Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Nodion o Abertawe. I

News
Cite
Share

Nodion o Abertawe. I GAN TALNANT. I Nos Fawrth, Meh. 16eg, 1914, cynhal- iodd Cymrodorion Abertawe eu cyfar- fod blynyddol. Mr John Meredith, cadeirydd y tymor, oedd yn y gadair. Cafwyd adroddiad diddorol gan yr ys- grifennydd o waith y tymor diweddaf, a dangosai adroddiad y trysorydd fod y sefyllfa ariannol yn iachus, gan fod mewn llaw X21 18s. 2jc. Etholwyd y swyddogion canlynol i ofalu am drefn- iadau y tymor dyfodol :-Llywydd an- rhydeddus, Arglwydd Glantawe; cadeirydd, Henadur John Jordan, Llan- Bamlet; is-lywyddion, Henadur Ben Jones, Cyngr. John Lewis, Mri. John Meredith, D. Rhys Phillips, F.L.A., D. Spurrell Davies, a D. Morlais Samuel. Trysorydd, Mr W. P. Williams; ysg. goh., Mr D. Hicks Morgan, B.A. ysg. arianol, Mr T. J. Williams Hughes. Cyfrif-olygwyr, Bonwyr William Evans a W. H. Jones; telynores, Mrs. 4. M. James (Megan Glantawe). Pwyllgor Gweithiol: Bonwyr Thomas Evans (Brithyll Tawe), W. R. Jones, D. Gib- bon Lewis, Talnant, Wm. Davies, John Evans, R. Picton Evans, Parch. T. C. Evans, D. J. Higgs, Mrs. David Harris, J. Isaacs, Parch. N. L. James, M.A., J. 0. Jones, Wm. Llewelyn, D. D. Phillips, B.A., T. Martyn Thomas, Dr. Vaughan Thomas, M.A., J. D. Thomas, J. Celfyn Williams, y Fonesig T. Jones (Prif Athrawes Ysgolion Manselton), Mrs. John Meredith, y Fonesig 0. Mor- gan, M.A., John Gethin (Ysgolion Man- selton), E. T. Daviets (Ysgol Terrace Road), F. S. Price, T. Hughes, Mrs. Vaughaii Thomas, Mrs. G. Morgan, y Fonesig M. Williams (Iscoed). Pen- derfynwyd rhoddi croeso swyddogol i Dr. Pan Protheroe, Chicago, y cerddor adnabyddus, ar ei ymweliad a'r hen wlad yn ystod y mis nesaf, ac etholwyd pwyllgor arbennig i wneud y trefniad- au. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a gweddw a diweddar lenor athrylithgar Theodore Watts Dunton. Cyflwynodd y cadeirydd, dros y Gym- deithas, i'r Bonwr D. Protheroe Thomas, cyn-ysgrifennydd y Cymrodor- ion o 1906 i 1913, ffon werthfawr fel danghoseg fechan o barch a chydna- byddiad o'r gwaith pwysig a wnaeth yn ystod y blynyddoedd hynny dros y Cymrodorion. Cydnabu Mr Thomas y rhodd mewn geiriau pwrpasol, a dywedodd yn hapus iawn y byddai yn pwyso ar Gymrodor- ion Abertawe bob tro y defnyddiai y ffon. Mae efe yn nai i Dr. Dan Pro- theroe, Chicago, Gwib-wyl Eglwys y Trinity (T.C.), I Heol-y-Parc. Trwy garedigrwydd y Barwnig Syr John Llewelyn, ymwelodd Ysgol Sul yr eglwys uchod a Phenllergaer, ddydd Iau, Meh. 18ed, ar ei gwib-wyl flynydd- ol. Mae Syr John bob amser yn barod i agor Y Gerddi i bwrpas cyffelyb i'r uchod, ac y mae yn gaffaeliad gwerth- fawr i'r cylch, gan eu bod yn enwog am flodau a ffrwyth goedydd o bob math a rhyw, ac o dan y gwrtaith per- ffeithiaf. Mae Syr John yn awdurdod blaenllaw ar lawer adran o'r byd Ilys- ieuol, -a diddorol yw gwrando arno yn siarad o'i wybodaeth eang yn y maes pwysig yma. Cychwynnodd tua 300 o ddeiliaid yr ysgol a'u ffrindiau yn gynnar prynhawn dydd Iau, mewn cerbydau oedd mor amrywiol eu ffurf a'u diwyg, a'r dull o'u gyrru, bron ag oedd y cwmni lion yn amrywio yn eu dull-wisgoedd. A gellir tybio fod hynny yn golygu rhywbeth yn y dyddiau gor-ffasiynnol hyn. Wei, gwelwyd cerbydau yno o'r modur, ar y dull diweddaf, i lawr yn agos iawn at y gambo wladaidd. Ond yr hyn sydd dda gennym allu ei dweyd ydyw iddynt i gyd gyrraedd Penllergaer yn ddiogel, ac mewn pryd i fwynhau y danteithion a ddarparwyd ar eu cyfer. Mae son am y gambo yn dwyn i'r cof stori am ferch ifanc o Sir Aberteifi, mercli amaethwr wedi mynd i weithio mewn siop, ac ymhen amser wedi mynd i ddilyn ei gorchwyl yn Llundain. Wedi bod yno rai misoedd dychwelodd adref i dreulio'r gwyliau. Pan ddaeth y dydd iddi ddychwelyd i Lundain dar- parasai ei mam bryd o de iddi, a rhoi gormod o siwgr yn y cwpan, ac fel hyn y cyfarchodd ei mam, The superfluity of the sugar renders the flavourality of the tea quite obnoxious to my taste," a chyda hyn dyna'i thad yn rhoi ei ben i mewn ac yn gwaeddi mewn Cymraeg gwladaidd, Dera o'na, Mari, mae'r gambo yn d'aros di i fynd i'r steshon." Nis gwn a oedd siarad cyffelyb i eiddo'r ferch o "Shir Aberteifi" o gylch v bwrdd gan ferched Cymraeg y Trinity ai nad oedd, ond sicrheir i bawb fwyn- hai y te, ac yn enwedig y mefus y bu'r Bonwr Morgan Jenkins mor garedig a thalu am danynt. Mwynhaodd yr ieuainc amryw fath- au o chwarae cyn ac wedi te, a »bu'r gweddill o'r cwmni yn ymlwybro drwy y gerddi a'r tai gwydr dan arweiniad y prif arddwr (Mr Warinington), enw pwrpasol ac awgrymiadol i ddyn yn dal swydd o'r fath—" poethwr y poeth- dai," ys dywedai "Morlais." Wedi i'r ysgol gyd-grynhoi anerch- wyd hwy gan Syr John. Yr oedd new- ydd gyrraedd adref o Lundain. Rhodd- odd wersi pwysig ac addysgiadol i'r plant a'r bobl ieuainc ar lysieuaeth, a gall siarad gydag awdurdod ar y pwnc diddorol hwn. Gobeithiai gael ymgom a'r Parch. W. Prydderch, y gweinidog, cyn iddynt fyned adref, ond yn an- ffodus yr oedd Mr Prydderch o dan ym- rwymiad i fod yng Nghaerfyrddin yn yr Arddanghosfa Genhadol y dydd hwnnw. Cynhygiwyd diolch i Syr John gan y Br. E. Ll. John, arolygwr yr Ys- gol Sul, ac eiliwyd gan yr Hen. Ben Jones, yr hwn a gyflwynodd Mrs. Prydderch a Mrs. John i'r Barwnig. Mewn ateb i'r diolch dywedodd Syr John y byddai yn fwynhad ganddo gyf- lwvno eu teimladau da i'w briod.

Aberpennar, Mountain Ash.

"SAMtNE" BLOOD MIXTURE.

[No title]

I Nodion o'r Gogledd.I

I ¡ Y Tridwr.I I

!Gorsedd Tir Iarll. I

* Llansamlet.I

Rhybudd i Siopwyr a'r Cyhoedd.

[No title]

Advertising