Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
■■■ . I Tipyn o Bopeth o1…
■ ■ I Tipyn o Bopeth o 1 Bontardawy. Bu'm a bwriad i sychu fy ysgrif- ell, a'i gosod i hongian dan nen y ty, am fod fy amser yn brin, &c. Ond wedi deall fod un o Feirdd y Bont, yn proffwydo, os ca fyw yn hen, y gwel glywed darllen yr emyn olaf yn Gymraeg, mi a benderfyn- ais lynu wrthi eto hyd nes y daw rhywun cryfach na myfi o'i phlaid. Proffwydaf finnau, na welir claddu y Gymraeg, nac ychwaith ei thaflu naill ochr fel peth diwerth, cyhyd ag y ca plant Brutus anadlu. Os am gadw'r iaith, rhaid magu'r plant yn Gymry, ac nid "mulod." Byddai yn well gennyf eu boddi na'u codi'n Ddic Sioniaid. Tynnir i lawr amryw o'r hen fythynod sydd ar ochr Heol Her- bert. Parotoir i godi masnachdai helaeth yn eu lie. Y .ffordd oreu i gael helaethrwydd iddynt yw, eu codi yn ddigon uchel i gyfeiriad y nefoedd; mae digon o le i fyny, ac o bosibl y byddai yn iachach yno nag ar y llawr. Lie go gyfyng i "helaethrwydd" sydd rhwng yr heol a'r afon. Dyna beth fydd "helaethrwydd," rhwng cromfach- au. Mae yn lie dymunol iawn hefyd. Mae llwch y moduriau ar yr heol fel cwmwl barn, ac yn ddigon i fogi y cliriaf ei ysgyfaint. Nid yw yr afon ychwaith yn bur, nac yn ddisglaer fel y grisial, ond bob amser yn llawn o aflendid vn deb- ycach i garth ffos nag i afon. Yn ystod y gwyliau, telais ym- weliad a'm hen wlad. Iechyd i gorff a meddwl oedd cerdded yr heol droellog i fyny o Frynaman tua chyfeiriad coryn y mynydd du. Ac fel y syllai Moses ar wlad yr Addewid o ben Pisgah gynt, felly minnau ar eangder Sjr Gaer, o ben Rhiw Wen. Gan fod y merlyn oedd dan fy ngofal yn hoffi cer- dded yn araf, deliais innau i gerdded gydag ef rhag cael fy sigo i ormodedd wrth edisgyn y rhiwiau serth, rhag byddai Yr ysgwyd mor arswydol Nes ysgwyd y bwyd o'r bol." Mae Gwynfe mor ogonedgus ag erioed, ac yn ddigon i beri i ddyn wedi byw am flynyddoedd ym myd y mwg, ddeisyfu am gael byw yn hir ar ei daear a marw yn hen; ond y tro yma, nid oedd modd i mi aros, na chyfle i osod fy mhabell i lawr ond am ychydig, am nad oedd- wn wedi fy rhyddhau oddiwrth fy meistr, a gorfu arnaf ddychwelyd i dderbyn ychwaneg o siomedig- aethau bywyd. Mae 'Berdar cyn belled o'r byd heddyw ag erioed. Cymer fy nodiadau o nos Sadwrn i foreu Mawrth i gyr- raedd. Sonnir llawer am uno Plaid Llafur a'r Blaid Ryddfrydol, ac na ddylid gwthio rhyfel dair-onglog; wrth yr ar- wyddion, dyna fel y bydd yng Ngwyr yr etholiad nesaf. Plaid Llafur sydd yn derbyn y wialen a'r cerydd am y trosedd o hyd. Mae yr aelod Llafur presennol, Mr J. Williams, yn pwyso yn drwm ar frest Rhyddfrydwyr y rhanbarth; rhaid ei fod yn gwneyd daioni i feibion llafur, cyn y buasent yn trefnu eu byddinoedd er ei symud. Nid oes angen iddynt duchan, er cael o hyd i aelod cystal a'r aelod Rhyddfrydol di- weddaf, ond bydd rhaid iddynt duchan llawer cyn y symudant yr aelod pres- sennol. Nid cyfannu y rheng, trwy gael dealltwriaeth a Llafur yw eu ham- can, ond cyfannu y rheng trwy gadw Llafur allan yn gyfangwbl. Y cwbl i fi a'r gweddill i Shoni 'mrawd. Cynhaliwyd gwyl de a bazaar yn Neuadd Pontardwy y Sadwrn diweddaf gan Fedyddwyr Adulam. Dipyn yn sych fuasai yno, oni bai am y te. Cawsant dipyn o hwyl ar werthu. Mae arwyddion bywyd yng ngwer- syllfa Seindorf arian yr Alltwen ar hyn o bryd, a thebyg y bydd wedi ymysg- wyd o'r llwch cyn y bydd y nodiadau yma yn y goleu. Mae yna bwyllgor newydd wedi ei ffurfio, a llywyddion cedyrn a chyfoethog i edrych ar ei ol. Mae y ddyled i'w dileu ar unwaith gan Mri. Gilbertson, a'r hen fechgyn i ddychwelyd i gyd at eu cyrn. Hyder- wn, y bydd dileu y ddyled, a phwyllgor cryf a doeth i reoleiddio yn hwylustod i'r Seindorf. Bu yn llwyddiannus iawn un adeg, ac ond iddynt fod yn ffyddlon ac ymdrechgar eto, gall y dyfodol fod yn fwy o lwyddiant na'r gorffennol. Daeth su trwy yr ardal yr wythnos o'r blaen fod y Parch. Seiriol Williams, Tabernacl, Pontardawy, ar ben y rhes fel olynydd i'r Parch. Emlyn Jones, Tajbernacl, Treforris. Nid yw yn iawn i mi ddweyd dim allan o'r niwl ar fwr- iad y naill na'r ltlall. Gwyddom fod Mr Williams yn llanw ei le yn dda yn Mhontardawy, ac nad yw yr eglwys na'r ardal am ei weled yn symud. Gwell ganddynt ei gadw. Clywed fod bwriad yn Eglwys Soar, "Methodistiaid y Bont," i alw cyfarfod i gadeirio y Bardd Thomas Jones, o'r Alltwen, fel danghoseg o'u llawenydd ar ei lwyddiarit yn Eisteddfod y Byr- gwm Brechfa. Deallaf y cynhelir cyfarfod er cadeir- io y gweinidog, "Llewelyn Bowyer," yn Nhanygraig nos Fercher, Gorffennaf 15ed. Mae torf o gylch-lythyrrau wedi eu anfon i wyr yr awen, ac os oes rhyw un o Gilfynydd hyd Gilcenin heb gael un anfoned ei phioled enaint ar gais Brutus ynte. Mae Meudwy yn dyfod yn wr per- yglus ar delynegion. Mae wedi ennill amryw wobrwyon arnynt yn ddiweddar. Bu'r Meudwy am flynyddoedd yn ddringo grisiau cerdd, a llwyddodd i afaelyd yn y ffon L.T.S.C. Bellach mae yn troedio tir barddas fel gorch- fygwr. Mae Charles Williams, o Rydyfro, wedi dyfod yn dipyn o boenyn ym myd y cadeiriau nid gwiw chwarae ag ef. Bu llawer iawn o son un amser am Feirdd Rhydyfro. Xid oedd na phriod- as na chwrw .bach yn llawn hebddynt. Ond y mae natur-Charles yn rhy sych i fyd y cwriau. Gwell ganddo ganu i godi safle meddwl ei genedl. Mae caneuon Beirdd chwarel y Tar- reni yn gwella, mae'r awyrgylch yn fwy clir,.a.Ilai o ragfarn a rhegu o'u her- wydd. Bydd yr hen chwarelwr tlawd yn adnabyddus i'r holl wlad cyn hir, a bydd yn ddyledus i'r mechanic am hynny. Pery masnach yn araf yn y He, yr enillion yn fychain, tra traul byw yn myned ar gynnydd. Peth sydd wedi ychwanegu treuliau byw yn yr ardal- oedd yma yw y tocynnau a werthir o ddrws i ddrws at wahanol achosion. Mae holl eglwysi y cylch, cydffurfiol ac anghydffurfiol, allan ddwy a thair gwaith y flwyddyn. Maent ambell 1 wythnos fel pla, a druain o'r trueiniaid sydd yn cael y gorchwyl o werthu. Cant oddef llawer o dafod wrth fyned oddiamgylch, a bydd pawb yn gwylio eu cyfle i hawlio arnynt i dalu'r pwyth yn ol. Y peth mwyaf digri i mi yw, taw'r sawl sydd yn tafodi fwyaf sydd yn prynu leiaf. Maent fel cwn, yn cyf- arth yn dragwvddol. Ymddangosant fel pe na baent yn hapus ond tra yn grwgnach neu gyfarth. Gwna ymddyg- iadau o'r fath achosir drwg deimlad rhwng gwahanol achosion ac eglwysi. Tybed nad yw yn llawn bryd i bob eglwys ac achos fyw ar eu traed eu hunain, yr un fath ag y gorfodir teulu- oedd i fyw. Mae y ddyled dynnir yn ddiangen a'r eglwysi hefyd yn ychwan- egu heb eisiau at draul byw. Mae teuluoedd yn myned i ddyled eu bun- ain wrth geisio cadw i fyny a'u cyd-ael- odau sydd mewn gwell amgylchiadau, i dynnu i lawr ddyled capelau. A pcb eglwys i ddyled trwy godi capelau i ateb eu gofynion. Felly mae dyled 1 cb eglwys yn gyfartal i'w rhifedi, a'r peth callaf a'r goreu i wneyd fyddai i bob eglwys dalu y ddyled a dynnodd arm e: hun. Carwn alw sylw heddgeidwaid y cylch at yr arferiad sydd gan yrwyr y ceir a'r poteli. Tynnir i lawr nifer arben- nig o flychau yma a thraw, a gwaebd- ion yn y poteli hynny. Fe a plant vn hollol ddiniwaid eu meddwl i lyme'tan y gwaelodion--arferiad a'u gesyd yn. agored i ddolur ar un Haw, ac i dyfu i fyny a blys at y diodydd ar y llaw arall. Dylid dal yn gyfrifol bob un a osodo bethau felly ar ochrau y ffyrdd. Taflasant demtastiynau ar ffordd y plant. BRUTUS. I
Dydd Gwyl y Plant yn Nhreherbert.
Dydd Gwyl y Plant yn Nhreherbert. Dydd Gwener diweddaf rhoddodd Syr W. J. Thomas wledd o de a bara brith i blant yr Ysgol Ddyddiol yn Nhreherbert, ac anrhegwyd pob un o honynt a bathodyn ac enw y boneddwr haelionus yn gerfiedig arno. Yr oedd ysgoldai y merched a'r bechgyn wedi eu haddurno yn brydferth dros ben. Ysgoldai y merched dan ofal y prif-ath- rawesau Miss Rosser a Miss Adams. Ymwelodd Syr W. J. Thomas a'r ys- goldai, ac yr oedd yn hynod foddlon i'r drefn. Yr oedd ysgol y bechgyn o dan arolygiad Mr. D. James (Defyn- nog), y prif athraw, ac yr oedd yr adeil- ad gwych wedi ei addurnio'n brydferth. Gwelsom raffau o rybanau trwy'r adeil- ad, ac arnynt arwyddeiriau ac arwydd- luniau y Cymry, megis, "Heb Dduw, heb ddim," "Calon wrth Galon," "Gwell aderyn mewn Haw na dau mewn llwyn," "Câs gwr na charo'r wlad a'i macco," "lesu nad ganwaith" (Jesus, permit no wrong), ac yn eu plith arf- bais Svr W. J. Thomas—"Duw ein Hamddiffynfa. Wedi i'r plant gael digon o de, &c., yn yr Ysgoldai, aethent i gae y bel- droed, yn swn miwsig band y Salva- tion Army, a wasanaethai ar yr ach- lysur, ac yr oedd yn swynol dros ben. Yr oedd y plant tua mil mewn nifer, ac yn edrych yn hynod ddedwydd. Chwareuent fel wyn ar hyd a Ited y cae, a chaent ddigon o "sweets" a "buns." Gwelwyd "Fireworks" godidog, a "balloons" yn esgyn i'r nen. Dylasem eich hysbysu chwifiai Treherbert fan- erau ymhob man, fel arwydd o groes- awtad cynnes i Syr W. J. Thomas i'r He. Dymunem longyfarch Mr. Dan Davies, C C., ar ei ddyrchafiad i lys- fainc y Rhondda a Phontypridd. T reherbert. J. DUNCAN.
[No title]
Lladdwyd hor Donald Smith, plen- tyn chwech oed, ym Mountain Ash, nos Fercher diweddaf. Bernir ei fod yn chwarae wrth gefn ty pan gwympodd carreg grib oddiar y wal arno.
I Gwobrau'r Darian! I
I Gwobrau'r Darian! I DWY BUNT 0 WOBRAU. I Tra'n teimlo'n galonnog wrth y cyn- nydd sydd wedi ei wneud yng nghylch- rediad y "Darian" er pan mae wedi newid ddwylaw, eto teimla'r Cwmni y dylasai'r cynnydd, mewn rhai ardal- oedd yn enwedig, fod yn fwy nag ydyw a thrwy garedigrwydd rhai o honynt fe'n galluogir i gynnyg nifer o wobrau i'r dosbarthwyr ddanghosant fwyaf o gynnydd yng ngwerthiant y Darian yn ystod y chwe mis sy'n dechreu gyda Gorffennaf. Y Brif Wobr 15s. Yr Ail Wobr 10s. Y Drydedd Wobr .7s. 6c. Y Bedwaredd Wobr 5s. Y Burned Wobr 2s. 6c. Yn nghyd a Nifer o Lyfrau buddiol ac I adeiladol. Cydnabyddir y gall ymddangos yn anawdd gwneud cyfiawnder rhwng dos- barthwyr mewn ardaloedd gwahanol, ac y gall y eyfleusterau i wneud cyn- nydd fod yn fwy mewn ardal boblog nag mewn pentref gwledig; ond yr ydym yn ffodus wedi sicrhau cydweith- rediad dau newyddiadurwr o brofiad a diamheuol eu cymeriad i ddaly fantol, sef- Mr. D. John, Ferndale, a Mr. Gwyddonwy Evans, Aberdar,— Cadeirydd ac Ysgrifennydd Undeb Newyddiadurwyr a Llyfrwerthwyr Deheudir Cymru, I Y rhai a gymerant "net sales" y chwarter presennol yn safon, ac a gymerant i ystyriaeth hefyd gynnydd y chwarter o'r blaen yng nghyd a natur poblogaeth cylch pob dosbarthwr. Yn y fel hyn fe ga pob un chwareu teg, a phob ymdrech ei chydnabod. Caiff hefyd y dosbarthwr sydd yn awr yn cael dim ond dau neu dri chopi drwy gyfan- werthwr yr un fantais a'r hwn sydd yn cael parsel mwy yn syth o'r Swyddfa, ond iddo lanw'r manylion isod:— T" r Cyfeiriad. I Syr,—Byddwch gystal a chyd- nabod derbyniad fy nghais am gael cystadlu am wobrwyon y Darian." Yr wyf yn awr yn gwerthu copi, ac yn eu cael drwy Cyfanwerthwr, yn Yr wyf yn bwr- i iadu gwneud fy ngoreu i chwyddo 1 yn y lie hwn gylchrediad unig bapur Cymraeg Cenedlaethol y Deheudir-y Darian. I Yr eiddoch, I (Enw) J L Gellir torri allan y "Coupon" uchod 1 a'i anfon ar gerdyn drwy'r post am ddimai i'r Golygydd, Swyddfa'r "Dar- ian," Aberdar, yr hwn a gydnebydd dderbyniad pob un. Yn awr ynte,, Ddosbarthwyr, yn wryw a benyw. HAI ATI!
IPenderyn. ¡——
Penderyn. —— Dymunwn longyfarch y brawd ieu- anc Mr. Evar. Lewis, n, Pompren, ar ei brioda> a Miss May Bevan, But- cher's Arms, dydd Sadwrn, Meh. 20, Ing Nghapel Calfaria, Aberdar. Y mae y dua? ieuamc hyn yn aelodou nyddio? yn Eglwys Siloa (B.), Pen- deryn, ao yn aeiodau o'r cor hefyd. Poh liwydd iddynt yn eu byd priodasol. a gwenau y nef fyddo ar eu hundeb. Prynhawn Mercher diweddaf, Meh. 24, tra yr oedd David Jones (Dafydd y Saer) yn codi shed wair ar Fferm Wernlas, Cadlan, syrthiodd oddiar y "scaffold," a thorrodd linyn ei war, fel y bu farw yn y fan. Efe oedd saer Ystad Bodwigiad ers 46 mlynedd, ac yr oedd bellach yn wr oedrannus, tua 76 oed, a bernir y dylasai gael dyn i'w gynorthwyo, ond wrtho ei hun yr oedd. Gwr tawel a diymffrost ydoedd, lac yn weithiwr dan gamp yn ei grefft. Yr oedd y dorf enfawr ddaeth i'w heb- rwng i'r gladdfa i fynwent y Plwyf dydd Sadwrn yn eglur ddangos ei fod yn wr a berchid yn fawr gan gylch eang. Gwelsom yn bresennol Mr. W. Evans, U.H., o Donyrefail; Mr. D. J. Davies, D.C. Gasworks, Hirwaun, Mr. John Harris, U.H., Trebanog, &c. Gwasanaethwyd yn y ty gan ei weini- dog, y Parch. Dervel Roberts, Taber- nacl, Hirwaun; ac wrth gladdu gan y Parch. LI. Jenkins, Rheithor y Plwyf. Yr oedd ei briod hoff wedi ei rhagflaenu i'r gweryd ers blynydäoedd-gwraig ragorol ydoedd hi, a bu yn gymwynas- ydd parod droion i deulu yr ysgrifen- nydd pan oeddem yn byw drws nesaf iddynt. Cydymdeimlir a'r plant yn eu galar ar ol tad tyner. DEWI CYNON.
[No title]
Peiriannydd o fri oedd y diweddar W. B. Williams, Ysw., D.L., Abertawe. Rhocd ei weddillion i orwedd ym Myn- werit Penmaen, ddydd Mercher diwedd- af. Cyll yr Undodiaid leygwr amlwg yn ei farwolaeth.
Cymru a Chelf. I
Cymru a Chelf. I Ychydig wnaeth Cymru dros y celfau cain, a phriodolir hynny i biwri- taniaeth yn bennaf. Nid am nad yw y Celt yn caru y prydferth, ond yr odd yr arddunol a'r cain yn nelw >ddau bywyd yn anghyson a'r syniad o iywyd syml yn marn y werin biwritanaidd neu anghydffurfiol. Gwelir hynny ar ein hadeiladau cyhoeddus, ein ha Idol- dai, a'n preswyldai. Dadleuir fod hynny yn effaith tlodi, ond credwn nad yw y ddadl am-; yie?v iadau yn egluro ein tlodi celfaald. Gorwedd yr achos yn ein delfrydau, n ein difaterwch a'n cysgadrwydd i wye ri- der celf. Ymddengys hyn yn ymadrcdd dibris am y Celt sydd a dwy ran o dair o'i fywyd yn ddychymyg. Gwna yr Eisteddfod ryw gymaint i gefnogi celf, ond yr adran a esgeulusir fwyaf o'r Eisteddfod ydyw. Owen M. Edwards, un o gymwynas- wyr mwyaf ein cenedl, wna lawer i en- nyn ein serch yn y cyfeiriad hwn. Bon- eddwr arall sydd cefnogi yn frwd ein harlunwyr a'n cerfwyr prin ydyw Mr T. Mathews, B.A., Llanybie. Pam- phledyn o'i eiddo ef ar arluniaeth wr- eiddiol Edgar Thomas gyfeiriodd ein sylwadau at Gymru a chelf. Mae wedi ysgrifennu gydag angerdd teimlad er y carwn pe buasai yn fwy syml a char- trefol ei arddull, ac ychydig yn fwy am Edgar Thomas yn ei bamffled. Diolch yn fawr iddo am y gwasan- aeth wna dros arlunwyr Cymru. Enwau disglaer yw Gibson a Penry Williams, a Gosgonijbe John a Wynd- ham Lewis, y gwr sydd yn gwneyd cryn enw iddo ei hun heddyw yn Lloegr yn nglyn a symudiad y futurist sydd wedi cyrraedd o'r Eidal. Byddai yn amheuthyn gweld cynnyrch ysgrifell ysgolheigaidd Mr Mathews ar dudalen- nau y "Darian."
'Nodion o'r Onllwyn a'r |Cylch.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. Nos Lun diweddaf cynhaliwyd cyng- erdd yn Noddfa, M.C., Dyffryn Cell- wen, yr elw yn myned atxyr offeryn newydd. Cadeiriwyd gan Mr D. J. Jones, Dyffryn. Gwasanaethwyd gan Miss Joana Jones, Glyn Nedd, sopra- no; Miss Ethel Jones, Seven Sisters, contralto; Mr Watkyn Phillips, Aber- aman, tenor; a Mr D. Harris, Glyn Nedd, bass. Adroddwyd hefyd ddarnau rhagorol gan Miss May Davies, Cwm- twrch. Cyfeilwyr, Mr Willie Thor- burn, A.L.C.M., Glyn Nedd, a Master William David Jones, Onllwyn. Y mae dyfodol disglaer i'r bachgenyn hwn fel chwareuydd, a dyledswydd yr ardal yn awr ydyw roddi pob mantais iddo i ddadblygu. Cafwyd cyngerdd neilltuol dda. Da oedd gennyf weled cofnodion Cyngor Plwyf Dulais Uchaf yn y "Dar- ian." Dyma'r tro cyntaf i mi weled cofnodion y Cyngor hwn erioed. Clywir llawer o achwyn fod un o'r Cynghorwyr yn meddwl mwy am danom "ni y Meth- odistiaid," nag am fuddiannau'r plwyf. Y mae y Gymdeithas Ddramodol wedi dihuno o'r diwedd y maent yn prysur barotoi Owen Llwyd y Bach- gen Da." Hefyd y mae cymdeithas newydd wedi ei ffurfio ar y Banwen o dan yr enw Cymdeithas Ddramodol Glan Pyrddin." Bwriadent roddi per- fformiad o "Rhys Lewis." I GLAN PYRDDIN.
I Trychineb Awstria.
I Trychineb Awstria. Tra'r oedd yr Archdduc France, Tra'r oedd yr Archdduc Franci, etifedd Coron Awstria, a'i briod, yn gyrru mwen modur trwy ystrydoedd Sara Jevo dydd Sul, gwnaed dau gais ar eu bywyd, a'r ail yn llwyddiannus. Ar eu ffordd yr oeddent i groeso dmesig yn Neuadd y dref. Taflwyd tanbelen at y cerbyd, ond methodd honno yn ei hamcan aeth y cerbyd o'i chyrraedd cyn iddi ffrwydro. Niweidiwyd rhai mewn cerbyd oedd yn dilyn. Wrth fyned oddiyno saethwyd dau ergyd o lawddryll, a niweidiwyd yr Archdduc a'i briud yn farwol. Nid oedd etifedd y Goron yn boblogaidd yn Awstria, ac ofnid y byddai ei esgyniad i'r Orsedd yn arwain i dywallt gwaed.
I Abercraf a'r Cylch.
I Abercraf a'r Cylch. Nos Sul, Mehefin 21ain, bu plant Ysgol Sul Noddfa, Abercraf, yii cynnal cyfarfod mewn adrodd a chanu. Gwnaeth y plant bach ei gwaith yn ar- dderchog. Adroddasant a chanasant mor dda fel y tystiolaethau pawb mai hwn oedd un o'r cyfarfodydd goreu a fu erioed yn hanes yr Ysgol Sul. Mae clod nid Jbychan yn ddyledus i Miss Jennett Jones, Dolycoed House, am ei llafur caled a'i ymdrech diflino yn para- toi ac yn addysgu y plant. Gweithiodd mewn amser ac allan o amser i wneud y cyfarfod yn llwyddiant. Boreu Sadwrn, Mehefin 27ain, yn Salem, Fardre, unwyd Mr E. T. Jones. Gwynfryneleu, Abercraf, mewn glan briodas a Miss Elizabeth Rees, Allt- wen, Pontardawe. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. C. J. Pipe, Abercraf, a Ivor Jenkins, Penygraig. Ar ol y briodas ymadawsant i dreulio eu mis mel yng Ngogledd Cymru. Bydded i heulwen a ffafrau rhaglun- iaethol Duw wenu ar eu rhawd, fel yr oedd haul natur yn gwenu arnynt foreu eu priodas. CAFNANT.
Yn Fan ac yn AmaL I
Yn Fan ac yn AmaL I Cyhoeddir yn y papurau fod Ar- glwydd Haldane yn dweyd iddo fod yn myfyrio ym Mhrif Ysgol Edinburgh ochr yn och r a meibion amaethwyr a meibion dynion a enillent gyflog wyth- nosol. Bobol annwyl, dyna beth mawr! Anfonwyd Frederick Henry Forshaw, gyrrwr modur, i garchar am bedair wythnos am fod yn feddw yn y modur a tharo i lawr bedwar o ddynion. Caf- odd felly wythnos am bob un o honynt. Cyhoeddwyd ef hefyd gan yr Ynad yn anghymwys i ddal trwydded gyrrwr eto am bum mlynedd. Gofidus yw clywed fod cyflwr iechyd Mr. Ramsay Macdonald yn achos o bryder, a'r meddygon wedi gorchymyn iddo orffwys yn hollol oddiwrth ei lafur Seneddol. Teimla efe fod hyn yn anodd. Gan nad pa mor ffol yw rhai pethau a ddywedir yn erbyn y ddrama y dydd- iau hyn, y mae'r hyn a ysgrifenna rhai o'i phlaid yn debyg o wneud mwy o rwystr iddi. Nid rhyfedd os cyfyd rhai llythyrau a ddaeth o'i phlaid yn rhai o bapurau Abertawe ragfarn yn ei herbyn ym meddyliau llawer. Beth yw'r ffwdan sydd ar rai 1 Cydymdeimlir a'r Parch. W. Evans, Cenhadwr ym Madagascar, yn wyneb marw ei briod. Merch ydoedd i Twr- fab, Aberdar. Gadewir tri o blant ar ei hoi, ond,, y mae'r ddau hynaf yn y wlad hon yn derbyn eu haddysg yn Taunton. Bwriedir gwneud doc yng Nghastell- nedd i dderbyn llongau mawr, Dy-' wedir bod addewid am £1,000,000 wedi ei sicrhau at y gorchwyl. Bydd hon yn gyfleusdra i'r fasnach To yn yr ardal- oedd, ac yn fendith ddiamheuol i'r dref henafol ar lan y Nedd. Bydd etholiad yn fuan i lanw saith sedtl newydd ar Gyngor Dosbarthol Aberdar. Y mae argoel am wyr cryf- ion ar y maes. Y mae gwaith y Cyngor wedi cynhyddu'n ddirfawr y blynyddoedd diweddaf, ac angen am ddynion gwybodus mewn gwahanol ganghennau i lywodraethu. Gwariwyd tua £ 1,000 y gaeaf diwedd- af ar yr ysgolion nos yng Nghwm Aber- dar gan Gyngor Sir Morgannwg. An- niben yw pethau yma, a diau mai cyffelyb yw hanes mannau eraill, a hynny am fod gormod o awdurdod yn nwylo'r Cyngor a gyferfydd yng Nghaerdydd. Petae'r Cyngor yn ym- ddiried mwy i farn a doethineb y pwyll- gor lleol, byddai gwell graen ar y gwaith. Methodd Cyngor Sir Morgannwg ethol darlithydd mewn Mwnyddiaeth yn ddiweddar am fod y Cynghorwyr fel'arfer am eu dyn, ac nid am y gwr gore a gynhygiai am y swydd. Atolwg, onid yw'n bryd i'r dynion cymhwysaf gael eu dewis i swyddi 1 Y mae'n ddarostyngiad ar dynion o athrylith a chymhwysterau diamheuol i gynnyg am swydd yn bresennol, oblegid er y dodir yn y telerau No canvassing," an- obeithiol fydd ei achos oddieithr iddo gerdded o le i le i lyfu llwch i Gynghor- wyr. Cywilydd iddynt!
I Trychineb -ar y Rheilffordd.
I Trychineb ar y Rheilffordd. Cymerodd gwrthdarawiad le ar y reilffordd y South Eastern and Chat- ham yng Ngorsaf Cannon St., Llun- dain, bore dydd Sadwrn diweddaf. Lladdwyd un a niweidiwyd deunaw. Cydnebydd y gyrrwr mai efe sy'n gy- I frifol am y trychineb oblegid iddo gam-gymeryd y signals.
INodion o'r Maerdy.-I
I Nodion o'r Maerdy. I Sul a Llun, Mehefin y 13, 14, 14, cyn- haliodd Methodistiaid Ebenezer ei Cymanfa Bregethu, pan bregethwyd gan y Prif Athro Prys, Aberystwyth Parch. Wynne Davies, Rhosllanerch- rugog, a'r Parch. Wilson Roberts, Ynyshir. Cafwyd oedfaon a hir gofir, a'r ty yn orlawn bob oedfa. Sadwrn, Sul a Llun, yr 20, 21, 21ain, cynhaliodd Annibynwyr Siloa ei cyfar- fodydd pregethu blynyddol. Y Cen- hadon hedd a ddewisasid eleni oeddynt y Parchn. Rowland Hughes, B.D., Tylorstown, ac E. J. Owen, Moriah. Cwmaman. Cafwyd cyfarfodydd gwresog, ac yr oedd arddeliad mawr ar y gwirioneddau. Yr ydym am longyfarch Cerddorfa Siloa ar ei gwaith y Saboth hwn yn cy- meryd ei lie yn nghaniadaeth y cysegr am y tro cyntaf. Peth newydd yw hyn yn yr ardal hon, ond gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy dros ben. Yn mlaen yr elont yw ein dymuniad, gan ei fod yn ffordd ardderchog i ddiwyllio meddwl ac i dreulio oriau hamddenol. Dydd Sul, Mehefin yr 21ain, bu farw y chwaer Mrs. Llwelyn, 4 North Ter- race, wedi dioddef cystudd blin yn dawel a dirwgnach. Cludwyd ei gweddillion i Aberdar y dydd Iau can- lynol i'w gosod yng nghladdfa y teulu. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch S. Wilkins, gweinidog Eglwys y Wes- leyaid Seisnig, lie 'roedd yr ymada\ edig yn aelod, ac yn Aberdar gan wein- idog y lie. Nawdd y nef fo dros y teulu yn eu galar a'u hiraeth ar ol priod a mam mor dyner. I W MEIRIONA.
—! ' .'.-.."., Colofn y Beirdd.
—! Colofn y Beirdd. Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. Mor Agos, Cofia. Dwy gan ddwys a swynol. Paham na fuasech yn cadw at y mesur yn ail bennill y gan flaenaf ? Y Bardd a Adawyd.—Nid yn ami y clywir cwyno am fod duwies serch yn cipio cyfeillion i ffwrdd. Mac llawer o naturioldeb yn y gan. Caraswn iddi fod ychydig yn fyrrach, ond ei thestyn sydd yn ei chyfreithloni. Llusern y Glowr.-Telyneg dios dros ben. Diolch am ddefnyddio mesur sydd yn cael ei ddibrisio yn dost yn ddiweddar. Rhaid gofyn am iaddeuant am gadw y gan mor hir dan glo. Priodas T. Evans.-Rhaid torri y gan yn ei hanner. Tipyn o bethau y gellir eu hepgor yw y gweddill. Pen y Mynydd.—Can dda iawn, er ei bod ar y meithaf. Hoffwn pe gallai ein cyfeillion barddol gadw heb fynd uwchlaw pump neu chwe phenill. Pe byddwn yn brin o ddefnyddiau, gallwn fforddio bod yn fwy rhyddfrydig. Marwolaeth y Casglwr Cadachau.— Wel, dyma destyn newydd o'r diwedd, ac mae y gan yn ddigon nodweddiadol o'r gwrthddrych. Er ei bod ychyd- ig yn faith, gresyn fyddai taflu cerpyn ohoni i ddifancoll. Y Glowr.—Darn adroddiadol lied gymeradwy. Suddiad y Titanic.—Dyma y peth goreu wyf wedi ei weld hyd yn hyn ar y testyn. Rhy faith ydyw at wasanaeth y "Darian." Ond dichon y gall fod yn ddefnyddiol i'r adroddwyr. Mae coffadwriaeth yr awdwr Gwilym Gwyllt hefyd, yn hawlio iddo weled goleu ddydd. Y Gwanwyn. T elyneg dlos. Llon- gyfarchiad ar eich gwrhydri diweddar. Y Mwswg.-Englyn pert. Hen Gapel Cwmllynfell. -Rhy faith, a rhy wallus yn ami. Gellid yn hawdd symud y brychau sydd ar y gerdd, a'i gwneud yn llawer gwell na'r un fu yma dro yn ol. Mae yma ddefnyddiau can dda. Os mynnwch hi yn ol, gellwch ei chael. Neu, fe ddichon y cymeraf orig i'w thrwsio cyn hir. Gwrando Fi, etc. Tlysion ddigon. Ond ai ni fyddai yn well i chwi anfon emynau fel hyn i gylchgrawn, fel na choller hwy. Yr Hen Gartref.—Swynol iawn. I'r Swyddfa: H. I.; W. Jones; Ed- nant; I.O.M.; Dewi; Ap Gwilym; Taw- enog; W. Bassett. Y MWSWG. Y mwswg gaf yn ormesydd-gerwin I deg irwellt dolydd; A haf hinon ar wyllt fynydd Fy nghlustog yn y fawnog, fydd. Dolgellau. EDNANT. PRIODAS Mr. Thomas Evans, Cae Harris, a Miss Elizabeth Hughes, Dowlais Top, ar foreu Sul y Pasg. Pa beth yw'r newydd ddaeth i'm clyw? Taenedig yw ym mhobman; Mae'n destyn siarad rhwng pob dau, Ac ambell un a'i hunan. Ha! dau o'n hardal boblog ni- Miss Hughes, a'i chariad Thomas,— Ar foreu Sul y Pasg yn gu, A unwyd mewn priodas. Mae'r fwyn Miss Hughes yn ddynes dda, 'Does neb dd'wed na yn Hebron; Ymhob rhyw gangen gweithgar yw, A gwiw 'mhlith blodau Seion. Mae Thomas yntau'n fachgen call, Ond nid heb wall. 'rwy'n gwybod; Ond gwelodd ragoriaethau'r fun Uwchlaw'r holl gun rianod. Fe'i gwelodd do. a llawer mwy- Datblygodd clwy' ei galon; A chalon "Liz" yn Hyn a dodd Wrth wrando'i ymadroddion. Dowlais. AP GWILYM.
Y Methodistiaid ar y Blaen.
Y Methodistiaid ar y Blaen. Dengys hanes Arholiadau Ysgrythyr- ol y Methodistiaid yn Nwyrain Morgan- nwg fod 1.039 o'r rhai llwyddiannus wedi ysgrifennu eu hatebion yn y Gym- raeg a 655 yn Saesneg. Dengys rhai eglwysi deyrngarwch mawr i'r hen iaith. Ceir fod yng Ngosen. Treorchy, 103 wedi llwyddo ym Methel, Cilfyn- ydd, 72 ac yn Ebenezer, Maerdy, 53, a'r oil yn yr eglwysi hyn yn vsgrifen- nu'n Gymraeg. Bendith arnynt. Bydd- em yn foddlon, i'r Hen Gorff ennill Cymru i gyd ond iddo'i hennill i'r Gym- raeg hefyd. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co.. Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the Gaunty of Glamorgan