Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

■■■ . I Tipyn o Bopeth o1…

News
Cite
Share

■ ■ I Tipyn o Bopeth o 1 Bontardawy. Bu'm a bwriad i sychu fy ysgrif- ell, a'i gosod i hongian dan nen y ty, am fod fy amser yn brin, &c. Ond wedi deall fod un o Feirdd y Bont, yn proffwydo, os ca fyw yn hen, y gwel glywed darllen yr emyn olaf yn Gymraeg, mi a benderfyn- ais lynu wrthi eto hyd nes y daw rhywun cryfach na myfi o'i phlaid. Proffwydaf finnau, na welir claddu y Gymraeg, nac ychwaith ei thaflu naill ochr fel peth diwerth, cyhyd ag y ca plant Brutus anadlu. Os am gadw'r iaith, rhaid magu'r plant yn Gymry, ac nid "mulod." Byddai yn well gennyf eu boddi na'u codi'n Ddic Sioniaid. Tynnir i lawr amryw o'r hen fythynod sydd ar ochr Heol Her- bert. Parotoir i godi masnachdai helaeth yn eu lie. Y .ffordd oreu i gael helaethrwydd iddynt yw, eu codi yn ddigon uchel i gyfeiriad y nefoedd; mae digon o le i fyny, ac o bosibl y byddai yn iachach yno nag ar y llawr. Lie go gyfyng i "helaethrwydd" sydd rhwng yr heol a'r afon. Dyna beth fydd "helaethrwydd," rhwng cromfach- au. Mae yn lie dymunol iawn hefyd. Mae llwch y moduriau ar yr heol fel cwmwl barn, ac yn ddigon i fogi y cliriaf ei ysgyfaint. Nid yw yr afon ychwaith yn bur, nac yn ddisglaer fel y grisial, ond bob amser yn llawn o aflendid vn deb- ycach i garth ffos nag i afon. Yn ystod y gwyliau, telais ym- weliad a'm hen wlad. Iechyd i gorff a meddwl oedd cerdded yr heol droellog i fyny o Frynaman tua chyfeiriad coryn y mynydd du. Ac fel y syllai Moses ar wlad yr Addewid o ben Pisgah gynt, felly minnau ar eangder Sjr Gaer, o ben Rhiw Wen. Gan fod y merlyn oedd dan fy ngofal yn hoffi cer- dded yn araf, deliais innau i gerdded gydag ef rhag cael fy sigo i ormodedd wrth edisgyn y rhiwiau serth, rhag byddai Yr ysgwyd mor arswydol Nes ysgwyd y bwyd o'r bol." Mae Gwynfe mor ogonedgus ag erioed, ac yn ddigon i beri i ddyn wedi byw am flynyddoedd ym myd y mwg, ddeisyfu am gael byw yn hir ar ei daear a marw yn hen; ond y tro yma, nid oedd modd i mi aros, na chyfle i osod fy mhabell i lawr ond am ychydig, am nad oedd- wn wedi fy rhyddhau oddiwrth fy meistr, a gorfu arnaf ddychwelyd i dderbyn ychwaneg o siomedig- aethau bywyd. Mae 'Berdar cyn belled o'r byd heddyw ag erioed. Cymer fy nodiadau o nos Sadwrn i foreu Mawrth i gyr- raedd. Sonnir llawer am uno Plaid Llafur a'r Blaid Ryddfrydol, ac na ddylid gwthio rhyfel dair-onglog; wrth yr ar- wyddion, dyna fel y bydd yng Ngwyr yr etholiad nesaf. Plaid Llafur sydd yn derbyn y wialen a'r cerydd am y trosedd o hyd. Mae yr aelod Llafur presennol, Mr J. Williams, yn pwyso yn drwm ar frest Rhyddfrydwyr y rhanbarth; rhaid ei fod yn gwneyd daioni i feibion llafur, cyn y buasent yn trefnu eu byddinoedd er ei symud. Nid oes angen iddynt duchan, er cael o hyd i aelod cystal a'r aelod Rhyddfrydol di- weddaf, ond bydd rhaid iddynt duchan llawer cyn y symudant yr aelod pres- sennol. Nid cyfannu y rheng, trwy gael dealltwriaeth a Llafur yw eu ham- can, ond cyfannu y rheng trwy gadw Llafur allan yn gyfangwbl. Y cwbl i fi a'r gweddill i Shoni 'mrawd. Cynhaliwyd gwyl de a bazaar yn Neuadd Pontardwy y Sadwrn diweddaf gan Fedyddwyr Adulam. Dipyn yn sych fuasai yno, oni bai am y te. Cawsant dipyn o hwyl ar werthu. Mae arwyddion bywyd yng ngwer- syllfa Seindorf arian yr Alltwen ar hyn o bryd, a thebyg y bydd wedi ymysg- wyd o'r llwch cyn y bydd y nodiadau yma yn y goleu. Mae yna bwyllgor newydd wedi ei ffurfio, a llywyddion cedyrn a chyfoethog i edrych ar ei ol. Mae y ddyled i'w dileu ar unwaith gan Mri. Gilbertson, a'r hen fechgyn i ddychwelyd i gyd at eu cyrn. Hyder- wn, y bydd dileu y ddyled, a phwyllgor cryf a doeth i reoleiddio yn hwylustod i'r Seindorf. Bu yn llwyddiannus iawn un adeg, ac ond iddynt fod yn ffyddlon ac ymdrechgar eto, gall y dyfodol fod yn fwy o lwyddiant na'r gorffennol. Daeth su trwy yr ardal yr wythnos o'r blaen fod y Parch. Seiriol Williams, Tabernacl, Pontardawy, ar ben y rhes fel olynydd i'r Parch. Emlyn Jones, Tajbernacl, Treforris. Nid yw yn iawn i mi ddweyd dim allan o'r niwl ar fwr- iad y naill na'r ltlall. Gwyddom fod Mr Williams yn llanw ei le yn dda yn Mhontardawy, ac nad yw yr eglwys na'r ardal am ei weled yn symud. Gwell ganddynt ei gadw. Clywed fod bwriad yn Eglwys Soar, "Methodistiaid y Bont," i alw cyfarfod i gadeirio y Bardd Thomas Jones, o'r Alltwen, fel danghoseg o'u llawenydd ar ei lwyddiarit yn Eisteddfod y Byr- gwm Brechfa. Deallaf y cynhelir cyfarfod er cadeir- io y gweinidog, "Llewelyn Bowyer," yn Nhanygraig nos Fercher, Gorffennaf 15ed. Mae torf o gylch-lythyrrau wedi eu anfon i wyr yr awen, ac os oes rhyw un o Gilfynydd hyd Gilcenin heb gael un anfoned ei phioled enaint ar gais Brutus ynte. Mae Meudwy yn dyfod yn wr per- yglus ar delynegion. Mae wedi ennill amryw wobrwyon arnynt yn ddiweddar. Bu'r Meudwy am flynyddoedd yn ddringo grisiau cerdd, a llwyddodd i afaelyd yn y ffon L.T.S.C. Bellach mae yn troedio tir barddas fel gorch- fygwr. Mae Charles Williams, o Rydyfro, wedi dyfod yn dipyn o boenyn ym myd y cadeiriau nid gwiw chwarae ag ef. Bu llawer iawn o son un amser am Feirdd Rhydyfro. Xid oedd na phriod- as na chwrw .bach yn llawn hebddynt. Ond y mae natur-Charles yn rhy sych i fyd y cwriau. Gwell ganddo ganu i godi safle meddwl ei genedl. Mae caneuon Beirdd chwarel y Tar- reni yn gwella, mae'r awyrgylch yn fwy clir,.a.Ilai o ragfarn a rhegu o'u her- wydd. Bydd yr hen chwarelwr tlawd yn adnabyddus i'r holl wlad cyn hir, a bydd yn ddyledus i'r mechanic am hynny. Pery masnach yn araf yn y He, yr enillion yn fychain, tra traul byw yn myned ar gynnydd. Peth sydd wedi ychwanegu treuliau byw yn yr ardal- oedd yma yw y tocynnau a werthir o ddrws i ddrws at wahanol achosion. Mae holl eglwysi y cylch, cydffurfiol ac anghydffurfiol, allan ddwy a thair gwaith y flwyddyn. Maent ambell 1 wythnos fel pla, a druain o'r trueiniaid sydd yn cael y gorchwyl o werthu. Cant oddef llawer o dafod wrth fyned oddiamgylch, a bydd pawb yn gwylio eu cyfle i hawlio arnynt i dalu'r pwyth yn ol. Y peth mwyaf digri i mi yw, taw'r sawl sydd yn tafodi fwyaf sydd yn prynu leiaf. Maent fel cwn, yn cyf- arth yn dragwvddol. Ymddangosant fel pe na baent yn hapus ond tra yn grwgnach neu gyfarth. Gwna ymddyg- iadau o'r fath achosir drwg deimlad rhwng gwahanol achosion ac eglwysi. Tybed nad yw yn llawn bryd i bob eglwys ac achos fyw ar eu traed eu hunain, yr un fath ag y gorfodir teulu- oedd i fyw. Mae y ddyled dynnir yn ddiangen a'r eglwysi hefyd yn ychwan- egu heb eisiau at draul byw. Mae teuluoedd yn myned i ddyled eu bun- ain wrth geisio cadw i fyny a'u cyd-ael- odau sydd mewn gwell amgylchiadau, i dynnu i lawr ddyled capelau. A pcb eglwys i ddyled trwy godi capelau i ateb eu gofynion. Felly mae dyled 1 cb eglwys yn gyfartal i'w rhifedi, a'r peth callaf a'r goreu i wneyd fyddai i bob eglwys dalu y ddyled a dynnodd arm e: hun. Carwn alw sylw heddgeidwaid y cylch at yr arferiad sydd gan yrwyr y ceir a'r poteli. Tynnir i lawr nifer arben- nig o flychau yma a thraw, a gwaebd- ion yn y poteli hynny. Fe a plant vn hollol ddiniwaid eu meddwl i lyme'tan y gwaelodion--arferiad a'u gesyd yn. agored i ddolur ar un Haw, ac i dyfu i fyny a blys at y diodydd ar y llaw arall. Dylid dal yn gyfrifol bob un a osodo bethau felly ar ochrau y ffyrdd. Taflasant demtastiynau ar ffordd y plant. BRUTUS. I

Dydd Gwyl y Plant yn Nhreherbert.

[No title]

I Gwobrau'r Darian! I

IPenderyn. ¡——

[No title]

Cymru a Chelf. I

'Nodion o'r Onllwyn a'r |Cylch.

I Trychineb Awstria.

I Abercraf a'r Cylch.

Yn Fan ac yn AmaL I

I Trychineb -ar y Rheilffordd.

INodion o'r Maerdy.-I

—! ' .'.-.."., Colofn y Beirdd.

Y Methodistiaid ar y Blaen.