyddo draw. Llongyfarchaf bob gwelliant, yn arbennig y gwelliant fyddo'n greadig- aeth calon a meddwl, a daioni cyffredin- ol mewn golwg ganddo. I mi trwydded pob newvdd-beth gynhygir—o ba gyf- eiriad bynnag y delo—yw ei fod yn rhydd o bob culni, yn eangach na chylch hunan, ac yn gynnyrch yr egwyddor iachus hono sydd wedi bod-yn gweith- io lrwy'r canrifoedd er codi ac arwain dyn i gyfeiriad y gwell. Cydnabydda pawb fod gwelliantau yn angenrheidiol a phosibl, ond nid yw pawb eto yn uno l parthed y dull a'r modd i'w sicrhau. Er hynny teimlaf na ddylid beio yn ormod- ol oblegid nid yw mwyafrif y rhai a wrthwvnebant fesurau diweddar y Llywodraeth yn wrthwynebwyr ond mewn enw yn unig. Ffaith fawr a deim- lii heddyw yw fod gan amgylchoedd ddylanwad, a dyna mewn gwirionedd sydd i gyfrif am yr oil o'r gwrthwyneb- iadau a'r ymraniadau presennol. Er enghraifft, tybed nad dylanwad dos- barth neilltuol sydd i gyfrif am sefyllfa pethau fel ac y maent yn CIster heddyw 1 Mae gwerin bobl yr Iwerdd- on yn fwy felly nag eiddo Cymru, heb ddihuno i'w hawliau. Pan ddeffry'r cyfryw i sylweddoli eu safle yn y byd masnachol a gwleidyddol, dyna'r adeg y dywedant wrth yr uchelwyr hynny a'u cynrychiolant yn Sennedd-dy'r Wlad fod tymor eu gwasanaeth wrdi dyfod i ben. ac na chaniateir iddynt mwyach ymyrraeth a gwrthwynebu y mesurau hyny sydd a'u gogwydd i godi a gwella sefyllfa v werin dlawd. Erbyn hyn mae Ymreolaeth i'r Iwerddon a Dadgysyllt- iad yr Eglwys yng Nghymru bron a bod yn ffeithiau mewn hanes. ac nis gall ond daioni cyffredinol ddeilliaw o honynt. MURMUR CYNON. I
[No title]
Lie hynod am aflendid ei iaith yw Stesion Ystalyfera. Aroser ar y plat- fform yno gyferbyn a'r He y llwythir glo i'w gludo i'r dref, a chlywir lleferydd mor aflan ar adegau nffs y mae yn anodd credu mai bodau dynol sydd yn siarad.
I Difyrrwch y Beirdd. I
I Difyrrwch y Beirdd. Tua phedwar ugain mlynedd yn ol yr oedd Talhaearn yn digwydd bod yn ïn- bych, a dywedodd Mrs. Blaud, y Crown, wrtho fod Robert Dafis, Bardd Nant- glyn, yn lied sal. Wel," ebai Tal- haearn, gadewch imi gael potelaid o frandi, Mrs. Blaud, ac mi af i ffwrdd y munud yma a'r botel yn fy mhoced, i ymweled a'r bardd." I ffwrdd ag ef, nes dyfod o hyd i'r bardd yn ei fwthyn oddeutu dau o'r gloch y prynhawn. Cafodd ymgom ddifyr am awr neu ddwy, oblegid yr oedd y bardd yn brysur wella ar ol ei selni. Ac ar ryw gwr o'r scwrs, ebai Talhaearn: "Robert Dafis, gadewch imi gael englyn neu ddau na fuont erioed mewn print." Y cyntaf a draethodd oedd hwn: Englyn i'r Gegin. I Tan gwresawg poethawg bob hin-bara, Bir, cig, caws a phwdin; (cawl Pysy hal, cwstard, mwstard, min Lion goges a llawn gegin. Nid wyf yn sicr mai fo yw awdur y nesaf, oblegid byddai'n gyffredin yn dywedyd, cyn adrodd englyn Fe ddy- wedodd rhywun fel hyn," pa un ai fo ai rhywun arall fyddai'r awdur: Englyn i Twm Tegid." I Rhyw gnaf, un a gaf yn gi-wyt Tegid, Nid hygar dy gwmni; Cnaf yn niwedd pob meddwi, I Cyn yfed dim, cnaf wyt ti. Pan ydoedd ar fin cychwyn yn ol i Ddinbych dywedodd fod arno flys troi i Egryn i edrych am Aneurin Owen a Doctor Owain Puw. Gan fod hi'n braf, mi ddof hefoch chwi," ebe yntau. Ni fum i ddim yno er's chwech wyth- nos." Cyraeddasant Egryn a chawsant y doethwr a'r lienor gartref. Yr oedd Aneurin Owain a'r teulu yn hynod o groesawus wrthynt. Yr oedd ef a'r bardd a Thalhaearn yn yfed cwrw rhagorol, ac yn smocio pibelli hirion wrth fodd eu calonnau, ac yn scwrsio am bob math o bethau, a'r Doctor yn ddis- taw-lonydd. yn dywedyd dim; ond ar yr un pryd yn edrych wrth ei fodd. Ebai Tal: Doctor, wnewch chwi ddim cym- ryd un glasiad efo ni?" *'Ni fyddaf un amser yn sychedig, a phaham rhaid imi yfed?" ebai yntau, yn ddiniwed a dirodes. Dyna'r unig dro i Talhaearn fod yng nghwmni Doctor Owain Puw, oddigerth unwaith o'r blaen pan rodd- wyd ciniaw mawr iddo yn llofft yr Hall yn Ninbych. Yr unig beth a gofiai am y ciniaw hwnnw oedd iddo yfed dwy botel o Sherry, a bygwth crogi'r neb wyddai pa fodd yr aeth i'r gwely y nos- waith honno, ac nid ydyw hynny o fawr o bwys am wn i. Amryw flynyddoedd ar ol hyn yr oedd yn brecwesta ym mharlwr y Crown, Din- bych, a daeth Parri'r ostler i mewn, gan ddywedyd, Y mae yna rhyw hen bryd- ydd yn y gegin eisieu pinsiad o snisin (siiLff). Os ydyw o yn brydydd, mi gaiff ddwsin," ebai yntau. Hwda dos a'r blwch iddo fo, a dywed y do'i ato fo ar ol gorffen brecwesta." Pwy oedd yno ond Wil Edwards, Ysgeifiog. Nid oedd erioed wedi ei weled o'r blaen. Yr oedd yn edrych yn wyllt efo'i lygaid croesion, ac yr oedd ei wallt wedi ei gneifio o fewn chwarter modfedd i groen ei ben. Gyda hyn, dyma bysgotwraig yn dyfod i'r gegin a basgedaid o ben- waig i'w chanlyn. Diawst, mi leiciwn i gael pennog," ebai y bardd. Ebai yntau, Cook, ffriwch badellaid o benweig i'r bardd. Ar ol iddo frecwasta ar y penwaig, wynwyns, bara, a godardaid o gwrw, aethant i son am feirdd a barddoniaeth, a dyna lie y buont drwy gydol y dydd. Yi oedd yn adrodd cywyddau, englyn- ion, ac awdlau, ac yn siarad ar draws ac ar hyd, ac mewn tipyn-o ddyryswch weithiau, ond yn orlawn o wit yn ei or- ffwylledd. Cawn wybod paham cyn di- weddu. Pan ddaeth hi'n amser myn'd i'r gwely, Blaud, rhaid cael gwely i'r bardd," ebai. Y mae ein gwelyau ni yn llawn." meddai Blaud, "ond mi af i dy Nansi Littler i ymorol am wely iddo ,fo." Blaud yn llwyddo cael gwely, ac yn landio'r bardd yn nhy Nansi Littler, a dywedyd "Nos dawch." Bore dranoeth yr oeddynt yn brec- wasta yn y bar, a phwy ddaeth i fewn a dychryn yn ei phryd ond Nansi Littler. ac ebai hi, Nenw dyn, Mr Blaud, be ddaru i chwi yrru dyn o'i hwyl acw neithiwr 1 Ni chafodd Sion na minnau ddim cysgu yr un winciad ar hyd y nos." Teweh. da chwi, Nansi Littler." Naddo'n wir. Yr oedd on niarcliio ni ar hyd y nos. Cafodd afael yn y pocar, a meddai fo—' Y fi ydi Sior y Trydydd, lie mac fy sowldiers i? March.' A dyma lie yr oeddem yn marchio yn ol ac ymlaen. Ac wedyn, meddai fo, Y fi ydi Napoleon Bona- parte yn mynd i groesi'r Alps lie mae Marshal Ney? Dowch, Marshal,' meddai fo wrth Sion, Come on, Nay,' ac mi wyddoch o'r goreu, Mr Blaud, nad ydyw Sion ddim yn Farshal Ney, nag uffern chwaith. Mi dreiodd Sion godi'r clicied yn sly; ond dyna'r dyn yn ei war o, gan ei lusgo yn ol a bygwth rhoi ei gleddyf (pocar) drwy ei berfedd o. March,' meddai fo, a dyna'r lle'r oeddem ni yn marchio dan dri o'r gloch y bore, a diolch i Dduw, aeth i ffwrdd ohono ei hun yr amser honno." A thra yr oedd Nansi Littler yn dy- wedyd y stori, yr oedd Blaud ac yntau bron a thorri ar ein traws o eisiau chwerthin. Wel, lie tebygwch chwi y cafwyd o, bump o'r gloch y bore 1 Ym Mynwent Nantglyn, yn gorwedd ar ei dor ar fedd Robert Dafis, yn pori gwellt glas, ac yn dywedyd, Ow, yr hen fardd annwyl, tase ti'n fyw, ni gawsem spri iawn." Erbyn iddo ddeall, wedi dianc o'r Lunatic Asylum yng Nghaer yr oedd o, ac aed ag ef yno yn ei ol. Ni wybuasai Tal ddim am hyn pan oeddynt yn ymlonni y diwrnod o'r blaen; ond yr oedd wedi sylwi ar exuberant extrava- gance rhai o'i ddywediadau pan yn siar- ad ac areithio; ond yr oedd yn meddwl mai gwneud hynny o bwrpas er cael cymorth chwerthin yr oedd o. Yr oedd ei gof yn hynod pan yn adrodd cywydd- au ac awdlau cyhyd a'i fraich, heb wale pa bale na thwlc. Yr oedd Ilond y gegin o gwmpeini gyda hwy dwy'r prynhawn, a phawb wrth eu bodd.. Clywodd ei fod rywbryd ym mharlwr y Bach Row yn Ninbych ymhlith cwmpeini go fonedd- igaidd. Nid oedd yn cael fawr o groes- aW ganddynt, ac ebai, Ni welais i er- ioed siwn biti na fuasai yma Felia Bapur yn Ninbych." "Paham, Wil- liam" ebai rhywun. "Am fy mod yn gweled cymaint-o garpiau o fy nghwm- pas," ebai yntau. Yr oedd Wil Ysgeifiog yn fardd da, ac yn gymeriad hynod iawn, a phan yr oedd yn y gwallgofdy cyfansoddodd gywyddau ac englynion gorchestol iawn. Y mae gennyf yn fy meddiant y dydd hwn amryw o honynt. I I'r Awyren a Esgynnodd yng Nghanton, I Caerdydd, Medi, 1860. Dacw awyren, nen ysblennydd—sidan Glas ydyw ei defnydd; Mawr y son am ei rhoi sydd I rodio bro'r ehedvdd. Ar edyn nwy'r eheda-ail eryr Bol euraidd* esgynna I breswyl engyl brysia A'n cu ddyn, fel Enoc dda. Ai dyn sy'n llywydd dani -yn nofio Y nefoedd uchelfri, Hon, yn llawnion, ein llenni Naid i'r nef on daear ni. Wi. syllaf, gwelaf ei gwen—a'i chamrau Ar wiw orielau aur yr heulwen. Golden Eagle. G. BRYCHEINIOG. [O'r Brython," I860.] O.Y.—Gwelwch oddiwrth yr englyn- ion godidog uchod fod yr awyren mewn bri mor fore a 1860. A wyr neb o ddar- Ilenwyr y "Darian" rywbeth am Gwilym Brycheiniog? Caerdydd. JOSIAH JENKINS. I
Llansamlet
Llansamlet Nos Fawrth, Gorff. laf, daeth lliaws ynghyd i Festri Ebenezer, Llwyn- brwydrau, er cynnal "cyfarfod ymadaw- ol" i dri o fechgyn ieuainc o'r ardal fwr- iadent ymfudo; dau i Awstralia ac un i'r Amerig. Cyflwynodd y bonwr J. W. Jenkins, ar ran pabell y Rechabiaid, offer eillio i'r brawd W. J. Adams; hefyd cyflwynodd y bonwr J. T. Rees Feibl iddo ar ran Ysgol Sul Ebenezer. Cyflwynodd y bonwr Isaac Richards offer eillio i'r brawd James Thomas, a'r bonwr Philip Ley, ar ran gweithwyr Glofa Birchgrove, yr un peth i'r brawd Harry Carter. Trefnwyd rhaglen dda gan y bonwr David Griffiths, Heol-las: Unawd ar y berdoneg. Miss A. B. Wil- liams (R.A.M.. L.C.M.) can, Mr D. J. Griffiths; can, Mr W. H. Evans; adroddiad, Mr Dan D. Thomas; unawd ar y crwth, Mr Gwilym Roberts (A.C.V.) adroddiad, Mr Dan D. Thomas can, Mr Henry Beddoe can, Mr David Beddoe can, Mr Philip Ley cafwyd anerchiadau gan wahanol fon- eddigion. Y perdonyddion oeddynt Miss Annie B. Williams (R.A.M., L.C.M.), a Mr Willie Roberts. Gwnaeth y bonwr Isaac Richards. Birchgrove, gadeirydd campus, a ther- fynwyd cyfarfod hapus drwy ganu "Hen wlad fv nhadau." GOLWG Y MOR.
Advertising
I V ? ? OMIAWOH !m< <<m*?d chwi am I ?J??????? Ddiffyg Gwaed ) =???-'? ??B?f? ??\??? Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd M  ?S? coch a gwyn-y coch i faethu'r cod[ J y gwyn i ymladd ag afiechyd. Mewn | L Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cochion j yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni all y gwaed gynnal y corff yn briodol a'i faethu. Mae'r llygaid yn farwaidd, B <: ? ?y ?t y wyneb yn wyn, daw teimlad B?? ?N oluddeddifnfoldrwyyrhoMgyfan- ?t Mddiad. Nid oes dim mor enetthiol ??f ? .? ???aa? ??tt mewn&chos o Ddiffy Gwaed a f t 'Wmc&rms'OherwyddUeinw'Wm- L ? ? fl c&mis' y corff a ?tw? coch, ?t<y<M, eyfoethog, a rydd ddisgleirdeb yn y Vy vM llygaid, ddwg rosynnau i'r gruddiau, 'V ac a rydd ynni llewytltl, bywiogrwydd narydd, a bywyd newydd i'r holl gorft MW 3 Dedirenwdi wella n RHAD \]^| Anteowcb am brawlgmtrel rhad 6Wisalrab -old rhyw Has end digon i wnead lies. Anf MM1 w. Stamp wioiog (i dalu'r dudiad). ?NtN COLBMAN & CO.. LTD., H\y W. )a. WtacMaK Worki6 Norwich.  GwIa d. -Ymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J PILLS )j MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I fett as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. I. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodua hyn yo mhob man, mewn Blvohaa 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Goohalwch Dwyllwyr I-Gofynwoh yn eglur am "jGeorge'g Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, yf.R.P.S., KIRWAIN, ABERDARE.