Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
COLOFN Y DDRAMA. !
COLOFN Y DDRAMA. BLE MA FA 2" I Hoffais y ddramodig hon yn fawr pan 'welais hi ar y llwyfan yn Aberaman, a isynnwn fod gan neb wrthwynebiad iddi. Y gwyn a ddygir yn ei herbyn yw fod ei harwr yn amheuwr, neu i fod yn fwy cywir yn Agnostic. Ond fel yr aw- grymais o'r blaen, amhosibl yw i ddra- ma ddifrifol, lan, ddylanwadu er drwg. Y ddrama aflan neu y ddrama a lun- iwyd i watwar sydd er niwed. Amheu- wr gonest, amheuwr am nad yw'n medru credu yw arwr Ble ma fa?" A phrin y credaf fod unrhyw "gredadyn" goleuedig nas gall gydymdeimlo a'r amheuwr gonest. Y mae arwr "Ble ma fa?" heblaw ei fod yn onest yn ei amheuaeth yn gy- meriad hoffus, yn dad ac yn briod tyner ac o ysbryd hunan-aberthol. Er yn amheuwr ei hun ni thaflai unrhyw rwystr ar ffordd ei briod a'i deulu i addoli, eithr yn hytrach rhoddai bob cefnogaeth iddynt. Nid un o'r amheu- wyr ymhongar, ffasiynol sydd yn ym- hyfrydu mewn gwatwar ydoedd. Wedi iddo gyfarfod a'i ddiwedd mewn glofa, a thra'r oedd ei gorff yn aros yn y ty, y cwestiwn a flinai ei weddw oedd, Ble ma fa?" Yr oedd dylanwad rhesymeg greulon diwinyddiaeth bapur yn ei rhwystro i gredu y gallai fod dim da yn aros un a fu mor dda i bawb o'i gwmpas, ac nid oedd neb allai ateb y cwestiwn er cysur iddi. Edliwiai hith- au iddynt, wrth weled eu cynhildeb pan yn siarad am y mater, fod arnynt ofn .dweyd wrthi lle'r oeddent yn meddwl fod ei phriod. Daw un o'r diaconiaid i mewn i ymholi pa bryd y ceid cynnal "cwrdd gwylnos." Ni fyn hithau mo'r cwrdd gweddi na phregeth angladd. Gan nas gallai neb ddweyd ble'r oedd, ofnai ei chlwyfo gan awgrymiadau parthed ei dynged. Yr oedd hyn yn siom fawr i'r diacon. Gyda hyn daeth y gweinidog i fewn. Ni fuasai ef yn y lie yn hir ac yr oedd yr ymadawedig yn ddieithr iddo. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd edmygu casgliad llyfrau'r Agnostic. Synnai yntau na fynnai'r weddw gwrdd gweddi na phregeth ,angladd. Wrth ymresymu a hi dyma'r cwestiwn iddo yntau eto, Ble ma fa2 Wedi iddo yntau ddechreu holi a chael allan rinweddau'r ymadawedig, tybiai fod llawer o dda i ddweyd am dano a nemor ddim drwg. Dechreuai meddwl y weddw sirioli ychydig pan ddywedai'r gweinidog na phetrusai ddweyd yr hyn a ddywedai wrthi hi ar lan y bedd. Eto, dyma ferch yn rhuthro i'r ty a'r newydd fod yr un a anafesid pan ladd- wyd yr Agnostic wedi dod ato ei hun, ac wedi dweyd yr hanes. Daethai carreg enfawr arno ef ei hun, ac wrth jjeisio'i achub daeth cwymp a lladd- "OwYd yv11&,U. Dyma destyn i mi i bre- j gethu arno, meddai'r gweinidog, "Car- iad mwy na hwn nid oes," etc. Y mae'r gweinidog yn y ddrama hon yn iawn. Dichon ein bod yn dueddol i hoffi'r ddramodig fechan hon am ein Jbod wedi cael profiad tebyg i eiddo'r gweinidog. Bu farw hen frawd a ad- waenem. Nid Agnostic oedd ef, ond hen bechadur garw'i air, ac a gyfrifid yn anystyriol. Nid wyf yn tybied y gofyn- nai neb Ble ma fa?" hyd nes i mi gael cyfle i ddweyd gair yn ymyl ei arch. Tramgwyddesid ef mewn eglwys, we l, o ran hynny gyrresid ef allan, ac allan y bu hyd y diwedd. Ar gyfrif ei fedr mewn rhai cyfeiriadau gelwid ar y dyn hwnnw beunydd i wneud caredigrwydd a rhywrai. Yr oedd mor barod ganol nos a chanol dydd. Bum ar ei of un fy hun lawer gwaith. Clywais ef yn rhoi cyngor i ddyn ieuanc a ymunasai a'r eglwys—" Stica ati, machgen i, gwna dy ore. Paid ag edrych arna i a'math. Mi wnes i longddrylliad o'm mhroffes; rw i wedi methu cael pethau at i gil- ydd a rw i'n siwr o gal lot o stwr pan af fi gartre." Ddydd angladd yr hen frawd hwn yr oedd gweinidog arall mewn pem- bleth yn methu dirnad sut i ddweyd na aut i weddio. Symudwyd mynydd loddiar ei feddwl pan ddywedais wrtho am ddarllen a rhoi emyn allan a gadael y gweddill i mi. Ni phetrusais ddweyd yn ymyl ei arch fod ei ami gymwynas- au, ie, ei aberth mawr er cysur i eraill yn pwyso'n drwm yng nghloriannau'r nef, ac y byddai ymhlith y rhai hynny a synnant pan ddywedir wrthynt: Yn gymaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn, fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Ofer yw dweyd fod cymeryd golwg ffafriol ar dynged cymeriadau fel hyn yn taflu'r drws yn agored ac yn gwneud efengyl yn ddiangen. Nid yw efengyl yn beth mor llipa fel ag i fod mewn perygl oherwydd gwneud cyfiawnder a gwr yn ei fater. Ffrwyth efengyl yw cymeriadau cymwynasgar, hunan- aberthol a hoffus. Yr oedd yr un a wnaethai gam a'r tri y cyfeiriasom ato yn aelod o hyd yn yr un eglwys, a mi wnaf fy llw y gwerthai ei fam ei hun am chwe cheiniog. Nid wyf yn siwr na ddarfu iddo wneud. I ENOC HUWS YNG NGHWM- I AAIAN. I Nos Fercher diweddaf, yr I7eg, caf- I wyd gwledd ragorol yn y lie hwn. Per- Jformodd Parti Abercwmboi y ddrama Enoc Huws yn y Neuadd Gy- hoeddus. Yr oedd y He yn orlawn, a phawb wrth fodd eu calon yn gwrando y gwahanol gymeriadau yn gwneud eu "gwaith mor ddoniol. Cefais y fraint o glywed y ddrama yn cael ei pher- fformio droion o'r blaen, ond nid wyf ym meddwl i mi fwynhau fy hun yn well erioed na'r noson uchod. Ym- ddengys i mi fod pentref Abercwmboi yn cefnogi y deffroad Cenedlaethol lawn cymaint, as nad mwy, nag un I pentref arall yn y Dywysogaeth. Mae y lie yn nodedig am ei Gymreigydd- iaeth. Mae'r rhieni yn cadw eu syn- nwyr cyffredin trwy siarad Cymraeg yn eu teuluoedd, a chwery'r plant yn Gymraeg ar yr heolydd. Yr oedd Mrs. Denman wrth edliw i'w gwr am fod allan yn hwyr yn naturiol dros ben. Dangosai ei bod yn dioddef oddiwrth arteithiau gofid, am fod ei gwr yn gwario ei arian dan ddylanwad rhag- rithiol Capten Trefor. Mae yr olygfa yn y Twmpath rhwng Tomos Bartley a Sem Llwyd yn un o'r pethau mwyaf doniol a dyddorol a welwyd mewn drama Gymraeg erioed. Yr oedd Marged, morwyn Enoc Huws, yn gwneud ei rhan yn ganmol- adwy iawn, ac Enoc yr un modd. Ond yr oedd Jones y Plisman yn hen gono rhy dwfn i athroniaeth Marged i dreiddio i'w ddyfnderoedd. Gwnaeth Jones forwyn ufudd o honi mewn byr amser. Un coll oedd ym Marged, a gobeithiaf y maddeua i mi am ei nodi. Hen ferch hyll ofnadwy oedd morwyn Enoc Huws, yn ol Daniel Owen, ond merch lan, brydferth dros ben oedd Marged Abercwmboi. Un nodwedd arbennig a dynnodd fy sylw oedd y feistrolaeth a feddai ael- odau y Parti ar yr laith Gymraeg. Yr oeddynt oil gydag un eithriad, yn siarad yn blaen a dealladwy. Yr eith- riad oedd yr Americanwr yn dynoethi cymeriad Capten Trefor. Mae yn wir fod yr Americanwr mewn gwth o oedran. Yr oedd Americanwr Aber- cwmboi yn gorwneud ei ran trwy grynu gormod, a myned i dymherau nes gwneud ei lais yn annealladwy i lawer. Gobeithiaf y cymer yr awgrym yn yr un ysbryd ag yr wyf yn ei wneud. Dymunaf longyfarch y Parti hwn am ei waith yn dysgu a pfierfformio y ddrama ragorol hon. Mae yn deilwng o glod a chefnogaeth lwyraf ein Cen- edi. Pe gofynnid i mi pa rai o'r dramodau Cymraeg sydd yn cynrych- ioli cymeriadau gwledig Cymru oreu, fy ateb fyddai Rhys Lewis" ac "Asgre Lân." Mae dydd y rhagfarn a'r culni yn erbyn y ddrama yng Nghymru wedi cilio am byth. Dy- munaf rwydd hynt i'r parti hwn i ber- fformio y ddrama hon eto ar agoriad y Neuadd Newydd. L MILWYN FYCHAN. I
Y Barri. I
Y Barri. I Saif ymweliad C6r Bechgyn Ysgol Romilly-road ar ben ei hun yn hanes ysgolion elfennol ein gwlad. Awgrym- wyd am y daith i'r Amerig ar ol llwydd- iant arbennig y c6r yn Arddangosfa Paris y llynedd, ac erbyn hyn y maent wedi ennill clod mwy i'w harweinydd galluog, Mr. W. M. Williams, ysgol- feistr, ac i'r dref sydd falch o'u canu swynol. Daeth pob aelod adref yn llwythog o anrhegion, ar ol canu ei ffordd i galon- nau pobl yr Amerig, a chael yr anrhyd- edd o ganu o. flaen Rhaglaw'r Unol Daleithiau yn y Ty Gwyn. Sieryd Mr. Williams yn dra brwdfrydig am dderbyniad llawen caredigion pob dinas a thref yr ymwelwyd a hwy, ac am y trefniadau rhagorol a wnaed i ddangos rhyfeddodau'r v/lad i'r plant. Bu'r c6r (34 o fechgyn) allan am naw wythnos. Cynhaliwyd cyng- herddau yn Efrog Newydd (New York), Johnstown, a'r trefi rhyng- ddynt. Cafwyd gwibdaith i'r Niagra Falls; canwyd i filoedd yn Toronto; yna aethant i Ohio i weled y llynnoedd anferth, ac yn ol i Pittsburg am bed- war diwrnod. Dychwelasant drwy Scranton, Wilkesbarre, a Washington i Efrog Newydd, a chyn canu'n iach, gwahoddwyd hwynt i'r Ty Gwyn yn Washington. Gofynnodd y Rhaglaw am wyth o ganeuon, a dymunodd ar- nynt ganu Llwyn Onn a hoffid yn fawr ganddo. Ni chlywodd efe fech- gyn yn canu cystal erioed. Fe'i swyn- wyd gan eu lleisiau tyner, a hynny pan oedd dirprwyon ynghylch materion Mexico yn aros tu allan dros awr o amser. Diddorol iawn yw nodiadau y bychain am y naw wythnos a fuont yn prysur' deithio o le i le, ac yn gweled rhyfedd- odau newyddion o ddydd i ddydd mewn gwlad ddieithr. Am eu bod yn dod o Gymru, ac o ardal Caerdydd, y fath syndod i'r Americaniaid oedd gwybod fedru o'r bechgyn y Saesneg Clywid y Gymraeg yn ystrydoedd Scranton, Wilkesbarre a Bangor loewed ac y'i clywir hi ynghanol Cymru, ac eto ni fu y mwyafrif ohonynt yng Nghymru er- ioed! Achos cywilydd mawr i mi," meddai yr arweinydd, fod rhai ohonom belled ar ol yn hyn o beth." Ni welwyd y fath dorfeydd yn ys- trydoedd y Barri a phan ddisgwylid y cor gartref, ond mawr oedd v siom pan ddaeth y newydd na chyrhaeddent tan ganol nos. Er hynny, daeth torf o rieni a chyfeillion ynghyd am 12 o'r gloch, a dychymyg yn unig all ddis- grifio teimladau'r mamau pan ddisgyn- nodd Mr, Williams a'u hanwyliaid, gan ddywedyd mewn ateb i'w croesaw- iad, Aethum allan a 34 o fechgyn, a dychwelais a phob un o honynt mewn iechyd rhagorol. Yr oeddynt yn fech- gyn dysgedig o'r blaen, ond y maent yn well heddyw .Bu'r bechgyn yn ddewr; bu'r mamau yn ddewrach. Cefais lwyr ymddiriedaeth pob tad a mam; gwnes fy ngoreu i wneud y daith yn fuddiol ac yn bleserus iddynt.
Advertising
Y mae yr Hybarch R. J. Jones, M.A., Bron Iestin, Aberdar, yn parhau ei I hunangofiant diddorol yn "Y Geninen" am Orffenaf.
Thomas Edwards (Twm o'r Nant).
Thomas Edwards (Twm o'r Nant). Twm o'r Nant wna cant fy ngalw, Thomas Edwards yw fy enw." Ym Mhlwyf Llanefydd, mewn ty a'r dyddyn o'r enw Penparchell, Sir Ddin- bych, yn 1739, y ganwyd Thomas Ed- wards. Pan oedd Thomas yn hogyn symudodd ei rieni i dyddyn o'r enw Nant, ger Nantglyn. Yr oedd tri thyddyn gerllaw i'w gilydd o'r un enw. Yn un o honynt yr oedd hogyn o'r un enw a'r bardd a gelwid ef yn Thomas o'r Nant, a'r bardd am ei fod yn wael- ach ei amgylchiadau yn Twm o'r Nant. Nid oedd gan dad Thomas Ed- wards lawer o syniad am werth addysg. Tri mis gafodd y bachgen yn yr ysgol, a hynny ar deirgwaith. Priododd pan yn 24, ac aeth ef a'i wraig i fyw i dyddyn bychan o'r enw Bylche. Cad- wai nifer o wartheg a cheffylau, a bydd- ai Thomas yn cludo coed i Ruddlan. Cludwr coed fu ei brif alwedigaeth ar hyd ei fywyd. Bu yn ddigon cyfyng arno i gael tamaid lawer tro. Cafodd anffodion weithiau trwy fod ei geffylau yn marw; a gwnaeth rhai a brynasent geffylau ganddo dro gwael ag ef. Ar adegau fel hyn byddai yn troi i weithio fel gweithiwr cyffredin gydag amaeth- wyr. Cymerodd hefyd lawer taith o fan i fan i chwarae ei interliwdiau. Tua diwedd ei oes ymunodd a'r Methodist- iaid Calfinaidd yn Ninbych. Ebrill 8, 1810, bu farw Thomas Edwards (Twm o'r Nant), a chladdwyd ef ym Mynwent Eglwyswen, gerllaw Dinbych. Y mae rhai beirniaid wedi galw Twm o'r Nant "Y Shakespeare Cymreig." Y rhes- wm am hynny yn ddiau yw fod Twm o'r Nant yn ei interliwdiau wedi portreadu cymeriadau yn boblogaidd iawn, ac nid oedd neb tebig iddo yn ei oes. Ym- ddengys mai interliwdiau yn unig gyf- ansoddai pan yn ieuanc, ac fod un wedi ei chyfansoddi ganddo mor gynnar a naw oed. Dywedir ei fod yn chwarae- wr poblogaidd yn yr oed hwnnw, ac fod ei dalent yn nodedig iawn. Beth ddaeth o'r interliwdiau boreuaf mae yn anawdd gwybod. Hyd y gwelsom ac y gwyddom, ei gerddi yw y gwaith cyntaf o'i eiddo a gyhoeddwyd. Nis gallwn yma roddi rhestr o'i waith cyhoedd- edig; ond o 1764 i 1848 daeth allan ryw 33 o wahanol argraffiadau o'i weithiau. Dywed loan Pedr yn y "Traethodydd," 1886, t.d. 428, fod amryw ysgrifau o'i eiddo yn yr Amgueddfa Brydeinig heb erioed eu cyhoeddi. Cynhwysa argraff- iadau 1874 a 1890 y darnau pwysicaf o'i waith, sef saith o'i interliwidiau: Tri Chryfion y Byd," Pleser a pofid," Cybydd-dod ac Oferedd," Y Fardd- oneg Fabilonaidd," Bannau y Byd neu Greglais o Groglofft," "Y Ddau Ben Ymdrechwr a Phedair Colofn Gwladwriaeth," ynghyd a'r caneuon oedd yn yr "Ardd o Gerddi," 23 mewn nifer, a thri ar ddeg o englynion. Yr oedd ein bardd yn mynd dros derfynau gweddeidd-dra weithiau yn ei orawydd i gael gafael ar feddwl y werin. Fel in- terIiwdiwr y rhagorai Twm o'r Nant. Nid oedd ei awdlau a'i gywyddau yn dal cymhariaeth ag eiddo Goronwy Owen a Gwallter Mechain. Nid oedd ei gar- olau ond sychion yn ymyl eiddo Dafydd Ddu a Rt. Davies o Nantglyn, ac yn ami syrth ei ganeuon i fasweiddiwch, tebyg i eiddo Jac Glanygors. Deuai i lawr yn drwm ar orthrwm mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn Eisteddfodwr, ond nid yw yn ymddangos ei fod yn un llwyddiannus. Bu ffrwgwd fawr rhyng- ddo a Gwallter Mechain yn Eisteddfod Corwen yn 1789, pan y dyfarnwyd yr olaf yn well nag ef am englynion di- fyfyr. Yr oedd y Dr. Dd. Samwel yn pleidio Twm, a gwnaeth anrheg iddo o ysgrifbin arian, gydag argraff, Rhodd Dr. Samwel i Thomas Edwards (Nant), pen bardd Cymru." Os na enillodd lawer fel Eisteddfodwr ni chanodd neb yn fwy wrth fodd calon Cymru na Thomas Edwards, Twm o'r Nant. Wele ei ddarlun o ymladdfa geiliog- od:— Ar ochor yr heol, wele fagod o bobol Yn prysuro yn barod i ymladd ceiliogod, Ac yn sefyll yn rut wrth y lle'r oedd y pit; A dyma hwythau yn dyfod i handlio ceiliogod, A'r lleill a llais uchel, am fetio ar y fatel, A dyna'r gwyr goreu yn rhes ar eu gliniau Yn bloeddio'n gynddeiriog, Holo, dyma i chwi geiliog," A galwent y cythrel i ganlyn pob chwedel; Ac ymwthio yn galed 'roedd pawb i gael gweled, A rhai'n lledu eu ceg i ddweyd, Hold, chwareu teg," Ac eraill yn betio, yn fawr iawn eu cyffro, Ac yn ffraeo a'u gilydd yn flinion aflon- ydd, etc. Wele englyn o'i farwnad i Goronwy Owain: Cadd awen burwen yn berwi-a than Doethineb Duw ynddi; Seraffim roes, er hoffi, Farworyn i'w hennyn hi." O'r Tri Cryfion y Byd Mae balchder Cymry ffolion I ymestyn ar ol y Saeson, Gan ferwi am fynd o fawr i fach I ddiogi'n grach fon'ddigion. 1 Os cant hwy ryw esgus i fod yn'r ysgol j• Nid wiw am air o Gymraeg ymorol; j They cannot talk Welsh, nor under- j stand, Oni fyddir yn grand ryfeddol. I Y mae'n gywilyddus clywed carpie Yn lladd ac yn mwmian ar iaith eu mame, Heb fedru na Chymraeg, na Saesneg chwaith- Onid ydyw'n waith annethe 1 Ac os bydd rhyw hogenig wedi bod yn gweini I Yn Nghaer neu Amwythig, dyna'r cwbl yn methu; Cheir gair o Gymraeg, ac os dywed hi beth, 0 1r ledieth fydd ar mei ledi. '1 Mae hyn yn helynt aflan J Fynd o'r hen Gymraeg mor egwan; Ni cheiff hi mo'i pherchi mewn bryn na phant Heno gan ei phlant ei hunan. I'r Tanner yng Nghaer a wrthodasai iddo noson o lety gan ei ateb yn sarug: I say, sir, I never did see-in a town A Tanner so sosi; No bed man, and I bid money, May your town go down the Dee. GETHIN. I
Machen, Mynwy. I
Machen, Mynwy. I MARWOLAETH YR HYNAFGWR I WILLIAM HICKS. Nos Wener, y iafed cyfisol, bu farw yr hynafgwr William Hicks, yn 95 oed. Llanwodd y swydd o ddiacon yn eg- lwys Adulam am 70 o flynyddoedd yn I ddifwlch. Bu yn ysgrifennydd yr eg- lwys am dros 40 mlynedd. Tra phar- haodd ei nerth, bu yn ffyddlon i fodd- ion gras, ac i holl hawliau yr eglwys. Cerddai i'r capel yn gyson n/u o fewn dwy fiwydtl i'r diwedd, er fod y daith yn waith awr iddo ar bwys ei ddwy ffon. Yr oedd ei esiampl yn foddion i dynnu llawer un i'r capel boreu Sul. Chwith fydd ei golli o'r sedd dan y pulpud, a chwith i'r ardal bydd colli ei wyneb siriol a'i gyfarch- iad parod. Am ddeunaw mlynedd a thrigain bu yn aelod ffyddlawn o'r eg- lwys Annibynnol yn y lie. Derbyniasid ef yn aelod yn Ebenezer, Rhydry, pan yn 17 oed. Ymaelododd yn fuan wedi hynny ym Machen, ac hyd y diwedd bu yn ffyddlon a diwyd yn ei holl gylch. Darllenai lawer, a pharhaodd ei ddydd- ordeb mewn crefydd a gwleidyddiaeth hyd y diwedd. Bu yn aelod o Gym- deithas yr Odyddion am 73 o flynydd- oedd. Mae dau fab ym Machen, a mab a merch yn yr Unol Daleithiau, a phob un mewn amgylchiadau cysurus. Dyn o ddylanwad dyrchafol, glan ei fuchedd, a gwresog iawn yn yr ys- bryd oedd William Hicks. Cafodd angladd barchus. Dygwyd ei weddill- ion i fynwent yr Hen Eglwys ym Machen Isaf. Diddaned yr Arglwydd ei blant yn eu galar. Gweinyddwyd yn yr angladd gan ei weinidog, y Parch. D. Harries, yn cael ei gynorth- wyo gan y Parch. D. Lloyd Williams, Beaufort, a fu yn weinidog iddo am 26ain o flynyddoedd. Ffarwel filwr, gloew'th arfau, Bellach gwisg dy goron aur; Ffyddlawn fuost yn y brwydrau 0 dan faner Mab y Saer": Nerth yn ol y dydd a gefaist I wrthsefyll pechod cas; Ar addewid lor y pwysaist Am gynorthwy Dwyfol ras.
Nodion o Rymni. I
Nodion o Rymni. I Ceir arwyddion amlwg o doriad gwawr ar sefyllfa weithfaol y lie hwn, gyda agoriad o'r newydd Lofa'r Mar- dy. Mae y paratoadau ar y wyneb yn fawr iawn, a gobeithiwn y llwyddir yn dan-ddaearol. Mae y lofa wedi ei sin- cio i'r glo iselaf, a dechreuir ei hagor ddydd Llun. Ychydig ddyddiau yn ol digwyddodd damwain i gadwyn yng Ngiofa y Dyffryn N ewydd. Ataliwyd codi y glowyr am amryw oriau. Trwy Lofa y Terrace, a gedwir i wasanaethu ar amgylchia dau o'r fath, y daethant i fyny. Cafwyd yr oil allan erbyn 7.30 o'r gloch. Ddydd Sadwrn daearwyd gweddill- ion y cyfaill ieuanc Job James Lewis, yng Nghladdfa y Graig. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. R. E. Peregrine a Salmon. Gadawodd briod ieuanc a dau o blant, tad, mam, brodyr a chwiorydd i alaru ar ei ol. Cafodd gynhebrwng parchus, yr hyn allesid ddisgwyl, am ei fod yn hannu o deulu parchus iawn yn y lie. Cydymdeim- lwn yn fawr a'r holl alarwyr.
Advertising
The Welshman's Favourite. I fMABON Sauce i LMW As good as its Name. 8 DON'T FAIL TO GET IT. g ? § ?/?M«/«-/«??f—BLANCH'S, St. Pet- St.. C-,diff. I t: S IMy Mon's sauce t < Large Bottle 2id. I (Delightful Sauce and lots of it for g ? the money. <?/<t//c?<?M?.?itw. I ? San ?t??t—Bt-tMCH'S, St. Peter St., C4R=". J GWAEDl GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUll CIIYP, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughss's Blood Pills" yn hymtf effelthiol at Crsu Cwaed NiwyM, Pllr a Chryf, felly yn d) lanwadu ar hall Organau y Corn, drwy hyny yn laehaM Dolur Pen, Dlffyg Traul, Biliousness, Afu Odrwlh Tarddlantau ar y Cnawd, Cornwydon, Scurvy, Piles Fits, MORV, ousness, Cwynt, Cwynegon (neu Cymal- wst), Poen Cefn, Lum- bago, Corll- rwymedd, Neuralgia, Anhwylder" au yr Aren- au. I slider J Y a p r y d, £ 8 u r n I y Cylla. BENYWOD! I ha. At Anhwylderau tueddol I bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae Hughes's Blood Pills" y nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwoh weled y Trade Mark, lef llun Calon fel hym- ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemirt a Store* am 1/11, 2/t, 4/1. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stamp. nen P.O. at y Perchenog— JACOB HUGHES. MANUFACTURING CHEMIST, M.P. S., L D.S Penarth, Cardiff. Can, LlenaCweriq Gwaithy dlweddai* Myfyr Wynn, sef BACHAN IFANC y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLCH, DARNAU BARDDCNOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pria 1/. Drwy'r Post 1/2. I' w gael o Swyddfa'r Dariak, neu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. LAb: s.s BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for at Irregularities, &a., they speedily afford relief and neve rftul to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, fto. Blanohard's are the Best of all Pllle for Women. Sold in boxes, 1 Ili, by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from _BSLIB MARTYN Ltd., Chemists. 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp /» a PAGE Book about Herbs and how to use 04: them. Post free. Send for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that yon get Estab- _L lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine.—Trimnell, The Herbalist, 144 Rioh- mond-road, Cardiff. TRIMNELL'8 PILLS AND POWDERS I M have cured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 11 on every 1 label.—Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond Road, Cardiff. Agents wanted. EVERY WOMAN ofiould send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how all Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- ended by eminent Physicians, as the only Bafe, Sure and Genuine Remedy. Never Faile. Thousands of Testimonials. Established 1864, MR. PAUL BLANCHARO, Clarranont House. Dalston T ane, r-oscloifc. ETO DDIWRKOD ARALL GWEDDI AM BOB DYDD O'B FLWYDDYN, GAN J. H. JOWETT, M.A, D.D. CYFIEITHEDIG I'R GYMEAEG GAN Y DIWEDDAB WILLIAM THOMAS, LLANGBFNL QOLYGWYD GAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A. PRIS SWYLLT. llundain: Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion Efengylaidd, Memorial Hall, B.C. Y FORD. Yn cynnwys arlwy flaol am flwyddwyn i blant o bob oed, sef 13 o Bregethau A 13 o Delynegion. Mae'r gyfrol wedi 'i badolygu yn y modd ?MM?'r evf?rot wedi 'i hadotygn yn y modd mwyaf ffafiriol gan y Wasg Gymreig, megis Y PLant, Seren Cymru, Seren Go-, Y Drysorfa, Mix.  ?hy? canmol °4^I^5froi bregetbwyr, Henorion. plant, &0. Y dderbyni?Toetal Order SwUt gan yJr Awdwr- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr. Swansea. Athrofa Aberystwyth (UN o'r COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (rhal o honynt yn gyfyngedig i GyfflT) y thvyddyø bon. Am fanylion pellach, H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. Dywedwch wrth bawb: "I Y MaO DA VIES'S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswoh. ANWYD, PESWCH, INFLUENZA. -Mae rhai'n gyda ni bob amøer. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod 0 ddio- ddef oddi wrth Beswioh, Bronchitis, Pu, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffys Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaoth Davies's Cough Mixture" etto "J blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, ya felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. l/ll a 2/9 <P?fl HUGH DAVIES, Chemist, MAUrjhHYijNn- LLETH. THE Aberaman & Mountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the most pronlinalit stations in Aberaman, Cwcoaman. Cwmbach. Abercwmboi. Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTIHQ. EVERYONE SEES POSTERS. All communicatioos and parcels should bl addressed to the MANAGER. Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. AM BOB MATH 0 ARGRAFFWAITH YMOFYNBE YN Swyddfa'r Leader," A Swyddfa'r "Dapian," 19 CARDIFF ST., ABEBDAB. DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HO USE FURNITURE. Cabinbt WORKS:-  -err ? "Kl C! O Q 21 High St. & Morris Lane. wa The Largest and Cheapest Stearq Cabinet Kljanufactory in South Wales. Illustrated Catalogues free on application, IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above all. ar Delivered Free in 8ur Vase.