Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y DDRAMA. !

News
Cite
Share

COLOFN Y DDRAMA. BLE MA FA 2" I Hoffais y ddramodig hon yn fawr pan 'welais hi ar y llwyfan yn Aberaman, a isynnwn fod gan neb wrthwynebiad iddi. Y gwyn a ddygir yn ei herbyn yw fod ei harwr yn amheuwr, neu i fod yn fwy cywir yn Agnostic. Ond fel yr aw- grymais o'r blaen, amhosibl yw i ddra- ma ddifrifol, lan, ddylanwadu er drwg. Y ddrama aflan neu y ddrama a lun- iwyd i watwar sydd er niwed. Amheu- wr gonest, amheuwr am nad yw'n medru credu yw arwr Ble ma fa?" A phrin y credaf fod unrhyw "gredadyn" goleuedig nas gall gydymdeimlo a'r amheuwr gonest. Y mae arwr "Ble ma fa?" heblaw ei fod yn onest yn ei amheuaeth yn gy- meriad hoffus, yn dad ac yn briod tyner ac o ysbryd hunan-aberthol. Er yn amheuwr ei hun ni thaflai unrhyw rwystr ar ffordd ei briod a'i deulu i addoli, eithr yn hytrach rhoddai bob cefnogaeth iddynt. Nid un o'r amheu- wyr ymhongar, ffasiynol sydd yn ym- hyfrydu mewn gwatwar ydoedd. Wedi iddo gyfarfod a'i ddiwedd mewn glofa, a thra'r oedd ei gorff yn aros yn y ty, y cwestiwn a flinai ei weddw oedd, Ble ma fa?" Yr oedd dylanwad rhesymeg greulon diwinyddiaeth bapur yn ei rhwystro i gredu y gallai fod dim da yn aros un a fu mor dda i bawb o'i gwmpas, ac nid oedd neb allai ateb y cwestiwn er cysur iddi. Edliwiai hith- au iddynt, wrth weled eu cynhildeb pan yn siarad am y mater, fod arnynt ofn .dweyd wrthi lle'r oeddent yn meddwl fod ei phriod. Daw un o'r diaconiaid i mewn i ymholi pa bryd y ceid cynnal "cwrdd gwylnos." Ni fyn hithau mo'r cwrdd gweddi na phregeth angladd. Gan nas gallai neb ddweyd ble'r oedd, ofnai ei chlwyfo gan awgrymiadau parthed ei dynged. Yr oedd hyn yn siom fawr i'r diacon. Gyda hyn daeth y gweinidog i fewn. Ni fuasai ef yn y lie yn hir ac yr oedd yr ymadawedig yn ddieithr iddo. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd edmygu casgliad llyfrau'r Agnostic. Synnai yntau na fynnai'r weddw gwrdd gweddi na phregeth ,angladd. Wrth ymresymu a hi dyma'r cwestiwn iddo yntau eto, Ble ma fa2 Wedi iddo yntau ddechreu holi a chael allan rinweddau'r ymadawedig, tybiai fod llawer o dda i ddweyd am dano a nemor ddim drwg. Dechreuai meddwl y weddw sirioli ychydig pan ddywedai'r gweinidog na phetrusai ddweyd yr hyn a ddywedai wrthi hi ar lan y bedd. Eto, dyma ferch yn rhuthro i'r ty a'r newydd fod yr un a anafesid pan ladd- wyd yr Agnostic wedi dod ato ei hun, ac wedi dweyd yr hanes. Daethai carreg enfawr arno ef ei hun, ac wrth jjeisio'i achub daeth cwymp a lladd- "OwYd yv11&,U. Dyma destyn i mi i bre- j gethu arno, meddai'r gweinidog, "Car- iad mwy na hwn nid oes," etc. Y mae'r gweinidog yn y ddrama hon yn iawn. Dichon ein bod yn dueddol i hoffi'r ddramodig fechan hon am ein Jbod wedi cael profiad tebyg i eiddo'r gweinidog. Bu farw hen frawd a ad- waenem. Nid Agnostic oedd ef, ond hen bechadur garw'i air, ac a gyfrifid yn anystyriol. Nid wyf yn tybied y gofyn- nai neb Ble ma fa?" hyd nes i mi gael cyfle i ddweyd gair yn ymyl ei arch. Tramgwyddesid ef mewn eglwys, we l, o ran hynny gyrresid ef allan, ac allan y bu hyd y diwedd. Ar gyfrif ei fedr mewn rhai cyfeiriadau gelwid ar y dyn hwnnw beunydd i wneud caredigrwydd a rhywrai. Yr oedd mor barod ganol nos a chanol dydd. Bum ar ei of un fy hun lawer gwaith. Clywais ef yn rhoi cyngor i ddyn ieuanc a ymunasai a'r eglwys—" Stica ati, machgen i, gwna dy ore. Paid ag edrych arna i a'math. Mi wnes i longddrylliad o'm mhroffes; rw i wedi methu cael pethau at i gil- ydd a rw i'n siwr o gal lot o stwr pan af fi gartre." Ddydd angladd yr hen frawd hwn yr oedd gweinidog arall mewn pem- bleth yn methu dirnad sut i ddweyd na aut i weddio. Symudwyd mynydd loddiar ei feddwl pan ddywedais wrtho am ddarllen a rhoi emyn allan a gadael y gweddill i mi. Ni phetrusais ddweyd yn ymyl ei arch fod ei ami gymwynas- au, ie, ei aberth mawr er cysur i eraill yn pwyso'n drwm yng nghloriannau'r nef, ac y byddai ymhlith y rhai hynny a synnant pan ddywedir wrthynt: Yn gymaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn, fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Ofer yw dweyd fod cymeryd golwg ffafriol ar dynged cymeriadau fel hyn yn taflu'r drws yn agored ac yn gwneud efengyl yn ddiangen. Nid yw efengyl yn beth mor llipa fel ag i fod mewn perygl oherwydd gwneud cyfiawnder a gwr yn ei fater. Ffrwyth efengyl yw cymeriadau cymwynasgar, hunan- aberthol a hoffus. Yr oedd yr un a wnaethai gam a'r tri y cyfeiriasom ato yn aelod o hyd yn yr un eglwys, a mi wnaf fy llw y gwerthai ei fam ei hun am chwe cheiniog. Nid wyf yn siwr na ddarfu iddo wneud. I ENOC HUWS YNG NGHWM- I AAIAN. I Nos Fercher diweddaf, yr I7eg, caf- I wyd gwledd ragorol yn y lie hwn. Per- Jformodd Parti Abercwmboi y ddrama Enoc Huws yn y Neuadd Gy- hoeddus. Yr oedd y He yn orlawn, a phawb wrth fodd eu calon yn gwrando y gwahanol gymeriadau yn gwneud eu "gwaith mor ddoniol. Cefais y fraint o glywed y ddrama yn cael ei pher- fformio droion o'r blaen, ond nid wyf ym meddwl i mi fwynhau fy hun yn well erioed na'r noson uchod. Ym- ddengys i mi fod pentref Abercwmboi yn cefnogi y deffroad Cenedlaethol lawn cymaint, as nad mwy, nag un I pentref arall yn y Dywysogaeth. Mae y lie yn nodedig am ei Gymreigydd- iaeth. Mae'r rhieni yn cadw eu syn- nwyr cyffredin trwy siarad Cymraeg yn eu teuluoedd, a chwery'r plant yn Gymraeg ar yr heolydd. Yr oedd Mrs. Denman wrth edliw i'w gwr am fod allan yn hwyr yn naturiol dros ben. Dangosai ei bod yn dioddef oddiwrth arteithiau gofid, am fod ei gwr yn gwario ei arian dan ddylanwad rhag- rithiol Capten Trefor. Mae yr olygfa yn y Twmpath rhwng Tomos Bartley a Sem Llwyd yn un o'r pethau mwyaf doniol a dyddorol a welwyd mewn drama Gymraeg erioed. Yr oedd Marged, morwyn Enoc Huws, yn gwneud ei rhan yn ganmol- adwy iawn, ac Enoc yr un modd. Ond yr oedd Jones y Plisman yn hen gono rhy dwfn i athroniaeth Marged i dreiddio i'w ddyfnderoedd. Gwnaeth Jones forwyn ufudd o honi mewn byr amser. Un coll oedd ym Marged, a gobeithiaf y maddeua i mi am ei nodi. Hen ferch hyll ofnadwy oedd morwyn Enoc Huws, yn ol Daniel Owen, ond merch lan, brydferth dros ben oedd Marged Abercwmboi. Un nodwedd arbennig a dynnodd fy sylw oedd y feistrolaeth a feddai ael- odau y Parti ar yr laith Gymraeg. Yr oeddynt oil gydag un eithriad, yn siarad yn blaen a dealladwy. Yr eith- riad oedd yr Americanwr yn dynoethi cymeriad Capten Trefor. Mae yn wir fod yr Americanwr mewn gwth o oedran. Yr oedd Americanwr Aber- cwmboi yn gorwneud ei ran trwy grynu gormod, a myned i dymherau nes gwneud ei lais yn annealladwy i lawer. Gobeithiaf y cymer yr awgrym yn yr un ysbryd ag yr wyf yn ei wneud. Dymunaf longyfarch y Parti hwn am ei waith yn dysgu a pfierfformio y ddrama ragorol hon. Mae yn deilwng o glod a chefnogaeth lwyraf ein Cen- edi. Pe gofynnid i mi pa rai o'r dramodau Cymraeg sydd yn cynrych- ioli cymeriadau gwledig Cymru oreu, fy ateb fyddai Rhys Lewis" ac "Asgre Lân." Mae dydd y rhagfarn a'r culni yn erbyn y ddrama yng Nghymru wedi cilio am byth. Dy- munaf rwydd hynt i'r parti hwn i ber- fformio y ddrama hon eto ar agoriad y Neuadd Newydd. L MILWYN FYCHAN. I

Y Barri. I

Advertising

Thomas Edwards (Twm o'r Nant).

Machen, Mynwy. I

Nodion o Rymni. I

Advertising